Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Graeme Francis 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 09/02/2021 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datganiadau o fuddiant

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

2.

Deisebau newydd Covid-19

2.1

P-05-1092 Peidiwch â gohirio etholiadau mis Mai 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd  i ysgrifennu at y Prif Weinidog eto yn gofyn iddo esbonio o dan ba amgylchiadau’n union y byddai’n ystyried gohirio etholiad y Senedd eleni, a pha feini prawf y byddai angen eu bodloni cyn y byddai’n ei ohirio.

 

2.2

P-05-1108 Cyhoeddi canllawiau a chynllun talebau i achub gweithgarwch y sector babanod a phlant bach yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ac o ystyried yr ymateb a gafwyd gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, roedd modd cynnal gweithgareddau a oedd wedi'u trefnu ar gyfer plant ac eithrio pan oedd lefel rhybudd pedwar ar waith. Roedd y canllawiau perthnasol wedi'u cyhoeddi, a chytunwyd i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd.

 

2.3

P-05-1114 Dylid caniatáu i aciwbigwyr traddodiadol yng Nghymru weithio yn ystod cyfnodau clo

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ac o ystyried bod y deisebydd yn derbyn bod y fersiwn ddiweddaraf o reoliadau Coronafeirws yn rhestru gwasanaethau aciwbigo fel “mangreoedd esempt”, a all agor os ydynt yn darparu triniaethau meddygol, cytunodd i gau’r ddeiseb a diolch i'r deisebydd.

 

2.4

P-05-1116 Rhowch flaenoriaeth i bobl ag anabledd dysgu gael eu brechu yn erbyn COVID-19 yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Leanne Wood y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae hi'n adnabod y deisebydd.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol eto ynghylch y rhaglen frechu a gofyn:

·         a fyddai modd ystyried rhoi blaenoriaeth i bobl ag anableddau dysgu o bob oed sy'n byw mewn lleoliadau preswyl neu gartref gofal;

·         beth a ystyriwyd wrth bennu lefel flaenoriaeth i’r grŵp hwn; a

·         pryd y dylai'r grŵp hwn ddisgwyl cael eu brechlyn, yn ôl y rhaglen frechu bresennol.

 

2.5

P-05-1121 Agor ysgolion i blant gweithwyr allweddol yn unig dros gyfnod clo Ionawr 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ac o ystyried y ffaith bod amcanion y ddeiseb wedi’u cyflawni, a bod ysgolion ar gau i’r rhan fwyaf o’r disgyblion tan hanner tymor mis Chwefror o leiaf, cytunwyd i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd. 

 

2.6

P-05-1085 Gwneud hyfforddiant gwrth-hiliaeth yn orfodol i bob Cynghorydd etholedig ac Aelod o'r Senedd yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am ragor o sylwadau gan y deisebydd, cyn ystyried a yw'n gallu cymryd unrhyw gamau eraill mewn perthynas â’r ddeiseb.

 

2.7

P-05-1090 Diogelwch ar y ffyrdd: Gostwng y terfyn cyflymder ar gefnffordd yr A487 i 20 milltir yr awr drwy Benparcau, Aberystwyth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf. O ystyried y wybodaeth a gafwyd gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, gan gynnwys y datganiad y dylai’r awdurdod lleol ymgynghori â'r gymuned ynghylch a ddylid cynnwys y rhan hon o'r ffordd yn y rhaglen genedlaethol i osod terfyn cyflymder diofyn o 20mya yn genedlaethol, daeth y Pwyllgor i'r casgliad nad oedd llawer y gallai ei wneud ar lefel genedlaethol ar hyn o bryd. Cytunodd y Pwyllgor, felly, i ysgrifennu at y deisebydd i ddiolch iddo am godi’r mater, ac awgrymu y dylai ofyn i Gyngor Sir Ceredigion ystyried ymateb y Dirprwy Weinidog, a chaewyd y ddeiseb.

 

2.8

P-05-1094 Rhoi terfyn ar ddirywiad treftadaeth Pontypridd - achubwch y Bont Wen

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf i holi am y wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa bresennol o ran y ‘Bont Wen’ a’r opsiynau y mae’r Cyngor yn eu hystyried.

