Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Graeme Francis
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 01/12/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Dogfennau ategol: Cofnodion: Croesawodd y
Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Cafwyd
ymddiheuriadau gan Jack Sargeant. |
|
Deisebau newydd |
|
P-05-1029 Dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno profion gorfodol ar yr holl deithwyr sy’n cyrraedd Maes Awyr Caerdydd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf, gan fynegi eu siom
ynghylch y diffyg ymateb i'r ddeiseb gan Lywodraeth Cymru, a chytunwyd i
ysgrifennu eto i ofyn bod un yn cael ei ddarparu ar y cyfle cyntaf. |
|
P-05-1041 Polisi a chyllid clir ar gyfer ysbytai a chartrefi gofal ar gyfer ymweliadau rhithwir yn ystod cyfnodau o gyfyngiadau symud Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu
at Fforwm Gofal Cymru i geisio eu barn ar y mater a godwyd gan y ddeiseb, a
digonolrwydd y canllawiau a'r gefnogaeth bresennol sydd ar gael i gartrefi
gofal. |
|
P-05-1043 Sicrhau bod gweithgynhyrchu a chynhyrchu cyfarpar diogelu personol (PPE) digonol ar gyfer Cymru, yng Nghymru, ar ôl Covid-19. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i nodi'r
ohebiaeth a gafwyd, a boddhad y deisebydd â'r camau a amlinellwyd gan y
Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Yn sgil hynny, cytunodd y
Pwyllgor i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd am godi'r mater pwysig hwn. |
|
P-05-1047 Gadewch i dafarndai a bariau fasnachu, a chanslo'r cyrffyw Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i nodi'r
ddeiseb a'r ohebiaeth a ddaeth i law. Cytunodd y
Pwyllgor i beidio â chymryd unrhyw gamau pellach ar y ddeiseb yn sgil y ffaith
bod y rheolau wedi newid ymhellach ers cyflwyno'r ddeiseb a bod y Pwyllgor ar
fin ystyried deisebau pellach, esboniad y cyngor gwyddonol y tu ôl i'r cyrffyw
10pm o dan arweiniad y Gell Cyngor Technegol, yr arian a amlinellwyd ar gyfer
cefnogi'r diwydiant a’r gwaith craffu ar faterion cysylltiedig sy'n cael eu
cynnal gan Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau a’r Pwyllgor Diwylliant, y
Gymraeg a Chyfathrebu. |
|
P-05-1048 Dylid caniatáu i bobl hŷn gael mynediad i gyfleusterau chwaraeon awyr agored ar gyfer eu lles corfforol a meddyliol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i nodi'r ddeiseb a'r ohebiaeth a
gafwyd gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys yr esboniad o gau eiddo fel clybiau
golff yn ystod cyfyngiadau symud. Yn sgil cyflwyno set o reolau cenedlaethol
sy'n golygu bod clybiau golff a chyfleusterau eraill bellach wedi ailagor yn
dilyn cyfnodau blaenorol o gyfyngiadau symud, cytunodd y Pwyllgor i gau'r
ddeiseb a diolch i'r deisebydd. |
|
P-05-1051 Caniatáu i athletwyr iau Cymru hyfforddi dan yr un rheoliadau Covid â’u cymheiriaid iau yn Lloegr Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu
at y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, a Chwaraeon Cymru,
i ofyn am ragor o wybodaeth o ran y rhesymau dros gael gwahanol reolau ar waith
ar gyfer gwahanol chwaraeon, ac a ellir cael gwell cytgord rhwng gwahanol gyrff
llywodraethu. |
|
P-05-1053 Cadwch gampfeydd ar agor ac ystyriwch eu bod nhw mor bwysig â siopau, os cyflwynir cyfyngiadau symud cenedlaethol unwaith yn rhagor. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i ysgrifennu
at y Pwyllgor Busnes i ofyn am amser i gynnal dadl yn y Cyfarfod Llawn ar y
mater hwn. Yn sgil ystod o ddeisebau a phryderon a ddaeth i law ynghylch
mynediad at gyfleoedd i bobl gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgaredd
corfforol – ac i sicrhau defnydd effeithlon o amser y Cyfarfod Llawn – cytunodd
y Pwyllgor y dylai'r cynnig am ddadl gwmpasu'r cyd-destun ehangach hwn gan
ganiatáu, felly, trafod ystod o chwaraeon a mangreoedd. |
|
P-05-1063 Dylid agor cyrsiau golff gan eu bod yn chwarae rôl hanfodol o ran gwella iechyd corfforol ac iechyd meddyliol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu
at y Pwyllgor Busnes i geisio amser i gynnal gyfer dadl eang ar fynediad i
gyfleoedd i bobl gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgaredd corfforol yn ystod
cyfnodau o gyfyngiadau symud, gan ymgorffori'r ddeiseb hon a sawl un arall. |
