Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Graeme Francis
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 25/02/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Dogfennau ategol: |
|
Deisebau newydd |
|
P-05-938 Gwneud i brifysgolion Cymru ystyried Bagloriaeth Cymru fel Safon Uwch Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn: ·
nodi’r gwaith a wnaed gan y Pwyllgor
Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar statws Bagloriaeth Cymru; ac ·
ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog
Addysg i ofyn am fanylion ynghylch sut mae’r gwaith o lunio rhestr o
brifysgolion sy’n derbyn Bagloriaeth Cymru yn eu cynigion yn dod yn ei flaen, a
gofyn am ymateb i’r pwyntiau pellach a godwyd yng ngohebiaeth y deisebydd. |
|
P-05-939 Gosod embargo ar unwaith ar drwyddedau bridio cŵn newydd, ar adnewyddu trwyddedau ac ar geisiadau cynllunio nes bod y rheoliadau'n addas i’r diben a nes bod modd eu gorfodi Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am gyhoeddiad gan
Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ynglŷn â’r camau i’w
cymryd ar ôl yr adolygiad o reoliadau bridio cŵn. |
|
P-05-941 Cylch gwaith bioamrywiaeth ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a
chytunodd i roi’r sylwadau manwl a ddarparwyd gan y deisebwyr i Weinidog yr
Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig a Chyfoeth Naturiol Cymru a gofyn am
ymatebion i'r pwyntiau a godwyd, yn benodol yr awgrym y dylid cynnwys cyfeiriad
penodol at fioamrywiaeth yn llythyr cylch gwaith Cyfoeth Naturiol Cymru. |
|
Diweddariadau i ddeisebau blaenorol |
|
P-04-477 Cefnogi'r Bil Rheoli Cŵn (Cymru) Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth bellach a chytunodd i gau’r ddeiseb yn sgil faint o amser
y mae wedi bod o dan ystyriaeth a gan fod y pwerau deddfwriaethol ynghylch y
mater hwn bellach wedi’u cadw yn ôl i Senedd y DU o dan Ddeddf Cymru 2017.
Diolchodd y Pwyllgor i'r deisebydd am godi’r mater hwn trwy’r broses ddeisebau. |
|
P-05-839 Dylid troi canllawiau Sefydliad Iechyd y Byd ynghylch llygredd aer yn gyfraith yng Nghymru a chyflwyno Deddf Aer Glân newydd i Gymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth bellach a chytunodd i gau’r ddeiseb gan fod Llywodraeth
Cymru wrthi’n ymgynghori ar Gynllun Aer Glân ar hyn o bryd ac yn bwriadu
cyhoeddi Papur Gwyn ar Ddeddf Aer Glân cyn diwedd y tymor Cynulliad hwn. Yn
sgil y cyfyngiadau ymarferol ar basio deddfwriaeth cyn etholiad 2021, a’r
ymrwymiadau a wnaed gan y Gweinidog, daeth yr Aelodau i’r casgliad nad oes
llawer mwy y gall y Pwyllgor Deisebau ei gyflawni ar yr adeg hon. Roedd y
Pwyllgor am ddiolch i’r deisebwyr am eu hymgysylltiad a dymuno’n dda iddynt ar
gyfer y dyfodol. |
|
P-05-895 Etifeddiaeth Rosa: Dylid cyflwyno cynllun i helpu pobl i gael hawl i ofal milfeddygol ar gyfer eu hanifeiliaid anwes Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor wybodaeth bellach a chytunodd i ysgrifennu at
Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i ofyn: ·
sut mae Llywodraeth Cymru yn ymateb
i’r argymhellion yn y llythyr gan Grŵp Lles Anifeiliaid Anwes Cymru; ac ·
i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y
gwaith sy'n cael ei wneud gan Rwydwaith Lles Anifeiliaid Cymru ar ddarpariaeth
filfeddygol, cymorth a chyngor. |
|
P-05-786 Arbedwch ein cefn gwlad – dylid adolygu TAN 1 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â P-05-881
Trwsio ein system gynllunio a chytunwyd i aros am gyhoeddiad ynghylch
penderfyniadau’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol yn dilyn yr ymgynghoriad ar y
diwygiadau i adran dai Polisi Cynllunio Cymru, a ddaeth i ben ym mis Tachwedd
2019 cyn gwneud unrhyw benderfyniadau pellach. |
|
P-05-881 Trwsio ein system gynllunio Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â P-05-786
Arbedwch ein cefn gwlad - dylid adolygu TAN 1 a chytunwyd i aros am
gyhoeddiad pellach ynghylch penderfyniadau’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol
yn dilyn yr ymgynghoriad ar y diwygiadau i adran dai Polisi Cynllunio Cymru, a
ddaeth i ben ym mis Tachwedd 2019 cyn gwneud unrhyw benderfyniadau pellach. |
|
P-05-903 Ffilmio a Recordio Cyfarfodydd Cyngor Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i aros am arweiniad newydd a gyhoeddir
gan Lywodraeth Cymru ynghylch cynyddu ymgysylltiad y cyhoedd yng ngwaith
cynghorau cymuned a chynghorau tref a ddisgwylir ym mis Mawrth 2020. |
|
P-05-736 Darparu Gwasanaethau Iechyd Meddwl Mwy Hygyrch Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor
