Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Graeme Francis 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 17/11/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datganiadau o fuddiant

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

Cafwyd ymddiheuriadau gan Michelle Brown AS.

 

2.

Deisebau newydd

2.1

P-05-1038 Addasu'r neges cyfyngiadau symud lleol i "Aros yn Lleol" yn hytrach nag aros o fewn ffiniau sirol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i nodi’r ddeiseb a’r ohebiaeth a ddaeth i law. Cytunodd y Pwyllgor i beidio â chymryd unrhyw gamau pellach ar y sail bod set cenedlaethol o gyfyngiadau wedi cael eu gweithredu ers cyflwyno'r ddeiseb, heb unrhyw gyfyngiadau teithio lleol yn berthnasol yng Nghymru ar hyn o bryd. Wrth wneud hynny, cytunodd y Pwyllgor i ddiolch i’r deisebydd ac i gau’r ddeiseb.

 

 

2.2

P-05-1039 Dylid caniatáu i athletwyr amatur mewn ardal sydd o dan gyfyngiadau lleol barhau i hyfforddi a chael hyfforddiant y tu allan i'r ardal honno

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i nodi’r ohebiaeth a ddaeth i law. Gan fod set cenedlaethol o gyfyngiadau wedi cael eu gweithredu ers cyflwyno'r ddeiseb, heb unrhyw gyfyngiadau teithio lleol yn berthnasol yng Nghymru, a gan fod y cyfleuster penodol y mae’r ddeiseb yn cyfeirio ato yn cael ei gwmpasu gan reolau a wneir gan Lywodraeth y DU, cytunodd y Pwyllgor i ddiolch i’r deisebydd ac i gau’r ddeiseb.

 

Wrth wneud hynny, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu yn ôl at y Dirprwy Weinidog i ofyn bod ystyriaeth yn cael ei rhoi i ganiatáu i athletwyr amatur deithio y tu allan i'w hardal uniongyrchol i gael hyfforddiant, os nad oes cyfleusterau addas ar gael yn lleol, yn ystod unrhyw gyfnodau posibl o gyfyngiadau symud yn y dyfodol.

 

 

2.3

P-05-1042 Rhaid cefnogi busnesau bach a chanolig yn y diwydiant gwallt a harddwch yn ystod cyfnodau clo lleol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i nodi’r ohebiaeth a ddaeth i law. Gan fod set cenedlaethol o gyfyngiadau wedi cael eu gweithredu ers cyflwyno'r ddeiseb, heb unrhyw gyfyngiadau teithio lleol yn berthnasol yng Nghymru ar hyn o bryd, a gan fod busnesau gwallt a harddwch wedi cael caniatâd i ailagor ar ôl y cyfnod atal byr, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb.

 

 

2.4

P-05-1055 Dileu arholiadau TGAU a Safon Uwch

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.5

P-05-1065 Ail-agor ysgolion i ddisgyblion blwyddyn 11 yn hytrach na blwyddyn 8 o'r ail o Dachwedd ymlaen

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i beidio â chymryd unrhyw gamau pellach ar y sail bod pob grŵp blwyddyn wedi dychwelyd i’r ysgol bellach ar ôl y cyfnod atal byr. Felly, cytunodd y Pwyllgor i nodi a chau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.

 

 

2.6

P-05-1032 Deddfu i atal newid enwau Cymraeg tai

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.7

P-05-1040 Cyflwyno moratoriwm ar gymeradwyo unrhyw losgyddion gwastraff newydd ar raddfa fawr yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog i ofyn:

·         a ellid cludo gwastraff na ellir ei ailgylchu i Gymru i gefnogi hyfywedd llosgyddion, wrth i wastraff yng Nghymru leihau ac, os felly, a fyddai hyn yn effeithio ar yr ymdrechion i gyrraedd targedau ailgylchu;

·         a yw Llywodraeth Cymru wedi gweld unrhyw effaith yn deillio o’r penderfyniad a wnaed gan Tsieina i beidio â derbyn mewnforio gwastraff plastig ar gyfer ailgylchu mwyach; ac

·         i gael rheswm llawn pam mae'r Gweinidog yn teimlo na fyddai moratoriwm ar ddatblygu llosgyddion newydd yn briodol ar hyn o bryd.

