Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Graeme Francis
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 19/11/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Dogfennau ategol: Cofnodion: Cafwyd
ymddiheuriadau gan Neil McEvoy AC. |
|
Deisebau newydd |
|
P-05-909 Hyrwyddo'r defnydd o iaith arwyddion Makaton ym mhob ysgol yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf, a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog
Addysg yn gofyn: ·
pa gyfleoedd sydd ar gael i Lywodraeth
Cymru hyrwyddo’r manteision o roi cyfleoedd i ddisgyblion ddysgu Makaton, neu
fathau eraill o iaith arwyddion, mewn ysgolion yng Nghymru, naill ai drwy'r
cwricwlwm newydd neu ddulliau eraill; a ·
pha gyfleoedd eraill sydd ar gael i
ddysgu Makaton, megis dosbarthiadau addysg i oedolion, a gefnogir gan
Lywodraeth Cymru. |
|
P-05-911 Dylid Diogelu Coed Yw Hynafol Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf, a chytunodd ar y camau a ganlyn: ·
gofyn am ragor o wybodaeth gan y
deisebydd am y camau penodol yr hoffai weld Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i
sicrhau mesurau diogelu ychwanegol i goed yw hynafol; ac ·
ysgrifennu yn ôl at Weinidog yr
Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i ofyn iddi amlinellu'r argymhellion a
wnaed yn flaenorol gan y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar goed hynafol a hynod,
a choed treftadaeth, a sut y mae Llywodraeth Cymru wedi bwrw ymlaen â’r rhain
ers hynny. |
|
P-05-912 Cynorthwyo teuluoedd sy’n colli plant a phobl ifanc yn sydyn ac yn annisgwyl Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf, a chytunodd i aros am ganfyddiadau'r
adolygiad i wasanaethau profedigaeth yng Nghymru, ac ymateb y deisebydd i'r
rheini, cyn ystyried cymryd rhagor o gamau mewn perthynas â’r ddeiseb. Hefyd, am fod y
ddeiseb wedi cael dros 5000 o lofnodion, cytunodd y Pwyllgor i ofyn am
gymeradwyaeth gan y Pwyllgor Busnes i gynnal dadl yn y Cyfarfod Llawn ar ôl
cyhoeddi'r adolygiad o wasanaethau profedigaeth. |
|
P-05-913 Creu Llwybr Amlddefnydd Lôn Las Môn Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf, a
chytunodd ar y camau a ganlyn: ·
ysgrifennu at
Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn gofyn iddi: ·
roi manylion
ynghylch sut yr ymatebodd Llywodraeth Cymru i ymgynghoriad blaenorol Diwydiant
Network Rail mewn perthynas â’r rheilffordd hon; ·
beth yw statws
presennol y cynnig ar gyfer gorsaf newydd yn Llangefni; ac ·
a fyddai
Llywodraeth Cymru yn ystyried rhoi cyllid i ailagor y rheilffordd hwn. ·
ysgrifennu at
Gyngor Ynys Môn i ofyn am ei farn ynghylch sut y gellid defnyddio Rheilffordd
Ganolog Ynys Môn yn y dyfodol ac a fydd yn ystyried rhoi rhagor o gyllid i
gefnogi’r gwaith i ddatblygu unrhyw un o’r rhain. |
|
P-05-914 Mynediad cyfartal i ofal iechyd ar gyfer yr anabl Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth bellach ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y
Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gofyn i: ·
roi’r wybodaeth ychwanegol a
gyflwynwyd gan y deisebydd; ·
gofyn am ymateb i'r cynnig y
dylai'r Llywodraeth sicrhau bod gan bob meddygfa teulu welyau triniaeth anabl y
gellir eu haddasu a theclynnau codi at ddefnydd cleifion anabl drwy gyllid neu
ddulliau eraill; ·
gofyn am unrhyw enghreifftiau o
arfer gorau y gallai'r Gweinidog eu rhannu â byrddau iechyd; a ·
gofyn pa ystyriaeth a roddwyd i
ffurfioli'r gofynion mewn deddfwriaeth, y tu hwnt i'r canllawiau sydd ar gael
ar hyn o bryd. |
|
P-05-915 Galwad am well gorfodaeth o ffermydd cŵn bach yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: O ystyried
tebygrwydd y materion a godwyd, cytunodd y Pwyllgor i grwpio'r ddeiseb gyda P-05-856 Rhaid gwahardd gwerthu cŵn bach gan siopau anifeiliaid anwes a phob gwerthwr
trydydd parti masnachol yng Nghymru a'u trafod gyda’i gilydd yn y
dyfodol, gan gynnwys pan geir ymateb i lythyr diweddar y Pwyllgor at Weinidog
