Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Graeme Francis 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 15/12/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datganiadau o fuddiant

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

 

2.

Deisebau newydd Covid-19

2.1

P-05-1046 Ailystyried y cyfnod clo ac ymchwilio i dystiolaeth wyddonol nad yw’n gweithio a’i fod yn achosi mwy o niwed

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am ymateb Llywodraeth Cymru iddi cyn penderfynu a ddylid cymryd camau pellach ynghylch y ddeiseb.

 

 

2.2

P-05-1054 Mae’r sector gwallt a harddwch wedi profi ei fod yn ddiogel o ran COVID-19. Peidiwch â’n cau a pheryglu swyddi yng Nghymru unwaith yn rhagor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i gadw golwg ar y mater hwn am y tro, a chytunodd y byddai'n trafod y ddeiseb ymhellach yng ngoleuni newidiadau i amgylchiadau yn y flwyddyn newydd a sylwadau pellach gan y deisebydd.

 

2.3

P-05-1060 Caniatewch i archfarchnadoedd werthu eitemau “nad ydynt yn hanfodol” yn ystod y cyfyngiadau symud

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yn ffurfiol gryfder y teimlad a fynegir yn y ddeiseb, y safbwyntiau pellach a ddarparwyd gan y deisebydd, ac ymateb Llywodraeth Cymru yn y ddadl a gynhaliwyd ar 11 Tachwedd. Gan fod y ddeiseb wedi cael ei thrafod a bod cyfyngiadau’r cyfnod atal byr ar ben, cytunodd y Pwyllgor nad oes llawer y gellir ei wneud ar hyn o bryd. Gan hynny, cytunodd i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.

 

Wrth wneud hynny, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu eto at Lywodraeth Cymru i dynnu ei sylw at y materion pellach a godwyd gan y deisebydd yn ei gyflwyniad manwl i'r Pwyllgor.

 

2.4

P-05-1062 Rhoi'r gorau i'r prawf rt-PCR i brofi ar gyfer COVID-19, gan nad yw’n addas i’r diben

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i aros am ymateb Llywodraeth Cymru i’r ddeiseb cyn penderfynu a ddylid cymryd camau pellach yn ei chylch.

 

 

2.5

P-05-1070 Dylid cynghori pawb yng Nghymru sy'n eithriadol o agored i niwed neu a fu’n cysgodi gynt i aros gartref, nid mynd i’r gwaith, yn ystod cyfnodau pan fo lefel uchel o haint Covid-19 yn y gymuned

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i rannu’r pryderon pellach a fynegwyd gan y deisebydd ac eraill. Yng ngoleuni'r awgrymiadau bod rhai cyflogwyr yn dangos diffyg empathi neu gefnogaeth i bobl sy’n wynebu risg uchel, cytunodd y Pwyllgor i ofyn pa gamau y byddai Llywodraeth Cymru yn ystyried eu cymryd, neu y gallai eu cymryd, yn erbyn cyflogwyr nad ydynt yn gwneud gweithleoedd yn ddiogel, neu nad ydynt yn ymateb yn briodol i amgylchiadau aelodau o’u gweithlu sy’n agored i niwed.

 

 

2.6

P-05-1074 Cynyddwch nifer y bobl sy'n cael bod mewn mannau awyr agored fel y gall pob tîm yng Nghymru ailddechrau chwarae pêl-droed

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i gynnwys y materion a godwyd gan y ddeiseb yn y ddadl eang y mae'r Pwyllgor yn bwriadu ei chynnal ym mis Ionawr 2021 ar fynediad i chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud.

 

Wrth wneud hynny, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.

 

 

2.7

P-05-1076 Caniatáu i'r holl Gelfyddydau Perfformio ailagor - cerddoriaeth fyw, dawns, theatrau a neuaddau cyngerdd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y ddeiseb ac amlinelliad y Dirprwy Weinidog o'r camau cychwynnol a gymerwyd, ond a oedwyd yn y cyfamser oherwydd yr amgylchiadau presennol mewn perthynas â throsglwyddo’r Coronafeirws, sydd hefyd wedi effeithio ar letygarwch a sectorau eraill.

 

Yng ngoleuni gwaith craffu Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar yr effaith ar y sector hwn, cytunodd y Pwyllgor i beidio â chymryd camau pellach ei hun ond i ddwyn y ddeiseb i sylw'r Pwyllgor hwnnw a diolch i'r deisebydd.

