Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Graeme Francis 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 07/01/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau gan Michelle Brown a Neil McEvoy.

 

2.

Deisebau newydd

2.1

P-05-921 Hysbysiad cynharach ynghylch cyllidebau cynghorau gan Lywodraeth Cymru #AchubEinGwasanaethau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf. Cytunodd yr Aelodau i ddiolch i'r deisebwyr am godi'r mater hwn trwy'r broses ddeisebau ond y dylid cau'r ddeiseb gan nad oes llawer y gall y Pwyllgor ei wneud yn hyn o beth, o ystyried mai amseriad Etholiad Cyffredinol y DU oedd achos yr oedi eleni ac o gofio’r ffaith i’r gyllideb ddrafft a'r setliad llywodraeth leol dros dro gael eu cyhoeddi ar 16 Rhagfyr.

 

 

2.2

P-05-925 Addysgu Llesiant Mislifol mewn Ysgolion: Peidio â Gadael Cymru Tu Ôl

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog Addysg i ofyn a fyddai Llywodraeth Cymru yn ystyried ychwanegu cyfeiriad penodol at lesiant mislifol yn natganiad Yr Hyn sy’n Bwysig ar iechyd a llesiant corfforol, fel y’i cynigiwyd gan Endometriosis UK.

 

2.3

P-05-926 Dylid Darparu Adran Blinder Cronig yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gofyn am:

·                     wybodaeth am aelodaeth, cylch gwaith a rhaglen y grŵp llywio, gan gynnwys trosolwg o sut mae cynrychiolwyr defnyddwyr gwasanaeth yn cael eu nodi; ac

·                     ymateb Llywodraeth Cymru i feirniadaeth Dr Charles Shepherd ynghylch y ddarpariaeth o wasanaethau yn y GIG yng Nghymru.

 

2.4

P-05-927 Cyfleusterau toiled Changing Places

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol yn gofyn iddi roi amserlenni ar gyfer ystyried cyngor ynghylch yr opsiynau ar gyfer cynyddu’r ddarpariaeth o doiledau Changing Places, a gwybodaeth am y cyfleoedd a'r meini prawf ar gyfer cael cyllid i ddatblygu cyfleusterau newydd.

 

2.5

P-05-928 Cael gwared ar y geiriau sy’n hyrwyddo adfer adnoddau olew a nwy o Gynllun Morol Cenedlaethol Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i gau'r ddeiseb am ei bod yn ymddangos nad oes llawer mwy y gallai'r ddeiseb ei chyflawni yng ngoleuni'r diwygiadau a wnaed i'r amcan olew a nwy yn y fersiwn o Gynllun Morol Cenedlaethol Cymru a fabwysiadwyd, a’r ffaith bod Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi nodi’r bwriad i osgoi echdynnu tanwydd ffosil yn ardal drwydded ar y tir Cymru. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ddiolch i'r deisebydd am ddefnyddio'r broses ddeisebau.

 

 

3.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

3.1

P-05-839 Dylid troi canllawiau Sefydliad Iechyd y Byd ynghylch llygredd aer yn gyfraith yng Nghymru a chyflwyno Deddf Aer Glân newydd i Gymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig yn gofyn am ragor o wybodaeth am sut y mae'n bwriadu troi canllawiau Sefydliad Iechyd y Byd yn gyfraith yng Nghymru, fel y’i nodir yn y Cynllun Aer Glân drafft, ac yn gofyn ynghylch y potensial i gyflymu'r amserlen er mwyn cyflwyno deddfwriaeth ar lygredd aer yn ystod y Cynulliad hwn.

 

3.2

P-05-842 Rhowch lais i bobl ifanc yn y broses o gomisiynu gwasanaethau lleol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd ei bod yn ymddangos nad oes llawer pellach y gallai ei chyflawni ar hyn o bryd, o ystyried bod Llywodraeth Cymru wedi diystyru cyflwyno dyletswyddau newydd. Oherwydd hynny, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebwyr am ei chyflwyno.

 

3.3

P-05-856 Rhaid gwahardd gwerthu cŵn bach gan siopau anifeiliaid anwes a phob gwerthwr trydydd parti masnachol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â P-05-915 Galwad am well gorfodaeth o ffermydd cŵn bach yng Nghymru a chytunwyd i aros am gyhoeddiad pellach gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ynghylch y camau a gymerir yn dilyn yr adolygiad o reoliadau bridio cŵn, cyn ystyried a ddylid cymryd unrhyw gamau pellach o ran y deisebau.

