Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Graeme Francis 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 15/09/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

09:00

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau gan Janet Finch-Saunders AS, Cadeirydd y Pwyllgor.

Yn absenoldeb y Cadeirydd, penodwyd Jack Sargeant yn Gadeirydd dros dro ar gyfer y cyfarfod.

Croesawodd y Cadeirydd dros dro yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

2.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:

Item 2

Cofnodion:

Eitem 3

 

Penderfynodd y Pwyllgor wahardd y cyhoedd o drafodaeth Eitem 3.

 

3.

Dadl ar ddeisebau - trafodaeth breifat

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y cynnydd diweddar yn nifer y deisebau sydd wedi casglu mwy na 5000 o lofnodion a sut y gall wneud ceisiadau priodol am amser yn y Cyfarfod Llawn. Cytunodd y Pwyllgor i drafod pob deiseb yn unigol ac i ystyried grwpio deisebau i gynnal dadl arnynt lle bo hynny'n briodol, a gofyn am ddadleuon byrrach pe bai hynny'n hwyluso trafod mwy o ddeisebau yn y Cyfarfod Llawn.

 

 

09.15

4.

Deisebau newydd Covid-19

4.1

P-05-987 Dylid diweddaru’r canllawiau fel bod Canolfannau Hapchwarae i Oedolion, sy'n fusnesau teuluol, yn gymwys ar gyfer Grantiau Busnes yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ac yng ngoleuni'r ffaith nad yw’r Gweinidog yn bwriadu newid y canllawiau mewn perthynas â’r cynllun grantiau, a bod y cynllun bellach wedi cau i geisiadau newydd, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb, gan ddiolch i’r deisebydd.

 

 

4.2

P-05-991 Sicrhewch fod sticer ar gael i ddangos eich bod yn byw yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a nododd ei bod yn glir nad yw’r Llywodraeth yn bwriadu gweithredu’r hyn a gynigiwyd. Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb, gan ddiolch i'r deisebydd am godi mater dilys.

 

Wrth wneud hynny, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu yn ôl at Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth i ofyn sut mae’n bwriadu mynd i’r afael â’r mater ehangach a godwyd gan y deisebydd.

 

 

4.3

P-05-993 Gwnewch y sector manwerthu'n gwbl hygyrch i bobl anabl

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:

 

·         aros am ymateb Llywodraeth Cymru i’r argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, cyn penderfynu a oes unrhyw gamau ychwanegol y gall eu cymryd; a

·         gofyn am nodyn cyfreithiol yn amlinellu'r ddeddfwriaeth mewn perthynas â hawliau pobl anabl.

 

 

4.4

P-05-998 Dylid gorfodi gwisgo mygydau/gorchuddion wyneb mewn siopau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ynghyd â P-05-1005 Sicrhau nad yw gwisgo mygydau mewn siopau yn dod yn orfodol a chytunwyd i:

·         ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog yn gofyn am eglurhad pellach o ran y pryderon ynghylch gorfodi ac ardystio ar gyfer y rheini sydd wedi'u heithrio rhag gwisgo gorchuddion wyneb; a

·         chau’r ddeiseb gan fod gwisgo gorchudd wyneb mewn siopau wedi dod yn orfodol yng Nghymru yn ddiweddar.

 

 

4.5

P-05-1005 Sicrhau nad yw gwisgo mygydau mewn siopau yn dod yn orfodol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ynghyd â P-05-998 Dylid gorfodi gwisgo mygydau/gorchuddion wyneb mewn siopau a chytunwyd i:

·         ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog yn gofyn am eglurhad pellach o ran y pryderon ynghylch gorfodi ac ardystio ar gyfer y rheini sydd wedi'u heithrio rhag gwisgo gorchuddion wyneb; a

  • chau’r ddeiseb gan fod gwisgo gorchudd wyneb mewn siopau wedi dod yn orfodol yng Nghymru yn ddiweddar.

