Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Graeme Francis 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 04/02/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Dogfennau ategol:

2.

Deisebau newydd

2.1

P-05-930 Deiseb ar gyfer Meddygfa Glanyfferi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd, yng ngoleuni’r ffaith bod y feddygfa bellach wedi cau ac na chafwyd dim rhagor o wybodaeth gan y deisebwyr, nad oedd ganddo fawr o ddewis ond cau’r ddeiseb.

 

2.2

P-05-933 Gwahardd Pysgod Aur rhag cael eu rhoi i ffwrdd mewn ffair #OperationGoldfish

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i:

·         ofyn iddi ystyried cyfeirio’r mater hwn at Grŵp Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru i gael cyngor;

·         geisio cael eglurhad ynghylch y posibilrwydd o fynd i’r afael â’r mater hwn drwy’r Rheoliadau sydd i ddod i gyflwyno cynllun trwyddedu ar gyfer Arddangosfeydd o Anifeiliaid; a

·         gofyn am ddiweddariad o ran pryd fydd Llywodraeth Cymru wedi cael ymateb gan y Showmen’s Guild ynghylch hunanreoleiddio’r arfer hwn, gan gynnwys copi o’r ymateb.

 

 

2.3

P-05-934 Trafnidiaeth Gyhoeddus ym Mlaenau Gwent

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i:

·         ysgrifennu at Gyngor Blaenau Gwent i ofyn am ei farn ar y ddeiseb a darpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus, yr heriau a wynebir a’u cynlluniau ar gyfer gwella gwasanaethau, ynghyd ag unrhyw gyfleoedd a allai godi yn sgîl Bil Bysiau (Cymru) yn y dyfodol; ac

·         ysgrifennu at Drafnidiaeth Cymru i ofyn am ei farn ar y materion a godwyd.

 

2.4

P-05-935 Gwahardd Parcio ar Balmentydd - Addewid Palmant (Pavement Promise)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i:

·         ysgrifennu’n ôl at Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth i ofyn am eglurhad ar aelodaeth Grŵp y Tasglu, ac i ofyn sut y bydd pobl â phrofiad byw a sefydliadau sy’n eu cefnogi yn cymryd rhan yn y gwaith hwn. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i rannu awgrymiadau’r deisebwyr gyda’r Dirprwy Weinidog; ac

·         ysgrifennu at sefydliadau eraill sydd â diddordeb yn y mater hwn, fel RNIB Cymru, Living Streets, Sustrans ac Anabledd Cymru i ofyn am eu barn.

 

2.5

P-05-936 Cynnig Prawf Sgrinio Canser y Coluddyn ar ôl 74 oed

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i:

·         ysgrifennu’n ôl at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i:

o   ofyn am gopi o’r llythyr gan Bwyllgor Sgrinio Cymru at Bwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU (UKNSC) yn gofyn am eglurhad ar y rhesymeg dros ddod â sgrinio i ben yn 74 oed, ac ymateb UKNSC pan dderbynnir ef;

o   gofyn a yw costau ymestyn sgrinio ar ôl 74 oed, naill ai ar sail poblogaeth neu ar ffurf hunan-atgyfeirio, wedi cael eu hasesu gan Lywodraeth Cymru hyd yma; a

o   gofyn am esboniad pellach ar y datganiad yn llythyr y Gweinidog fod “gan bob rhaglen sgrinio y potensial i wneud niwed”; ac

·         ysgrifennu at y Comisiynydd Pobl Hŷn a Bowel Cancer UK i ofyn am eu barn ar y ddeiseb.

 

2.6

P-05-937 Dylid stopio berwi cramenogion yn fyw (cimychiaid, crancod, cimychiaid afon, corgimychiaid ac ati)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i:

·         Ofyn am friff cyfreithiol ar newidiadau posibl i Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006; ac

·         aros am farn y deisebwyr ar yr ymateb a roddwyd gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig.

 

3.

Diweddariadau i ddeisebau blaenorol

3.1

P-04-522 Asbestos mewn Ysgolion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ychwanegol a chytunodd i:

·         aros am gyhoeddi’r wybodaeth lefel uchel am reoli asbestos mewn ysgolion, gyda’r bwriad o ddod â’i ystyriaeth o’r ddeiseb i ben ar ôl i hyn gael ei wneud; ac

·         aros am farn y deisebwyr ar yr ymateb a roddwyd gan y Gweinidog.

