Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Graeme Francis 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 29/09/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod

 

Cafwyd ymddiheuriadau gan Michelle Brown AS.

 

 

2.

Deisebau newydd Covid-19

2.1

P-05-1006 Rhyddhau’r £59 miliwn o bunnoedd i’r celfyddydau er mwyn atal lleoliadau cerddoriaeth lleol ar lawr gwlad rhag cau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i ysgrifennu yn ôl at y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon i ofyn:

 

  • pam na ddefnyddiwyd y cyllid canlyniadol llawn o £59 miliwn ar gyfer y Gronfa Adferiad Diwylliannol; a
  • sut mae’r Llywodraeth yn bwriadu defnyddio’r adnoddau sydd ar gael iddi i sicrhau bod adeiladau a ddefnyddir fel lleoliadau cerdd yn cael eu gwarchod yn ystod y pandemig ac nad ydynt yn cael eu colli i’w hailddatblygu neu at ddibenion eraill.

 

Nododd y Pwyllgor fwriad i gau’r ddeiseb ar ôl cael y wybodaeth hon.

 

 

2.35

P-05-1013 Rhowch gymorth ariannol i unigolion hunangyflogedig yn niwydiant cerddoriaeth fyw Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a nododd y gefnogaeth ariannol i unigolion sydd i fod ar gael o 5 Hydref. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu yn ôl at y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth i ofyn am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwysedd ar gyfer y cyllid sydd ar gael i weithwyr llawrydd unigol fel rhan o’r Gronfa Adferiad Diwylliannol, a gofyn sut y bydd y Llywodraeth yn adolygu’r meini prawf hynny os bydd tystiolaeth yn dangos bod pobl a gyflogir yn y sector hwn ‘yn cwympo drwy’r bylchau’.

 

 

2.3

P-05-1011 Gwersi rhithwir ar-lein dan arweiniad athrawon ar gyfer pob plentyn ysgol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog mewn perthynas â’r ddeiseb hon a deiseb P-05-1015, i amlinellu’r pryderon a godwyd ac i ofyn pa gynlluniau sydd ar waith nawr, pe bai amgylchiadau’n newid ymhellach yn ystod tymor yr hydref oherwydd cyfyngiadau cenedlaethol neu leol, i sicrhau bod adnoddau ar gael i gefnogi addysgu o bell neu ar-lein i’r holl ddisgyblion. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ofyn faint o ddisgyblion yng Nghymru nad oes ganddynt fynediad at y rhyngrwyd at ddibenion cyrchu addysgu ar-lein gartref, yn ôl data’r Llywodraeth.

 

2.4

P-05-1015 Dylid categoreiddio ysgolion fel seilwaith hanfodol.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog mewn perthynas â’r ddeiseb hon a P-05-1011, i amlinellu’r pryderon a godwyd a gofyn pa gynlluniau sydd ar waith nawr, pe bai amgylchiadau’n newid ymhellach yn ystod tymor yr hydref oherwydd cyfyngiadau cenedlaethol neu leol, i sicrhau bod adnoddau ar gael i gefnogi addysgu o bell neu ar-lein i’r holl ddisgyblion. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ofyn faint o ddisgyblion yng Nghymru nad oes ganddynt fynediad at y rhyngrwyd at ddibenion cyrchu addysgu ar-lein gartref, yn ôl data’r Llywodraeth.

 

2.5

P-05-1017 Caniatáu i ddisgyblion wisgo mygydau ym mhob rhan o safle’r ysgol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ac, o gofio bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau i ysgolion a’i bod yn adolygu’r polisi ynghylch mygydau wyneb yn rheolaidd, cytunwyd i gau’r ddeiseb.

Wrth wneud hynny, cytunodd y Pwyllgor i ddarparu sylwadau diweddar y deisebydd i’r Gweinidog Addysg i’w defnyddio yn yr adolygiadau hynny.

 

 

2.6

P-05-1020 Cyflwyno proses apeliadau yng Nghymru mewn perthynas â’r holl Raddau Asesu Canolfannau ar gyfer rhaglen arholiadau cyhoeddus 2020

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i aros am safbwyntiau’r deisebydd ynghylch yr ymateb gan y Gweinidog Addysg cyn trafod y ddeiseb ymhellach.

 

3.

Deisebau newydd eraill

3.1

P-05-995 Rhyddid i Roi Gwaed

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i ddiolch i’r deisebydd am godi’r mater pwysig hwn, ac:

 

·         ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i rannu’r ymateb a ddarparwyd gan y deisebwyr a gofyn i Lywodraeth Cymru ystyried mynegi cefnogaeth i’r egwyddor o ddefnyddio polisi dewis rhoddwyr mwy unigol yn lle’r cyfnod gohirio cyfredol o dri mis i’r Adran Pwyllgor Cynghorol Statudol Iechyd ar Ddiogelwch Gwaed, Meinweoedd ac Organau (SaBTO) a’r Cydbwyllgor Cynghori Proffesiynol ar Ddethol Rhoddwyr; a

·         chadw brîff gwylio ar y mater hwn yng ngoleuni’r gwaith sy’n cael ei wneud gan grŵp llywio ‘FAIR’ (Ar gyfer Asesu Risg Unigol) ac sydd i fod i gael ei ystyried gan y Pwyllgor Diogelwch Gwaed, Meinweoedd ac Organau ddiwedd 2020, ac i ystyried y ddeiseb eto bryd hynny.

