Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Graeme Francis 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 13/10/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod a gwnaeth ddatganiad byr am ymddygiad yn ystod cyfarfodydd a thu allan iddynt.

 

 

(9.00 -9.20)

2.

Deisebau newydd Covid-19

2.1

P-05-997 Gadewch i bobl Cymru ddefnyddio ap Tracio ac Olrhain yr Almaen! Allwn ni ddim aros am ap o Loegr!

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i gau'r ddeiseb oherwydd bod ap olrhain Covid-19 wedi’i lansio ar 24 Medi, ac felly ei bod yn debygol nad oes llawer y gellid ei gyflawni drwy wneud rhagor o ran y ddeiseb.

 

2.2

P-05-1014 Rhowch statws "gweithiwyr allweddol" i bractisau deintyddol a'u staff

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Mynegodd y Pwyllgor ei siom ynghylch y diffyg

ymateb amserol i'r ddeiseb gan Lywodraeth Cymru, a chytunodd i ysgrifennu eto i ofyn am ymateb i hyn ac ymateb dilynol gan y deisebydd cyn ystyried y ddeiseb eto.

 

2.3

P-05-1021 Peidiwch â gwneud mygydau na gorchuddion wyneb yn orfodol mewn DIM ysgolion (gan gynnwys ysgolion uwchradd)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:

 

·         ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog Addysg i ofyn pa ganllawiau sydd ar gael i ddisgyblion ynghylch gwisgo gorchuddion wyneb a beth sy'n cael ei wneud i hwyluso gwaredu mygydau wyneb yn ddiogel ac mewn modd cyfeillgar i'r amgylchedd mewn ysgolion. 

·         I aros am sylwadau pellach gan y deisebydd.

 

 

 

2.4

P-05-1025 Tegwch i fyfyrwyr sy'n sefyll arholiadau yn 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:

 

·         aros am ganfyddiadau'r adolygiad annibynnol sy'n cael ei gynnal ar hyn o bryd i ddyfarnu graddau yn 2020 a 2021 a’r penderfyniadau y disgwylir i'r Gweinidog Addysg eu gwneud yn fuan; ac

·         ysgrifennu at Gydbwyllgor Addysg Cymru (CBAC) i ofyn am ymateb i bryderon y deisebwyr ynghylch y gwahaniaethau yn y dull o addasu cynnwys cyrsiau sy'n digwydd o ran pynciau unigol, a’r alwad am ragor o ddewisoldeb mewn papurau arholiad os na chaiff cynnwys cyrsiau ei leihau.

 

 

2.5

P-05-1027 Caniatáu clybiau pêl-droed domestig Cymru i chwarae gemau cyfeillgar, a chaniatáu cefnogwyr i fynd i'r gemau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Jack Sargeant y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae'n aelod o fwrdd clwb pêl-droed yng Nghymru.

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y canlynol:

  • Cymdeithas Bêl-droed Cymru i ofyn ei barn ar y materion a godwyd gan y ddeiseb a gwybodaeth am y sefyllfa ddiweddaraf o ran pêl-droed domestig yng Nghymru, gan gynnwys y trafodaethau sy'n digwydd yn eu gweithgorau gyda chlybiau, y posibiliadau i gefnogwyr fod yn bresennol mewn gemau yn ddiogel, a hyfywedd ariannol parhaus cynghreiriau a chlybiau; ac at
  • y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon i ofyn am fanylion canlyniad y digwyddiadau prawf y cyfeiriwyd atynt yn ei ohebiaeth flaenorol, am sail wyddonol y cyfyngiadau cyfredol ar gefnogwyr yn mynychu digwyddiadau chwaraeon, yr ystyriaeth sy’n cael ei rhoi i gyllid ar gyfer clybiau domestig, a gofyn am roi rhagor o ystyriaeth i ganiatáu rhai gwylwyr i fod yn bresennol mewn gemau pêl-droed os gellir gwneud hyn wrth gadw pellter cymdeithasol.

 

2.6

P-05-1028 Llaciwch y cyfyngiadau gormodol i ganiatáu i ralïau chwaraeon modur gael eu cynnal yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

(09.30 - 10.00)

3.

Sesiwn Dystiolaeth - P-05-886 Stopio'r Llwybr Coch (coridor yr A55/A494)

Ken Skates – Gweinidog yr Economi, Thrafnidiaeth a Gogledd Cymru

 

Andy Falleyn - Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Cyflenwi Seilwaith

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru ac Andy Falleyn.

 

 

(10.00 - 10.10)

4.

Deisebau Newydd Eraill

4.1

P-05-1022 Dilyn Llywodraeth yr Alban a dysgu hanes LGBTQ Cymru ym mhob ysgol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i nodi'r ddeiseb a'r ymatebion a gafwyd, gan gynnwys boddhad eang y deisebwyr. Yng ngoleuni'r blaenoriaethu o ran hyblygrwydd pynciau a addysgir yn y cwricwlwm newydd a chyflwyno Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb statudol, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog Addysg i bwysleisio pwysigrwydd ymdrin â'r mater hwn a chau'r ddeiseb.