 

3.2

P-04-576 Caniatáu i blant yng Nghymru gael gwyliau teuluol yn ystod tymor yr ysgol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â P-04-606 Sicrhau bod ysgolion yn defnyddio eu pwerau statudol o dan reoliad 7 o Reoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010 heb unrhyw ymyrraeth neu ragfarn a chytunodd i gau’r ddwy ddeiseb yng ngoleuni’r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn adolygu canllawiau ar bresenoldeb mewn ysgolion ac mae’n bwriadu cynnal ymgynghoriad cyhoeddus yn y dyfodol, a’r ffaith bod y Llywodraeth wedi ysgrifennu at awdurdodau lleol o’r blaen i ailadrodd pa mor bwysig yw bod penaethiaid yn gallu defnyddio disgresiwn o ran ceisiadau am absenoldebau yn ystod y tymor.

 

3.3

P-04-606 Sicrhau bod ysgolion yn defnyddio eu pwerau statudol o dan reoliad 7 o Reoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010 heb unrhyw ymyrraeth neu ragfarn.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â P-04-576 Caniatáu i blant yng Nghymru gael gwyliau teuluol yn ystod tymor yr ysgol a chytunodd i gau’r ddwy ddeiseb yng ngoleuni’r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn adolygu canllawiau ar bresenoldeb mewn ysgolion ac mae’n bwriadu cynnal ymgynghoriad cyhoeddus yn y dyfodol, a’r ffaith bod y Llywodraeth wedi ysgrifennu at awdurdodau lleol o’r blaen i ailadrodd pa mor bwysig yw bod penaethiaid yn gallu defnyddio disgresiwn o ran ceisiadau am absenoldebau yn ystod y tymor.

 

3.4

P-05-807 Dylid adolygu a newid y canllawiau o ran gwobrau am bresenoldeb mewn ysgolion yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ragor o ohebiaeth, a chytunodd i gau’r ddeiseb yng ngoleuni’r ffaith bod Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn adolygu ei chanllawiau ar bresenoldeb mewn ysgolion ac mae’n bwriadu cynnal ymgynghoriad cyhoeddus yn y dyfodol, a’r ymrwymiad a wnaed gan y Gweinidog Addysg bod cyflwyno’r posibilrwydd o gofnodi absenoldebau fel rhai sy’n gysylltiedig â chyflwr iechyd cronig yn cael ei ystyried fel rhan o’r gwaith hwnnw.

 

3.5

P-05-880 Mae Cymru yn prysur golli ei henw da o ran cerddoriaeth, a’i threftadaeth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ragor o ohebiaeth a chytunodd i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu i ddarparu’r wybodaeth a ddaeth i law hyd yma a gofyn a fyddai’r Pwyllgor hwnnw’n ei ystyried fel rhan o unrhyw waith pellach y mae’n bwriadu ei wneud yn y maes hwn.

 

 

3.6

P-05-922 Tynnu’n ôl y canllawiau arfaethedig ar gyfer addysg yn y cartref

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â P-05-923 Ydych chi’n gwrando arnom ni? Hawliau a Pharch i Addysg yn y Cartref! a chytunodd i:

·  ysgrifennu at Gomisiynydd Plant Cymru i ofyn am ei barn ar y materion a godwyd a sut, yn ei barn hi, y gellir sicrhau’r cydbwysedd priodol rhwng y buddion sy’n cystadlu o ran y mater hwn;

·  gofyn am ragor o dystiolaeth ysgrifenedig gan gyrff sy’n cynrychioli addysg yn y cartref yng Nghymru; ac

·  yn dilyn hyn, gwahodd y Gweinidog Addysg i ddarparu tystiolaeth gerbron cyfarfod o’r pwyllgor yn y dyfodol.

 

3.7

P-05-923 Ydych chi’n gwrando arnom ni? Hawliau a Pharch i Addysg yn y Cartref!

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â’r ddeiseb P-05-922 Tynnu’n ôl y canllawiau arfaethedig ar gyfer addysg yn y cartref a chytunwyd i:

·  ysgrifennu at Gomisiynydd Plant Cymru i ofyn am ei barn ar y materion a godwyd a sut, yn ei barn hi, y gellir sicrhau’r cydbwysedd priodol rhwng y buddion sy’n cystadlu o ran y mater hwn;

·  gofyn am ragor o dystiolaeth ysgrifenedig gan gyrff sy’n cynrychioli addysg yn y cartref yng Nghymru; ac

·  yn dilyn hyn, gwahodd y Gweinidog Addysg i ddarparu tystiolaeth gerbron cyfarfod o’r pwyllgor yn y dyfodol.

