Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Graeme Francis
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 05/11/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Dogfennau ategol: Cofnodion: Cafwyd
ymddiheuriadau gan Neil McEvoy a Jack Sargeant. Roedd Mike Hedges yn bresennol
yn lle Jack Sargeant. |
|
Deisebau newydd |
|
P-05-904 Gwahardd y defnydd o anifeiliaid mewn syrcasau a sioeau teithiol yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: |
|
P-05-905 Galw am Ymchwiliad Barnwrol Annibynnol i ad-drefnu gwasanaethau o fewn Bwrdd Iechyd Cwm Taf Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ac, er ei fod yn nodi ei fod yn cefnogi’r
materion y mae'n eu codi mewn egwyddor, cytunodd i aros am farn y deisebwyr am
yr ymateb a gafwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. |
|
P-05-906 Achub Ward Sam Davies yn Ysbyty y Barri Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd
Mike Hedges AC fuddiant fel aelod o UNSAIN. Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y canlynol: ·
Bwrdd
Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro i ofyn am fanylion pellach mewn perthynas â'i
gynigion ynghylch Ward Sam Davies a sut y mae’n bwriadu lliniaru'r effaith ar
gleifion; a ·
Chyngor
Iechyd Cymuned De Morgannwg i ofyn am ei farn am y cynigion cyfredol y mae’r
Bwrdd Iechyd yn eu cyflwyno. Yng
ngoleuni'r nifer o lofnodion ar y ddeiseb, nododd y Pwyllgor y byddai'n
ystyried gofyn am amser ar gyfer dadl yn y Cyfarfod Llawn ar ôl i’r ymatebion
hynny ddod i law. |
|
P-05-907 Newid cyflymder pentre Cemaes i 30mya Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros i glywed barn y deisebydd
ynghylch ymateb Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth cyn penderfynu ar unrhyw
gamau pellach i'w cymryd. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ysgrifennu at y deisebydd
i ddarparu gwybodaeth am sut y gall gyfrannu at adolygiad Llywodraeth Cymru o derfynau
cyflymder yng Nghymru. |
|
P-05-910 Gwneud thrombectomi ar gael 24-7 i gleifion yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Bwyllgor
Gwasanaethau Arbenigol Iechyd Cymru (WHSSC) i ofyn am ragor o fanylion
ynghylch: ·
datblygu
manyleb gwasanaeth ar gyfer thrombectomi; ·
yr amserlenni
ar gyfer cynnal ymarfer ymgynghori ar hyn; a’r ·
camau nesaf
a ragwelir yn dilyn yr ymgynghoriad. |
|
P-05-917 Dim enw dwyieithog i’r Senedd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a nododd deimladau'r ddeiseb, a'r gefnogaeth
a fynegwyd iddi, ond cytunodd i gau'r ddeiseb oherwydd y caiff y mater hwn yn
cael ei benderfynu drwy benderfyniadau'r Cynulliad yn ei gyfanrwydd yn ystod
craffu ar y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru), ac annog y deisebydd i gyfrannu
at y broses ddeddfwriaethol drwy ei Aelodau Cynulliad etholedig. |
|
Diweddariadau i ddeisebau blaenorol |
|
P-04-477 Cefnogi'r Bil Rheoli Cŵn (Cymru) Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i ysgrifennu eto at
Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i ofyn am wybodaeth bellach am
y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd, neu'n eu hystyried, i fynd i'r
afael â’r broblem o gŵn peryglus a'r cynigion blaenorol i gyflwyno
Hysbysiadau Rheoli Cŵn yng Nghymru. |
|
P-05-813 Gwahardd y DEFNYDD O FAGLAU LARSEN (maglau dal sawl math o frân) Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i nodi bwriad Cyfoeth Naturiol Cymru i
ystyried y defnydd o faglau Larsen fel rhan o adolygiad ehangach o'r holl
drwyddedu adar gwyllt yn 2020, a chau'r ddeiseb yng ngoleuni'r gwaith craffu a
fydd yn cael ei gymhwyso i'r arfer hwn drwy’r broses honno. |
|
P-05-829 Gwahardd Eitemau Plastig Untro yng Nghymru Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor i ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol i ofyn am
wybodaeth bellach am yr ymrwymiadau y gwnaeth yn ystod y Cyfarfod Llawn ar 16
Hydref mewn perthynas â chyflwyno gwaharddiad neu gyfyngiad ar eitemau plastig
untro penodol yng Nghymru. |
|
P-05-839 Dylid troi canllawiau Sefydliad Iechyd y Byd ynghylch llygredd aer yn gyfraith yng Nghymru a chyflwyno Deddf Aer Glân newydd i Gymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor i ysgrifennu eto at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i
ofyn am y canlynol: ·
diweddariad
ynghylch datblygu Cynllun Aer Glân; ·
esboniad
pam y bu oedi o ran llunio a chyhoeddi’r cynllun hwn; a ·
gwybodaeth
am hynt yr ymrwymiadau a wnaed gan y Prif Weinidog yn ei faniffesto ar gyfer
arweinyddiaeth Llafur Cymru i gyflwyno Deddf Aer Glân. |
|
P-05-856 Rhaid gwahardd gwerthu cŵn bach gan siopau anifeiliaid anwes a phob gwerthwr trydydd parti masnachol yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i ysgrifennu at
Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i ofyn erbyn pryd y mae’n