 

3.4

P-05-915 Galwad am well gorfodaeth o ffermydd cŵn bach yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â P-05-856 Rhaid gwahardd gwerthu cŵn bach gan siopau anifeiliaid anwes a phob gwerthwr trydydd parti masnachol yng Nghymru a chytunwyd i aros am gyhoeddiad pellach gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ynghylch y camau a gymerir yn dilyn yr adolygiad o reoliadau bridio cŵn, cyn ystyried a ddylid cymryd unrhyw gamau pellach o ran y deisebau.

 

 

3.5

P-05-869 Datgan Argyfwng Hinsawdd a gosod targedau di-garbon ym mhob polisi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i gadw golwg ar ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar gynnydd o ran newid hinsawdd, cyn ystyried a all gymryd unrhyw gamau pellach.

 

 

3.6

P-05-877 Cynllun gwisgoedd ysgol ail-law i blant

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i aros am farn y deisebydd ynghylch ymateb y Gweinidog Addysg a'r camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru.

 

 

4.

Papur i'w nodi

4.1

P-05-797 Sicrhau mynediad i'r feddyginiaeth ffibrosis systig, Orkambi, fel mater o frys

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nodwyd y papur.

 

9.45 - 10.30

5.

Sesiwn dystiolaeth:

·         Kirsty Williams AC, Gweinidog dros Addysg

·         Claire Bennett, Dirprwy Gyfarwyddwr Cwricwlwm, Llywodraeth Cymru

·         Megan Colley, Pennaeth Cefnogi Cyflawniad a Diogelu, Llywodraeth Cymru

 

5.1

Sesiwn dystiolaeth: P-05-862 Mynd i'r afael â bwlio mewn ysgolion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Addysg a chytunodd i dderbyn ei chynnig i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith i weithredu Hawliau, Parch, Cydraddoldeb, sef y canllawiau gwrth-fwlio newydd, yn dilyn ymarfer monitro yn y gwanwyn.

Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ofyn am sylwadau bellach gan Gomisiynydd Plant Cymru a'r deisebydd ar ôl cyhoeddi’r canllawiau.

 

5.2

Sesiwn dystiolaeth: P-05-757 Cael gwared ar y rhwymedigaeth ar ysgolion i gynnal gweithredoedd addoli crefyddol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb hon ochr yn ochr â P-05-765 Cadw canllawiau presennol ar gyfer Gwasanaethau Crefyddol.

 

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Addysg, a chan fod y Gweinidog yn glir na fydd Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â gwaith pellach ar y mater hwn yn ystod y Cynulliad presennol, fe gytunwyd nad oes llawer mwy y gellir ei gyflawni ar hyn o bryd. Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb, gan ddiolch i'r deisebwyr am ddefnyddio'r broses ddeisebau.

 

5.3

Sesiwn dystiolaeth: P-05-765 Cadw canllawiau presennol ar gyfer Gwasanaethau Crefyddol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb hon ochr yn ochr â P-05-757 Cael gwared ar y rhwymedigaeth ar ysgolion i gynnal gweithredoedd addoli crefyddol.

 

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Addysg, a chan fod y Gweinidog yn glir na fydd Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â gwaith pellach ar y mater hwn yn ystod y Cynulliad presennol, fe gytunwyd nad oes llawer mwy y gellir ei gyflawni ar hyn o bryd. Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb, gan ddiolch i'r deisebwyr am ddefnyddio'r broses ddeisebau.

 

 

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:

Eitem 8, 9, 10, ac 11.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

 

7.

Trafod sesiynau tystiolaeth blaenorol

8.

Trafod yr Adroddiad Drafft

8.1

Trafod yr Adroddiad Drafft: P-04-433 Teledu Cylch Cyfyng mewn Lladd-dai

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad a’r argymhellion.

 

 

8.2

Ymateb Llywodraeth Cymru - P-05-916 Cyllid digonol i ddiogelu lles anifeiliaid fferm yn lladd-dai Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i gynnwys y ddeiseb hon mewn adroddiad ar ddeiseb P-04-433 Teledu Cylch Cyfyng mewn Lladd-dai.

 

 

9.

Ystyried ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad ar P-05-736 Darparu Gwasanaethau Iechyd Meddwl Mwy Hygyrch

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor a chytunwyd i aros am i Lywodraeth Cymru gyhoeddi Law yn Llaw at Iechyd Meddwl – cynllun cyflawni 2019 i 2022 cyn penderfynu ar eu camau nesaf.

 

 

10.

Papur i'w nodi: Llythyr gan y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad a chytunwyd i drafod ymateb drafft yn y cyfarfod nesaf.