 

 

2.8

P-05-1095 Gosodwch gyfyngiadau symud i ysgolion gael pythefnos o wyliau cyn 24 Rhagfyr a galluogi pawb i gael amser teuluol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Yn dilyn cyhoeddiadau diweddar, gan gynnwys bod ysgolion uwchradd yng Nghymru wedi newid i addysgu ar-lein ar gyfer wythnos olaf y tymor a bod ysgolion cynradd mewn rhai ardaloedd hefyd wedi cau yn gynnar, nododd y Pwyllgor fod y ddeiseb wedi llwyddo i helpu i ddwyn pryderon i sylw'r Llywodraeth a’r cyfryngau. Gan nad oes llawer pellach y gall y Pwyllgor ei wneud ar yr adeg hon, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.

 

 

2.9

P-05-1099 Peidiwch â chau’r Sector Lletygarwch (Tafarndai, Bwytai, Caffis) heb ddangos tystiolaeth wyddonol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafodwyd y ddeiseb hon ar y cyd â'r ddeiseb P-05-1100 Caniatáu i dafarndai a bwytai yng Nghymru weini alcohol / aros ar agor ar ôl 6pm.

 

Cytunodd y Pwyllgor i aros am ymateb ffurfiol Llywodraeth Cymru cyn ystyried a oes camau pellach y gallai eu cymryd ynghylch y deisebau hyn bryd hynny. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ysgrifennu yn ôl at y deisebydd i ofyn am ffynhonnell yr ystadegau a ddefnyddiwyd yn y ddeiseb. 

 

O ran dadl yn y Cyfarfod Llawn, nododd y Pwyllgor fod y cyfyngiadau ar y diwydiant lletygarwch wedi cael eu codi sawl gwaith yn y Cyfarfod Llawn yn ystod yr wythnosau diwethaf, gan gynnwys ar 1 Rhagfyr ac mewn dadl a phleidlais ar 9 Rhagfyr, a bydd y Rheoliadau eu hunain yn destun pleidlais yn y Cyfarfod Llawn brynhawn 15 Rhagfyr. Felly cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i'w hysbysu am y ddeiseb ond i beidio â gofyn am ddadl ar hyn o bryd.

 

2.10

P-05-1100 Caniatáu i dafarndai a bwytai yng Nghymru weini alcohol / aros ar agor ar ôl 6pm

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafodwyd y ddeiseb hon ar y cyd â’r ddeiseb P-05-1099 Peidiwch â chau’r Sector Lletygarwch (Tafarndai, Bwytai, Caffis) heb ddangos tystiolaeth wyddonol. 

 

Cytunodd y Pwyllgor i aros am ymateb ffurfiol Llywodraeth Cymru cyn ystyried a oes camau pellach y gallai eu cymryd ynghylch y deisebau hyn bryd hynny.

 

 

2.11

P-05-1045 Dylai penderfyniadau ar y cyd ac adolygu cynlluniau gofal iechyd meddwl misol fod yn ofyniad cyfreithiol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cydnabu’r Pwyllgor gryfder y deisebydd a’i theulu wrth greu’r ddeiseb a mynegodd y Pwyllgor ei gydymdeimlad dwysaf â nhw. Nododd yr Aelodau hefyd eu siom na chafwyd ymateb gan Lywodraeth Cymru, a chytunwyd i ysgrifennu eto gan atodi sylwadau pellach y deisebydd ar gyfer eu hystyried, ac i ofyn am ymateb cyn gynted â phosibl.

 

2.12

P-05-1056 Rhowch rymoedd i Awdurdodau Lleol reoli'r farchnad dai yn ardaloedd gwledig a thwristaidd Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i ofyn pa gamau brys y mae hi'n ystyried eu cymryd i liniaru'r heriau o ran tai fforddiadwy mewn llawer o gymunedau yng Nghymru, i geisio ymateb pellach i'r cynigion a gyflwynwyd gan y deisebwyr gan gynnwys, er enghraifft, newidiadau posibl yn y dreth trafodiadau tir a’r dreth gyngor.

