Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Graeme Francis 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 10/03/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau gan Michelle Brown AC.

 

2.

Deisebau newydd

2.1

P-05-940 Gostwng nifer y llawdriniaethau a gaiff eu canslo

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i aros i glywed barn y deisebydd am y wybodaeth a ddarparwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ac a roddwyd yn y brîff ymchwil cyn penderfynu a ddylid cymryd camau pellach ynghylch y ddeiseb.

 

2.2

P-05-942 Yr Awr Euraidd wrth Ddioddef Strôc – Amseroedd Ymateb Ambiwlansiau i’w hailgategoreiddio o Statws Oren yn ôl i Statws Coch

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd ar y camau a ganlyn:

·         ysgrifennu at y Gymdeithas Strôc i ofyn am eu barn am y materion a godir yn y ddeiseb; ac

·         ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog i gael y wybodaeth ddiweddaraf am fesurau newydd sydd wrthi'n cael eu datblygu o dan yr Adolygiad o’r Categori Ambr.

 

2.3

P-05-943 Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau brys i sicrhau gwelliannau i'r A487 rhwng Gellilydan a Maentwrog

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd ar y camau a ganlyn:

·         ysgrifennu at y Cynghorydd Elfed Roberts a Liz Saville Roberts AS i gael eu barn am y gwelliannau i’r ffyrdd sy'n mynd rhagddynt ar hyn o bryd ac unrhyw fesurau diogelwch pellach sy'n ofynnol; ac

·         ysgrifennu at Gyngor Gwynedd i ofyn am ei farn am y rhan hon o'r ffordd, y gwelliannau sy'n mynd rhagddynt ar hyn o bryd a'r gwaith a gynigir yn y dyfodol.

Mynegodd yr Aelodau hefyd eu cydymdeimlad â'r deisebwyr ar eu colled.

 

2.4

P-05-944 Gwrthdroi’r toriadau i wasanaethau trenau cymudwyr yng Ngogledd-ddwyrain Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i ysgrifennu at Drafnidiaeth Cymru i rannu'r ddeiseb a'r wybodaeth bellach a ddarparwyd gan y deisebwyr, ac i ofyn am ymateb manwl i'r materion a godwyd. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ofyn am ddadansoddiad o'r newidiadau i wasanaethau perthnasol a'r buddion o ran amseroedd teithio a gafwyd trwy gyflwyno'r gwasanaeth cyflym rhwng y gogledd a’r de.

 

2.5

P-05-945 Yr Argyfwng Hinsawdd a Choedwig Genedlaethol i Gymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i rannu’r sylwadau manwl a ddarparwyd gan y deisebwyr â Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig a gofyn am ymateb pellach i'r materion a'r cwestiynau a godwyd, yn enwedig mewn perthynas â pholisïau coed a choetiroedd, a thargedau tymor byr a thymor canolig ar gyfer plannu coed.

 

3.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

3.1

P-04-667 Cylchfan ar gyfer Cyffordd yr A477/A4075

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor wybodaeth bellach a chytunwyd i gau'r ddeiseb, o ystyried bod y gyffordd yn cael ei hadolygu ar hyn o bryd. Wrth wneud hynny, cytunodd y Pwyllgor hefyd i ddarparu'r sylwadau manwl a gafwyd gan Gyngor Tref Cosheston am y darn ehangach o'r A477 fel y gellir eu hystyried.

 

3.2

P-05-907 Newid cyflymder pentre Cemaes i 30mya

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor sylwadau pellach gan y deisebwyr a chytunwyd i gau'r ddeiseb ar y sail bod Llywodraeth Cymru wrthi yn cynnal adolygiad o derfynau cyflymder ar bob cefnffordd yng Nghymru a bod y Gweinidog wedi ymrwymo i ystyried data, yn ogystal â'r ohebiaeth sy’n dod i law, yn ystod y broses hon.

 

3.3

P-05-750 Ar gyfer eitemau untro: cyflwyno System Dychwelyd Ernes ar gyfer cynwysyddion diodydd a sicrhau y gellir compostio cynwysyddion bwyd cyflym a'r offer sy'n gysylltiedig â hwy

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Yng ngoleuni'r ffaith bod gwaith manwl ar y gweill i ddatblygu Cynllun Dychwelyd Ernes yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, a’r ffaith y rhagwelir ymgynghoriad pellach ar ddyluniad y cynllun yn ddiweddarach yn 2020, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb. Wrth wneud hynny, cytunodd y Pwyllgor hefyd i ddarparu sylwadau pellach y deisebwyr am ddylunio cynllun i Lywodraeth Cymru.

