Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 08/10/2018 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datganiadau o fuddiant

Cofnodion:

1.1        Agorodd y Clerc y cyfarfod a galwodd am enwebiadau i ethol Cadeirydd dros dro ar gyfer y cyfarfod hwn.

1.2        Enwebwyd Dai Lloyd AC gan Lee Waters AC ac fe'i hetholwyd yn Gadeirydd dros dro.

1.3        Croesawodd y Cadeirydd dros dro yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.4        Cafwyd ymddiheuriadau gan Mick Antoniw AC a Dawn Bowden AC.

 

14.30

2.

Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3

CLA(5)-24-18 – Papur 1 – Offerynnau statudol sydd ag adroddiadau clir

Dogfennau ategol:

2.1

SL(5)258 - Rheoliadau Traffordd yr M4 (Ffyrdd Ymadael tua'r Dwyrain a'r Gorllewin wrth Gyffordd 28 (Cyfnewidfa Parc Tredegar), Casnewydd) (Terfyn Cyflymder 40 MYA) 2018

Cofnodion:

2.1.1 Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.

 

14.35

3.

Offerynnau sy'n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Cynulliad o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

3.1

SL(5)257 - Rheoliadau Meysydd Tref a Phentref (Datganiadau Perchnogion Tir) (Cymru) 2018

CLA(5)-24-18 – Papur 2 – Adroddiad

CLA(5)-24-18 – Papur 3 - Rheoliadau

CLA(5)-24-18 – Papur 4 – Memorandwm Esboniadol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1.1 Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a nododd yr adroddiad drafft, gan gynnwys ymateb Llywodraeth Cymru. Nid oedd y Pwyllgor yn fodlon ar lefel y manylder yn ymateb y Llywodraeth. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am eglurhad pellach.

14.40

4.

Papur(au) i'w nodi

4.1

Llythyr gan Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip - Craffu ar reoliadau a wnaed o dan Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael)

CLA(5)-24-18 - Papur 5 - Llythyr gan Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip, 2 Hydref 2018

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

14.45

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

6.

Y Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) - Adroddiad drafft

CLA(5)-24-18 – Papur 6 – Adroddiad drafft

CLA(5)-24-18 - Papur 7 - Dogfen Porth Asesu Effaith

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a bydd yn ystyried fersiwn ddiwygiedig yn ei gyfarfod ar 15 Hydref.

 

 

15.15

7.

Diweddariad ar newidiadau i'r Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor adran 116C

CLA(5)-24-18 – Papur 8 - Papur diweddaru       

CLA(5)-24-18 – Papur 8a - Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Busnes, 1 Mawrth 2018

CLA(5)-24-18 – Papur 8b – Llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Busnes, 12 Ebrill 2018

CLA(5)-24-18 – Papur 8c - Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Busnes, 24 Ebrill 2018

CLA(5)-24-18 – Papur 8d - Adroddiad y Pwyllgor Busnes

 

Cofnodion:

7.1 Nododd y Pwyllgor y papur a chytunodd i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes a Llywodraeth Cymru.