 

3.8

P-04-408: Gwasanaeth i Atal Anhwylderau Bwyta ymysg Plant a Phobl Ifanc

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â P-04-505 Uned Anhwylderau Bwyta yng Nghymru a chytunodd i gau’r ddwy ddeiseb o ystyried bod adolygiad annibynnol manwl o wasanaethau anhwylderau bwyta wedi’i gynnal a bod Llywodraeth Cymru yn craffu ar ymatebion y byrddau iechyd i argymhellion yr adolygiad, ynghyd â darparu adnoddau ychwanegol ei hun.  Cytunodd y Pwyllgor hefyd i longyfarch y deisebydd ar ei waith yn cyflawni gwelliannau o ran gwasanaethau anhwylderau bwyta yng Nghymru.

 

3.9

P-04-505 Uned Anhwylderau Bwyta yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â P-04-408 Gwasanaeth i Atal Anhwylderau Bwyta ymysg Plant a Phobl Ifanc a chytunwyd i gau’r ddwy ddeiseb o ystyried bod adolygiad annibynnol manwl o wasanaethau anhwylderau bwyta wedi’i gynnal a bod Llywodraeth Cymru yn craffu ar ymatebion y byrddau iechyd i argymhellion yr adolygiad, ynghyd â darparu adnoddau ychwanegol ei hun.

 

 

3.10

P-05-804 Mae angen cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer chwarae!!

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ychwanegol a chytunodd i:

·         ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn bod y ddeiseb a’r ohebiaeth a gafwyd gan Chwarae Cymru a’r Comisiynydd Plant yn cael eu hystyried yn ffurfiol fel rhan o’r Adolygiad o Chwarae gan y Gweinidog, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru; ac

·         ysgrifennu eto at Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ofyn am ymateb i’r materion a godwyd gan y ddeiseb a gofyn sut mae’r Gymdeithas yn ymateb i ddisgwyliadau awdurdodau lleol, a amlinellwyd gan Gomisiynydd Plant Cymru.

 

3.11

P-05-831 Rhowch ddiwedd ar yr annhegwch a’r gwahaniaethu yn y cymorth ariannol a roddir i ddioddefwyr sgandal gwaed wedi’i heintio yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau â gweinyddiaethau eraill y DU ynghylch sicrhau cydraddoldeb o ran buddion y cynllun, a phwyso am ddatrys y mater hwn ar frys.

 

3.12

P-05-849 Dylai pob dyn yng Nghymru gael mynediad drwy’r GIG at y profion diagnostig gorau posibl ar gyfer canser y prostad

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i aros am ddiweddariad pellach gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch y cynnydd a wnaed wrth weithredu sganio mpMRI yng Nghymru.

 

3.13

P-05-859 Dylid Darparu Tai Plant yng Nghymru i Blant sy’n Dioddef Camdriniaeth Rywiol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i gadw golwg ar y ddeiseb gyda’r bwriad o’i chyfeirio at y Pwyllgor sy’n gyfrifol am ystyried deisebau yn y Chweched Cynulliad, unwaith y bydd y gwerthusiad llawn o gynllun peilot Prosiect y Goleudy o’r model Tŷ Plant wedii gyhoeddi yn 2021.

 

3.14

P-05-896 Atal Ward 35 yn Ysbyty’r Tywysog Siarl rhag Cau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i gau’r ddeiseb o ystyried y ffaith bod Ward 35 wedi cau yn haf 2019 ac na ellir cyflawni amcanion y ddeiseb mwyach, a’r diffyg cyswllt â’r deisebydd.

 

3.15

P-05-905 Galw am Ymchwiliad Barnwrol Annibynnol i ad-drefnu gwasanaethau o fewn Bwrdd Iechyd Cwm Taf

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ychwanegol a chytunodd i:

·         ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i ofyn am ei ymateb i’r materion a godwyd ac i ofyn am ragor o wybodaeth am statws cyfredol y newidiadau a weithredwyd o dan Raglen De Cymru; a

·         gwahodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i fod yn bresennol mewn cyfarfod o’r Pwyllgor yn y dyfodol, unwaith y bydd y Pwyllgor yn dechrau ystyried y ddeiseb ar newidiadau i’r Uned Ddamweiniau ac Achosion Brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg.

 

3.16

P-05-912 Cynorthwyo teuluoedd sy’n colli plant a phobl ifanc yn sydyn ac yn annisgwyl

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ragor o ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn am amser i ddadl gael ei chynnal ar y ddeiseb yn y Cyfarfod Llawn.

 

3.17

P-05-898 Dylid gwahardd defnyddio byrddau A yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor wybodaeth bellach a chytunodd i ysgrifennu llythyr manwl at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i amlinellu’r dystiolaeth a ddaeth i law ac i ofyn a fydd Llywodraeth Cymru yn ystyried cynhyrchu canllawiau neu argymhellion ychwanegol ar ddefnyddio Byrddau A.