 

Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ofyn am i bwerau pellach gael eu rhoi i awdurdodau lleol i'w galluogi i unioni'r sefyllfa bresennol, a gofyn i'r Gweinidog fynd i'r afael â'r pwyntiau a godwyd gan y deisebwyr a'r Pwyllgor yn y datganiad y mae'n bwriadu ei wneud ym mis Ionawr 2021.

 

Cytunodd yr Aelodau i ddychwelyd at y ddeiseb, a’r posibilrwydd o ddadl bellach neu ymchwiliad penodol gan bwyllgor, yn dilyn y datganiad hwnnw, a nodwyd hefyd ddiddordeb mewn archwilio ymhellach fater posibl perchnogion ail gartrefi yn cofrestru eu heiddo ar gyfer ardrethi busnes er mwyn osgoi talu premiwm y dreth gyngor ar gyfer ail gartrefi.

 

2.13

P-05-1064 Ymestyn y Dreth Trafodiadau Tir chwe mis arall ar ôl 31 Mawrth a chodi’r trothwy i £300,000

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i nodi’r ddeiseb a’r ymateb a gafwyd. Yng ngoleuni datganiadau clir y Gweinidog fod y trothwy wedi cael ei osod i adlewyrchu'r farchnad eiddo yng Nghymru ac nad oes cynlluniau cyfredol i ymestyn y cyfnod, daeth y Pwyllgor i'r casgliad nad oedd llawer pellach y gellid ei gyflawni ar hyn o bryd. Diolchodd y Pwyllgor i’r deisebydd am godi’r mater hwn a chaeodd y ddeiseb.

 

2.14

P-05-1069 Arbed y tir fferm a'r caeau gwyrdd yn Cosmeston

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog Cyllid i rannu'r pryderon manwl pellach a godwyd gan y deisebydd a gofyn i Lywodraeth Gymru eu hystyried mewn perthynas â'r datblygiad, ac i ofyn am ymateb i'r pwyntiau penodol a godwyd gan y deisebydd.

 

Cytunodd yr Aelodau hefyd i ofyn sut mae Llywodraeth Cymru yn ceisio cydbwyso buddiannau sy’n gwrthdaro o ran diogelu'r amgylchedd a datblygu tai ychwanegol, gan gynnwys eiddo fforddiadwy.

 

2.15

P-05-1071 Dylid argraffu rhif cofrestru cerbydau ar becynnau bwyd brys a werthir drwy ffenest y car

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y ddeiseb ac ymateb Llywodraeth Cymru, gan gynnwys y strategaeth economi gylchol 'Mwy Nag Ailgylchu' a'r bwriad i gyhoeddi Cynllun Atal Sbwriel y flwyddyn nesaf, a fydd yn cynnwys camau i fynd i'r afael â thaflu sbwriel o gerbydau. Yng ngoleuni hyn, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu yn ôl at y Llywodraeth i dynnu sylw at ei ddiddordeb yn y cynnig yn y ddeiseb ac i aros am ymateb a sylwadau pellach gan y deisebydd cyn trafod a oes camau pellach y gallai eu cymryd.

 

 

2.16

P-05-1072 Ymchwilio i’r pwerau sydd gan Senedd Cymru mewn perthynas â gwahardd therapi newid cyfeiriadedd rhywiol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip i ofyn am ragor o wybodaeth am y camau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu hystyried, neu a fyddai’n eu hystyried, i atal therapi trosi rhag gallu digwydd yng Nghymru.

 

 

2.17

P-05-1073 Sefydlu ac adeiladu cangen newydd o Amgueddfa Cymru sy’n canolbwyntio ar ran Cymru mewn trefedigaethedd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd gan Lywodraeth Cymru a chytunodd i ysgrifennu at Amgueddfa Cymru i dynnu sylw at y ddeiseb a gofyn am wybodaeth bellach am y gwaith y mae'n ei wneud mewn perthynas â'r pwnc hwn.

 

 

2.18

P-05-1077 Peidiwch â newid ffin bleidleisio de Ystrad Mynach

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y ddeiseb a'r wybodaeth bellach a gafwyd. Cydnabu fod y cyfnod statudol ar gyfer cyflwyno sylwadau i Weinidogion Cymru ar y cynnig hwn yn dod i ben yn fuan a nododd ei ddisgwyliad y bydd y ddeiseb yn cael ei hystyried fel rhan o hyn. Cytunodd y Pwyllgor i ddwyn sylw’r Gweinidog i sylwadau ychwanegol y deisebydd ac, yn unol â’i benderfyniad ar ddeiseb flaenorol nad yw’n briodol iddo graffu ar gynigion diwygio ffiniau penodol, penderfynodd gau’r ddeiseb.