 

 

4.2

P-05-1023 Cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer biniau ailgylchu a chasglu deunyddiau i'w hailgylchu ym mhob lleoliad addysg yng Nghymru.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ac, yng ngoleuni'r cyllid sydd ar gael drwy Gronfa’r Economi Gylchol a boddhad y deisebydd, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb, a diolch i'r deisebydd am dynnu sylw at y mater hwn.

 

 

4.3

P-05-1026 Deiseb i wahardd maglu bywyd gwyllt i’w defnyddio yn y fasnach ffwr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i ofyn am fanylion ar waith a wnaed ers cyhoeddi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig ar ddefnyddio maglau yng Nghymru, gan gynnwys mewn perthynas â chasglu data ac adolygiadau blynyddol o'r Cod Ymarfer.

 

(10.10 - 10.30)

5.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

5.1

P-05-825 Diogelu ysgyfaint plant rhag llygredd niweidiol tra maent yn yr ysgol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ddiweddariad ar y ddeiseb a chytunodd i nodi cyhoeddi'r Cynllun Aer Glân a sylwadau pellach y deisebwyr.  Yng ngoleuni boddhad y deisebwyr â llawer o gynnwys y Cynllun a natur ehangach y camau gweithredu y maent am eu gweld i wella ansawdd aer yn gyffredinol, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb ac, wrth wneud hynny:

 

o   ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig i rannu sylwadau manwl y deisebwyr, er mwyn llywio Ymchwiliad cyfredol y Pwyllgor i ansawdd aer; a

o   ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i roi’r sylwadau manwl ychwanegol am Gynllun Aer Glân Llywodraeth Cymru a'r cynigion ar gyfer Papur Gwyn ar Ddeddf Aer Glân newydd, er gwybodaeth.

 

 

5.2

P-05-937 Dylid stopio berwi cramenogion yn fyw (cimychiaid, crancod, cimychiaid afon, corgimychiaid ac ati)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ddiweddariad ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i ofyn pa ystyriaeth a roddwyd hyd yma gan Lywodraeth Cymru i ddefnyddio ei phwerau o dan Adran 1 o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006 i ymestyn y diffiniad o “anifail’ i gynnwys infertebratau ar sail lles anifeiliaid, a pha dystiolaeth sydd wedi'i hystyried fel rhan o hyn.

 

5.3

P-05-963 Dylid ei gwneud yn ofynnol i archfarchnadoedd roi unrhyw fwyd sydd dros ben i elusennau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ddiweddariad ar y ddeiseb, a chytunodd i:

 

o   ysgrifennu at y pwyllgor yn Nhŷr Cyffredin syn gyfrifol am graffu ar Fil Amgylchedd y DU i nodi ei gefnogaeth ir darpariaethau perthnasol syn cael eu darparu i Weinidogion Cymru; ac i

o   ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i annog bod pwerau ychwanegol yn cael eu defnyddio, pan fyddant ar gael, i'w gwneud yn ofynnol i archfarchnadoedd roi bwyd sydd dros ben.

 

 

5.4

P-05-798 Gwasanaethau cymorth i ddynion sy'n ddioddefwyr trais yn y cartref i gael eu rhedeg a'u cyllido'n annibynnol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Neil McEvoy y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae wedi bod yn ddefnyddiwr gwasanaeth o ran y deisebwyr, ac yn gwirfoddoli i’r mudiad a gynrychiolant.

Ystyriodd y Pwyllgor ddiweddariad ar y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu yn ôl at y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip, gyda chynnwys y llythyr i'w gytuno y tu allan i'r cyfarfod.

 

 

5.5

P-05-906 Achub Ward Sam Davies yn Ysbyty y Barri

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ddiweddariad ar y ddeiseb a chytunwyd i gau'r ddeiseb yng ngoleuni'r ffaith bod Ward Sam Davies wedi aros ar agor a bod y deisebwyr yn fodlon â'r sefyllfa bresennol.

 

 

 

5.6

P-05-743 Rhowch derfyn ar fasnachu anifeiliaid anwes egsotig yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Yng ngoleuni'r diffyg cyswllt diweddar gan y deisebydd, a'r cadarnhad gan y Gweinidog na fydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno rheoliadau newydd na Chod Ymarfer yn ystod gweddill tymor y Senedd hon, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb.

 

5.7

P-05-864 Gwahardd y defnydd o 'Bensaernïaeth Elyniaethus'

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Yng ngoleuni'r diffyg cyswllt gan y deisebydd, lansiad y Siarter Gwneud Lle ym mis Medi ac ymrwymiad y Gweinidog i gynnwys sefydliadau sy'n cefnogi pobl ddigartref mewn gwaith perthnasol ar y mater hwn, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb a darparu manylion y dystiolaeth a ystyriwyd gan y Pwyllgor i’r deisebwyr.

 

 

(10.30)

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:

Item 7

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

 

(10.30 - 11.00)

7.

Trafod y Sesiwn Tystiolaeth - P-05-886 Stopio'r Llwybr Coch (coridor yr A55/A494)

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y sesiwn dystiolaeth a chytunwyd i ofyn am farn y deisebydd ar y dystiolaeth a ddarparwyd gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru.