Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 18/01/2021 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

10.00-10.30

1.

Briffio technegol ar y rheoliadau dyletswydd economaidd-gymdeithasol sydd ar ddod

Alyson Francis, Dirprwy Gyfarwyddwr, yr Is-adran Cymunedau, Llywodraeth Cymru

Shane Williams, Adran Cymunedau a Threchu Tlodi, Llywodraeth Cymru

Jodie Woodward, Tîm Cyfreithwyr Tai, Cydraddoldeb ac Adfywio, Llywodraeth Cymru

 

CLA(5)-02-21 – Papur briffio gan Lywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor friffio dechnegol gan swyddogion Llywodraeth Cymru ar y rheoliadau dyletswydd economaidd-gymdeithasol sydd ar ddod.

 

10.30

2.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Cadarnhaodd y Cadeirydd ei fod, yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd.

 

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau na dirprwyon.

 

10.30-10.35

3.

Offerynnau nad ydynt yn codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3

CLA(5)-02-21 – Papur 1 – Offerynnau statudol sydd ag adroddiadau clir

 

Dogfennau ategol:

3.1

SL(5)712 - Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) (Coronafeirws) (Diwygio) (Diwygio) 2020

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.

 

10.35-10.40

4.

Offerynnau sy'n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i'r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

4.1

SL(5)695 – Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2020

CLA(5)-02-21 – Papur 2 – Adroddiad

CLA(5)-02-21 – Papur 3 – Rheoliadau

CLA(5)-02-21 – Papur 4 – Memorandwm Esboniadol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

 

4.2

SL(5)700 - Rheoliadau Cynlluniau Pensiwn a Chynllun Digolledu’r Diffoddwyr Tân (Cymru) (Diwygio) 2020

CLA(5)-02-21 – Papur 5 – Adroddiad

CLA(5)-02-21 – Papur 6 – Rheoliadau

CLA(5)-02-21 – Papur 7 – Memorandwm Esboniadol

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.

 

4.3

SL(5)701 – Gorchymyn Ceisiadau Cynllunio (Addasiadau a Datgymhwyso Dros Dro) (Rhif 3) (Cymru) (Coronafeirws) 2020

CLA(5)-02-21 – Papur 8 – Adroddiad

CLA(5)-02-21 – Papur 9 – Gorchymyn

CLA(5)-02-21 – Papur 10 – Memorandwm Esboniadol

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.

 

4.4

SL(5)716 – Rheoliadau Paratoadau Cig (Diwygio ac Addasiadau Darfodol) (Cymru) (Ymadael â’r EU) 2021

CLA(5)-02-21 – Papur 11 – Adroddiad

CLA(5)-02-21 – Papur 12 – Rheoliadau

CLA(5)-02-21 – Papur 13 – Memorandwm Esboniadol

CLA(5)-02-21 – Papur 14 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, 5 Ionawr 2021

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.

 

4.5

SL(5)714 – Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd, Ffioedd Iechyd Planhigion etc.) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2020

CLA(5)-02-21 – Papur 15 – Adroddiad

CLA(5)-02-21 – Papur 16 – Rheoliadau

CLA(5)-02-21 – Papur 17 – Memorandwm Esboniadol

CLA(5)-02-21 – Papur 18 – Llythyr gan Weinidog Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, 23 Rhagfyr 2020

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

 

4.6

SL(5)718 – Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Cymru) (Coronafeirws) 2021

CLA(5)-02-21 – Papur 19 – Adroddiad

CLA(5)-02-21 – Papur 20 – Rheoliadau

CLA(5)-02-21 – Papur 21 – Memorandwm Esboniadol

CLA(5)-01-21 – Papur 22 – Llythyr gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, 6 Ionawr 2021

CLA(5)-01-21 – Papur 23 – Datganiad ysgrifenedig, 8 Ionawr 2021

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

 

4.7

SL(5)719 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Cymru) 2021

CLA(5)-02-21 – Papur 24 – Adroddiad

CLA(5)-02-21 – Papur 25 – Rheoliadau

CLA(5)-02-21 – Papur 26 – Memorandwm Esboniadol

CLA(5)-01-21Papur 27 – Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, 8 Ionawr 2021

CLA(5)-01-21 – Papur 28 – Datganiad ysgrifenedig, 7 Ionawr 2021

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd. Nododd y Pwyllgor hefyd fod yr anghysondeb a amlygwyd yn y pwynt adrodd technegol wedi cael sylw yn Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2021 a wnaed ddydd Gwener 15 Ionawr 2021 ac a fydd yn cael ei ystyried mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

4.8

SL(5)720 - Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2021

CLA(5)-01-21 – Papur 29 – Adroddiad

CLA(5)-01-21 – Papur 30 – Gorchymyn

CLA(5)-01-21 – Papur 31 – Memorandwm Esboniadol

CLA(5)-01-21 – Papur 32 –Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd, 7 Ionawr 2021

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.

