Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Graeme Francis 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 17/07/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod

 

Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd.

 

Ni chafwyd ymddiheuriadau na datganiadau o fuddiant.

 

 

2.

Deisebau newydd Covid-19

2.1

P-05-975 Ailystyriwch y codiad i’r dreth gyngor ar gyfer ail gartrefi tra'i bod yn anghyfreithlon i deithio i ail gartrefi.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf, gan nodi ymateb y Gweinidog Cyllid bod defnyddio'r pŵer dewisol i godi premiwm treth gyngor yn fater i awdurdodau lleol unigol. Cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at Gyngor Sir Penfro i nodi barn y deisebydd wrtho.

 

 

2.2

P-05-976 Caniatáu priodasau sy’n cynnwys 5 o bobl (cofrestrydd/y pâr/2 dyst) yn ystod COVID 19 yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor fod nodau'r ddeiseb wedi'u cyflawni, yng ngoleuni'r ffaith bod seremonïau priodas bach bellach yn gallu cael eu cynnal eto yng Nghymru. Oherwydd hynny, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolchodd i’r deisebydd am ei chyflwyno.

 

2.3

P-05-977 Ailagor gwasanaethau deintyddol cyffredinol llawn yng Nghymru fel sydd wedi digwydd yn Lloegr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a nododd fod gwasanaethau deintyddol bellach yn mynd drwy gamau ailagor yn raddol. Cytunodd y Pwyllgor i ddychwelyd at y ddeiseb yn yr hydref i ystyried y sefyllfa ddiweddaraf bryd hynny.

 

2.4

P-05-978 Caniatáu i'r holl sŵau ac atyniadau bywyd gwyllt ailagor gyda chamau cadw pellter cymdeithasol ar waith ledled Cymr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor fod nodau'r ddeiseb bellach wedi'u cyflawni, yng ngoleuni'r ffaith bod atyniadau awyr agored i ymwelwyr, gan gynnwys sŵau, bellach yn gallu ailagor. Oherwydd hynny, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolchodd i’r deisebydd am ei chyflwyno.

 

2.5

P-05-979 Mabwysiadu polisïau llywodraeth y DU o ran llacio’r cyfyngiadau symud.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am ymateb gan Lywodraeth Cymru cyn ystyried y ddeiseb ymhellach.

 

2.6

P-05-980 Ymestyn grantiau ar unwaith i fusnesau bach yng Nghymru nad ydynt yn cael eu cynnwys yn y Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf, nododd ymateb y Gweinidog Cyllid a chytunwyd i ofyn am ragor o wybodaeth ar faint y disgresiwn sydd ar gael i awdurdodau lleol o ran dyfarnu grantiau neu gyllid arall i fusnesau nad ydynt yn cael eu cynnwys yn y Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach.

 

2.7

P-05-981 Caniatáu i gampfeydd a chanolfannau hamdden ailagor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ochr yn ochr â deiseb P-05-986 Caniatáu i gampfeydd bach a safleoedd hyfforddi personol agor yn gynt yn ystod cyfyngiadau COVID, a chytunwyd i ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon i ofyn:

·         a all Llywodraeth Cymru nodi tystiolaeth sy'n dangos bod campfeydd a chyfleusterau chwaraeon dan do eraill yn peri risg trosglwyddo penodol o ran Covid-19, a

·         pha ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i bwysigrwydd ymarfer corff i iechyd meddwl a lles pobl o ran eu penderfyniadau ynghylch agor cyfleusterau hamdden. 

 

2.8

P-05-986 Caniatáu i gampfeydd bach a safleoedd hyfforddi personol agor yn gynt yn ystod cyfyngiadau COVID

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ochr yn ochr â deiseb P-05-981 Caniatáu i gampfeydd a chanolfannau hamdden ailagor a chytunwyd i ysgrifennu yn ôl at y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon i ofyn:

·         a all Llywodraeth Cymru nodi tystiolaeth sy'n dangos bod campfeydd a chyfleusterau chwaraeon dan do eraill yn peri risg trosglwyddo penodol o ran Covid-19, a

·         pha ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i bwysigrwydd ymarfer corff i iechyd meddwl a lles pobl o ran eu penderfyniadau ynghylch agor cyfleusterau hamdden. 

 

2.9

P-05-982 Dylid ail-agor cyrtiau tenis awyr agored a hyfforddiant yn unol â gweddill y DU ac Ewrop

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor ei bod yn ymddangos bod nodau'r ddeiseb wedi'u cyflawni, yng ngoleuni'r ffaith bod caniatâd i ailagor cyfleusterau tenis awyr agored yng Nghymru er 22 Mehefin. Felly cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb.

 

2.10

P-05-983 Rhowch gymorth grant i fusnesau Gwely a Brecwast yng Nghymru sy'n talu’r dreth gyngor ac nid ardrethi busnes

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog Cyllid i roi sylwadau pellach y deisebydd, ac i ofyn a oes cynllun cymorth ar gael ar gyfer busnesau gwely a brecwast nad ydynt yn talu ardrethi busnes, os nad ydynt yn gyflogwyr nac wedi'u cofrestru ar gyfer TAW, ac a ellid defnyddio cyllid gan Lywodraeth y DU yn y dyfodol at y diben hwn.