 

 

2.8

P-05-1044 Sefydlu TGAU Astudiaethau Natur i helpu i baratoi cenedlaethau'r dyfodol i fynd i'r afael â'r bygythiadau sy'n wynebu natur

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ac, yng ngoleuni’r gwaith craffu deddfwriaethol parhaus ar y Bil Cwricwlwm ac Addysg (Cymru) a’r gwaith cysylltiedig dan arweiniad Cymwysterau Cymru ynghylch cynigion ar gyfer cymwysterau TGAU yn y dyfodol, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gymwysterau Cymru i’w hysbysu am y ddeiseb, diolch i’r deisebydd a chau’r ddeiseb.

 

 

 

3.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

3.1

P-05-941 Cylch gwaith bioamrywiaeth ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu at y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig i’w hysbysu am y ddeiseb a'r dystiolaeth a gafwyd hyd yma yng nghyd-destun eu hymchwiliad i Fioamrywiaeth ac Ailwylltio yng Nghymru ac, wrth wneud hynny, cau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.

 

 

3.2

P-05-945 Yr Argyfwng Hinsawdd a Choedwig Genedlaethol i Gymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb ac, yng ngoleuni’r wybodaeth bellach a gafwyd am ddatblygiad parhaus cysyniad y Goedwig Genedlaethol i Gymru ac ymglymiad y deisebwyr â’r Panel Cynghori ar y Strategaeth Goetiroedd, cytunodd y Pwyllgor i ddiolch i’r deisebydd a chau'r ddeiseb.

 

 

3.3

P-05-868 Diogelwch Dŵr/Atal Boddi ac effeithiau Sioc Dŵr Oer i'w haddysgu ym mhob Ysgol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb ac, yng ngoleuni’r bwriad i lansio Strategaeth Diogelwch Dŵr Cymru a gan fod safbwynt Llywodraeth Cymru ar natur anrhagnodol y Cwricwlwm newydd i Gymru yn glir, cytunodd y Pwyllgor nad oes llawer mwy y gellir ei gyflawni ar y ddeiseb ar hyn o bryd. Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.

 

 

3.4

P-05-974 Dylid sicrhau bod technoleg yr aelodau prosthetig a ddarperir gan GIG Cymru cystal â'r hyn a geir yng ngweddill y DU

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog i ofyn pam mae’r sefyllfa o ran mynediad at brostheteg a reolir gan ficrobroseswyr yn wahanol yng Nghymru.

 

Hefyd, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu’n uniongyrchol at y Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru i ofyn am:

·         y rhesymeg pam nad yw pen-glin prosthetig microbrosesydd (MPK) ar gael trwy'r gwasanaeth cyfredol; ac

·         yr amserlen ar gyfer adolygu manyleb bresennol y gwasanaeth, gan nodi ei bod yn ymddangos mai yn 2014 y cafodd ei diweddaru ddiwethaf, a'r rhyngweithio rhwng adolygiad llawn a'r broses flaenoriaethu flynyddol ar sail tystiolaeth a amlinellwyd gan y Gweinidog.

 

 

 

3.5

P-05-960 Dylid talu costau angladdau pob un o staff y GIG sy'n marw o Covid-19 neu gyda'r feirws

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog i ddiolch iddo am ystyried y mater hwn ac i ofyn a ystyriwyd yr opsiwn ar gyfer gweinyddu'r cynllun trwy gartrefi angladdau a thalu swm sefydlog sy'n cynrychioli cyfartaledd cost angladd fel rhan o hyn, fel a gynigiwyd gan y deisebwyr.

 

 

3.6

P-05-1006 Rhyddhau'r £59 miliwn o bunnoedd i'r celfyddydau er mwyn atal lleoliadau cerddoriaeth lleol ar lawr gwlad rhag cau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb a chytunodd i gau’r ddeiseb ar y sail nad oes llawer mwy y gellid ei wneud ar hyn o bryd, yn sgil y cymorth ariannol sydd bellach ar gael i gefnogi lleoliadau cerddoriaeth fyw a goruchwyliaeth barhaus y grŵp rhanddeiliaid cerddoriaeth COVID-19 yn y maes hwn.

 

 

3.7

P-05-1013 Rhowch gymorth ariannol i unigolion hunangyflogedig yn niwydiant cerddoriaeth fyw Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.8

P-05-1007 Uno Yr Hôb a Chaergwrle i greu ward dau aelod yn Sir y Fflint

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb a, gan fod y deisebydd yn derbyn y rheswm pam na fu oedi i’r broses o adolygu ffiniau, a bod y Pwyllgor wedi cytuno’n flaenorol na fyddai’n briodol iddo graffu ar argymhellion penodol a wnaed gan y Comisiwn Ffiniau ochr yn ochr â’r broses statudol, cytunodd i gau'r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.

