Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Graeme Francis
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 21/01/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Dogfennau ategol: |
|
Deisebau newydd |
|
P-05-924 Sicrhau bod Llysgenhadon Llesiant ym mhob ysgol yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i wahodd Llysgenhadon Lles Ysgol
Dŵr y Felin i roi tystiolaeth bellach ar eu rôl, naill ai trwy gyfarfod â’r
Pwyllgor neu ddarparu hyn ar ffilm. |
|
P-05-929 Annog y defnydd o ‘Cymru’ a ‘Cymry’ wrth gyfeirio atom ein hunain yn y Gymraeg a’r Saesneg Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i rannu’r wybodaeth bellach a
ddarparwyd gan y deisebydd gyda Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol
a gofyn am ei hymateb i’r pwyntiau ychwanegol a nodwyd. |
|
P-05-931 Eli haul mewn ysgolion Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros i glywed barn y deisebydd
ar yr ymateb a ddarparwyd gan y Gweinidog Addysg cyn penderfynu a ddylid cymryd
camau pellach ynghylch y ddeiseb. |
|
P-05-932 Addysg ar alergeddau bwyd mewn ysgolion a hyfforddiant EPI-PEN gorfodol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog
Addysg i ofyn am eglurhad ar y gwaith o fonitro gweithrediad y canllawiau a
gofyn iddynt sicrhau yr ymgynghorir â’r deisebydd a phobl eraill sydd â
phrofiad byw wrth adolygu’r dull ar gyfer alergeddau ac imiwnoleg o safbwynt
iechyd. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i gynnig bod swyddogion y Gweinidog yn cwrdd
â’r deisebydd i drafod y cymorth presennol i blant ag alergeddau mewn ysgolion. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
P-05-724 Hawliau i Ofal Iechyd Sylfaenol yn Gymraeg Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth bellach a chytunodd i gau’r ddeiseb ar y sail ei bod yn
ymddangos nad oes llawer mwy y gall y ddeiseb ei gyflawni yn sgil y ffaith bod y Rheoliadau
wedi’u gweithredu’n ddiweddar a’r sicrwydd a roddwyd gan y Gweinidog mai pwrpas
yr adolygiad fydd ceisio canfod ffyrdd i’w cryfhau. |
|
P-05-751 Cydnabod achosion o Ddieithrio Plentyn oddi wrth Riant Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd Neil
McEvoy y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A: Mae’n
gyn-ddefnyddiwr gwasanaeth y deisebwyr ac wedi cyflogi’r prif ddeisebydd yn y
gorffennol. Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth bellach a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at Cafcass Cymru i
ofyn am eu hymateb i’r cynigion ar gyfer monitro’r gwaith o weithredu
canllawiau Anfodlonrwydd neu Wrthodiad Plant i Dreulio Amser gyda Rhiant,
gan gynnwys y dangosyddion a awgrymir, a wnaed gan y deisebwyr. |
|
P-05-754 Diffyg cymorth i blant ag anableddau mewn argyfwng Dogfennau ategol:
Cofnodion: |
|
P-05-870 Gadewch i ni Sicrhau y Caiff Calon Pob Person Ifanc (10-35 oed) ei Sgrinio Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth bellach a chytunodd i ofyn am awgrymiadau ar gyfer unrhyw
ffynonellau gwybodaeth neu dystiolaeth bellach, yn sgil penderfyniad Pwyllgor
Sgrinio Cenedlaethol y DU i beidio ag argymell sgrinio poblogaeth systematig ar
gyfer cyflyrau cardiaidd sy’n gysylltiedig â SCD yn yr ifanc yn dilyn adolygiad
diweddar o dystiolaeth. |
|
P-05-892 Penodi Comisiynydd Anabledd Dysgu i Gymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth bellach a chytunodd i nodi’r wybodaeth a ddarparwyd
