Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Graeme Francis 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 03/11/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datganiadau o fuddiant

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

2.

Deisebau newydd

2.1

P-05-1024 Gwneud ymwybyddiaeth amgylcheddol yn orfodol ac yn fodiwl allweddol mewn ysgolion yng Nghymru ar gyfer pob blwyddyn (Addysg Gynradd ac Uwchradd)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y ddeiseb a’r ohebiaeth a gafwyd. O ystyried bod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wrthi’n craffu ar y Bil Cwricwlwm ac Asesu a chynnwys y Cwricwlwm newydd i Gymru, cytunodd y Pwyllgor i godi’r ddeiseb gyda’r Pwyllgor hwnnw. Wrth wneud hynny, cytunodd y Pwyllgor i ddiolch i’r deisebydd ac i gau’r ddeiseb.

 

 

2.2

P-05-1030 Mesurau i atal dyfeisiau diwifr rhag cael eu defnyddio mewn meithrinfeydd ac ysgolion cynradd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nodwyd yr ohebiaeth a gafwyd a’r sicrwydd ynghylch ymchwil a chanllawiau a ddarparwyd gan y Gweinidog. Daeth y Pwyllgor i’r casgliad nad oes llawer o obaith o wneud mwy o gynnydd ar y mater hwn, a chytunodd y Pwyllgor i ddiolch i’r deisebydd ac i gau’r ddeiseb.

 

 

2.3

P-05-1031 Atal yr arfer o ddargyfeirio Cerbydau Nwyddau Trwm drwy ardaloedd preswyl

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y ddeiseb a’r ohebiaeth a gafwyd. Cytunodd, o ystyried yr amgylchiadau penodol a arweiniodd at godi'r ddeiseb, y byddai'n fwy priodol pe bai Aelodau lleol yn mynd i'r afael â'r materion. Felly, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebwyr.

 

 

2.4

P-05-1033 Dylid diddymu ffioedd cofrestru Cyngor y Gweithlu Addysg (EWC) a diwygio ei drefniant yn llwyr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Gyngor y Gweithlu Addysg i ofyn:

·         am ei ymateb i’r ddeiseb a’r materion eraill a nodwyd gan y deisebydd; ac

·         i gael rhagor o wybodaeth am weledigaeth y sefydliad, sut mae'n cefnogi athrawon a staff ysgolion i gyflawni eu rolau ac am gyflawniadau nodedig ers ei sefydlu.

 

2.5

P-05-1034 Dylid ailagor theatrau a lleoliadau perfformio yng Nghymru mewn pryd ar gyfer tymor yr ŵyl

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y ddeiseb ac ymateb y Gweinidog iddi. Daeth i’r casgliad bod amgylchiadau’r mesurau sydd ar waith i reoli’r feirws wedi newid ers cyflwyno’r ddeiseb yn anffodus, ac erbyn hyn, nid oes fawr o obaith realistig y bydd lleoliadau’n gallu agor ar gyfer perfformiadau’r ŵyl. Felly, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb.

Wrth wneud hynny, roedd yr aelodau am ysgrifennu yn ôl at Lywodraeth Cymru i nodi pwysigrwydd caniatáu i leoliadau o'r fath ailagor yn gyflym pan fydd yr amgylchiadau'n caniatáu hynny.

 

 

2.6

P-05-1035 Dylid caniatáu i bartneriaid genedigaeth fod yn bresennol adeg sganiau, dechrau esgor, yn ystod yr enedigaeth ac ar ôl yr enedigaeth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a nododd bwysigrwydd y materion a godwyd. Yn sgil awgrym y Gweinidog fod canllawiau wedi'u diweddaru ar y mater hwn yn cael eu cynhyrchu ar hyn o bryd, cytunodd yr Aelodau y byddent yn aros am ragor o wybodaeth a chopi o'r canllawiau cyn penderfynu pa gamau pellach y byddai'n briodol eu cymryd ar y ddeiseb.

 

 

2.7

P-05-1036 Caniatáu swigod cefnogaeth yn ystod y cyfyngiadau symud

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.8

P-05-1037 Caniatáu i blant fynd i mewn i ardaloedd dan gyfyngiadau symud i barhau i hyfforddi gyda'u clybiau chwaraeon

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chroesawodd y newidiadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru i ganiatáu i blant deithio y tu allan i ardaloedd â chyfyngiadau lleol cyn cyflwyno'r cyfnod atal byr. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu yn ôl at y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth i ofyn a yw'n rhagweld y byddai hyn yn parhau i fod yn berthnasol pe bai angen cyfyngiadau symud lleol yn y dyfodol.