 

 

3.2

P-05-1007 Uno Yr Hôb a Chaergwrle i greu ward dau aelod yn Sir y Fflint.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

 

Datganodd Jack Sargeant y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae’r deisebwyr yn hysbys iddo ac mae wedi mynegi cefnogaeth o’r blaen i’r egwyddor o uno’r wardiau y cyfeirir atynt yn y ddeiseb.

 

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i rannu pryderon y deisebydd ynghylch deddfu newidiadau ffiniau yn ystod pandemig y Coronafeirws a gofyn:

 

  • pa ystyriaeth y mae’r Gweinidog wedi’i rhoi i oedi’r broses adolygu yng ngoleuni’r sefyllfa bresennol; ac
  • a ddylai’r Comisiwn Ffiniau roi mwy o bwys ar ffactorau eraill, fel cydlyniant cymunedol, o ganlyniad.

 

 

3.3

P-05-1008 Dysgu cymorth cyntaf iechyd meddwl yn ysgolion Cymru.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i aros am safbwyntiau’r deisebydd ynghylch yr ymateb gan y Gweinidog Addysg cyn trafod y ddeiseb ymhellach.

 

3.4

P-05-1009 Gorchmynnwch Gynghorau Cymru i gymhwyso gordal o 100 y cant o leiaf i’r Dreth Gyngor ar ail gartrefi.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ofyn am wybodaeth am faint o gynghorau yng Nghymru sy’n defnyddio’r pŵer dewisol i godi premiymau treth gyngor ar gyfer ail gartrefi ar hyn o bryd.

 

 

3.5

P-05-1010 Ymchwiliad annibynnol i’r llifogydd yn Rhondda Cynon Taf yn 2020 fel bod gwersi yn cael eu dysgu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Leanne Wood y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae hi’n adnabod y deisebydd ac wedi rhannu’r ddeiseb yn ei hetholaeth.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i ofyn am amser ar gyfer dadl yn y Cyfarfod Llawn ar y mater.

 

 

3.6

P-05-1012 Triniaeth mewn siambr ocsigen i gleifion ffibromyalgia wedi’i hariannu drwy’r GIG

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Leanne Wood y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae hi’n credu efallai ei bod hi’n adnabod y deisebydd.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i aros i glywed barn y deisebydd am y wybodaeth a ddarparwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol cyn penderfynu a ddylid cymryd camau pellach ynghylch y ddeiseb.

 

 

3.7

P-05-1016 Dylid ymestyn y Grant Cartrefi Gwyrdd newydd i Gymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am ymateb y deisebydd i’r ymateb a gafwyd gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig cyn ystyried a ddylid cymryd camau pellach ar y ddeiseb.

 

 

4.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

4.1

P-05-960 Dylid talu costau angladdau pob un o staff y GIG sy’n marw o Covid-19 neu gyda’r feirws

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i nodi bwriad y Gweinidog i ystyried rhagor o wybodaeth ac i ysgrifennu eto at y Pwyllgor ar ôl cael hon.

 

 

4.2

P-05-868 Diogelwch Dŵr/Atal Boddi ac effeithiau Sioc Dŵr Oer i’w haddysgu ym mhob Ysgol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ddiweddariad ar y ddeiseb a chytunodd i aros am:

y bwriad i lansio Strategaeth Diogelwch Dŵr Cymru a barn bellach gan y deisebydd cyn ystyried a ddylid cymryd unrhyw gamau pellach ar y ddeiseb.

 

 

4.3

P-05-933 Gwahardd Pysgod Aur rhag cael eu rhoi i ffwrdd mewn ffair

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ddiweddariad ar y ddeiseb ac, yng ngoleuni’r wybodaeth a ddarparwyd gan Weinidog yr Amgylchedd fod gwaith i wneud Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Arddangosion Anifeiliaid) (Cymru) 2020 wedi’i ohirio oherwydd effaith Covid-19 ac y bydd Grŵp Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru yn ystyried rhoi anifeiliaid fel gwobrau yn y dyfodol, daeth y Pwyllgor i’r casgliad nad oedd fawr ddim pellach y gallai ei gyflawni ar hyn o bryd. Oherwydd hynny, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd am ei chyflwyno.

