Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Graeme Francis 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 19/11/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau gan Neil McEvoy AC.

 

2.

Deisebau newydd

2.1

P-05-909 Hyrwyddo'r defnydd o iaith arwyddion Makaton ym mhob ysgol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf, a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg yn gofyn:

·         pa gyfleoedd sydd ar gael i Lywodraeth Cymru hyrwyddo’r manteision o roi cyfleoedd i ddisgyblion ddysgu Makaton, neu fathau eraill o iaith arwyddion, mewn ysgolion yng Nghymru, naill ai drwy'r cwricwlwm newydd neu ddulliau eraill; a

·         pha gyfleoedd eraill sydd ar gael i ddysgu Makaton, megis dosbarthiadau addysg i oedolion, a gefnogir gan Lywodraeth Cymru.

 

2.2

P-05-911 Dylid Diogelu Coed Yw Hynafol Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf, a chytunodd ar y camau a ganlyn:

·         gofyn am ragor o wybodaeth gan y deisebydd am y camau penodol yr hoffai weld Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau mesurau diogelu ychwanegol i goed yw hynafol; ac

·         ysgrifennu yn ôl at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i ofyn iddi amlinellu'r argymhellion a wnaed yn flaenorol gan y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar goed hynafol a hynod, a choed treftadaeth, a sut y mae Llywodraeth Cymru wedi bwrw ymlaen â’r rhain ers hynny.

 

 

2.3

P-05-912 Cynorthwyo teuluoedd sy’n colli plant a phobl ifanc yn sydyn ac yn annisgwyl

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf, a chytunodd i aros am ganfyddiadau'r adolygiad i wasanaethau profedigaeth yng Nghymru, ac ymateb y deisebydd i'r rheini, cyn ystyried cymryd rhagor o gamau mewn perthynas â’r ddeiseb.

 

Hefyd, am fod y ddeiseb wedi cael dros 5000 o lofnodion, cytunodd y Pwyllgor i ofyn am gymeradwyaeth gan y Pwyllgor Busnes i gynnal dadl yn y Cyfarfod Llawn ar ôl cyhoeddi'r adolygiad o wasanaethau profedigaeth.

 

2.4

P-05-913 Creu Llwybr Amlddefnydd Lôn Las Môn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf, a chytunodd ar y camau a ganlyn:

·                     ysgrifennu at Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn gofyn iddi:

·                     roi manylion ynghylch sut yr ymatebodd Llywodraeth Cymru i ymgynghoriad blaenorol Diwydiant Network Rail mewn perthynas â’r rheilffordd hon;

·                     beth yw statws presennol y cynnig ar gyfer gorsaf newydd yn Llangefni; ac

·                     a fyddai Llywodraeth Cymru yn ystyried rhoi cyllid i ailagor y rheilffordd hwn.

·                     ysgrifennu at Gyngor Ynys Môn i ofyn am ei farn ynghylch sut y gellid defnyddio Rheilffordd Ganolog Ynys Môn yn y dyfodol ac a fydd yn ystyried rhoi rhagor o gyllid i gefnogi’r gwaith i ddatblygu unrhyw un o’r rhain.

 

2.5

P-05-914 Mynediad cyfartal i ofal iechyd ar gyfer yr anabl

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth bellach ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gofyn i:

·         roi’r wybodaeth ychwanegol a gyflwynwyd gan y deisebydd;

·         gofyn am ymateb i'r cynnig y dylai'r Llywodraeth sicrhau bod gan bob meddygfa teulu welyau triniaeth anabl y gellir eu haddasu a theclynnau codi at ddefnydd cleifion anabl drwy gyllid neu ddulliau eraill; 

·         gofyn am unrhyw enghreifftiau o arfer gorau y gallai'r Gweinidog eu rhannu â byrddau iechyd; a

·         gofyn pa ystyriaeth a roddwyd i ffurfioli'r gofynion mewn deddfwriaeth, y tu hwnt i'r canllawiau sydd ar gael ar hyn o bryd.

 

 

2.6

P-05-915 Galwad am well gorfodaeth o ffermydd cŵn bach yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

O ystyried tebygrwydd y materion a godwyd, cytunodd y Pwyllgor i grwpio'r ddeiseb gyda P-05-856 Rhaid gwahardd gwerthu cŵn bach gan siopau anifeiliaid anwes a phob gwerthwr trydydd parti masnachol yng Nghymru a'u trafod gyda’i gilydd yn y dyfodol, gan gynnwys pan geir ymateb i lythyr diweddar y Pwyllgor at Weinidog yr Amgylchedd yn gofyn am amserlen ar gyfer cwblhau'r adolygiad 'brys' o'r rheoliadau bridio cŵn.