 

3.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

3.1

P-05-882 Trawsnewid yr ymateb i bobl hŷn sy'n dioddef camdriniaeth ddomestig - galw am weithredu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb ac, o ystyried y gwaith a’r ffocws parhaus ar y mater a amlinellwyd gan y Comisiynydd Pobl Hŷn, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb a diolchodd ir deisebydd am ei waith yn ymchwilio i’r anghenion pwysig hyn a thynnu sylw atynt.

 

Wrth wneud hynny, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i dynnu sylw at y ffaith bod gwaith i’w wneud, yn enwedig o ystyried yr amgylchiadau presennol, i sicrhau bod gan y grŵp o bobl agored i niwed y mae'r mater hwn yn effeithio arnynt y wybodaeth sydd ei hangen arnynt i'w cadw'n ddiogel yng ngoleuni lefelau parhaus o allgáu digidol.

 

 

3.2

P-05-926 Dylid Darparu Adran Blinder Cronig yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb a nododd fod canllawiau NICE ar gyfer syndrom blinder cronig yn cael ei adolygu ar hyn o bryd ac y bydd fersiwn wedi'i diweddaru yn cael ei chyhoeddi ym mis Ebrill 2021. Yng ngoleuni hyn, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb ac i ysgrifennu at y deisebydd i ddiolch iddi am gymryd rhan yn y broses ac i’w hannog i gyfrannu at yr adolygiad o ganllawiau NICE. Hefyd, cytunodd y Pwyllgor y byddai’n tynnu sylw NICE at y ddeiseb a’r dystiolaeth a glywyd.

 

 

3.3

P-05-1014 Rhowch statws "gweithwyr allweddol" i bractisau deintyddol a'u staff

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb a, gan fod y deisebydd yn fodlon â’r ymateb gan y Gweinidog, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb.

 

 

3.4

P-05-984 Dylid rhoi'r gorau i ymgynghoriadau o bell sy'n gwahaniaethu o ran ceisiadau llosgyddion yn ystod y pandemig Covid-19

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb ac, yn sgil yr ohebiaeth ddiweddaraf a gafwyd, daeth y Pwyllgor i’r casgliad nad oes llawer mwy y gellid ei gyflawni ar yr adeg hon. Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.

 

 

3.5

P-05-898 Dylid gwahardd defnyddio byrddau A yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb ac, yn sgil y cyngor a ddarparwyd gan RNIB a Chŵn Tywys Cymru, ac ymrwymiad y Gweinidog y bydd y pryderon ynghylch byrddau A yn cael eu trafod ymhellach fel rhan o’r gwaith ar y Model Cymdeithasol o Anabledd, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.

 

 

3.6

P-05-935 Gwahardd Parcio ar Balmentydd - Addewid Palmant (Pavement Promise)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb a nododd yr argymhellion diweddar a gynhyrchwyd gan Dasglu Cymru ar gyfer parcio ar y palmant a bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn y rhain yn llawn.

 

Yng ngoleuni'r bwriad i roi mwy o bwerau gorfodi sifil i awdurdodau lleol o ran parcio ar y palmant, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd am ymgyrchu ar y mater hwn, gan roi gwybod iddi y bydd y materion y mae'n eu codi ynghylch gorfodi, adrodd a chodi ymwybyddiaeth yn cael eu hystyried gan y grŵp gweithredu gyda llywodraeth leol a rhanddeiliaid.

 

 

3.7

P-05-944 Gwrthdroi'r toriadau i wasanaethau trenau cymudwyr yng Ngogledd-ddwyrain Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb a chytunwyd i gadw golwg ar y mater hyd nes ddiwedd y Senedd hon ac ailedrych ar y ddeiseb os bydd gwasanaethau trenau yn dychwelyd i’w hamserlenni sylfaenol yn ystod y cyfnod hwn.

 

 

3.17

P-05-920 Cyllidebu Ysgolion ar ddinas ADY

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog Addysg i ofyn am:

·         amlinelliad o'r camau nesaf ar gyfer cyllid Anghenion Dysgu Ychwanegol yn dilyn cyhoeddi'r adolygiad o wariant ysgolion yng Nghymru yn ddiweddar ac yng ngoleuni'r pryderon a fynegwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru; a

·         gwybodaeth am ba gyllid a ddarperir i gefnogi diagnosis anghenion dysgu ychwanegol.