yr Amgylchedd yn gofyn am amserlen ar gyfer cwblhau'r adolygiad 'brys' o'r
rheoliadau bridio cŵn. |
|
P-05-916 Cyllid digonol i ddiogelu lles anifeiliaid fferm yn lladd-dai Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i: ·
ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn am
gadarnhad o lefelau'r cyllid y mae Llywodraeth Cymru wedi'u darparu i’r Asiantaeth Safonau Bwyd ar gyfer
2019/20, ac ar gyfer pob un o'r tair blynedd diwethaf, er mwyn goruchwylio’r
rheolaethau llesiant mewn lladd-dai yng Nghymru; a ·
diwygio'r adroddiad ar ddeiseb
P-04-433 : Teledu Cylch Cyfyng mewn Lladd-dai i sicrhau ei fod hefyd yn
cwmpasu'r ddeiseb hon a'r wybodaeth newydd a dderbynnir, ac i drafod drafft
pellach o'r adroddiad mewn cyfarfod yn y dyfodol. |
|
Diweddariadau i ddeisebau blaenorol |
|
P-05-805 Rhoi chwarae teg i Athrawon Cyflenwi Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i
ysgrifennu at y Gweinidog Addysg, cyn llunio adroddiad ar y mater hwn, i ofyn
am y canlynol: ·
diweddariad ar y
gwaith o weithredu’r fanyleb fframwaith gwasanaeth newydd a reolir ar gyfer
gweithwyr asiantaeth; ·
ymateb i'r pwyntiau
a godwyd gan asiantaethau cyflenwi a'r deisebydd ynghylch y ffaith nad yw'r
gyfradd isafswm cyflog cenedlaethol yn cael ei dilyn mewn rhai achosion nac yn
cael ei gadarnhau gan ddeddfwriaeth; a ·
gwybodaeth am y
camau gweithredu nesaf yn dilyn y gwerthusiad diweddar o'r Prosiect Model
Cyflenwi Clwstwr mewn Ysgolion. |
|
P-05-860 Dylid gwneud Gwersi Sgiliau Bywyd yn Orfodol ar y cwricwlwm Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor i aros am farn y deisebydd ynglŷn â’r datblygiadau diweddaraf, gan gynnwys yr adroddiad diweddar a luniwyd gan
Senedd Ieuenctid Cymru, cyn ystyried a all gymryd unrhyw gamau pellach mewn
ymateb i’r ddeiseb. |
|
P-05-861 Gwneud addysg wleidyddol yn elfen orfodol o'r cwricwlwm cenedlaethol newydd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor i barhau i aros am ymateb arall gan y deisebydd i'r wybodaeth a
dderbyniwyd gan y Pwyllgor, gan gynnwys adroddiad Senedd Ieuenctid Cymru, cyn
ystyried a all gymryd camau pellach ar y ddeiseb. |
|
P-05-880 Mae Cymru yn prysur golli ei henw da o ran cerddoriaeth, a’i threftadaeth Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor ohebiaeth ychwanegol a chytunodd i: ·
ysgrifennu eto at y Cyngor Addysg
Cerddoriaeth a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ofyn am ymatebion ac, yn
achos yr olaf, gwybodaeth am ddosbarthiad y cyllid blaenorol a roddwyd i
awdurdodau lleol; ·
ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog
Addysg i ofyn am ragor o wybodaeth am yr hyn sydd wedi achosi'r oedi wrth
gomisiynu a chael adroddiad yr astudiaeth ddichonoldeb; a ·
holi’r Pwyllgor Diwylliant, y
Gymraeg a Chyfathrebu am unrhyw fwriad sydd ganddo i fynd ar drywydd ei
ymchwiliad blaenorol i’r pwnc hwn. |
|
P-05-884 Diwygio Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 i gynnwys sefydliadau’r DU sydd â gweithrediadau dramor Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i roi’r wybodaeth a gafwyd gan Athrofa Prifysgol
Llundain ym Mharis i'r Gweinidog Addysg ac i ofyn iddi roi barn bellach mewn
perthynas â phriodoldeb dynodi cyrsiau yn y sefydliad, yn sgil yr esboniadau a
roddwyd. |
|
P-05-797 Sicrhau mynediad i'r feddyginiaeth ffibrosis systig, Orkambi, fel mater o frys Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i
gau'r ddeiseb yn sgil cytundeb y daethpwyd iddo i sicrhau bod Orkambi ar gael i
gleifion yng Nghymru, ac i roi diolch a llongyfarch y deisebydd a’r
Ymddiriedolaeth Ffeibrosis Systig ar ganlyniad llwyddiannus eu gwaith ymgyrchu. |
|
P-05-831 Rhowch ddiwedd ar yr annhegwch a'r gwahaniaethu yn y cymorth ariannol a roddir i ddioddefwyr sgandal gwaed wedi'i heintio yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i ofyn am ymateb gan y Gweinidog i'r