 

 

4.6

P-05-999 Sicrhau bod pob ysgol gynradd yn cadw pellter cymdeithasol o 1 metr fan lleiaf ym mis Medi 2020

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i aros am safbwyntiau’r deisebydd ynghylch yr ymateb gan y Gweinidog Addysg cyn trafod y ddeiseb ymhellach.

 

5.

Deisebau Covid-19 newydd sydd eisoes wedi’u datrys

5.1

P-05-994 Caniatáu i adeiladau eglwysi ailagor - er enghraifft, ar gyfer addoli ar y cyd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ac, yn sgil y penderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru a gan fod y deisebydd wedi’i fodloni, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb.

 

5.2

P-05-1004 Caniatáu i Ysgolion Dawns yng Nghymru ailagor ar unwaith ar gyfer gwersi dan do

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a, gan fod ysgolion dawns yn gallu ailagor ar yr amod eu bod yn cadw at y gofynion diogelwch, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb.

 

5.3

P-05-1019 Dyfarnwch raddau a ragwelwyd gan athrawon i holl fyfyrwyr Cymru ar gyfer arholiadau 2020

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ac, yn sgil y penderfyniadau a wnaed gan Llywodraeth Cymru a gan fod y deisebydd wedi’i fodloni, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb.

 

6.

Deisebau newydd eraill

6.1

P-05-974 Dylid sicrhau bod technoleg yr aelodau prosthetig a ddarperir gan GIG Cymru cystal â’r hyn a geir yng ngweddill y DU.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gofyn am fanylion ynghylch pryd y bydd WHSSC yn cynnal adolygiad o ‘Fanyleb Gwasanaeth y Gwasanaethau Arbenigol: CP89 Gwasanaethau adsefydlu i’r rhai sydd wedi colli aelod a’r rhai sydd wedi cael aelod prosthetig', ac am esboniad pam mae'r sefyllfa ynghylch mynediad at brostheteg a reolir gan ficrobrosesydd yn wahanol yng Nghymru.

 

 

 

6.2

P-05-992 Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i greu corff cyffredin o wybodaeth am hanes Cymru fydd pob disgybl yn ei ddysgu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:

 

·         ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i ofyn am amser i gynnal dadl ar y cyd yn y Cyfarfod Llawn ar y ddeiseb hon a deiseb P-05-1000 Ei gwneud yn orfodol i hanesion pobl dduon a POC y DU gael eu haddysgu yng nghwricwlwm addysg Cymru;

·         ysgrifennu at y Gweinidog Addysg i ofyn am ragor o fanylion ynghylch y gwaith sy’n cael ei wneud i gomisiynu adnoddau newydd i gefnogi addysgu hanes Cymru yn y cwricwlwm newydd; ac

·         ysgrifennu at Estyn i ofyn am fanylion ynghylch y gwaith y byddant yn ei wneud fel rhan o’u hadolygiad o hanes Cymru.

 

 

6.3

P-05-1000 Ei gwneud yn orfodol i hanesion pobl dduon a POC y DU gael eu haddysgu yng nghwricwlwm addysg Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i ofyn am amser i gynnal dadl ar y cyd yn y Cyfarfod Llawn ar y ddeiseb hon a deiseb P-05-992 Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i greu corff cyffredin o wybodaeth am Hanes Cymru fydd pob disgybl yn ei ddysgu.

 

6.4

P-05-996 Galw ar Lywodraeth Cymru i beidio â symud, difrodi na dinistrio unrhyw symbolau hanesyddol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am yr archwiliad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru ac ymchwiliad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ac i roi gwybod i’r deisebydd sut i gyflwyno ei safbwyntiau i’r ymchwiliad.