disgwyl i'r adolygiad brys o'r rheoliadau bridio cŵn gael ei gwblhau, ac
erbyn pryd y caiff penderfyniadau eu gwneud ynghylch sut i symud ymlaen. |
|
P-05-876 Amddiffyn rhywogaethau rhestredig Coch ac Amber yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ychwanegol a chytunodd i: ·
nodi bwriad Cyfoeth Naturiol Cymru i gynnal adolygiad o'r holl drwyddedu
adar gwyllt yn ystod 2020; ·
ysgrifennu at Cyfoeth Naturiol Cymru i'w annog i ystyried pwysigrwydd
bioamrywiaeth fel rhan o'r adolygiad hwnnw; a ·
thynnu sylw
y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig at y ddeiseb ac
awgrymu bod materion yn ymwneud â bioamrywiaeth a chydbwyso materion sy’n
cystadlu â’i gilydd o fewn cylch gwaith Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael eu codi
mewn sesiwn dystiolaeth gyda'r sefydliad yn y dyfodol. |
|
P-05-817 Aelodau prosthetig arbenigol i blant Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chyhoeddiad a wnaed gan
Lywodraeth Cymru ar 29 Hydref 2019 y bydd cronfa i ddarparu prostheteg
chwaraeon arbenigol i blant a phobl ifanc yn cael ei chyflwyno o fis Ebrill
2020. Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb yng ngoleuni hyn ac ysgrifennu at y
deisebydd i'w longyfarch am lwyddiant y ddeiseb. |
|
P-05-882 Trawsnewid yr ymateb i bobl hŷn sy'n dioddef camdriniaeth ddomestig – galw am weithredu Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth bellach a chytunodd i ysgrifennu eto at
y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i: ·
ofyn am ymateb i faterion a godwyd gan y deisebwyr a’r Comisiynydd Pobl
Hŷn, gan gynnwys hyfforddiant ar gyfer gweithwyr proffesiynol a'r alwad am
gynllun gweithredu cenedlaethol; ·
gofyn sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cefnogi'r gwaith sy'n cael
ei ddatblygu gan y Comisiynydd Pobl Hŷn; a ·
gofyn am roi canllawiau i sefydliadau perthnasol mewn perthynas â
defnyddio delweddau cynhwysol mewn deunyddiau sy'n hyrwyddo gwasanaethau
cam-drin domestig. |
|
P-05-864 Gwahardd y defnydd o 'Bensaernïaeth Elyniaethus' Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i ysgrifennu at Gymdeithas Llywodraeth
Leol Cymru i ofyn am ei hymateb i’r materion a godwyd yn y ddeiseb a’r
dystiolaeth a ddaw i law hyd yn hyn. |
|
P-05-867 Gwneud Murlun ‘Cofiwch Dryweryn' yn dirnod Cymreig dynodedig Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb yng ngoleuni arwyddion a gafwyd gan
Tro’r Trai nad ydyn nhw eto’n gyfrifol am amddiffyn y murlun, a’r ymatebion
blaenorol a gafwyd. Wrth wneud hynny, roedd y Pwyllgor yn dymuno diolch i'r
deisebydd a chefnogwyr y ddeiseb am eu gwaith i amddiffyn y murlun. |
|
P-05-872 Dylid diogelu cyllid ysgolion neu gyfaddef bod y gwasanaeth a ddarperir yn gwanhau Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach ac, yng ngoleuni'r ystyriaeth
fanwl a roddwyd yn ddiweddar iawn i gyllid ysgolion gan y Pwyllgor Plant, Pobl
Ifanc ac Addysg, y ffaith bod y Gweinidog wedi derbyn argymhellion y Pwyllgor
hwnnw, a'i chamau gweithredu wrth gomisiynu adolygiad brys o gyllid ysgolion,
cytunodd i gau'r ddeiseb oherwydd nad oes llawer y gallai ei ychwanegu at y
gwaith craffu hwn ar hyn o bryd. |
|
P-05-877 Cynllun gwisgoedd ysgol ail-law i blant Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i ysgrifennu eto at y
Gweinidog Addysg i ofyn pa gefnogaeth ac anogaeth y gall Llywodraeth Cymru eu
rhoi i ysgolion a chyrff eraill sy'n hwyluso gweithrediad cynlluniau gwisgoedd
ysgol ail-law, fel yr un sy'n gweithredu yn Sir Ddinbych. |
|
P-05-879 Dylid ychwanegu addysg iechyd meddwl at y cwricwlwm addysgu gorfodol ar gyfer pob ysgol yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i aros am farn y deisebydd am y
wybodaeth bellach sydd wedi dod i law. |
|
P-05-891 Mae angen dod â phrofion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol ar gyfer plant mor ifanc â 6 oed i ben ar unwaith Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i ysgrifennu eto at y Gweinidog Addysg i
ofyn am y cyfiawnhad penodol dros ddefnyddio asesiadau personol ar-lein gyda
phlant o chwech oed ymlaen, a sut y mae hyn yn gydnaws ag ysbryd y cyfnod
sylfaen. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn: Eitem 5 Cofnodion: Derbyniwyd
y cynnig. |
|
Trafod yr adroddiad drafft: P-04-433 : Teledu Cylch Cyfyng mewn Lladd-dai Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor ar adroddiad drafft ynghylch deiseb P-04-433 Teledu Cylch Cyfyng mewn
Lladd-dai ac iddo gael ei gyhoeddi yn y dyfodol agos. |
|
P-04-399 Arferion lladd anifeiliaid Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor statws deiseb P-04-399 Arferion lladd anifeiliaid a chytunwyd i beidio
â chynnwys y mater hwn yn yr adroddiad ynghylch P-04-433 a chau'r ddeiseb
oherwydd nad oes unrhyw dystiolaeth ddiweddar wedi dod i law. |