 

 

4.4

P-05-941 Cylch gwaith bioamrywiaeth ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ddiweddariad ar y ddeiseb a nododd fod y Llythyr Cylch Gwaith ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer 2020/21 yn cyfeirio at fioamrywiaeth. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i ofyn iddi roi ystyriaeth bellach i weld a yw’r adnoddau sydd ar gael i CNC yn ddigonol i sicrhau y gall flaenoriaethu gwaith ar fioamrywiaeth yn ychwanegol at ei gyfrifoldebau eraill.

 

 

4.5

P-05-951 Gosodwch derfyn cyfreithiol ar uchafswm y geist bridio mewn sefydliadau bridio cŵn trwyddedig yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ddiweddariad ar y ddeiseb a chytunodd i aros am ymateb y deisebydd ar yr ymateb a gafwyd gan Weinidog yr Amgylchedd cyn ystyried a ddylid cymryd camau pellach ar y ddeiseb.

 

 

4.6

P-05-953 Gwahardd poteli llaeth plastig defnydd untro mewn ysgolion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ddiweddariad ar y ddeiseb a chytunodd i aros am farn y deisebwyr ar yr ymateb diweddaraf a gafwyd gan y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol.

 

 

4.7

P-05-965 Annog y Llywodraeth i gyflwyno ward ar wahân, heblaw’r ward famolaeth, ar gyfer teuluoedd sy’n colli plentyn drwy gamesgoriad.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ddiweddariad ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn iddo ymyrryd i sicrhau bod pob bwrdd iechyd yn cael ei gefnogi a’i alluogi i ddarparu cyfleusterau ar wahân i bobl sy’n mynd drwy gamesgoriad.

Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ysgrifennu at bob bwrdd iechyd i dynnu sylw at y ddeiseb a’r materion a godwyd gan y deisebydd a gofyn:

 

  • am wybodaeth ynghylch darparu cyfleusterau yn eu hysbytai ar gyfer cefnogi teuluoedd sy’n profi camesgoriad, ac yn benodol a oes cefnogaeth ar gael ar wahân i wardiau mamolaeth neu a ellid ei gwella yng ngoleuni profiad y deisebydd; ac
  • am fanylion gwasanaethau cymorth parhaus sydd ar gael i deuluoedd sydd mewn profedigaeth, drwy gamesgoriad a thrwy achosion eraill.

 

 

4.8

P-05-940 Gostwng nifer y llawdriniaethau a gaiff eu canslo

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor sylwadau gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am ddadansoddiad o’r ffigurau mewn perthynas â llawdriniaethau a ganslwyd am y 5 mlynedd cyn 2020, gan gynnwys:

 

  • faint a ganslwyd gan fyrddau iechyd;
  • faint a ganslwyd ar gais y claf;
  • faint oedd yn blant.

 

 

4.9

P-05-798 Gwasanaethau cymorth i ddynion sy’n ddioddefwyr trais yn y cartref i gael eu rhedeg a’u cyllido’n annibynnol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Gohiriwyd yr ystyriaeth o’r ddeiseb hon tan y cyfarfod nesaf ar gais y deisebydd.

 

 

4.10

P-05-898 Dylid gwahardd defnyddio byrddau A yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ddiweddariad ar y ddeiseb a chytunodd i aros am farn y deisebydd ar ymateb y Gweinidog  Tai a Llywodraeth Leol cyn penderfynu sut i fwrw ymlaen â’r ddeiseb.

 

4.11

P-05-913 Creu Llwybr Amlddefnydd Lôn Las Môn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor nifer o ddiweddariadau ar y ddeiseb hon, ac yng ngoleuni’r ymatebion a ddaeth i law, gan gynnwys awydd Llywodraeth Cymru i gynnal datrysiad rheilffordd a nodwyd gan y Gweinidog a Network Rail, a’r trafodaethau parhaus ynghylch prydles y llinell ar gyfer rheilffyrdd treftadaeth, mae’n annhebygol y gellir cyflawni amcanion y deisebwyr. 

 

Felly cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb ac i ddiolch i’r deisebwyr am eu cyfraniadau i’r broses.

 

 

4.12

P-05-932 Addysg ar alergeddau bwyd mewn ysgolion a hyfforddiant EPI-PEN gorfodol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb hon, a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog Addysg i ofyn a yw’r pandemig wedi effeithio ar yr adolygiad arfaethedig o’r dull gweithredu o ran alergeddau, ac at Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ofyn am fanylion y gwaith sy’n cael ei gynnal ar ddietau arbennig mewn ysgolion.

 

 

4.13

P-05-950 Dysgu Amaethyddiaeth ac Addysg Cefn Gwlad o 4 i 16 mlwydd oed yn ein Hysgolion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor ymatebion y Gweinidog i’r ddeiseb hon a chytunodd i gau’r ddeiseb, o ystyried y diffyg cyswllt a gafwyd gan y deisebydd a’r gwaith craffu sy’n cael ei wneud ar Fil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.