 

 

3.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

3.1

P-05-908 CF3 yn erbyn y Llosgydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i nodi'r wybodaeth bellach a gafwyd a nodi'r ffaith bod cais cynllunio bellach yn cael ei ystyried gan yr Arolygiaeth Gynllunio. O ystyried y broses gynllunio ffurfiol ar gyfer ystyried ceisiadau am Ddatblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol, cytunodd y Pwyllgor nad oes camau pellach y gall eu cymryd ar yr adeg hon. Gan hynny, cytunodd i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.

 

 

3.2

P-05-1003 Mynnu Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol nawr ynghylch gwaredu mwd wedi’i halogi’n radiolegol yn nyfroedd Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor sylwadau pellach a gafwyd yn dilyn y ddadl yn y Cyfarfod Llawn a gynhaliwyd ar 21 Hydref a chytunodd i ysgrifennu at Gyfoeth Naturiol Cymru i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am y broses drwyddedu morol ar gyfer y cais hwn ac ymateb i'r sylwadau pellach a wnaed gan y deisebwyr.

 

 

3.3

P-05-914 Mynediad Cyfartal i Ofal Iechyd ar gyfer yr Anabl

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i dynnu sylw at y wybodaeth bellach a gasglwyd ac at yr awgrymiadau ynghylch datblygu trefniadau clwstwr i bractisau meddygon teulu gael mynediad at offer a chynllun benthyca. Yn unol â chynnig y BMA, cytunodd y Pwyllgor hefyd i ofyn a fydd y Llywodraeth yn ystyried cychwyn trafodaethau â byrddau iechyd a grwpiau cleifion, fel SHINE, er mwyn ddatblygu atebion i'r broblem hon.

 

 

3.4

P-05-965 Annog y Llywodraeth i gyflwyno ward ar wahân, heblaw’r ward famolaeth, ar gyfer teuluoedd sy'n colli plentyn drwy gamesgoriad

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, i ddarparu crynodeb o'r sefyllfa a gasglwyd gan fyrddau iechyd ac i rannu'r ymatebion a gafwyd. Cytunodd hefyd i ofyn am ymateb pellach yn amlinellu pa gamau pellach y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu cymryd yng ngoleuni'r cyfleusterau a'r gwasanaethau a amlinellwyd.

 

 

3.5

P-05-995 Rhyddid i Roi Gwaed

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach ar y ddeiseb a'r cyhoeddiad a wnaed ar 14 Rhagfyr y bydd asesiad mwy unigol o roddwyr yn cael ei gyflwyno yn haf 2021, gyda'r canlyniad y bydd dynion LGBTQ+ yn gallu rhoi gwaed. Cytunodd y Pwyllgor i longyfarch y deisebydd ar y llwyddiant a gafwyd trwy ei ymgyrch ac i gau'r ddeiseb.

 

 

3.6

P-05-1001 Cynnal ymchwiliad annibynnol i'r dewis o safle ar gyfer y Ganolfan Ganser Velindre newydd arfaethedig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafodwyd y ddeiseb hon ar y cyd â P-05-1018 Cefnogaeth ar gyfer y cynlluniau arfaethedig presennol i adeiladu Canolfan Ganser Felindre newydd yng Nghaerdydd mewn unrhyw ymchwiliad yn y dyfodol.

 

Yng ngoleuni'r dystiolaeth newydd gan nifer o bartïon a’r ffaith bod y cyngor a ddarparwyd gan Ymddiriedolaeth Nuffield wedi cael ei gyhoeddi yn ddiweddar, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol er mwyn:

·         Tynnu sylw at y wybodaeth a gafodd y Pwyllgor yng nghyd-destun y gwaith craffu ar yr Achos Busnes Amlinellol o fewn Llywodraeth Cymru;

·         Gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am statws cyfredol y gwaith hwn yn sgil cyhoeddi cyngor Ymddiriedolaeth Nuffield, a amserlen ddangosol ar gyfer ystyriaeth bellach o’r Achos Busnes Amlinellol gan Lywodraeth Gymru; a

·         Gofyn am ymateb i bwyntiau pellach a wnaed gan y deisebwyr ar gyfer P-05-1001 mewn perthynas â'u barn bod angen adolygiad annibynnol llawn o'r model clinigol o hyd, cyn i benderfyniad gael ei wneud ar y prosiect.