|
P-05-1057 Cynyddu nifer y bobl sy’n cael mynd i dderbyniadau priodas. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd Janet Finch-Saunders y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol
Sefydlog 17.24A: Cyn bo hir bydd yn mynd i briodas ei mab. Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am farn
y deisebydd ar yr ohebiaeth a gafwyd gan y Prif Weinidog. |
|
P-05-1058 Atal ail gyfnod o gyfyngiadau symud cenedlaethol yng Nghymru. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i'w nodi,
ynghyd â'r ohebiaeth a ddaeth i law. Cytunodd y Pwyllgor i beidio â chymryd
unrhyw gamau pellach yn sgil y ffaith bod yr amgylchiadau wedi newid ers
cyflwyno'r ddeiseb, ac oherwydd ei bod yn annhebygol iawn y byddai Llywodraeth
Cymru yn diystyru'r angen am gyfnodau o gyfyngiadau symud ar hyn o bryd. Wrth wneud
hynny cytunodd yr Aelodau i nodi'r teimladau a fynegwyd yn y ddeiseb, diolch
i'r deisebydd a chau'r ddeiseb. |
|
P-05-1059 Dylid rhoi mannau addoli mewn dosbarth hanfodol, er mwyn caniatáu i bobl fynd i eglwys yn ystod cyfnod o gyfyngiadau symud Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf, cytunodd i nodi'r
ohebiaeth a ddaeth i law a chydnabod pwysigrwydd y mater a godwyd. Fodd bynnag,
cytunodd y Pwyllgor i beidio â chymryd unrhyw gamau pellach ar y ddeiseb o
ystyried bod penderfyniadau blaenorol wedi’u cymryd i osod cyfyngiadau yn dilyn
cyngor gwyddonol ac asesiadau effaith, a bod addoldai wedi gallu agor ers
diwedd y cyfnod atal byr. Cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb a diolch i’r
deisebydd. |
|
P-05-1061 Rhowch gefnogaeth ariannol i fusnesau Lletya Anifeiliaid Anwes. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu
yn ôl at y Gweinidog Cyllid i rannu'r wybodaeth bellach y mae’r deisebydd yn ei
rhoi, ac amlygu'r cynigion a wnaed o ran yr anawsterau y mae'r diwydiant hwn
wedi'i cael wrth gyrchu rhaglenni cymorth ariannol presennol. Cytunodd y
Pwyllgor hefyd i ofyn am ystyried y rhain wrth ddylunio cam nesaf y Gronfa
Gwydnwch Economaidd neu raglenni cymorth eraill. |
|
P-05-1066 Caniatewch i gorwyr a chorau ieuenctid ganu yng Nghymru ac i gerddorion ifanc berfformio mewn grwpiau Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i nodi'r
ddeiseb a'r ohebiaeth a ddaeth i law. Penderfynodd y Pwyllgor beidio â chymryd unrhyw gamau pellach ar y
ddeiseb oherwydd bod canllawiau manwl ar 'Ymarfer, perfformio a chymryd
rhan yn y celfyddydau perfformio wedi'i diweddaru'n ddiweddar yn dilyn y cyfnod atal byr, caniateir
gweithgareddau dan do bellach ar gyfer grwpiau bach, a'r sefyllfa sy’n mynd
rhagddi o ran y pandemig. Wrth wneud hynny, cytunodd i ddiolch i’r deisebydd ac
i gau’r ddeiseb. |
|
P-05-1049 Newid i wyliau ysgol yr haf! Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i'w nodi,
ynghyd â'r ohebiaeth a ddaeth i law. Penderfynodd y Pwyllgor beidio â chymryd unrhyw gamau pellach ar y
ddeiseb o ystyried bod adolygiad a oedd i ystyried y flwyddyn ysgol, wedi cael
ei ohirio oherwydd y pandemig, honiad y Gweinidog Addysg na all ymrwymo
adnoddau pellach i hyn ar hyn o bryd, a'r ffaith nad oes gan Weinidogion rôl
ffurfiol ar hyn o bryd wrth bennu dyddiadau’r tymor. Wrth wneud hynny, cytunodd
y Pwyllgor i ddiolch i’r deisebydd ac i gau’r ddeiseb. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
P-05-954 Deiseb yn galw am ymchwiliad cyhoeddus gan Lywodraeth Cymru i gam-drin plant hanesyddol ar Ynys Byr Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor ddiweddariad ar y ddeiseb ac ystyriodd nad oes llawer o opsiynau ar
gael iddo ar hyn o bryd, o ystyried bod safbwynt Llywodraeth Cymru ar
ymchwiliad cyhoeddus yn parhau i fod yr un fath. Cytunodd yr Aelodau i gadw
golwg ar y mater, ac i ddychwelyd at y ddeiseb yn y flwyddyn newydd. |
|
P-05-932 Addysg ar alergeddau bwyd mewn ysgolion a hyfforddiant EPI-PEN gorfodol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor nad oes unrhyw gamau pellach y
gallai eu cymryd, yn realistig, ar hyn o bryd yn sgil yr ymatebion manwl a
ddaeth i law, gan gynnwys am waith a gynlluniwyd ond a ohiriwyd gan bandemig y
Coronafeirws, a'r ffaith bod y Gweinidog Addysg wedi gwrthod cyflwyno
dyletswyddau cyfreithiol newydd ar yr adeg hon. Cytunodd y Pwyllgor i gau'r