ynghylch sut y caiff y gwaith o weithredu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a
Llesiant (Cymru) ei werthuso. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i gau’r ddeiseb yn sgil
y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod sefydlu swydd Comisiynydd Anabledd
Dysgu ar hyn o bryd, a bod y deisebwyr wedi derbyn hyn yn flaenorol. |
|
P-05-750 Ar gyfer eitemau untro: cyflwyno System Dychwelyd Ernes ar gyfer cynwysyddion diodydd a sicrhau y gellir compostio cynwysyddion bwyd cyflym a’r offer sy’n gysylltiedig â hwy. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y wybodaeth bellach a chytunodd i ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog Tai
a Llywodraeth Leol i ofyn am ddiweddariad ar gyfraniad Llywodraeth Cymru i’r
gwaith i ddatblygu Cynllun Dychwelyd Ernes ar gyfer cynwysyddion diodydd yng
Nghymru a Lloegr, yn dilyn yr ymgynghoriad blaenorol yn 2019 ac i ofyn beth yn
fwy y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i helpu i gyflwyno Cynllun Dychwelyd
Ernes yng Nghymru. |
|
P-05-803 Mae ein byd naturiol yn cael ei wenwyno gan blastigau untro...mae'n bryd cyflwyno treth! Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog cyllid i
ofyn am ddiweddariad ar gyfraniad Llywodraeth Cymru i waith Llywodraeth y DU i
weithredu treth ar becynnau plastig, ac opsiynau trethi penodol sy’n cael eu
hystyried ar hyn o bryd i Gymru. |
|
P-05-829 Gwahardd Eitemau Plastig Untro yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i gau’r ddeiseb yn sgil y camau sy’n
cael eu cymryd ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru i gyflwyno gwaharddiad neu
gyfyngiadau ar eitemau plastig defnydd sengl, a chydnabod yr amserlenni sy’n gysylltiedig
â chyflwyno gwaharddiad o’r fath. |
|
P-05-822 Gwahardd gwellt plastig (wrth yfed llaeth) yn ein hysgolion Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth bellach a chytunodd i gau’r ddeiseb yn sgil y wybodaeth a
dderbyniwyd gan y Pwyllgor am y camau sy’n cael eu cymryd i leihau neu ddileu’r
defnydd o wellt plastig a bwriad Llywodraeth Cymru i gyflwyno gwaharddiad neu
gyfyngiadau ar eitemau plastig untro yn y dyfodol, a’r amgylchiadau mewn
perthynas â chyfyngu ar eu defnydd mewn ysgolion drwy drefniadau lleol a
chontractau caffael. Roedd y Pwyllgor
hefyd am longyfarch Senedd Ysgol y Wern ar eu defnydd o’r broses ddeisebu a
diolch i’r ysgol a’r disgyblion am eu hymgysylltiad trwy gydol ystyriaeth y
Pwyllgor o’r mater hwn. |
|
P-05-801 Rhaid achub y coed a'r tir yng Ngerddi Melin y Rhath a Nant y Rhath cyn iddi fynd yn rhy hwyr Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor ohebiaeth ychwanegol a chytunodd i: ·
barhau i gadw golwg craff ar y
mater a gofyn am ddiweddariad pellach ar ôl i fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru
ystyried opsiynau, a ragwelir fydd yn gynnar yn 2020; ac ·
aros am gael barn y deisebwyr am y
sefyllfa bresennol. |
|
P-05-815 Rheoli’r Diwydiant Dofednod Dwys Sy’n Ehangu’n Gyflym yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth bellach a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at Weinidog yr
Amgylchedd i rannu pryderon y deisebwyr a gofyn iddi ymateb i’r cwestiynau a
ofynnwyd gan y deisebwyr yn eu gohebiaeth ddiweddaraf, a hefyd rhannu’r