 

 

 

3.7

P-05-1018 Cefnogaeth ar gyfer y cynlluniau arfaethedig presennol i adeiladu Canolfan Ganser Felindre newydd yng Nghaerdydd mewn unrhyw ymchwiliad yn y dyfodol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafodwyd y ddeiseb hon ar y cyd â P-05-1001 Cynnal ymchwiliad annibynnol i'r dewis o safle ar gyfer y Ganolfan Ganser Felindre newydd arfaethedig.

 

Yng ngoleuni'r dystiolaeth newydd gan nifer o bartïon a’r ffaith bod y cyngor a ddarparwyd gan Ymddiriedolaeth Nuffield wedi cael ei gyhoeddi yn ddiweddar, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol er mwyn:

·         Tynnu sylw at y wybodaeth a gafodd y Pwyllgor yng nghyd-destun y gwaith craffu ar yr Achos Busnes Amlinellol o fewn Llywodraeth Cymru;

·         Gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am statws cyfredol y gwaith hwn yn sgil cyhoeddi cyngor Ymddiriedolaeth Nuffield, a amserlen ddangosol ar gyfer ystyriaeth bellach o’r Achos Busnes Amlinellol gan Lywodraeth Gymru; a

·         Gofyn am ymateb i bwyntiau pellach a wnaed gan y deisebwyr ar gyfer P-05-1001 mewn perthynas â'u barn bod angen adolygiad annibynnol llawn o'r model clinigol o hyd, cyn i benderfyniad gael ei wneud ar y prosiect.

 

 

3.11

P-05-992 Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i greu corff cyffredin o wybodaeth am Hanes Cymru fydd pob disgybl yn ei ddysgu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i nodi'r cyfraniadau a wnaed yn ystod y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar 4 Tachwedd, yr ymatebion ysgrifenedig a gafwyd, a'r argymhelliad ynglŷn â hanes Cymru a wnaed gan y Pwyllgor PPIA yn ei adroddiad craffu Cyfnod 1 ar y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru).

 

Gan fod dadl bellach wedi’i chynnal, mae gwaith craffu yn cael ei wneud gan bwyllgor arall, a chan fod Estyn yn cynnal adolygiad o’r modd yr addysgir hanes Cymru, daeth y Pwyllgor i’r casgliad nad oes llawer pellach y gallai’r Pwyllgor Deisebau ei gyflawni ar hyn o bryd. Cytunodd i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd am ei ymgyrchu parhaus ar y pwnc hwn.

 

3.9

P-05-883 - Wythnos Genedlaethol Hanes Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Yng ngoleuni'r sylw a roddwyd i’r cyfleoedd cyfredol i ddysgu am hanes Cymru yn y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar P-05-992 Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i greu corff cyffredin o wybodaeth am Hanes Cymru fydd pob disgybl yn ei ddysgu, ac addewid blaenorol y Dirprwy Weinidog i drafod sut y gall gwaith hyrwyddo ddatblygu naratif ehangach, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.

 

 

3.10

P-05-1025 Tegwch i fyfyrwyr sy'n sefyll arholiadau yn 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth bellach a gafwyd a’r amlinelliad o'r camau sy'n cael eu cymryd i addasu cynnwys y cwrs a’r asesiad ohono yn y fframwaith rheoleiddio. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gymwysterau Cymru i ofyn am eu hymateb i'r ddeiseb ac i'r wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd yn ddiweddar gan y deisebwyr a CBAC, cyn ystyried a oes camau pellach y gallai eu cymryd.

 

 

Sylwadau Cloi'r Cadeirydd

Wrth ddod â’r cyfarfod i ben, roedd y Cadeirydd am ddiolch i Dîm Clercio’r Pwyllgor, Aelodau’r Pwyllgor a phawb a ddangosodd ddiddordeb a chyflwyno Deisebau i’r Pwyllgor y llynedd.

Wrth gloi’r cyfarfod, dymunodd y Cadeirydd Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i bawb.