ddeiseb a diolch i'r deisebydd am ei hymgysylltiad trwy gydol y broses. |
|
P-05-985 Darparu gofal plant i weithiwr allweddol sy'n cyfateb i'r hyn a oedd ar gael cyn pandemig Covid-19 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriwyd y
ddeiseb hon ochr yn ochr â'r ddeiseb P-05-1015 Dylid categoreiddio ysgolion fel seilwaith
hanfodol. Trafododd y
Pwyllgor ddiweddariad ar y ddeiseb a chytunwyd – yn sgil y gwaith craffu
parhaus sy'n cael ei gymhwyso i'r pwnc hwn gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac
Addysg i ymrwymiad Llywodraeth Cymru i flaenoriaethu cadw ysgolion ar agor, a'r
disgwyliadau a'r arweiniad a gynhyrchir ynghylch darparu dysgu ar-lein – nad
oedd unrhyw gamau pellach y gallai eu cymryd ar hyn o bryd. Cytunodd yr Aelodau
i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd. |
|
P-05-1011 Gwersi rhithwir ar-lein dan arweiniad athrawon ar gyfer pob plentyn ysgol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriwyd y
ddeiseb hon ochr yn ochr â'r ddeiseb – P-05-1015 Dylid categoreiddio ysgolion
fel seilwaith hanfodol Trafododd y
Pwyllgor ddiweddariad ar y ddeiseb ac yn sgil y gwaith craffu parhaus sy'n cael
ei gymhwyso i'r pwnc hwn gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i ymrwymiad
Llywodraeth Cymru i flaenoriaethu cadw ysgolion ar agor, a'r disgwyliadau a'r
arweiniad a gynhyrchir ynghylch darparu dysgu ar-lein, cytunodd y Pwyllgor nad
oedd unrhyw gamau pellach y gallent eu cyflawni ar yr adeg hon, a chytunwyd i
gau'r deisebau a diolch i'r deisebwyr. |
|
P-05-1015 Dylid categoreiddio ysgolion fel seilwaith hanfodol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriwyd y
ddeiseb hon ochr yn ochr â'r ddeiseb P-05-1011 Gwersi rhithwir ar-lein dan arweiniad athrawon
ar gyfer pob plentyn ysgol. Trafododd y
Pwyllgor ddiweddariad ar y ddeiseb a chytunwyd – yn sgil y gwaith craffu
parhaus sy'n cael ei gymhwyso i'r pwnc hwn gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac
Addysg i ymrwymiad Llywodraeth Cymru i flaenoriaethu cadw ysgolion ar agor, a'r
disgwyliadau a'r arweiniad a gynhyrchir ynghylch darparu dysgu ar-lein – nad
oedd unrhyw gamau pellach y gallai eu cymryd ar hyn o bryd. Cytunodd yr Aelodau
i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd. |
|
P-05-1028 Llaciwch y cyfyngiadau gormodol i ganiatáu i ralïau chwaraeon modur gael eu cynnal yng Nghymru. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor ddiweddariad ar y ddeiseb a chytunodd i gadw golwg ar y ddeiseb tan y
Flwyddyn Newydd. |
|
P-05-937 Dylid stopio berwi cramenogion yn fyw (cimychiaid, crancod, cimychiaid afon, corgimychiaid ac ati) Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor ddiweddariad ar y ddeiseb a chytunodd i gadw golwg tan ddiwedd tymor y
Senedd, ac ystyried y ddeiseb eto, pe cyhoeddir canfyddiadau adolygiad a
gomisiynwyd yn ddiweddar o ymdeimlad mewn cramenogion dectroed cyn yr amser
hwnnw. |
|
P-05-1026 Deiseb i wahardd maglu bywyd gwyllt i’w defnyddio yn y fasnach ffwr Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor ddiweddariad ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu'n ôl at Weinidog yr
Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i ofyn a yw Llywodraeth Cymru yn
gwahaniaethu rhwng gwahanol resymau dros ddefnyddio maglau, ac a fyddai’n
ystyried cymryd camau cryfach o ran eu defnyddio at ddibenion masnach mewn
ffwr. |
|
P-05-886 Stopio'r Llwybr Coch (coridor yr A55/A494) Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
Pwyllgor ddiweddariad ar y ddeiseb a chytunodd i gynhyrchu adroddiad cryno o'i
ystyriaeth o'r ddeiseb, gan gynnwys unrhyw argymhellion y mae'n dymuno eu
gwneud, gyda'r bwriad o gyhoeddi hyn cyn diwedd tymor y Senedd. |
|
P-05-1009 Gorchmynnwch Gynghorau Cymru i gymhwyso gordal o 100 y cant o leiaf i’r Dreth Gyngor ar ail gartrefi. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor ddiweddariad ar y ddeiseb a chytunodd i nodi'r wybodaeth bellach a
gafodd am y sefyllfa bresennol o ran premiymau treth y cyngor ar gyfer ail
gartrefi. Yn sgil hynny – ac esboniad blaenorol y Gweinidog am natur ddewisol y
pŵer, a gymeradwywyd
gan y Pwyllgor – cytunodd i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd. |