Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Graeme Francis 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 09/07/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau gan Jack Sargeant. Roedd Mike Hedges yn bresennol yn ei le.

 

Fel rhan o drafodaeth y Pwyllgor o dan eitem 2.2 ar yr agenda, cytunodd yr Aelodau i adolygu'r deisebau y cyflwynwyd adroddiadau arnynt ac a drafodwyd yn y Cyfarfod Llawn, gyda'r bwriad o asesu'r cynnydd a wnaed yn erbyn argymhellion y Pwyllgor.

 

2.

Deisebau newydd

2.36

P-05-882 Trawsnewid yr ymateb i bobl hŷn sy'n dioddef camdriniaeth ddomestig - galw am weithredu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:

·         ysgrifennu yn ôl at y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip er mwyn:

o   darparu'r sylwadau manwl a roddwyd gan y deisebwyr;

o   gofyn am ymateb pellach i'r materion a godwyd, yn enwedig y pryderon nad yw gwasanaethau neu ddeunydd cam-drin domestig yn aml yn cwmpasu profiadau pobl hŷn;

o   gofyn i'r Dirprwy Weinidog pa ddarpariaethau sydd ar waith ar gyfer dynion hŷn sy'n dioddef camdriniaeth o'r fath.

·         ysgrifennu at Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru i ofyn am ei hymateb i'r materion a godir yn y ddeiseb a gofyn iddi rannu rhagor o wybodaeth am y gwaith y mae'n bwriadu ei wneud i atal cam-drin pobl hŷn.

 

 

2.2

P-05-885 Trafnidiaeth Gyhoeddus Hygyrch a Chynhwysol ar gyfer Dinasyddion ag Anableddau Dysgu yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth i rannu'r sylwadau ychwanegol a roddwyd gan y deisebwyr, a gofyn am ymateb i'r pwyntiau ynghylch sicrhau bod gwasanaethau yn hygyrch i bobl ag anableddau dysgu ac ymgysylltu'n uniongyrchol â'r rhai yr effeithir arnynt.

 

2.3

P-05-887 Atal Aelodau Cynulliad rhanbarthol a etholwyd i gynrychioli pleidiau penodol rhag newid pleidiau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am farn y deisebydd ar yr ymateb a roddwyd gan y Llywydd ac i annog y deisebydd i ymgysylltu â'u cynrychiolwyr etholedig i fwrw ymlaen â gwelliannau deddfwriaethol i'r Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru).

 

 

 

2.4

P-05-889 Labelu cig o anifeiliaid sydd wedi’u lladd mewn modd crefyddol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros i weld beth fyddai'r datblygiadau wrth i'r DU ymadael â'r UE cyn ystyried pa gamau pellach i'w cymryd.

 

2.5

P-05-890 Trethu Ail Gartrefi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am ganlyniadau ymchwiliad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau i eiddo gwag yng Nghymru.

 

2.6

P-05-891 Mae angen dod â phrofion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol ar gyfer plant mor ifanc â 6 oed i ben ar unwaith

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am sylwadau’r deisebydd ar yr ymateb a gafwyd gan y Gweinidog Addysg cyn penderfynu a ddylid cymryd camau pellach o ran y ddeiseb.

 

2.7

P-05-892 Penodi Comisiynydd Anabledd Dysgu i Gymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i rannu'r wybodaeth ychwanegol a roddwyd gan y deisebwyr, a gofyn am wybodaeth am sut y mae pobl ag anableddau dysgu yn cael eu cefnogi i fynegi pryderon am wasanaethau neu gymorth, ac i ymgysylltu â hunan-eiriolaeth.

 

3.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

3.1

P-05-738 Deiseb Gyhoeddus ar gyfer Ffordd Osgoi i Ddinas Powys

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gyngor Bro Morgannwg a'r deisebydd, a chytunodd ar y camau a ganlyn:

  • ysgrifennu yn ôl at Gyngor Bro Morgannwg i ofyn am:

o   ddiweddariad ar y sefyllfa o ran cyllid i gwblhau astudiaeth ail gam WelTAG o'r opsiynau trafnidiaeth yn Ninas Powys;

o   rhagor o wybodaeth gefndirol am y rhesymau dros y penderfyniad i beidio â symud ymlaen â gwaith pellach ar opsiwn y 'llwybr glas'.

·         ysgrifennu at Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth i ofyn pa rôl y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei chael wrth ddatblygu cynigion i fynd i'r afael â materion trafnidiaeth yn Ninas Powys.

 

 

3.2

P-05-748 Bysiau Ysgol i Blant Ysgol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach oddi wrth Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth a'r deisebydd a chytunodd i gau'r ddeiseb, gan nad oes llawer o gamau pellach y gall eu cymryd mewn perthynas â'r mater hwn. Wrth wneud hynny, roedd y Pwyllgor am fynegi ei gydymdeimlad diffuant â'r deisebydd a rhannu manylion y ddeiseb â'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

 

3.3

P-05-743 Rhowch derfyn ar fasnachu anifeiliaid anwes egsotig yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach oddi wrth Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig a'r deisebydd, a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig er mwyn:

·         gofyn am ddiweddariad ar yr amserlenni ar gyfer datblygu cod ymarfer ar gyfer primatiaid a gedwir fel anifeiliaid anwes; a

·         mynegi cefnogaeth y Pwyllgor i'r galwadau am gyflwyno gwaharddiad llawn ar gadw primatiaid yn anifeiliaid anwes.

