Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Graeme Francis
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 07/11/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
Rhif | Eitem |
---|---|
(9.30) Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Dogfennau ategol: Cofnodion: Croesawodd y
Cadeirydd bawb i'r cyfarfod, a Rhun ap
Iorwerth AC a Neil McEvoy AC i'r Pwyllgor Deisebau. Anfonodd Mike
Hedges AC ei ymddiheuriadau ac roedd David Rees AC yn bresennol fel dirprwy. |
|
Deisebau newydd |
|
P-05-781 Cymuned Port Talbot yn erbyn yr Archgarchar Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd
David Rees y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A: Mae'n
cefnogi'r ddeiseb gan ei bod yn effeithio'n uniongyrchol ar ei etholaeth. Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y canlynol:
|
|
P-05-782 Adeiladu Ffordd Osgoi Cas-gwent i Gael Gwared ar y Tagfeydd oddi ar yr M48 i'r A48 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros i glywed
barn y deisebydd ynghylch ymateb Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r
Seilwaith cyn penderfynu ar gamau pellach i'w cymryd ynghylch y ddeiseb. |
|
P-05-783 Sicrhau Cydraddoldeb Cwricwlwm i Ysgolion Cyfrwng Cymraeg e.e. Seicoleg TGAU Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros i glywed
barn y deisebydd ynghylch ymateb Llywodraeth Cymru a Cymwysterau Cymru cyn
penderfynu ar gamau pellach i'w cymryd ynghylch y ddeiseb. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
P-04-682 Sgrinio Rheolaidd ar gyfer Diabetes Math 1 mewn Plant a Phobl Ifanc Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ymatebion gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol, byrddau iechyd lleol a chyrff proffesiynol, a chytunodd i wahodd
Ysgrifennydd y Cabinet i gyfarfod Pwyllgor yn y dyfodol i roi rhagor o
dystiolaeth cyn llunio adroddiad ar y ddeiseb. |
|
P-04-628 Mynediad at Iaith Arwyddion Prydain i Bawb Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y diffyg ymateb gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ohebiaeth y
Pwyllgor, a chytunodd i ysgrifennu llythyr pellach at CLlLC yn mynegi ei siom a
gofyn am ymateb brys i'r llythyr dyddiedig 3 Awst. Yn dilyn y
cyfarfod, daeth ymateb i law gan CLlLC. |
|
P-05-760 Atal TGAU Cymraeg Gorfodol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a
chytunodd i gau'r ddeiseb yng ngoleuni'r ymrwymiad digamsyniol a fynegwyd gan
Ysgrifennydd y Cabinet i astudiaeth orfodol o'r Gymraeg ar lefel TGAU, a'i
hatebion i'r pryderon a fynegwyd gan y deisebydd. |
|
P-04-688 Gorsaf Bŵer Tata Steel ym Mhort Talbot Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith a
chytunodd i aros am farn y deisebydd ynghylch y wybodaeth ddiweddaraf cyn
ystyried cau'r ddeiseb, yng ngoleuni'r wybodaeth a ddaeth i law a chyllid
pellach a ymrwymwyd gan Lywodraeth Cymru yn y gyllideb ddrafft ar gyfer
2018-19. |
|
P-05-738 Deiseb Gyhoeddus ar gyfer Ffordd Osgoi i Ddinas Powys Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor gohebiaeth gan Gyngor Bro Morgannwg, ynghyd â sylwadau pellach gan y
deisebydd, a chytunodd i ysgrifennu at Gyngor Bro Morgannwg i ofyn am y wybodaeth
ddiweddaraf pan fydd Cabinet y Cyngor wedi trafod canlyniadau'r adroddiad Cam 2
WelTAG. |
|
P-05-748 Bysiau Ysgol i Blant Ysgol Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y diffyg ymateb gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ohebiaeth y
Pwyllgor, a chytunodd i ysgrifennu llythyr pellach at CLlLC yn mynegi ei siom a
gofyn am ymateb brys i'r llythyr dyddiedig 24 Gorffennaf. |
|
P-05-758 Cerflun i Anrhydeddu Billy Boston Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i ofyn i'r
deisebydd roi diweddariad pellach i'r Pwyllgor am y prosiect maes o law. |
|
P-05-776 Cydnabod tri chan mlwyddiant Williams Pantycelyn Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd Rhun
ap Iorwerth y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A: Mae mewn
cysylltiad â'r prif ddeisebydd ynghylch y mater. Trafododd y
Pwyllgor ohebiaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru a chytunodd i ysgrifennu at y
deisebydd i rannu gwybodaeth am y digwyddiad diweddar yn y Senedd a'r atebion a
roddwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith, a gofyn a
yw'n gwybod am unrhyw sefydliadau neu unigolion addas a allai gyflwyno cynigion
pendant. |
|
P-05-742 Peidiwch â Gadael i Forsythia Gau Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu
at Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful ac Ymddiriedolaeth Ddatblygu 3G i
ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am ddarparu gwasanaethau nawr ac yn y dyfodol i
bobl ifanc yng Nghanolfan Ieuenctid Forsythia. |
|
P-05-715 Gwahardd Cynhyrchu, Gwerthu a Defnyddio Maglau yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i gau'r ddeiseb gan fod y mater
wedi bod yn destun sylw manwl yn ddiweddar gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd,
Amgylchedd a Materion Gwledig, a bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn argymhellion
y pwyllgor hwnnw. |
|
P-05-773 Peidiwch â Llenwi Safleoedd Tirlenwi! Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at
Gyngor Caerdydd i rannu sylwadau'r deisebydd ynghylch y bagiau ailgylchu a
ddefnyddir yng Nghaerdydd, a'i chynnig y dylid gosod sticeri ar finiau du i
godi ymwybyddiaeth y bydd gwastraff ynddynt yn cael ei anfon i safleoedd
tirlenwi. |
|
P-04-472 Gwnewch y Nodyn Cyngor Technegol Mwynau yn Ddeddf Dogfennau ategol: Cofnodion: Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Lesley Griffiths AC, Neil Hemington a
Joanne Smith. Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet i ymchwilio ymhellach i
sylwadau a briodolir i’r arolygydd cynllunio yn ystod gwrandawiad apêl ynghylch
cais cloddio glo brig ym Mryn Farteg, ac ysgrifennu at y Pwyllgor. |
|
P-04-575 Galw i Mewn Pob Cais Cynllunio ar Gyfer Cloddio Glo Brig Dogfennau ategol:
Cofnodion: Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Lesley Griffiths AC, Neil Hemington a
Joanne Smith. Cytunodd Ysgrifennydd y
Cabinet i ymchwilio ymhellach i sylwadau a briodolir i’r arolygydd cynllunio yn
ystod gwrandawiad apêl ynghylch cais cloddio glo brig ym Mryn Farteg, ac
ysgrifennu at y Pwyllgor. |