 

 

3.9

P-05-1021 Peidiwch â gwneud mygydau na gorchuddion wyneb yn orfodol mewn DIM ysgolion (gan gynnwys ysgolion uwchradd)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb a, gan gydnabod y ffaith nad yw gorchuddion wyneb yn orfodol mewn ysgolion ar hyn o bryd, a diffyg cysylltiad pellach gan y deisebydd, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb.

 

 

3.10

P-05-1008 Dysgu cymorth cyntaf iechyd meddwl yn ysgolion Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.11

P-05-951 Gosodwch derfyn cyfreithiol ar uchafswm y geist bridio mewn sefydliadau bridio cŵn trwyddedig yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.12

P-05-952 Dylid mynd yn ôl i sillafu enwau lleoedd Cymraeg yn y ffordd Gymraeg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb a, gan gydnabod yr holl ohebiaeth a gafwyd hyd yma, a diffyg cysylltiad pellach gan y deisebydd yn ddiweddar, cytunodd i gau'r ddeiseb.

 

3.13

P-05-953 Gwahardd poteli llaeth plastig defnydd untro mewn ysgolion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb a, gan gydnabod yr holl ohebiaeth a gafwyd hyd yma, a diffyg cysylltiad pellach gan y deisebydd yn ddiweddar, cytunodd i gau'r ddeiseb.

 

3.14

P-05-961 Gostwng yr oedran ar gyfer sgrinio canser y fron yng Nghymru o 50 i 30

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb a, gan gydnabod yr holl ohebiaeth a gafwyd hyd yma, a diffyg cysylltiad pellach gan y deisebydd yn ddiweddar, cytunodd i gau'r ddeiseb.

 

3.15

P-05-999 Sicrhau bod pob ysgol gynradd yn cadw pellter cymdeithasol o 1 metr fan lleiaf ym mis Medi 2020

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb a, gan gydnabod yr holl ohebiaeth a gafwyd hyd yma, a diffyg cysylltiad pellach gan y deisebydd yn ddiweddar, cytunodd i gau'r ddeiseb.

 

3.16

P-05-1012 Triniaeth mewn siambr ocsigen i gleifion ffibromyalgia wedi'i hariannu drwy'r GIG

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb a, gan gydnabod yr holl ohebiaeth a gafwyd hyd yma, a diffyg cysylltiad pellach gan y deisebydd yn ddiweddar, cytunodd i gau'r ddeiseb.

 

3.17

P-05-1016 Dylid ymestyn y Grant Cartrefi Gwyrdd newydd i Gymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb a, gan gydnabod yr holl ohebiaeth a gafwyd hyd yma, a diffyg cysylltiad pellach gan y deisebydd yn ddiweddar, cytunodd i gau'r ddeiseb.

 

3.18

P-05-1020 Cyflwyno proses apeliadau yng Nghymru mewn perthynas â'r holl Raddau Asesu Canolfannau ar gyfer rhaglen arholiadau cyhoeddus 2020

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb a, gan gydnabod yr holl ohebiaeth a gafwyd hyd yma, a diffyg cysylltiad pellach gan y deisebydd yn ddiweddar, cytunodd i gau'r ddeiseb.

 

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:

Eitem 5.

5.

Arferion Gwaith y Pwyllgor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ddadansoddiad pellach o’r cynnydd diweddar o ran nifer y bobl sy’n defnyddio proses ddeisebau’r Senedd. I ymateb i’r cynnydd sylweddol yn nifer y deisebau sy'n cyrraedd y trothwy 5,000 o lofnodion ar gyfer ystyried cynnal dadl, sy'n golygu bod y galw am ddadleuon posibl ar ddeisebau bellach yn llawer uwch na gallu'r Senedd i'w hamserlennu, cytunodd y Pwyllgor i newid y trothwy i 10,000 o lofnodion, a ddaw i rym ar 1 Rhagfyr 2020 ar gyfer pob deiseb sy'n casglu llofnodion ar ôl y dyddiad hwnnw. Cytunodd y Pwyllgor i adolygu'r trothwy eto ar ddiwedd y Senedd hon gyda'r bwriad o wneud argymhellion priodol ar gyfer y chweched Senedd.