 

 

3.4

P-05-869 Datgan Argyfwng Hinsawdd a gosod targedau di-garbon ym mhob polisi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach oddi wrth Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig a'r deisebydd, a chytunodd ar y camau a ganlyn:

  • ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog i ofyn am ymateb i alwad y deisebwyr am Gynulliad Dinasyddion ac am wybodaeth bellach, gan gynnwys amserlen, am yr adolygiad o gamau gweithredu Ffyniant i Bawb: Cymru Carbon Isel; a
  • rhannu manylion y ddeiseb â'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig a gofyn iddo godi'r materion gyda'r Gweinidog mewn sesiwn dystiolaeth yn y dyfodol.

 

 

3.5

P-05-876 Amddiffyn rhywogaethau rhestredig Coch ac Amber yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth Cyfoeth Naturiol Cymru a chytunodd ar y camau a ganlyn:

·         aros am ragor o sylwadau neu wybodaeth gan y deisebydd cyn penderfynu a ddylid cymryd unrhyw gamau pellach ar y ddeiseb; a

·         gofyn am ragor o wybodaeth am nifer y trwyddedau a gyhoeddwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru a fyddai'n caniatáu lladd rhywogaethau a gategoreiddiwyd yn Goch ac Amber ar restrau'r RSPB.

 

 

3.6

P-05-754 Diffyg cymorth i blant ag anableddau mewn argyfwng

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i aros am sylwadau’r deisebydd ar yr ymateb a gafwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol cyn ystyried a ddylid cymryd camau pellach o ran y ddeiseb. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ofyn i'r deisebydd a oedd ei chyfarfod arfaethedig â Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf wedi'i gynnal.

 

3.7

P-05-797 Sicrhau mynediad i'r feddyginiaeth ffibrosis systig, Orkambi, fel mater o frys

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth y deisebydd a chytunodd ar y camau a ganlyn:

  • aros am ddiweddariad pellach gan Vertex Pharmaceuticals a chadarnhad bod ei dystiolaeth wedi'i chyflwyno'n ffurfiol i'w gwerthuso; ac
  • ysgrifennu at Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan i ofyn am wybodaeth am y cais gan Vertex i gyflwyno tystiolaeth ar gyfer gwerthusiad ar Orkambi ynghyd â Symkevi yn ogystal â manylion ei drafodaeth â'r cwmni mewn perthynas â gwerthuso ei driniaethau ffibrosis systig.

 

 

3.8

P-05-842 Rhowch lais i bobl ifanc yn y broses o gomisiynu gwasanaethau lleol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach oddi wrth y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a chytunodd i ofyn am farn y deisebydd ar yr ymateb a gafwyd gan y Gweinidog, yn benodol a yw'n fodlon ar yr ymrwymiad i nodi person ifanc i weithredu fel cynrychiolydd ar y Grŵp, cyn ystyried cymryd camau pellach ar y ddeiseb.

 

3.9

P-05-854 Gwneud hyfforddiant Anabledd Dysgu yn orfodol ar gyfer staff ysbytai

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Ddatganiad Ysgrifenedig gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a chytunodd i ofyn am amser i drafod y ddeiseb yn y Cyfarfod Llawn yn nhymor yr hydref, o gofio ei bod wedi derbyn mwy na 5000 o lofnodion.

 

3.10

P-05-859 Dylid Darparu Tai Plant yng Nghymru i Blant sy'n Dioddef Camdriniaeth Rywiol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a chytunodd ar y camau a ganlyn:

·         nodi'r camau sy'n cael eu cymryd ar hyn o bryd mewn ymateb i bryderon ynghylch darpariaeth SARC (Canolfannau Cyfeirio Cam-drin Rhywiol) a'r ymrwymiad i adolygu canlyniadau'r prosiect peilot yn Llundain; a

·         gofyn am farn y deisebydd ar y Cynllun gweithredu cenedlaethol atal ac ymateb i gam-drin plant yn rhywiol, ar ôl iddo gael ei gyhoeddi

 

 

3.11

P-05-866 Ymgyrch Ymwybyddiaeth Gyhoeddus Sepsis - Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon a chytunodd i gau'r ddeiseb o ystyried cynlluniau'r Pwyllgor hwnnw i gynnal ymchwiliad i sepsis yn nhymor yr hydref. Wrth wneud hynny, roedd yr Aelodau am ddiolch i'r deisebwyr am gyflwyno'r ddeiseb.