 

2.9

P-05-1105 Gwnewch hyfforddiant adfywio cardio-pwlmonaidd (CPR) yn orfodol mewn ysgolion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a nododd y rhinwedd yn yr hyn roedd yn ei gynnig. Nododd y Pwyllgor fod Aelodau o’r Senedd yn gallu cynnig gwelliannau i’r Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru)  ar hyn o bryd fel rhan o’r broses o graffu ar ddeddfwriaeth. Gan y bydd y Bil yn pennu strwythur a chynnwys Cwricwlwm newydd Cymru, gan gynnwys pa elfennau sy’n orfodol, cytunodd y Pwyllgor nad oes llawer mwy y gallai ei wneud ar hyn o bryd a chytunodd i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd. 

 

2.10

P-05-1109 Rhaid darparu lleoedd parcio pwrpasol am ddim ar gyfer holl staff ysbytai Cymru yn ystod eu sifft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i gau’r ddeiseb o ystyried yr ohebiaeth a gafwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a diolch i’r deisebydd.

 

2.40

P-05-1112 Helpwch gymunedau yng Nghymru i brynu asedau cymunedol: Gweithredwch Ran 5, Pennod 3 o Ddeddf Lleoliaeth 2011

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a nodwyd yr ohebiaeth a ddaeth i law. O gofio nad oes fawr o amser yn weddill yn y Senedd bresennol, nid oes disgwyl i ymchwil Llywodraeth Cymru gael ei gyhoeddi tan y gwanwyn a chan fod y ddeiseb yn galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i gymryd camau penodol, cytunodd y Pwyllgor i drosglwyddo’r ddeiseb i’r Chweched Senedd ei hystyried.

 

2.12

P-05-1113 Cyflwyno mesurau diogelwch ar y ffyrdd ar yr A44 yn Llanbadarn Fawr, Ceredigion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a nododd ddatganiad Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru y dylid gosod croesfan ac ystyried ymgymryd â rhagor o waith yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf. Nododd y Pwyllgor hefyd y datganiad y bydd angen i'r awdurdod lleol arwain ymgynghoriad cymunedol ynghylch a ddylid cynnwys y rhan hon o'r ffordd wrth weithredu terfyn cyflymder diofyn 20mya yn genedlaethol, a daeth i'r casgliad nad oedd llawer y gallai ei wneud ar lefel genedlaethol ar hyn o bryd. Cytunodd y Pwyllgor, felly, i ysgrifennu at y deisebydd i ddiolch iddo am godi’r mater, ac awgrymu y dylai ofyn i Gyngor Sir Ceredigion ystyried ymateb i’r Dirprwy Weinidog, a chaewyd y ddeiseb.

 

2.13

P-05-1137 Galwad ar i Lywodraeth Cymru roi cyllid teg i Lyfrgell Genedlaethol Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a nododd bod teimladau cryf o blaid y ddeiseb a  bod y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi cyhoeddi cyllid ychwanegol.  Cytunodd y Pwyllgor i anfon cynigion ychwanegol y deisebydd at y Dirprwy Weinidog a disgwyl am ymateb ysgrifenedig ffurfiol gan y Dirprwy Weinidog cyn ystyried pa gamau eraill y gallai eu cymryd. Roedd y Pwyllgor hefyd am longyfarch y deisebydd a'i chefnogwyr ar lwyddiant eu hymgyrch ar y mater hwn.

 

3.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

3.1

P-05-795 Achosi Niwsans neu Aflonyddwch ar safleoedd y GIG

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law ac, o  ystyried faint o amser a oedd wedi mynd heibio ers cyflwyno’r ddeiseb heb ddiweddariad na chynnydd sylweddol, ac o ystyried na chafwyd ymateb gan y deisebydd ers cyflwyno’r ddeiseb, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.

 

3.2

P-05-1001 Cynnal ymchwiliad annibynnol i'r dewis o safle ar gyfer y Ganolfan Ganser Velindre newydd arfaethedig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Neil McEvoy y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae ganddo ddiddordeb mewn cael y gofal canser gorau posibl yn Ne Cymru. 