datganiad a wnaed gan y deisebydd ynghylch lefelau talu, ac i gael gwybodaeth
am sut y gwneir penderfyniadau ynghylch lefelau talu. Gofynnodd y
Pwyllgor hefyd am ragor o wybodaeth am fuddion presennol y cynllun yng Nghymru
a Lloegr gan y Gwasanaeth Ymchwil. |
|
P-05-859 Dylid Darparu Tai Plant yng Nghymru i Blant sy'n Dioddef Camdriniaeth Rywiol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor ohebiaeth ychwanegol a chytunodd i: ·
ysgrifennu at Faer Llundain i ofyn
am wybodaeth am y Prosiect Goleudy, unrhyw ganfyddiadau y gellir eu rhannu o
flwyddyn gyntaf ei weithrediad, a manylion am werthuso’r prosiect, gan gynnwys
unrhyw amserlenni tebygol ar gyfer ei gwblhau; ac ·
ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol yn gofyn a fyddai Llywodraeth Cymru yn trafod unrhyw
ganfyddiadau dros dro sy'n codi o gynllun peilot y Prosiect Goleudy, er mwyn
hwyluso'r broses o drafod ei gymhwysedd i Gymru. |
|
P-05-896 Atal Ward 35 yn Ysbyty’r Tywysog Siarl rhag Cau Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i ofyn am
asesiad cyffredinol o nifer y gwelyau gofal i’r henoed a phobl sydd â dementia
a gollwyd o ysbytai yng Nghymru a Chwm Taf ill dau dros y blynyddoedd
diwethaf. |
|
P-05-902 Iechyd Meddwl Tadau (Iechyd Meddwl Tadau Newydd) Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i aros am gyhoeddiad Law yn Llaw at
Iechyd Meddwl – cynllun cyflawni 2019 i 2022 yn ddiweddarach eleni, ac i ofyn
am safbwyntiau’r deisebydd mewn perthynas â’i gynnwys yr adeg honno. |
|
P-05-815 Rheoli’r Diwydiant Dofednod Dwys sy’n Ehangu’n Gyflym yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor ohebiaeth ychwanegol a chytunodd i: ·
ysgrifennu yn ôl at Weinidog yr
Amgylchedd i ofyn am ymateb i'r pwyntiau blaenorol a godwyd mewn perthynas â'r
egwyddor 'mai’r llygrwr sy’n talu', ac i ofyn rhagor o gwestiynau a gynigiwyd
gan y deisebwyr mewn perthynas â llygredd amonia a ffosffad a'r drefn ganiatáu;
ac ·
ysgrifennu at y Gweinidog Tai a
Llywodraeth Leol i esbonio pryderon y deisebwyr bod yr amserlenni ar gyfer
gwaith y Gweithgor Amaethyddiaeth Ddwys Cynllunio Gwlad a Thref wedi llithro,
ac i ofyn am linell amser wedi'i diweddaru ar gyfer gwaith y Grŵp, gan
gynnwys syniad o ran pryd y bydd yn adrodd ar ei ganfyddiadau. |
|
P-05-837 Ynni Gwyrdd er Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach gan y deisebwyr a
nododd yr Aelodau eu siom na chafwyd ymateb i ohebiaeth flaenorol gan yr
Ysgrifennydd Gwladol dros Ynni a Newid Hinsawdd. Fodd bynnag, yn sgil y ffaith bod penderfyniadau ynghylch
datblygu Wylfa Newydd yn destun ymchwiliad cynllunio ac y byddant yn cael eu
gwneud gan Lywodraeth Cymru yn y pen draw, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb
ar y sail nad oes llawer o graffu pellach a allai gyfrannu’n ddefnyddiol at y
broses hon. |
|
P-05-878 Rhaid cau’r drws yn glep ar wastraffu ynni Dogfennau ategol:
Cofnodion: O ystyried yr
ymatebion a gafwyd gan archfarchnadoedd mawr, a'r cyfyngiadau ar bwerau
Llywodraeth Cymru i fynnu gweithredu yn y maes hwn, cytunodd y Pwyllgor i gau'r
ddeiseb ar y sail na all gymryd camau gweithredu ystyrlon pellach o ran y
ddeiseb. |
|
P-05-899 Bysiau i bobl nid er elw Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i gau'r ddeiseb yn sgil y bwriad i
gyflwyno'r Bil Bysiau (Cymru) a'r gwaith craffu a fyddai’n cael ei wneud yn ei
chylch gan y Cynulliad a phwyllgor arall yn ystod y broses ddeddfwriaethol. Cytunodd y
Pwyllgor hefyd i ysgrifennu at y deisebydd i roi gwybodaeth iddo am sut y gall
ymgysylltu â'r broses graffu ddeddfwriaethol er mwyn cyfrannu at ddatblygiad y
Bil. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn: Eitem 5 Cofnodion: Derbyniwyd y
cynnig. |
|
Adolygiad o System Ddeisebau Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Cofnodion: Cafodd Aelodau'r
Pwyllgor ddiweddariad ar y gwaith o ddatblygu system ddeisebu ar-lein newydd ar
gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru. |