 

2.11

P-05-984 Dylid rhoi’r gorau i ymgynghoriadau o bell sy’n gwahaniaethu o ran ceisiadau llosgyddion yn ystod y pandemig Covid-19

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu’n ôl at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i:

·         roi cyflwyniad diweddaraf y deisebydd iddi;

·         ofyn iddi ystyried arfer ei phwerau i ymestyn yr amserlen ar gyfer ymgynghori os a phan fydd ymgynghoriad yn symud ymlaen i fod yn gais llawn; ac i

·         ofyn sut y byddai'r deisebydd yn gallu gwneud cais o'r fath ar yr adeg briodol.

 

2.12

P-05-985 Darparu gofal plant i weithiwr allweddol sy'n cyfateb i'r hyn a oedd ar gael cyn pandemig Covid-19

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu’n ôl at y Gweinidog Addysg i ddarparu ymateb y deisebydd i'w llythyr, ac i ofyn beth yw disgwyliadau'r Llywodraeth o ran darpariaeth gofal plant ar gyfer plant gweithwyr allweddol yn ystod y gwyliau haf ac, yn dilyn y cyhoeddiad y bydd disgwyl i ysgolion ailagor yn llawn ar gyfer tymor yr hydref, gofyn am ragor o wybodaeth am y ddarpariaeth oriau estynedig y disgwylir iddi fod ar gael i weithwyr allweddol.

 

2.13

P-05-988 Rhowch fynediad cyfartal at eu hysgolion a’u hathrawon i blant gweithwyr allweddol.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf, a chytunodd i ysgrifennu’n ôl at y Gweinidog Addysg i roi’r sylwadau a wnaed gan y deisebydd, ac i ofyn:

·         p'un a yw hi'n ystyried y gellid osgoi gwahaniaethau lleol neu ranbarthol o ran y ddarpariaeth addysg ar gyfer plant gweithwyr allweddol, a sut y byddai gwneud hynny os bydd unrhyw leihad o ran y ddarpariaeth ysgol yn y dyfodol; a

·         ph'un a fydd grwpiau cyswllt neu 'swigod' ar gael yn llawn o fis Medi i blant gweithwyr allweddol, neu unrhyw rieni sydd angen gofal plant cofleidiol.

 

2.14

P-05-990 Agor ysgolion ym mis Medi. Cael gwared ar ddysgu cyfunol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i gau'r ddeiseb yng ngoleuni’r cyhoeddiad diweddar gan y Gweinidog Addysg y bydd ysgolion yng Nghymru yn dychwelyd yn llawn amser i'r holl ddisgyblion ym mis Medi. Nododd y Pwyllgor lwyddiant y ddeiseb a diolchodd i’r deisebwyr am godi’r mater hwn. 

 

3.

Deisebau newydd eraill

3.1

P-05-954 Deiseb yn galw am ymchwiliad cyhoeddus gan Lywodraeth Cymru i gam-drin plant hanesyddol ar Ynys Byr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu’n ôl at y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i roi’r ohebiaeth a ddaeth i law’r Pwyllgor ac i ofyn iddi ddarparu ymateb pellach. Tynnodd y Pwyllgor sylw hefyd at yr arwyddion a dderbyniwyd na fydd yr Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol yn ystyried cam-drin a ddigwyddodd ar Ynys Byr yn benodol, a gofynnodd bod rhagor o ystyriaeth i fater cynnal ymchwiliad cyhoeddus yng ngoleuni hyn.

 

 

4.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

4.1

P-05-931 Eli haul mewn ysgolion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Yn wyneb y diffyg cyswllt gan y deisebydd gwreiddiol, ac o nodi'r ymateb i'r ddeiseb a ddarparwyd gan y Gweinidog Addysg, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb.

 

4.2

P-05-958 Penderfyniadau Diweddar Ynglŷn â Graddau UG 2020

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Yng ngoleuni’r ffaith bod y deisebydd yn derbyn yr esboniad ychwanegol a ddarparwyd gan y Gweinidog Addysg a'r ffaith ei bod yn annhebygol y bydd graddau ar gyfer blwyddyn academaidd 2019/20 yn cael eu newid ar hyn o bryd, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb gan mai ychydig iawn yn rhagor y gallai ei gyflawni, a diolchodd i'r deisebydd.

 

4.3

P-05-962 Diwygiad brys i ymestyn yr oedran y ceir hawl i gymorth addysgol ychwanegol o 25 i 26 ac i ddiffinio pandemig Covid-19 yng nghanllawiau'r Llywodraeth fel amgylchiad eithriadol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor wybodaeth bellach a nododd y diweddariad gan y Gweinidog Addysg, gan gynnwys y cadarnhad bod pedwar cais am estyniadau wedi dod i law a bod pob un wedi'i gymeradwyo, a chytunodd i aros am ymateb sylweddol pellach i'r materion a godwyd yng ohebiaeth flaenorol y deisebydd.

 

4.4

P-05-906 Achub Ward Sam Davies yn Ysbyty y Barri

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor wybodaeth bellach am y ddeiseb, a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro i ofyn am ymateb i'r pryderon a godwyd gan Gyngor Iechyd Cymuned De Morgannwg a diweddariad ar y sefyllfa bresennol  o ran llwybr y claf ar gyfer pobl hŷn eiddil a Ward Sam Davies.

 

4.5

P-05-914 Mynediad Cyfartal i Ofal Iechyd ar gyfer yr Anabl

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Yng ngoleuni'r ymatebion a ddarparwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol bod gan fyrddau iechyd ddyletswyddau o ran sicrhau y gall gwasanaethau meddygon teulu a gomisiynir fodloni dyletswyddau cydraddoldeb ac anghenion eu poblogaethau lleol, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at bob bwrdd iechyd lleol i ofyn am fanylion o ran faint o feddygfeydd yn eu hardaloedd sy'n darparu gwelyau triniaeth a theclynnau codi y gellir eu haddasu at ddefnydd cleifion anabl.

 

Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ysgrifennu at SHINE (Rhwydwaith Gwybodaeth Cydraddoldeb Spinabifida a Hydrocephalus) a Chymdeithas Anafiadau Asgwrn Cefn, i ofyn am eu barn a'u profiadau o ddarparu gwelyau triniaeth a theclynnau codi y gellir eu haddasu mewn gwasanaethau meddygon teulu yng Nghymru.

 

4.6

P-05-926 Dylid Darparu Adran Blinder Cronig yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor wybodaeth bellach a chytunodd i ysgrifennu’n ôl at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i roi iddo'r argymhellion a ddarparwyd gan Gymdeithas Cymorth ME a CFS Cymru (WAMES) ac i ofyn am ymateb i'r rhain.

 

4.7

P-05-960 Dylid talu costau angladdau pob un o staff y GIG sy’n marw o Covid-19 neu gyda’r feirws

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ragor o ohebiaeth ar y ddeiseb, a nododd y cadarnhad a ddarparwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol bod gan deuluoedd staff locwm a staff asiantaeth, a dinasyddion nad ydynt yn dod o Brydain sy'n gweithio yn y GIG hawl i wneud cais am y Cynllun Budd-dal Marwolaeth mewn Gwasanaeth.

 

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i fynegi ei 'gefnogaeth i farn y deisebwyr' y dylid talu am gostau angladd sylfaenol staff y GIG sy'n marw o ganlyniad i gael Covid-19 drwy eu gwaith, yn ychwanegol at y Cynllun Budd-dal Marwolaeth mewn Gwasanaeth.

 

4.8

P-05-964 Dylid ymestyn absenoldeb â thâl a chymorth ariannol a ddarperir mewn ymateb i Covid-19 i staff cronfa GIG Cymru sy’n agored i niwed a staff sy’n feichiog

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor wybodaeth bellach a chytunodd i ysgrifennu’n ôl at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ystod toriad yr haf i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am yr ystyriaeth sy’n cael ei rhoi i'r mater hwn, ac am gasgliadau’r ystyriaeth.

 

4.9

P-05-934 Trafnidiaeth Gyhoeddus ym Mlaenau Gwent

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ychwanegol a chytunwyd i ysgrifennu at:

·         Gyngor Blaenau Gwent unwaith yn rhagor i ofyn am ymateb i'r ohebiaeth flaenorol, gan ystyried effaith ddilynol y pandemig Covid-19; a

·         Llywodraeth Cymru ynglŷn â chynnydd y gwaith a wnaed gan Dasglu'r Cymoedd, gweithredu'r cynllun cyflawni a pha gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i ddiweddaru eu Strategaeth ar gyfer Trafnidiaeth Gyhoeddus yn y tymor byr, y tymor canolig a’r hirdymor yn  sgîl Covid-19.

 

4.10

P-05-955 Gwrthwynebu cynnig Costain i weithredu Opsiwn B ar gyfer dargyfeirio'r A465 ym Mryn-mawr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Yng ngoleuni'r ffaith bod Llywodraeth Cymru a Costain wedi cadarnhau y bydd Opsiwn B yn cael ei weithredu, cytunodd y Pwyllgor nad oes fawr ddim pellach y gallai ei gyflawni ar hyn o bryd. Nododd rwystredigaeth y deisebwyr ond cytunwyd i gau'r ddeiseb.

 

4.11

P-05-968 Talu grantiau Coronafeirws i bob busnes sy'n gymwys i gael Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach, yr un fath â gweddill y DU

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Gan fod llety hunanarlwyo bellach yn gallu ailagor yng Nghymru, ac yn absenoldeb sylwadau pellach gan y deisebydd, cytunodd y Pwyllgor i beidio â chymryd unrhyw gamau pellach a chau'r ddeiseb.

 

4.12

P-05-973 Ailagor siopau barbwyr a siopau trin gwallt cyn belled â’u bod yn gosod mesurau cadw pellter cymdeithasol llym

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Yng ngoleuni'r ffaith bod y cyfyngiadau ar farbwyr a salonau trin gwallt wedi cael eu codi ar 13 Gorffennaf, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb a diolchodd i'r deisebydd am dynnu sylw at y mater.