y camau sy'n ymrwymo i wella mynediad at wasanaethau iechyd meddwl yng Nghynllun
Cyflenwi Law yn Llaw at Iechyd Meddwl 2019-2022, fel yr argymhellir yn adroddiad
y Pwyllgor ar y ddeiseb hon. O ystyried bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn
argymhellion y Pwyllgor, ac wedi gwneud nifer o ymrwymiadau i wella mynediad at
ofal mewn argyfwng, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb a diolchodd i'r
deisebydd am ei hymrwymiad i wella gwasanaethau. |
|
P-05-764 Gwell Gwasanaethau Iechyd Meddwl ar gyfer Oedolion Dogfennau ategol:
Cofnodion: O ystyried bod y
Pwyllgor wedi cyhoeddi adroddiad
ar wella gwasanaethau iechyd meddwl ac wedi gwneud argymhellion a dderbyniwyd
gan Lywodraeth Cymru, ac oherwydd na chafwyd unrhyw sylwadau pellach gan y
deisebydd, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb. |
|
P-05-812 Dylid gweithredu canllawiau NICE ar gyfer trin Anhwylder Personoliaeth Ffiniol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol i ofyn: ·
sut mae Llywodraeth
Cymru’n ystyried argymhellion a gynhyrchwyd yn ddiweddar yn natganiad safbwynt Coleg Brenhinol y Seiciatryddion
ar Anhwylderau Personoliaeth (Saesneg yn unig), a ·
pha gamau y gall y Gweinidog eu
cymryd yn erbyn byrddau iechyd y dangosir nad ydynt yn “ystyried canllawiau
clinigol NICE yn llawn.” |
|
P-05-902 Iechyd Meddwl Tadau (Iechyd Meddwl Tadau Newydd) Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor
fod gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol yn cael eu hystyried yn flaenoriaeth
allweddol yn y Cynllun Cyflenwi Law yn Llaw at Iechyd Meddwl, sy’n cynnwys
gwaith yn ymwneud â chefnogi tadau. Gan fod y deisebydd yn fodlon â’r cynnydd a
wnaed, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolchodd i’r deisebydd am
gyflwyno’r mater. |
|
P-05-860 Dylid gwneud gwersi sgiliau bywyd yn orfodol ar y cwricwlwm Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor i gau’r ddeiseb yn sgil gwaith Senedd Ieuenctid Cymru ar y pwnc hwn,
ac i annog y deisebydd i ymgysylltu â’r Senedd Ieuenctid fel rhan o’i waith
parhaus. |
|
P-05-861 Gwneud addysg wleidyddol yn elfen orfodol o'r cwricwlwm cenedlaethol newydd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor
y gwaith a wnaed gan Senedd Ieuenctid Cymru ar sgiliau bywyd yn y cwricwlwm
(gan gynnwys addysg wleidyddol), cyflwyniad llawn y cwricwlwm newydd ar gyfer
Cymru sydd ar y gweill, a chynnwys addysg wleidyddol yn rhan o Fagloriaeth
Cymru, a chytunwyd i gau'r ddeiseb a diolchodd i'r deisebydd am ei chysylltiad. |
|
P-05-879 Dylid ychwanegu addysg iechyd meddwl at y cwricwlwm addysgu gorfodol ar gyfer pob ysgol yng Nghymru Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor i gau'r ddeiseb yn sgil y gwaith craffu a wnaed ar y materion hyn drwy
ymchwiliad Cadernid Meddwl y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, y
flaenoriaeth gynyddol a roddir i iechyd meddwl yn y cwricwlwm newydd, a'r
diffyg ymateb gan y deisebydd yn ddiweddar. Roedd y Pwyllgor am ddiolch i’r
deisebwyr am eu hymgysylltiad a dymuno’n dda iddynt ar gyfer y dyfodol. |
|
P-05-888 Gwneud TGAU Iaith Gymraeg yn orfodol ym mhob ysgol yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor i gau’r ddeiseb a ddiolchodd i'r deisebydd am godi’r mater trwy’r
broses ddeisebau. |
|
P-05-925 Addysgu Llesiant Mislifol mewn Ysgolion: Peidio â Gadael Cymru Tu Ôl Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor ragor o ohebiaeth a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog Addysg
i rannu’r pryderon a fynegwyd gan Endometriosis UK ac i ofyn am ymateb i’r
cwestiynau maent yn eu codi o ran sut y rhoddir gwybodaeth i ddisgyblion am y
cylchred mislifol a llesiant mislifol. |
|
P-05-913 Creu Llwybr Amlddefnydd Lôn Las Môn Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i ysgrifennu at Network Rail i ofyn am
wybodaeth am statws presennol y trafodaethau ynghylch defnyddio’r lein yn y
dyfodol, a’r amserlenni ar gyfer gwneud unrhyw benderfyniadau. |
|
P-05-887 Atal Aelodau Cynulliad rhanbarthol a etholwyd i gynrychioli pleidiau penodol rhag newid pleidiau Dogfennau ategol: Cofnodion: Datganodd Neil
McEvoy a Michelle Brown y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog
17.24A: Maent yn Aelodau
Cynulliad rhanbarthol nad ydynt yn aelodau mwyach o’r pleidiau y cawsant eu
hethol i’w cynrychioli. Cytunodd y
Pwyllgor i gau'r ddeiseb gan fod Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2019 wedi’i
phasio, ac oherwydd diffyg cysylltiad â’r deisebydd. |