ohebiaeth gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a gofyn am eu hymatebion i’r materion
sy'n berthnasol iddynt. |
|
P-05-825 Diogelu ysgyfaint plant rhag llygredd niweidiol tra maent yn yr ysgol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth bellach a chytunodd i aros am ganlyniad yr ymgynghoriad
presennol ar y Cynllun Aer Glân drafft ar gyfer Cymru ac unrhyw newidiadau neu
welliannau y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu gwneud o ganlyniad, cyn trafod
y ddeiseb eto. |
|
P-05-911 Dylid Diogelu Coed Yw Hynafol Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i ysgrifennu at Cadw i ofyn am fanylion
am unrhyw amddiffyniadau a roddir i goed hynafol fel ywen yng Nghymru, neu
unrhyw gynlluniau y gellid eu defnyddio at y diben hwn. |
|
P-05-783 Sicrhau Cydraddoldeb Cwricwlwm i Ysgolion Cyfrwng Cymraeg e.e. Seicoleg TGAU Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth bellach a chytunodd i aros am ganlyniadau ymgynghoriad
Cymwysterau Cymru, Cymwys ar gyfer y Dyfodol, a thrafod y ddeiseb eto
bryd hynny. |
|
P-05-805 Rhoi chwarae teg i Athrawon Cyflenwi Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i lunio adroddiad o’i
ystyriaeth o’r ddeiseb. |
|
P-05-828 Rhagdybiaeth o blaid Ysgolion Gwledig Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth bellach a chytunodd i gau’r ddeiseb yn sgil y ffaith bod
y Gweinidog Addysg wedi dangos parodrwydd i ymyrryd o’r blaen mewn sefyllfaoedd
lle mae pryderon nad yw awdurdodau lleol wedi dilyn y Cod Trefniadaeth
Ysgolion, ac oherwydd ei bod yn ymddangos nad oes llawer o arwydd y bydd
Llywodraeth Cymru yn cyflwyno proses apelio yn erbyn cau ysgolion ar hyn o
bryd. Roedd y Pwyllgor am ddiolch i’r deisebwyr am eu hymgysylltiad a dymuno’n
dda iddynt ar gyfer y dyfodol. |
|
P-05-884 Diwygio Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 i gynnwys sefydliadau’r DU sydd â gweithrediadau dramor Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth bellach a chytunodd i ysgrifennu’n ôl at y Gweinidog
Addysg i ofyn am ymateb pellach ar fater dynodi’r cyrsiau penodol yn Sefydliad
Prifysgol Llundain ym Mharis fel rhai sy’n gymwys i gael cyllid, fel dewis
arall yn lle gwneud newidiadau ehangach i’r Rheoliadau. |
|
P-05-888 Gwneud TGAU Iaith Gymraeg yn orfodol ym mhob ysgol yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth bellach a chytunodd i aros am gyfnod byr i gael barn
bellach gan y deisebydd, gyda’r bwriad o gau’r ddeiseb ar y sail ei bod yn
ymddangos nad oes llawer mwy y gallai’r ddeiseb ei chyflawni yn sgil y
wybodaeth a gafwyd gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Ysgolion Annibynnol
Cymru. |
|
P-05-891 Mae angen dod â phrofion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol ar gyfer plant mor ifanc â 6 oed i ben ar unwaith Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth bellach a chytunodd i gau’r ddeiseb ar y sail bod y
Gweinidog Addysg wedi darparu ei rhesymeg dros ddarparu asesiadau safonol i
fesur gallu plant mewn llythrennedd a rhifedd gan ddechrau o Flwyddyn 2, ac yn
sgil y ffaith bod asesiadau personol ar-lein newydd wrthi’n cael eu cyflwyno. |
|
P-05-909 Hyrwyddo'r defnydd o iaith arwyddion Makaton ym mhob ysgol yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth bellach a chytunodd i ysgrifennu eto at y Gweinidog