 

 

2.7

P-05-916 Cyllid digonol i ddiogelu lles anifeiliaid fferm yn lladd-dai Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i:

·         ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn am gadarnhad o lefelau'r cyllid y mae Llywodraeth Cymru wedi'u  darparu i’r Asiantaeth Safonau Bwyd ar gyfer 2019/20, ac ar gyfer pob un o'r tair blynedd diwethaf, er mwyn goruchwylio’r rheolaethau llesiant mewn lladd-dai yng Nghymru; a

·         diwygio'r adroddiad ar ddeiseb P-04-433 : Teledu Cylch Cyfyng mewn Lladd-dai i sicrhau ei fod hefyd yn cwmpasu'r ddeiseb hon a'r wybodaeth newydd a dderbynnir, ac i drafod drafft pellach o'r adroddiad mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

 

3.

Diweddariadau i ddeisebau blaenorol

3.1

P-05-805 Rhoi chwarae teg i Athrawon Cyflenwi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg, cyn llunio adroddiad ar y mater hwn, i ofyn am y canlynol:

·         diweddariad ar y gwaith o weithredu’r fanyleb fframwaith gwasanaeth newydd a reolir ar gyfer gweithwyr asiantaeth;

·         ymateb i'r pwyntiau a godwyd gan asiantaethau cyflenwi a'r deisebydd ynghylch y ffaith nad yw'r gyfradd isafswm cyflog cenedlaethol yn cael ei dilyn mewn rhai achosion nac yn cael ei gadarnhau gan ddeddfwriaeth; a

·         gwybodaeth am y camau gweithredu nesaf yn dilyn y gwerthusiad diweddar o'r Prosiect Model Cyflenwi Clwstwr mewn Ysgolion.

 

3.2

P-05-860 Dylid gwneud Gwersi Sgiliau Bywyd yn Orfodol ar y cwricwlwm

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i aros am farn y deisebydd ynglŷn â’r datblygiadau diweddaraf, gan gynnwys yr adroddiad diweddar a luniwyd gan Senedd Ieuenctid Cymru, cyn ystyried a all gymryd unrhyw gamau pellach mewn ymateb i’r ddeiseb.

 

3.3

P-05-861 Gwneud addysg wleidyddol yn elfen orfodol o'r cwricwlwm cenedlaethol newydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i barhau i aros am ymateb arall gan y deisebydd i'r wybodaeth a dderbyniwyd gan y Pwyllgor, gan gynnwys adroddiad Senedd Ieuenctid Cymru, cyn ystyried a all gymryd camau pellach ar y ddeiseb.

 

3.4

P-05-880 Mae Cymru yn prysur golli ei henw da o ran cerddoriaeth, a’i threftadaeth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ychwanegol a chytunodd i:

·         ysgrifennu eto at y Cyngor Addysg Cerddoriaeth a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ofyn am ymatebion ac, yn achos yr olaf, gwybodaeth am ddosbarthiad y cyllid blaenorol a roddwyd i awdurdodau lleol;

·         ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog Addysg i ofyn am ragor o wybodaeth am yr hyn sydd wedi achosi'r oedi wrth gomisiynu a chael adroddiad yr astudiaeth ddichonoldeb; a

·         holi’r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu am unrhyw fwriad sydd ganddo i fynd ar drywydd ei ymchwiliad blaenorol i’r pwnc hwn.

 

3.5

P-05-884 Diwygio Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 i gynnwys sefydliadau’r DU sydd â gweithrediadau dramor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i roi’r wybodaeth a gafwyd gan Athrofa Prifysgol Llundain ym Mharis i'r Gweinidog Addysg ac i ofyn iddi roi barn bellach mewn perthynas â phriodoldeb dynodi cyrsiau yn y sefydliad, yn sgil yr esboniadau a roddwyd.

 

 

3.6

P-05-797 Sicrhau mynediad i'r feddyginiaeth ffibrosis systig, Orkambi, fel mater o frys

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i gau'r ddeiseb yn sgil cytundeb y daethpwyd iddo i sicrhau bod Orkambi ar gael i gleifion yng Nghymru, ac i roi diolch a llongyfarch y deisebydd a’r Ymddiriedolaeth Ffeibrosis Systig ar ganlyniad llwyddiannus eu gwaith ymgyrchu.

 

3.7

P-05-831 Rhowch ddiwedd ar yr annhegwch a'r gwahaniaethu yn y cymorth ariannol a roddir i ddioddefwyr sgandal gwaed wedi'i heintio yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i ofyn am ymateb gan y Gweinidog i'r datganiad a wnaed gan y deisebydd ynghylch lefelau talu, ac i gael gwybodaeth am sut y gwneir penderfyniadau ynghylch lefelau talu.