 

Trafodwyd y ddeiseb hon ar y cyd â P-05-1018 Cefnogaeth ar gyfer y cynlluniau arfaethedig presennol i adeiladu Canolfan Ganser Felindre newydd yng Nghaerdydd mewn unrhyw ymchwiliad yn y dyfodol.

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ychwanegol a chytunodd i:

·         ysgrifennu at Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre i ofyn am ymateb i nifer o gwestiynau ychwanegol, gan gynnwys mewn perthynas â bodolaeth 'adroddiad Barrett', pryderon a godwyd gan y BMA ym mis Awst ynghylch ymgynghori â staff, a nifer y galwadau brys a throsglwyddiadau i safleoedd eraill; a

·         chytunwyd i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i ofyn iddo ystyried a fyddai’n bosibl trefnu dadl ynghylch y ddeiseb yn y Cyfarfod Llawn  cyn diwedd y Senedd hon.

 

3.3

P-05-1018 Cefnogaeth ar gyfer y cynlluniau arfaethedig presennol i adeiladu Canolfan Ganser Felindre newydd yng Nghaerdydd mewn unrhyw ymchwiliad yn y dyfodol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Neil McEvoy y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae ganddo ddiddordeb mewn cael y gofal canser gorau posibl yn Ne Cymru. 

 

Trafodwyd y ddeiseb hon ar y cyd â P-05-1001 Cynnal ymchwiliad annibynnol i'r dewis o safle ar gyfer y Ganolfan Ganser Felindre newydd arfaethedig

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ychwanegol a chytunodd i:

·         ysgrifennu at Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre i ofyn am ymateb i nifer o gwestiynau ychwanegol, gan gynnwys mewn perthynas â bodolaeth 'adroddiad Barrett', pryderon a godwyd gan y BMA ym mis Awst ynghylch ymgynghori â staff, a nifer y galwadau brys a throsglwyddiadau i safleoedd eraill; a

·         chytunwyd i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i ofyn iddo ystyried a fyddai’n bosibl trefnu dadl ynghylch y ddeiseb yn y Cyfarfod Llawn  cyn diwedd y Senedd hon.

 

3.4

P-05-1045 Dylai penderfyniadau ar y cyd ac adolygu cynlluniau gofal iechyd meddwl misol fod yn ofyniad cyfreithiol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law a chytunodd i anfon sylwadau ychwanegol y deisebydd a’i gynigion at y Gweinidog Iechyd Meddwl a gofyn am ymateb penodol i’r rhain. Gofynnodd y Pwyllgor i'r sylwadau gael eu hanfon hefyd at y bwrdd rhwydwaith iechyd meddwl a'r fforwm iechyd meddwl cenedlaethol ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr i'w defnyddio yn y gwaith sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd mewn perthynas â gwasanaethau iechyd meddwl.

 

3.5

P-05-1068 Caniatáu cyfarfodydd ymbellhau cymdeithasol mewn gerddi preifat i ddilyn y wyddoniaeth ac osgoi teimlo’n ynysig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law a chytunodd i ysgrifennu at y Prif Weinidog eto i’w annog i ystyried caniatáu i bobl ymweld ag eraill mewn gerddi mewn ymdrech i helpu’r rhai sy’n teimlo’n bod wedi’u hynysu’n gymdeithasol, a hynny cyn gynted ag y bydd y sefyllfa mewn perthynas ag achosion Covid-19 a’r rhaglen frechu’n caniatáu.

 

 

3.6

P-05-1070 Dylid cynghori pawb yng Nghymru sy'n eithriadol o agored i niwed neu a fu’n cysgodi gynt i aros gartref, nid mynd i’r gwaith, yn ystod cyfnodau pan fo lefel uchel o haint Covid-19 yn y gymuned

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Croesawodd y Pwyllgor yr ymateb a gafwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a’r penderfyniad i ymestyn y cyfnod cysgodi tan ddiwedd mis Mawrth 2021. Gan hynny, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb, gan ddiolch i’r deisebydd am godi’r mater hwn.  Roedd y Pwyllgor am longyfarch y deisebydd am gyflawni’i hamcanion.