 

 

6.5

P-05-1001 Cynnal ymchwiliad annibynnol i'r dewis o safle ar gyfer y Ganolfan Ganser Velindre newydd arfaethedig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ochr yn ochr â P-05-1018 Cefnogaeth ar gyfer y cynlluniau arfaethedig presennol i adeiladu Canolfan Ganser Felindre newydd yng Nghaerdydd mewn unrhyw ymchwiliad yn y dyfodol, a chytunwyd i:

 

  • ysgrifennu eto at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am ymateb i’r deisebau, a hefyd mewn perthynas â’r pryderon a fynegwyd yn ddiweddar ynghylch y model clinigol;
  • ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon i ofyn a yw’r pwyllgor yn bwriadu cynnal unrhyw waith ar y mater hwn;
  • ysgrifennu at Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre i ofyn nifer o gwestiynau pellach am y rhaglen Trawsnewid Gwasanaethau Canser; ac
  • ysgrifennu at arweinwyr canser ym mhob bwrdd iechyd yng Nghymru i ofyn am eu barn ynghylch y model a gynigir.

 

 

6.6

P-05-1018 Cefnogaeth ar gyfer y cynlluniau arfaethedig presennol i adeiladu Canolfan Ganser Felindre newydd yng Nghaerdydd mewn unrhyw ymchwiliad yn y dyfodol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ochr yn ochr â P-05-1018 Cefnogaeth ar gyfer y cynlluniau arfaethedig presennol i adeiladu Canolfan Ganser Felindre newydd yng Nghaerdydd mewn unrhyw ymchwiliad yn y dyfodol, a chytunwyd i:

 

  • ysgrifennu eto at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am ymateb i’r deisebau, a hefyd mewn perthynas â’r pryderon a fynegwyd yn ddiweddar ynghylch y model clinigol;
  • ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon i ofyn a yw’r pwyllgor yn bwriadu cynnal unrhyw waith ar y mater hwn;
  • ysgrifennu at Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre i ofyn nifer o gwestiynau pellach am y rhaglen Trawsnewid Gwasanaethau Canser; ac
  • ysgrifennu at arweinwyr canser ym mhob bwrdd iechyd yng Nghymru i ofyn am eu barn ynghylch y model a gynigir.

 

 

6.7

P-05-1002 Dylid rhoi seibiant treth stamp o ran pob tŷ sy’n cael ei brynu yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ac, yn sgil yr ymateb i’r ddeiseb a roddwyd gan y Gweinidog Cyllid a’r ddadl yn y Cyfarfod Llawn sydd ar ddod ynghylch rheoliadau perthnasol Llywodraeth Cymru lle gall aelodau unigol ofyn cwestiynau, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb, gan ddiolch i’r deisebydd.

 

 

6.8

P-05-1003 Mynnu Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol nawr ynghylch gwaredu mwd wedi’i halogi’n radiolegol yn nyfroedd Cymru.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i ofyn am amser ar gyfer dadl yn y Cyfarfod Llawn ar y mater.

 

7.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau Covid-19 blaenorol

7.1

P-05-962 Diwygiad brys i ymestyn yr oedran y ceir hawl i gymorth addysgol ychwanegol o 25 i 26 ac i ddiffinio pandemig Covid-19 yng nghanllawiau'r Llywodraeth fel amgylchiad eithriadol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ddiweddariadau pellach am y ddeiseb a nododd y wybodaeth a ddarparwyd gan y Gweinidog Addysg ynghylch sut mae Llywodraeth Cymru wedi cyfathrebu â cholegau Addysg Bellach arbenigol, a’r ceisiadau am estyniad a gymeradwywyd hyd yma.

Gan gydnabod pryderon y deisebydd am y canllawiau, sy’n mynd ymhellach na’r ddeiseb, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb.

 

 

7.2

P-05-967 Annog Llywodraeth Cymru i ddiwygio ei pholisi ar ryddhad ardrethi annomestig i helpu i gadw siopau Debenhams ar agor yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Yn dilyn y ddadl yn y Cyfarfod Llawn a gynhaliwyd am y ddeiseb ar 8 Gorffennaf 2020, y wybodaeth bellach a ddarparwyd gan y Gweinidog a gan fod y deisebydd wedi dweud nad oes ganddo unrhyw sylwadau pellach i’w hychwanegu, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb.