 

 

3.4

P-05-864 Gwahardd y defnydd o 'Bensaernïaeth Elyniaethus'

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunwyd i ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i rannu'r dystiolaeth a gafwyd oddi wrth elusennau ac i ofyn a yw hi wedi ystyried ymhellach a ellid gwneud “cyfeiriad priodol at ddefnyddio pensaernïaeth elyniaethus” mewn cyngor a chanllawiau ar gyfer gweithredu ‘agenda creu lleoedd’ y Llywodraeth, fel y cyfeiriwyd ato o'r blaen, ac a fyddai hi'n ystyried gwneud datganiad clir i awdurdodau lleol na ddylai nodweddion pensaernïaeth elyniaethus gael eu defnyddio yng Nghymru.

 

3.5

P-05-927 Cyfleusterau toiled Changing Places

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunwyd i aros am y cynigion a wneir yn ymgynghoriad Llywodraeth Cymru sydd i ddod ar newidiadau i'r Rheoliadau Adeiladu a fydd yn golygu y disgwylir i gyfleusterau toiled Changing Places gael eu darparu mewn rhai adeiladau newydd.

 

3.6

P-05-871 Trefnu bod cyfleusterau newid cewynnau ar gael mewn toiledau i ddynion a thoiledau i fenywod

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunwyd i aros am wybodaeth bellach gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol am y posibilrwydd o gynnwys cynigion i gryfhau'r ddarpariaeth i ddisgwyl cyfleusterau newid babanod mewn toiledau dynion a thoiledau menywod mewn ymgynghoriad sydd i ddod ar newidiadau i'r Rheoliadau Adeiladu, cyn ystyried gweithredu pellach ar y ddeiseb.

 

3.7

P-05-890 Trethu Ail Gartrefi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

O ystyried bod y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau wedi trafod y mater hwn yn ddiweddar fel rhan o'i ymchwiliad i Eiddo Gwag, ac o gofio bod gan Lywodraeth Cymru wedi derbyn mewn egwyddor yr argymhelliad i ymchwilio i faint y mater, nid oes llawer pellach y gallai'r Pwyllgor Deisebau ei gyflawni ar hyn o bryd. Oherwydd hynny, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebwyr am godi’r mater hwn. 

 

3.8

P-05-806 Rydym yn galw am roi rhif Tystysgrif Mynediad i bob safle busnes yng Nghymru, yn debyg i'r Dystysgrif Hylendid Bwyd.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunwyd i gadw golwg ar y mater hwn ac ailedrych ar y ddeiseb a'r cynnydd a wnaed yn yr hydref, neu ar ôl cael diweddariad pellach.

 

3.9

P-05-863 Darparu cynhyrchion hylendid am ddim i bob menyw mewn cartrefi incwm isel

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunwyd i ddarparu sylwadau pellach y deisebydd i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip a gofyn am ddiweddariad ymhen chwe mis ynghylch y gwaith i gyflawni mentrau Llywodraeth Cymru yn y maes hwn.

 

 

3.10

P-05-771 Ailystyried y penderfyniad i roi’r gorau i Grant Byw'n Annibynnol Cymru a’r angen i gefnogi pobl anabl i fyw'n annibynnol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i ofyn am ddiweddariad pellach gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol unwaith y bydd y broses o asesiadau annibynnol wedi cael ei chwblhau, i gynnwys dadansoddiad o'r newidiadau sydd wedi deillio ohonynt.

 

3.11

P-05-857 Dylid creu Tasglu Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl Plant

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ym mis Awst, ysgrifennodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at y Gweinidog Addysg a'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn amlinellu ei gasgliadau a'i argymhellion o'i waith craffu dilynol ar yr adroddiad Cadernid Meddwl. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb

 

Yng ngoleuni gwaith Senedd Ieuenctid Cymru ar y pwnc hwn, a'r gwaith craffu manwl ar y mater hwn gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg dros y blynyddoedd diwethaf, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebwyr am godi deiseb ar y pwnc hwn.