Addysg, gan nodi y bydd ysgolion yn gallu penderfynu pa ‘ieithoedd rhyngwladol’
sydd fwyaf priodol i’w hamgylchiadau penodol o dan y cwricwlwm newydd, a gofyn
pa gyfleoedd fyddai yna i Lywodraeth Cymru (neu eraill) annog neu gefnogi
darpariaeth fwy anffurfiol o Makaton mewn ystafelloedd dosbarth, er enghraifft drwy
ddysgu arwydd dyddiol. |
|
P-05-818 Cyflwyno Cofrestr o Lobïwyr yng Nghymru Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor i aros am farn y deisebwyr gyda’r bwriad o gau’r ddeiseb yn sgil
bwriad y Pwyllgor Safonau i wneud gwaith pellach ar y mater hwn a nodi cynnig
ar gyfer y chweched Cynulliad. |
|
P-05-853 Na i gau Cyffordd 41 o gwbl Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i aros i ganlyniadau monitro pellach
gael eu cyhoeddi ar y terfyn cyflymder 50mya rhwng cyffyrdd 41 a 42, a datblygu
Mesurau Cadw Rhagofal ac ymgysylltu â rhanddeiliaid, ym mis Mawrth 2020. |
|
P-05-863 Darparu cynhyrchion hylendid am ddim i bob menyw mewn cartrefi incwm isel Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor ohebiaeth ychwanegol a chytunodd i: ·
aros am farn y deisebwyr am y
wybodaeth a ddarparwyd, a ·
chadw golwg manwl ar unrhyw
ddatblygiadau pellach ar y pwnc hwn. |
|
P-05-882 Trawsnewid yr ymateb i bobl hŷn sy'n dioddef camdriniaeth ddomestig - galw am weithredu Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth bellach a chytunodd i ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog
a’r Prif Chwip i: ·
ofyn i’w swyddogion ymgysylltu’n uniongyrchol
â’r deisebwyr ar y pwyntiau y maent yn eu codi mewn perthynas â manylion
hyfforddiant ac arweiniad proffesiynol, a sut y gall gwasanaethau adlewyrchu
anghenion pobl hŷn sy’n profi cam-drin domestig yn well; a ·
gofyn pa gyfran o’r cyllid sy’n cael
ei ddyrannu ar gyfer gwasanaethau allgymorth, y gall pobl hŷn eu cyrchu,
ac a yw’r gwasanaethau hyn ar gael ym mhob rhan o Gymru. |
|
P-05-871 Trefnu bod cyfleusterau newid cewynnau ar gael mewn toiledau i ddynion a thoiledau i fenywod Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor i aros am ymateb i ohebiaeth ddiweddar y mae wedi’i hysgrifennu mewn
perthynas â chynyddu’r ddarpariaeth o doiledau lleoedd newid, cyn ystyried
ymhellach sut y gall polisïau cynllunio ymdrechu i wella’r ystod o gyfleusterau
toiledau sydd ar gael. Cytunodd y
Pwyllgor hefyd i ysgrifennu at Gomisiwn y Cynulliad mewn perthynas ag awgrym
bod arwyddion ar sail rhyw yn y Senedd. |
|
P-05-865 Dylid gwarantu bod dewisiadau sy’n seiliedig yn llwyr ar blanhigion ar bob bwydlen y sector cyhoeddus, i ddiogelu hawliau figaniaid ac er budd ein hiechyd, yr amgylchedd ac anifeiliaid Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i ofyn am friff cyfreithiol ar y
cwestiwn a oes angen deddfwriaeth sylfaenol er mwyn cyflawni’r newidiadau a
geisir gan y deisebwyr; ac yn dilyn hynny, ysgrifennu eto at Lywodraeth Cymru i
wneud cynigion perthnasol ar sut i fynd i’r afael â’r mater hwn. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn: Item 5 Cofnodion: Derbyniwyd y
cynnig. |
|
Ystyried ymateb drafft a anfonwyd at Gadeirydd y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor ar gynnwys drafft llythyr mewn ymateb i gais am wybodaeth gan
Gadeirydd y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad. |