 

 

7.3

P-05-970 Gofynnwch i’r Senedd ailystyried ei phenderfyniad i beidio â rhoi cyllid brys i sŵau ac acwaria

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb a gan fod Llywodraeth Cymru wedi nodi’r cymorth blaenorol a’r cymorth parhaus a roddir i sŵau ac acwaria, a chan fod hyn yn cael ei adolygu’n barhaus, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb, gan ddiolch i’r deisebydd.

 

 

7.4

P-05-981 Caniatáu i gampfeydd a chanolfannau hamdden ailagor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â deiseb P-05-986 Caniatáu i gampfeydd bach a safleoedd hyfforddi personol agor yn gynt yn ystod cyfyngiadau COVID, a gan fod campfeydd dan do bellach wedi cael caniatâd i ailagor a bod y Dirprwy Weinidog wedi darparu gwybodaeth am y cyngor gwyddonol a ddefnyddir i lywio penderfyniadau, cytunwyd i gau’r deisebau.

 

 

7.5

P-05-986 Caniatáu i gampfeydd bach a safleoedd hyfforddi personol agor yn gynt yn ystod cyfyngiadau COVID

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â deiseb P-05-981 Caniatáu i gampfeydd a chanolfannau hamdden ailagor, a gan fod campfeydd dan do bellach wedi cael caniatâd i ailagor a bod y Dirprwy Weinidog wedi darparu gwybodaeth am y cyngor gwyddonol a ddefnyddir i lywio penderfyniadau, cytunwyd i gau’r deisebau.

 

 

7.6

P-05-979 Mabwysiadu polisïau llywodraeth y DU o ran llacio’r cyfyngiadau symud.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Gan nad oes llawer o gamau pellach y gall y Pwyllgor eu cymryd a fyddai’n ddefnyddiol, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb, gan ddiolch i’r deisebydd.

 

 

7.7

P-05-983 Rhowch gymorth grant i fusnesau Gwely a Brecwast yng Nghymru sy'n talu’r dreth gyngor ac nid ardrethi busnes

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Yn sgil y penderfyniadau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u gwneud ynghylch y meini prawf cymhwystra ar gyfer cymorth, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb, gan ddiolch i’r deisebydd, ar y sail nad oes llawer mwy y gall y Pwyllgor ei wneud mewn perthynas â’r amgylchiadau penodol y mae’r busnes hwn yn eu hwynebu.

 

 

7.8

P-05-984 Dylid rhoi’r gorau i ymgynghoriadau o bell sy’n gwahaniaethu o ran ceisiadau llosgyddion yn ystod y pandemig Covid-19

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol yn gofyn am fanylion y meini prawf a ddefnyddiwyd wrth ystyried a ddylid cytuno i ymestyn y terfynau amser yn ymwneud ag ymgynghori neu ofynion cyflwyno yn y cam gwneud cais llawn ar gyfer Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol.

 

7.9

P-05-985 Darparu gofal plant i weithiwr allweddol sy'n cyfateb i'r hyn a oedd ar gael cyn pandemig Covid-19

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu’n ôl at y Gweinidog Addysg i nodi bod angen rhoi ystyriaeth bellach i’r ddarpariaeth gofal plant ar gyfer plant gweithwyr allweddol yn ystod oriau gweithio craidd yn unrhyw gyfyngiadau symud yn y dyfodol, ac i rannu safbwyntiau’r deisebydd ynghylch sut y dylai awdurdodau lleol fynd ati i gau ysgolion neu orfodi cyfyngiadau symud yn y dyfodol.

 

 

7.10

P-05-988 Rhowch fynediad cyfartal at eu hysgolion a’u hathrawon i blant gweithwyr allweddol.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog Addysg i ofyn a fyddai canllawiau mwy penodol yn cael eu darparu i ysgolion ynghylch cynnwys plant y mae angen iddynt ddefnyddio’r ddarpariaeth gofal plant i weithwyr allweddol hefyd, pe bai ysgolion yn ailagor yn raddol yn y dyfodol.