 

Gofynnodd y Pwyllgor hefyd am ragor o wybodaeth am fuddion presennol y cynllun yng Nghymru a Lloegr gan y Gwasanaeth Ymchwil.

 

3.8

P-05-859 Dylid Darparu Tai Plant yng Nghymru i Blant sy'n Dioddef Camdriniaeth Rywiol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ychwanegol a chytunodd i:

·         ysgrifennu at Faer Llundain i ofyn am wybodaeth am y Prosiect Goleudy, unrhyw ganfyddiadau y gellir eu rhannu o flwyddyn gyntaf ei weithrediad, a manylion am werthuso’r prosiect, gan gynnwys unrhyw amserlenni tebygol ar gyfer ei gwblhau; ac

·         ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gofyn a fyddai Llywodraeth Cymru yn trafod unrhyw ganfyddiadau dros dro sy'n codi o gynllun peilot y Prosiect Goleudy, er mwyn hwyluso'r broses o drafod ei gymhwysedd i Gymru.

 

 

3.9

P-05-896 Atal Ward 35 yn Ysbyty’r Tywysog Siarl rhag Cau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i ofyn am asesiad cyffredinol o nifer y gwelyau gofal i’r henoed a phobl sydd â dementia a gollwyd o ysbytai yng Nghymru a Chwm Taf ill dau dros y blynyddoedd diwethaf. 

 

 

3.10

P-05-902 Iechyd Meddwl Tadau (Iechyd Meddwl Tadau Newydd)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i aros am gyhoeddiad Law yn Llaw at Iechyd Meddwl – cynllun cyflawni 2019 i 2022 yn ddiweddarach eleni, ac i ofyn am safbwyntiau’r deisebydd mewn perthynas â’i gynnwys yr adeg honno.

 

 

3.11

P-05-815 Rheoli’r Diwydiant Dofednod Dwys sy’n Ehangu’n Gyflym yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ychwanegol a chytunodd i:

·         ysgrifennu yn ôl at Weinidog yr Amgylchedd i ofyn am ymateb i'r pwyntiau blaenorol a godwyd mewn perthynas â'r egwyddor 'mai’r llygrwr sy’n talu', ac i ofyn rhagor o gwestiynau a gynigiwyd gan y deisebwyr mewn perthynas â llygredd amonia a ffosffad a'r drefn ganiatáu; ac

·         ysgrifennu at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i esbonio pryderon y deisebwyr bod yr amserlenni ar gyfer gwaith y Gweithgor Amaethyddiaeth Ddwys Cynllunio Gwlad a Thref wedi llithro, ac i ofyn am linell amser wedi'i diweddaru ar gyfer gwaith y Grŵp, gan gynnwys syniad o ran pryd y bydd yn adrodd ar ei ganfyddiadau.

 

3.12

P-05-837 Ynni Gwyrdd er Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach gan y deisebwyr a nododd yr Aelodau eu siom na chafwyd ymateb i ohebiaeth flaenorol gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ynni a Newid Hinsawdd.

 

Fodd bynnag, yn sgil y ffaith bod penderfyniadau ynghylch datblygu Wylfa Newydd yn destun ymchwiliad cynllunio ac y byddant yn cael eu gwneud gan Lywodraeth Cymru yn y pen draw, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb ar y sail nad oes llawer o graffu pellach a allai gyfrannu’n ddefnyddiol at y broses hon.

 

3.13

P-05-878 Rhaid cau’r drws yn glep ar wastraffu ynni

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

O ystyried yr ymatebion a gafwyd gan archfarchnadoedd mawr, a'r cyfyngiadau ar bwerau Llywodraeth Cymru i fynnu gweithredu yn y maes hwn, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb ar y sail na all gymryd camau gweithredu ystyrlon pellach o ran y ddeiseb.

 

 

3.14

P-05-899 Bysiau i bobl nid er elw

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i gau'r ddeiseb yn sgil y bwriad i gyflwyno'r Bil Bysiau (Cymru) a'r gwaith craffu a fyddai’n cael ei wneud yn ei chylch gan y Cynulliad a phwyllgor arall yn ystod y broses ddeddfwriaethol.

 

Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ysgrifennu at y deisebydd i roi gwybodaeth iddo am sut y gall ymgysylltu â'r broses graffu ddeddfwriaethol er mwyn cyfrannu at ddatblygiad y Bil.

 

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:

Eitem 5

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

 

 

5.

Adolygiad o System Ddeisebau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Cofnodion:

Cafodd Aelodau'r Pwyllgor ddiweddariad ar y gwaith o ddatblygu system ddeisebu ar-lein newydd ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru.