Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Senedd
Cyswllt: Graeme Francis
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 12/05/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Dogfennau ategol: |
|
Deisebau Covid-19 |
|
P-05-958 Penderfyniadau Diweddar Ynglŷn â Graddau UG 2020 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i gymryd y camau a ganlyn: ·
rhannu sylwadau pellach
y deisebydd â'r Gweinidog Addysg, a gofyn am ymateb i'r materion a godwyd a’r
cwestiynau pellach a ofynnwyd, gan gynnwys y pryderon a fynegwyd ynghylch lles
myfyrwyr sy'n dewis sefyll dwy set o arholiadau; ·
ysgrifennu at
sefydliadau sy'n cynrychioli penaethiaid i ofyn am eu barn ar y dull gweithredu
a ddefnyddir yng Nghymru; ·
ceisio barn
Aelodau'r Senedd Ieuenctid. |
|
P-05-959 Rhowch fynediad at slotiau dosbarthu siopa blaenoriaeth yr archfarchnadoedd i bobl sy'n agored i niwed yng Nghymru yn ystod COVID19 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i gau'r ddeiseb ar gais y
deisebydd, a hynny yn sgil y ffaith bod system wedi'i sefydlu ers cyflwyno'r
ddeiseb er mwyn sicrhau bod archfarchnadoedd yng Nghymru yn gallu cadw slotiau
blaenoriaeth ar gyfer dosbarthu siopa ar gyfer unigolion sy'n cael eu gwarchod. |
|
P-05-960 Dylid talu costau angladdau pob un o staff y GIG sy’n marw o Covid-19 neu gyda’r feirws Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog
Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol er mwyn: ·
codi'r pwyntiau a wnaed gan y
deisebwyr ynghylch hawliau teuluoedd staff locwm a staff asiantaeth, a
dinasyddion nad ydynt yn Brydeinig sy'n gweithio yn y GIG; ·
gofyn a fyddai gweithwyr yn y categorïau
hyn yn dod o dan y Cynllun Marwolaeth mewn Gwasanaeth COVID-19 ar gyfer
gweithwyr rheng flaen y GIG a gwasanaethau gofal cymdeithasol; ·
cynnig y dylai Llywodraeth Cymru
ystyried a fyddai modd ymestyn y cynllun i weithwyr hanfodol eraill. |
|
Deisebau newydd sy'n sensitif o ran amser |
|
P-05-908 CF3 yn erbyn y Llosgydd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i gymryd y camau a ganlyn: ·
ysgrifennu at Bio-Bŵer Môr Hafren i ofyn am wybodaeth am y
broses o ddatblygu’r
cynlluniau drafft ar gyfer y datblygiad arfaethedig, gan gynnwys amserlenni ac
unrhyw gynlluniau ar gyfer gwaith pellach i ymgysylltu neu ymgynghori â’r
cyhoedd; ·
ysgrifennu at Weinidog yr
Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig a'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i ofyn
a yw parhau â’r broses o losgi gwastraff yn cyd-fynd â’r datganiad o argyfwng
hinsawdd a strategaeth wastraff Llywodraeth Cymru. |
|
P-05-946 Achub adran Damweiniau ac Achosion Brys Brenhinol Morgannwg Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i gymryd y camau a ganlyn: ·
ysgrifennu at y
Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn pa sicrwydd y gall ei roi
bod amgylchiadau presennol yr adran damweiniau ac achosion brys, yng ngoleuni
effaith y pandemig cyfredol arni, yn cael eu hystyried mewn cynlluniau a
phenderfyniadau yn y dyfodol ynghylch adran damweiniau ac achosion brys Ysbyty
Brenhinol Morgannwg; ·
ysgrifennu at y
Pwyllgor Busnes i ofyn am wybodaeth ynghylch pryd y mae'n rhagweld y bydd cyfle
i drafod busnes fel y ddeiseb hon yn ystod y Cyfarfod Llawn. |
|
P-05-948 Achub y caeau gleision yng Nghefn yr Hendy, Meisgyn Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i gau'r ddeiseb, ar gais y
deisebydd. |
|
P-05-949 ARBED YR HEN YSGOL GANOLRADD I FERCHED Y BONT-FAEN RHAG EI DYMCHWEL Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i gymryd y camau a ganlyn: ·
ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog
Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth i ofyn am ymateb i'r cais bod penderfyniad
rhestru Cadw yn destun adolygiad gan gymheiriaid annibynnol, sef Historic
England neu Historic Scotland; ·
ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i
ofyn am wybodaeth ynghylch pryd y mae'n rhagweld y bydd cyfle i drafod busnes
fel y ddeiseb hon yn ystod y Cyfarfod Llawn. |
|
P-05-955 Gwrthwynebu cynnig Costain i weithredu Opsiwn B ar gyfer dargyfeirio'r A465 ym Mryn-mawr Dogfennau ategol:
Cofnodion: Yng ngoleuni'r
ffaith bod arddangosfeydd cyhoeddus a gwaith dilynol wedi cael eu gohirio yn
sgil y Coronafeirws, cytunodd y Pwyllgor i aros am ymateb y deisebwyr i lythyr
Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru cyn ystyried pa gamau
pellach y gellid eu cymryd mewn perthynas â’r ddeiseb. |
|
P-05-956 ACHUBWCH FEDDYGFEYDD ANGENRHEIDIOL Dogfennau ategol:
Cofnodion: O ystyried y
ffaith bod meddygfa Lansbury a meddygfa Troed y Bryn wedi cau ar 1 Mai yn dilyn
ymdrechion aflwyddiannus i recriwtio meddyg teulu newydd, a’r ffaith bod
cleifion wedi cael eu trosglwyddo i feddygfeydd lleol eraill, cytunodd y
Pwyllgor nad oes llawer o gamau pellach y gallent eu cymryd. Yn sgil hynny,
cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb, gan ddiolch i’r deisebwyr am godi’r mater
hwn. |