 

10.40-10.45

5.

Offerynnau sy'n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i'r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd yn flaenorol

5.1

SL(5)691 - Gorchymyn Iechyd a Gofal Digidol Cymru (Sefydlu ac Aelodaeth) 2020

CLA(5)-01-21 – Papur 33 – Adroddiad

CLA(5)-01-21 – Papur 34 – Ymateb Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru.

 

5.2

SL(5)692 - Rheoliadau Iechyd a Gofal Digidol Cymru (Aelodaeth a Gweithdrefn) 2020

CLA(5)-01-21 – Papur 35 – Adroddiad

CLA(5)-01-21 – Papur 36 – Ymateb Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru.

 

5.3

SL(5)708 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) 2020

CLA(5)-02-21 – Papur 37 – Adroddiad

CLA(5)-02-21 – Papur 38 – Ymateb Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru.

 

10.45-10.50

6.

Is-ddeddfwriaeth sy'n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i'r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.7

6.1

SL(5)704 - Cod Ymarfer Gwariant Ymgyrch Pleidiau Gwleidyddol (Etholiadau’r Senedd) 2020

CLA(5)-02-21 – Papur 39 – Adroddiad

CLA(5)-02-21 – Papur 40 – Cod Ymarfer

CLA(5)-02-21 – Papur 41 – Memorandwm Esboniadol

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y Cod Ymarfer ac ymateb y Llywodraeth a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau a nodwyd o dan Reol Sefydlog 21.7.

 

10.50-10.55

7.

Datganiadau ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C

7.1

WS-30C(5)211 - Rheoliadau’r Fframwaith ar gyfer Llif Rhydd Data Nad Ydynt yn Ddata Personol (Dirymu) (Ymadael â’r UE) 2021

CLA(5)-02-21 – Papur 42 – Datganiad ysgrifenedig

CLA(5)-02-21 – Papur 43 - Sylwebaeth

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y datganiad a'r sylwadau cysylltiedig, yn benodol bod anghytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ynghylch a oes angen cydsyniad.

 

7.2

WS-30C(5)212 - Rheoliadau Cludo Gwastraff Rhyngwladol (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2021

CLA(5)-02-21 – Papur 44 – Datganiad ysgrifenedig

CLA(5)-02-21 – Papur 45 - Sylwebaeth

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y datganiad a'r sylwebaeth.

 

7.3

WS-30C(5)213 - Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd, Iechyd Planhigion etc.) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) (Rhif 2) 2020

CLA(5)-02-21 – Papur 46 – Datganiad ysgrifenedig

CLA(5)-02-21 – Papur 47 - Sylwebaeth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y datganiad a'r sylwebaeth.

 

10.55-11.00

8.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Masnach - diweddariad

CLA(5)-02-21 – Papur 48 – Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol

CLA(5)-02-21 – Papur 49 – Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol, 11 Ionawr 2021

CLA(5)-02-21 – Papur 50 – Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol, 13 Ionawr 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol a'r ohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol mewn perthynas â’r Bil Masnach.

 

11.00-11.05

9.

Papurau i'w nodi

9.1

Gohebiaeth gan y Gweinidog Addysg: Y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru)

CLA(5)-02-21 – Papur 51 – Llythyr gan y Gweinidog Addysg, 11 Ionawr 2021

CLA(5)-02-21 – Papur 52 – Llythyr gan y Gweinidog Addysg at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, 11 Ionawr 2021

CLA(5)-02-21 – Papur 53 – Llythyr gan y Gweinidog Addysg at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, 11 Ionawr 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Addysg mewn perthynas â’r Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru).

 

9.2

Llythyr gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Cymru) (Coronafeirws) 2020

CLA(5)-02-21 – Papur 54Llythyr gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, 13 Ionawr 2021

CLA(5)-02-21 – Papur 55 – Llythyr at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, 21 Rhagfyr 2020

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol.

 

11.05

10.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

11.05-11.10

11.

Craffu ar reoliadau a wnaed o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 - y wybodaeth ddiweddaraf

CLA(5)-02-21 – Papur 56 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, 8 Ionawr 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd.

 

11.10-11.25

12.

Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Perthynas yn y Dyfodol) 2020

CLA(5)-02-21 – Papur 57 – Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol

CLA(5)-02-21 – Papur 58 – Papur briffio gan Ymchwil y Senedd

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol mewn perthynas â Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Perthynas yn y Dyfodol) a chafodd bapur briffio ar y Ddeddf.