 

3.18

P-05-894 Ardrethi busnes tecach i fusnesau Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i gau’r ddeiseb yng ngoleuni boddhad y deisebwyr â’r mesurau a gyflwynwyd drwy’r Cynllun Rhyddhad Ardrethi’r Stryd Fawr.

 

3.19

P-05-897 Rhwystrwch Ddatblygwyr rhag gosod rhwydi yn y gwrychoedd a’r coed

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb ar y sail ei bod yn anodd gweld sut y gellid symud y mater ymlaen heb gyswllt a gwybodaeth bellach gan y deisebydd.

 

3.20

P-05-775 Caewch y bwlch sy’n ymwneud â gweithio trawsffiniol ac is-gontractio yn y gyfraith trwyddedu tacsis

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â P-05-835 Caniatáu i Yrwyr Tacsi Symud yn Rhydd i wneud Gwaith Hurio Preifat Unrhyw Le yng Nghymru a chytunwyd i gau’r deisebau o ystyried bod Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth bellach wedi diystyru mynd ar drywydd newid deddfwriaethol yn y maes hwn yn ystod gweddill y Cynulliad hwn, ac mae Llywodraeth Cymru yn mynd ar drywydd sawl mesur a newidiadau polisi gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn y cyfamser.

 

 

3.21

P-05-835 Caniatáu i Yrwyr Tacsi Symud yn Rhydd i wneud Gwaith Hurio Preifat Unrhyw Le yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr P-05-775 Caewch y bwlch sy’n ymwneud â gweithio trawsffiniol ac is-gontractio yn y gyfraith trwyddedu tacsis a chytunwyd i gau’r deisebau o ystyried bod Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth bellach wedi diystyru mynd ar drywydd newid deddfwriaethol yn y maes hwn yn ystod gweddill y Cynulliad hwn, ac mae Llywodraeth Cymru yn mynd ar drywydd sawl mesur a newidiadau polisi gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn y cyfamser.

 

 

3.22

P-05-886 Stopio’r Llwybr Coch (coridor yr A55/A494)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Aelodau eu buddiannau perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

·                     Mae Jack Sargeant wedi datgan yn flaenorol ei gefnogaeth i’r cynllun.

·                     Mae Michelle Brown wedi datgan yn flaenorol ei gwrthwynebiad i’r cynllun.

 

Ystyriodd y Pwyllgor dystiolaeth bellach a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth i godi nifer o faterion pellach mewn perthynas â’r cynllun.

 

3.23

P-05-778 Amddiffyn Cyllyll Môr ar Draeth Llanfairfechan

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i groesawu’r cynnydd sy’n cael ei wneud ac i ofyn iddi ystyried cyflwyno deddfwriaeth neu reoliadau newydd ar gyfer llywodraethu cynaeafu cyllyll môr, ar y llinellau a gynigiwyd gan y deisebydd, ar ôl cwblhau’r astudiaethau cyfredol.

 

3.24

P-05-876 Amddiffyn rhywogaethau rhestredig Coch ac Amber yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i gau’r ddeiseb yng ngoleuni’r newidiadau a wnaed i Drwyddedau Cyffredinol Cyfoeth Naturiol Cymru, gan gynnwys cael gwared ar rywogaethau rhestredig coch ac ambr, a’r Adolygiad Trwyddedu Adar Gwyllt ehangach sy’n cael ei gynnal yn 2020.

 

3.25

P-05-873 Gwersi Cymraeg am ddim i bobl Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i gau’r ddeiseb yng ngoleuni’r ffaith bod oedolion sy’n dysgu Cymraeg yn gallu cyrchu gwersi am ffi cwrs safonol, ac mae gostyngiadau ar gael i ddysgwyr ar incwm isel a chymorth ariannol i helpu i leihau rhwystrau eraill.

 

3.26

P-05-883 Wythnos Genedlaethol Hanes Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i gadw golwg ar y mater a dychwelyd at y ddeiseb pan fyddant yn dechrau ystyried deiseb debyg Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i greu corff cyffredin o wybodaeth am hanes Cymru y bydd pob disgybl yn ei ddysgu, yn ystod y misoedd nesaf.

 

3.27

P-05-818 Cyflwyno Cofrestr o Lobïwyr yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb yng ngoleuni bwriad y Pwyllgor Safonau i wneud rhagor o waith ar y mater hwn ac i nodi cynnig ar gyfer y Chweched Cynulliad, ynghyd â diffyg cyswllt diweddar â’r deisebwyr.