 

3.7

P-05-1056 Rhowch rymoedd i Awdurdodau Lleol reoli'r farchnad dai yn ardaloedd gwledig a thwristaidd Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law a chytunodd i ysgrifennu at  y Pwyllgor Busnes i ofyn a fyddai’n bosibl cynnal dadl ynghylch y ddeiseb yn y Cyfarfod Llawn cyn diwedd y Senedd hon.

 

3.8

P-05-903 Ffilmio a Recordio Cyfarfodydd Cyngor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor fod canllawiau cyfathrebu ar gyfer cynghorau tref a chymuned wedi'u cyhoeddi erbyn hyn a’u bod yn amlinellu'r gofynion statudol a’r cyngor ynghylch arfer da. Gan hynny, a chan fod tymor y Senedd hon bron â dod i ben, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd.

 

3.9

P-05-1025 Tegwch i fyfyrwyr sy'n sefyll arholiadau yn 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law ac, o ystyried bod y deisebwyr yn fodlon â’r penderfyniad i ddysgwyr a oedd i fod i sefyll arholiadau TGAU, UG a Safon Uwch yn 2021 gael Graddau a bennir gan Ganolfan, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb a diolch a llongyfarch y deisebwyr am eu gwaith.

 

3.10

P-05-1026 Deiseb i wahardd maglu bywyd gwyllt i’w defnyddio yn y fasnach ffwr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law ac, o ystyried bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno Papur Gwyn ar gyfer Bil Amaethyddiaeth yn ystod tymor nesaf y Senedd, cytunodd nad oedd unrhyw gamau pellach y gallai eu cymryd cyn etholiadau Senedd 2021. Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb, gan ddiolch i’r deisebydd.

 

 

3.11

P-05-1040 Cyflwyno moratoriwm ar gymeradwyo unrhyw losgyddion gwastraff newydd ar raddfa fawr yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig eto i ofyn am ymateb i gais blaenorol y Pwyllgor am esboniad llawn o’r ffaith bod y Llywodraeth yn teimlo na fyddai moratoriwm ar ddatblygu llosgyddion newydd yn briodol ar hyn o bryd.

 

3.12

P-05-1051 Caniatáu i athletwyr iau Cymru hyfforddi dan yr un rheoliadau Covid â’u cymheiriaid iau yn Lloegr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ymateb a gafwyd gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth. O ystyried nad oedd y sefyllfa wedi newid ers i’r ddeiseb gael ei chyflwyno’n wreiddiol, a’r ffaith nad oedd y deisebydd wedi cysylltu wedyn, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.

 

3.13

P-05-1061 Rhowch gefnogaeth ariannol i fusnesau Lletya Anifeiliaid Anwes

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru eto i alw am newid y meini prawf cymhwysedd ar gyfer grantiau Cronfa Busnes Cyfyngiadau fel y gall busnesau lletya anifeiliaid anwes fanteisio arnynt.

 

3.14

P-05-1069 Arbed y tir fferm a'r caeau gwyrdd yn Cosmeston

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Neil McEvoy y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae wedi cwrdd â'r deisebwyr

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law ac, o ystyried penderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio â thynnu ei chais yn ôl, cytunodd i gadw golwg ar y camau nesaf y broses gynllunio a gofyn i'w Bwyllgor olynol adolygu'r ddeiseb ar adeg briodol.

 

3.15

P-05-1072 Ymchwilio i’r pwerau sydd gan Senedd Cymru mewn perthynas â gwahardd therapi newid cyfeiriadedd rhywiol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law a chytunodd i aros am sylwadau ychwanegol gan y deisebydd cyn ystyried a allai gymryd unrhyw gamau  eraill mewn perthynas â’r ddeiseb.

 

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:

Eitem 5.

 

 

 

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

 

5.

Ystyried adroddiad drafft - P-05-886 Stopio'r Llwybr Coch (coridor yr A55/A494)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft, derbyniodd nifer o welliannau a chytunodd i gadarnhau'r drafft terfynol y tu allan i'r Pwyllgor.