 

3.12

P-05-783 Sicrhau Cydraddoldeb Cwricwlwm i Ysgolion Cyfrwng Cymraeg e.e. Seicoleg TGAU

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach oddi wrth y Gweinidog Addysg a chan Cymwysterau Cymru, a chytunodd ar y camau a ganlyn:

  • ysgrifennu at Cymwysterau Cymru i nodi barn y Pwyllgor y dylai pawb allu astudio'r holl gymwysterau sydd ar gael yn y ddwy iaith swyddogol yng Nghymru;
  • ysgrifennu at y deisebydd i'wannog i ymgysylltu'n uniongyrchol ag ymgynghoriad Cymwysterau Cymru ar ffurf cymwysterau 14-16 yn y dyfodol cyn ystyried y ddeiseb eto; ac
  • aros am y cynigion sy'n deillio o ymgynghoriad Cymwysterau Cymru cyn ystyried y ddeiseb eto.

 

 

3.13

P-05-805 Rhoi chwarae teg i Athrawon Cyflenwi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth oddi wrth nifer o randdeiliaid a chytunodd ar y camau a ganlyn:

·         Gofyn am farn asiantaethau cyflenwi am y materion a godwyd gan y ddeiseb; ac ar ôl cael hynny

·         defnyddio'r holl dystiolaeth a gasglwyd hyd yma i lunio adroddiad, gan gynnwys argymhellion, ar ystyriaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb.

 

 

3.14

P-05-832 Diwygio’r Cod Derbyn i Ysgolion ynghylch Plant a Anwyd yn ystod yr Haf

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach gan y Gweinidog Addysg a'r deisebydd, a chytunodd i aros i'r ymgynghoriad cyhoeddus ar y Cod Derbyn i Ysgolion diwygiedig gael ei gyhoeddi yn nhymor yr hydref 2019 cyn ystyried a oes angen cymryd unrhyw gamau pellach ar y ddeiseb.

 

3.15

P-05-875 Capio Codiadau Treth Gyngor yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a'r deisebydd a chytunodd i gau'r ddeiseb, o gofio bod codiadau yn y dreth gyngor yn fater i'w benderfynu yn lleol.

 

3.16

P-05-815 Rheoli’r Diwydiant Dofednod Dwys sy’n Ehangu’n Gyflym yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig a'r deisebydd, a chytunodd ar y camau a ganlyn:

·         darparu'r wybodaeth ychwanegol gan y deisebwyr i:

o   Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig a gofyn am ei hymateb i'r cynnig i gymhwyso'r egwyddor 'y llygrwr sy'n talu' i gostau rheoleiddio, monitro ac achosion o dorri rheolau; a'r

o   Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol mewn perthynas â sylwadau'r deisebwyr ar y cylch gorchwyl ar gyfer y gweithgor amaethyddiaeth ddwys cynllunio gwlad a thref ac aros am ganlyniadau ei waith. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ofyn i'r Gweinidog i ba raddau yr oedd wedi ystyried effaith gronnus penderfyniadau cynllunio ac a fyddai'n ystyried diwygio Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 i ystyried hyn.

 

 

3.17

P-05-865 Dylid gwarantu bod dewisiadau sy’n seiliedig yn llwyr ar blanhigion ar bob bwydlen y sector cyhoeddus, i ddiogelu hawliau figaniaid ac er budd ein hiechyd, yr amgylchedd ac anifeiliaid.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach oddi wrth Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, ac ymateb ar y cyd oddi wrth y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Gweinidog Addysg, a chytunodd ar y camau a ganlyn:

  • casglu gwybodaeth bellach mewn perthynas ag ysgolion ac ysbytai gan awdurdodau lleol a byrddau iechyd; ac
  • ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:

o   i ofyn am wybodaeth am yr amserlen a'r broses ar gyfer adnewyddu Safon Maeth ac Arlwyo Cymru Gyfan;

o   i rannu barn y Pwyllgor y dylai fod yn ofynnol i ddarparwyr arlwyo sector cyhoeddus mawr ddarparu dewis figan a llysieuol ar eu bwydlenni ac y dylai fod yn ofynnol i arlwywyr eraill yn y sector cyhoeddus ddarparu rheswm dros optio allan; ac

o   i ofyn pa ystyriaeth a roddwyd i ddeddfwriaeth yn y maes hwn.

 

 

3.18

P-05-873 Gwersi Cymraeg am ddim i bobl Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Mike Hedges y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Mae ei ferch ar hyn o bryd yn astudio'r Gymraeg yn y brifysgol.

 

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach gan Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog i ofyn am ragor o fanylion am ei chynlluniau nawr ac yn y dyfodol mewn perthynas â niferoedd:

·         y bobl a fydd yn cael eu hyfforddi i addysgu'r Gymraeg; a

·         lleoedd fforddiadwy a lleoedd am ddim i ddysgwyr Cymraeg.

 

 

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y mater a ganlyn:

Item 5

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig

 

5.

Trafod yr adroddiad drafft

5.1

P-05-736 Gwneud gwasanaethau iechyd meddwl yn fwy hygyrch

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft yn amodol ar gynnwys rhai argymhellion ychwanegol.