Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 18/06/2018 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

14.30

2.

Offerynnau sy'n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Cynulliad o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

2.1

SL(5)225 – Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018

CLA(5)-17-18 – Papur 1 – Adroddiad

CLA(5)-17-18 – Papur 2 – Rheoliadau

CLA(5)-17-18 – Papur 3 – Memorandwm Esboniadol

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb y Llywodraeth a'r adroddiadau i'r Cynulliad yn unol â'r pwyntiau a nodwyd.

 

14.35

3.

Papurau i'w nodi yn ymwneud ag Offerynnau Statudol

3.1

SL(5)226 - Rheoliadau'r Ddeddf Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018 (Diddymu) 2018

CLA(5)-17-18 – Papur 4 – Rheoliadau

CLA(5)-17-18 – Papur 5 – Memorandwm Esboniadol

CLA(5)-17-18 - Nodyn Cyngor

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y Rheoliadau a'r weithdrefn ddyrchafedig ar gyfer craffu arnynt. Cytunodd y Pwyllgor i drafod y Rheoliadau yn yr hydref.

 

3.2

SL(5)220 - Rheoliadau Pysgota Môr (Diwygiadau Amrywiol) 2018

CLA(5)-17-18 - Papur 6 - Adroddiad gan gynnwys ymateb y Llywodraeth

CLA(5)-17-18 – Papur 7 – Llythyr drafft

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor ymateb y Llywodraeth a ddaeth i law ar ôl i'r Rheoliadau gael eu trafod am y tro cyntaf yn y cyfarfod ar 11 Mehefin a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig.

 

14.45

4.

Papurau i’w nodi

4.1

Tystiolaeth Llywodraeth Cymru i'r Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru

CLA(5)-17-18 - Papur 8 - Tystiolaeth Llywodraeth Cymru i'r Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y dystiolaeth gan Lywodraeth Cymru i'r Pwyllgor Cyfiawnder a chytunodd i gyflwyno tystiolaeth i'r Comisiwn Cyfiawnder.

 

4.2

Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol: Gweithredu Cynigion Comisiwn y Gyfraith

CLA(5)-17-16 – Papur 9 - Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol, 12 Mehefin 2017

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol.

 

14.50

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y mater a ganlyn:

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

 

6.

Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru): Adroddiad drafft

CLA(5)-17-18 – Papur 10 – Adroddiad drafft

CLA(5)-17-18 – Papur 11 – Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

 

 

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd i ystyried fersiwn ddiwygiedig yn y cyfarfod nesaf.

 

7.

Llywodraethiant yn y DU ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd: Cytundeb Rhyng-Sefydliadol Drafft

CLA(5)-17-18 – Papur 12 – Cytundeb Drafft

 

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y cytundeb drafft a chytunodd i'w ystyried ymhellach mewn cyfarfod i ddod.

 

8.

Bil yr UE (Ymadael): Y wybodaeth ddiweddaraf

CLA(5)-17-18 - Papur 13 - Bil yr UE (Ymadael): Y wybodaeth ddiweddaraf

 

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf.

 

9.

Gwelliannau i Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael)

CLA(5)-17-18 – Papur 14 – Llythyr gan y Llywydd at y Prif Weinidog, 14 Mehefin 2018

 

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Llywydd.