 

 

3.9

P-05-988 Rhowch fynediad cyfartal at eu hysgolion a'u hathrawon i blant gweithwyr allweddol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb ac, yng ngoleuni’r sicrwydd a roddwyd gan y Gweinidog Addysg ynglŷn â blaenoriaethu plant gweithwyr allweddol a gan fod y deisebydd yn fodlon, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb a diolch i’r deisebydd am godi’r mater.

 

 

3.10

P-05-992 Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i greu corff cyffredin o wybodaeth am Hanes Cymru fydd pob disgybl yn ei ddysgu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i nodi’r ohebiaeth a gafwyd cyn y ddadl ar y ddeiseb yn y Cyfarfod Llawn a drefnwyd ar gyfer 4 Tachwedd, ac y byddai’n dychwelyd at y ddeiseb ar ôl y ddadl honno.

 

 

3.11

P-05-1000 Ei gwneud yn orfodol i hanesion pobl dduon a POC y DU gael eu haddysgu yng nghwricwlwm addysg Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i nodi’r ohebiaeth a gafwyd cyn y ddadl ar y ddeiseb yn y Cyfarfod Llawn a drefnwyd ar gyfer 4 Tachwedd, ac y byddai’n dychwelyd at y ddeiseb ar ôl y ddadl honno.

 

 

3.15

P-05-910 Gwneud thrombectomi ar gael 24-7 i gleifion yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i nodi'r camau sy'n cael eu cymryd ar hyn o bryd i ddatblygu gwasanaethau thrombectomi mecanyddol ymhellach, gan gynnwys datblygu gwasanaethau ym Mwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro ac ehangu argaeledd gwasanaethau eraill i sicrhau eu bod ar gael 24/7.

 

Gan fod gwaith yn cael ei wneud ar hyn o bryd i gyflawni’r camau hyn, daeth y Pwyllgor i’r casgliad nad oes llawer mwy y gellir ei gyflawni ar hyn o bryd, a chytunodd i gau’r ddeiseb.

 

 

3.13

P-05-936 Cynnig Prawf Sgrinio Canser y Coluddyn ar ôl 74 oed

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at Lywodraeth Cymru i ofyn:

·         am ragor o fanylion ynglŷn â sut mae'r rhaglen sgrinio'r coluddyn yn cael ei hadfer, a’r cynnydd ar hyn o bryd; ac

·         am y wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw gynnydd pellach a wnaed o ran hunan-atgyfeirio i bobl dros 74 oed.

 

 

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:

Etem 5.

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

 

5.

Arferion Gwaith y Pwyllgor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ddadansoddiad o’r cynnydd diweddar o ran nifer y bobl sy’n defnyddio proses ddeisebau’r Senedd. Cytunodd y Pwyllgor i wneud rhai addasiadau i'w ddull o drafod deisebau i'w helpu i nodi'r materion hynny a fyddai'n elwa o graffu manylach, a cheisio datrys y mwyafrif o ddeisebau o fewn cyfnod byrrach, o ystyried pa mor agos yw etholiadau nesaf y Senedd.

 

Hefyd, nododd y Pwyllgor y nifer sylweddol o ddeisebau sydd wedi mynd y tu hwnt i’r trothwy 5000 llofnod ar hyn o bryd a chytunodd i drafod y mater hwn ymhellach, gan gynnwys opsiynau ar gyfer diwygio'r trothwy dros dro neu'n barhaol, yn ei gyfarfod nesaf.

 

Hefyd, trafododd y Pwyllgor y rhestr gyfredol o ddadleuon y gofynnwyd amdanynt a chytunodd i beidio â pharhau i geisio dadl ar ei adroddiad ar P-04-433 Teledu Cylch Cyfyng mewn Lladd-dai a P-05-916 Cyllid digonol i ddiogelu lles anifeiliaid fferm yn lladd-dai Cymru. Cyhoeddwyd yr adroddiad ym mis Ionawr 2020 ond ni lwyddwyd i’w drafod bryd hynny. O ystyried faint o amser sydd wedi mynd heibio, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebwyr am eu cyfraniad.