 

3.12

P-05-914 Mynediad cyfartal i ofal iechyd ar gyfer yr anabl

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ychwanegol a chytunwyd ar y camau a ganlyn:

·         ceisio gwybodaeth gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol am y materion a godwyd yn y ddeiseb; a

·         cheisio cyngor pellach ynghylch y camau posibl y gallai Llywodraeth Cymru neu fyrddau iechyd eu cymryd er mwyn sicrhau bod offer a chyfleusterau priodol ar gael ym mhractisau meddygon teulu.

 

3.13

P-05-926 Dylid Darparu Adran Blinder Cronig yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunwyd i ofyn am farn Action for ME a Chymdeithas Cefnogi ME a CFS Cymru ar ddigonolrwydd y gwasanaethau cyfredol yng Nghymru a'r dull a amlinellwyd gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys a fydd eu rôl yn y Grŵp Cynghori yn parhau.

 

3.14

P-05-877 Cynllun gwisgoedd ysgol ail-law i blant

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Yng ngoleuni'r dystiolaeth i’r Pwyllgor a’r ffaith bod Canllawiau Statudol newydd ar bolisïau gwisg ysgol wedi cael eu cyhoeddi, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebwyr am godi'r mater hwn trwy'r broses ddeisebau.

 

3.15

P-05-884 Diwygio Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 i gynnwys sefydliadau’r DU sydd â gweithrediadau dramor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

O ystyried mai dim ond Sefydliad Prifysgol Llundain ym Mharis all benderfynu a ddylid gwneud cais i'w gyrsiau gael eu dynodi'n benodol i fod yn gymwys i gael cymorth i fyfyrwyr, nid oes llawer arall y gall y Pwyllgor ei gyflawni ar hyn o bryd. Felly, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb ac ysgrifennu at y Brifysgol a'r deisebydd i esbonio'r penderfyniad a chynnig bod y Brifysgol yn gwneud cais am ddynodiad.

 

3.16

P-05-909 Hyrwyddo'r defnydd o iaith arwyddion Makaton ym mhob ysgol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Yng ngoleuni'r ymatebion oddi wrth y Gweinidog Addysg, yn enwedig mewn perthynas â hyblygrwydd a natur y cwricwlwm newydd, sy’n golygu mai’r ysgol sy’n arwain, cytunodd y Pwyllgor nad oes fawr ddim pellach y gallai ei gyflawni ar hyn o bryd. Cytunodd yr Aelodau i gau'r ddeiseb a llongyfarchwyd y deisebydd ar fod yn esiampl i bobl eraill wrth hybu Makaton i gefnogi plant ag anawsterau cyfathrebu ac fe anogir iddi barhau i godi'r cynnig, gan gynnwys gydag ysgolion lleol.

 

 

3.17

P-05-932 Addysg ar alergeddau bwyd mewn ysgolion a hyfforddiant EPI-PEN gorfodol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ychwanegol a chytunwyd i ysgrifennu at:

·         Alergedd y DU a’r Ymgyrch Anaffylacsis i ofyn am eu barn am y sefyllfa bresennol ac am unrhyw dystiolaeth sydd ganddynt ynghylch digonolrwydd y cyngor a chanllawiau cyfredol i ysgolion;

·         Iechyd Cyhoeddus Cymru i ofyn am eu barn mewn perthynas â rôl ysgolion o ran alergeddau a'r cyngor sydd ar gael iddynt; a

·         Chymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg i ofyn am ei phersbectif ar sut mae ysgolion yn sicrhau bod pob plentyn sydd ag alergedd yn cael ei ddiogelu a'i gefnogi'n ddigonol, ac i gael ei barn am ddigonolrwydd y dyletswyddau a'r cyngor presennol.

 

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:

Item 5

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

 

5.

Trafodaeth ar ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar deledu cylch cyfyng mewn lladd-dai

5.1

P-04-433: Teledu Cylch Cyfyng mewn Lladd-dai

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru i'w adroddiad a chytunwyd i wneud cais am ddadl yn y Cyfarfod Llawn.

 

5.2

P-05-916 Cyllid digonol i ddiogelu lles anifeiliaid fferm yn lladd-dai Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ofyn am ddadl.