Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Graeme Francis
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 02/04/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datganiadau o fuddiant Dogfennau ategol: |
||
(9:00-9:40) |
Sesiwn Dystiolaeth P-05-805 Rhoi chwarae teg i Athrawon Cyflenwi Kirsty Williams AC, Y Gweinidog Addysg Neil Welch - Pennaeth Ymgysylltu â'r Gweithlu, Llywodraeth
Cymru Gail Deane - Uwch-reolwr Polisi, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Addysg a
Neil Welch. |
|
Deisebau newydd |
||
P-05-868 Diogelwch Dŵr, Atal Boddi ac effeithiau Sioc Dŵr Oer i'w haddysgu ym mhob Ysgol yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a
chytunodd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i rannu'r wybodaeth bellach a gafwyd
gan y deisebwyr a gofyn am ei hymateb i'r cynigion, gan gynnwys y cynnig am
Gynllun Diogelwch Dŵr i Gymru. |
||
P-05-870 Gadewch i ni Sicrhau y Caiff Calon Pob Person Ifanc (10-35 oed) ei Sgrinio Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a
chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn
am fanylion polisi a chamau gweithredu cyfredol Llywodraeth Cymru a GIG Cymru
mewn perthynas â chanfod anhwylderau calon ymhlith pobl ifanc nad ydynt eto
wedi cael diagnosis. |
||
P-05-871 Trefnu bod cyfleusterau newid cewynnau ar gael mewn toiledau i ddynion a thoiledau i fenywod Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a
chytunodd i ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip er mwyn: ·
rhannu sylwadau'r deisebydd, a gofyn am eglurhad ynghylch
y cyfeiriad yn y safonau dylunio at beidio â rhoi cyfleusterau newid cewynnau
mewn toiledau ar gyfer 'y ddwy ryw'; ·
gofyn pa ddadansoddiad y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu
ei wneud o'r strategaethau toiledau lleol a gynhyrchir gan awdurdodau lleol; ·
gofyn a yw Llywodraeth Cymru wedi cynnal unrhyw
drafodaethau â'r sector preifat, neu â chyrff cynrychioliadol, ynghylch darparu
cyfleusterau newid cewynnau mewn mannau sy'n agored i'r cyhoedd; a ·
gofyn am wybodaeth am gamau gweithredu perthnasol a
gymerwyd yn sgil ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn 2012, Goblygiadau
iechyd cyhoeddus o ddarpariaeth annigonol o doiledau cyhoeddus. |
||
P-05-872 Dylid diogelu cyllid ysgolion neu gyfaddef bod y gwasanaeth a ddarperir yn gwanhau Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a
chytunodd i ysgrifennu at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i rannu
manylion y ddeiseb mewn perthynas â'u hymchwiliad cyfredol i gyllid ysgolion, a
chytunodd i gadw golwg ar ymchwiliad y Pwyllgor hwnnw. |
||
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
||
P-05-732 Amseroedd Aros Annerbyniol ar gyfer Cleifion y GIG yn Adran Damweiniau ac Achosion Brys WrecsamYsbyty Wrecsam Maelor Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Fwrdd Iechyd Prifysgol
Betsi Cadwaladr a chytunodd i dderbyn eu cynnig i gael y wybodaeth ddiweddaraf
am ddatblygiadau ymhen chwe mis. |
||
P-05-797 Sicrhau mynediad i'r feddyginiaeth ffibrosis systig, Orkambi, fel mater o frys Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth bellach ynghylch y
ddeiseb a chytunodd i gadw golwg ar ddatblygiadau yng Nghymru a ledled y DU.
Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol i ofyn am ei farn am y posibilrwydd o roi trwydded y Goron yn unol
â darpariaethau a wneir yn Neddf Patentau 1977 i wneud defnydd posibl o'r
patent ar gyfer Orkambi heb awdurdodiad y deiliad y patent, os na ellir
goresgyn y maen tramgwydd yn y trafodaethau. |
||
P-05-804 Mae angen cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer chwarae!! Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth bellach a chytunodd i
ysgrifennu yn ôl at y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i
ofyn iddi ystyried ychwanegu at ganllawiau sy'n cyd-fynd â grantiau chwarae yn
y dyfodol i sicrhau bod sefydliadau gwirfoddol lleol yn cael budd digonol o
gyllid o'r fath. |
||
P-05-857 Dylid creu Tasglu Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl Plant Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth bellach a chytunodd i
gadw golwg ar y mater hwn yng ngoleuni'r gwaith craffu parhaus y mae'r Pwyllgor
Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn ei wneud yn sgil ei adroddiad Cadernid Meddwl a
bodolaeth Grŵp Gorchwyl a Gorffen Gweinidogion ar y Cyd. |
||
P-05-759 Ailagor Ffordd Goedwig Cwmcarn adeg y Pasg 2018 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth bellach gan Gyfoeth
Naturiol Cymru a'r deisebwyr a chytunodd i gau'r ddeiseb yng ngoleuni bwriad
Cyfoeth Naturiol Cymru i ailagor Ffordd y Goedwig yng ngwanwyn 2020. |
||
P-05-801 Rhaid achub y coed a'r tir yng NJgerddi Melin y Rhath a Nant y Rhath cyn iddi fynd yn rhy hwyr Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth bellach gan Gyfoeth
Naturiol Cymru a chytunodd i gadw golwg ar y mater a gofyn am y wybodaeth
ddiweddaraf ymhen chwe mis. |
||
P-05-815 Rheoli’r Diwydiant Dofednod Dwys Sy’n Ehangu’n Gyflym yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth bellach a chytunodd i
ysgrifennu yn ôl at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig er mwyn: ·
gofyn am
restr o aelodaeth y gweithgor a chadarnhad o'i deitl a'i gylch gorchwyl
terfynol; ·
cynnig y
dylai aelodaeth y grŵp gynnwys cynrychiolaeth gan sefydliadau amgylcheddol
a/neu wyddonydd/gwyddonwyr annibynnol; a ·
gofyn am
ragor o wybodaeth am y rhyngweithio rhwng y gwaith hwn a'r Gweithgor Iechyd ar
Amaethyddiaeth Ddwys. |
||
P-05-825 Diogelu ysgyfaint plant rhag llygredd niweidiol tra maent yn yr ysgol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth bellach a chytunodd i:
|
||
P-05-750 Ar gyfer eitemau untro: cyflwyno System Dychwelyd Ernes ar gyfer cynwysyddion diodydd a sicrhau y gellir compostio cynwysyddion bwyd cyflym a'r offer sy'n gysylltiedig â hwy Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb hon ar y cyd â P-05-803 a P-05-829, a chytunodd i aros am ganlyniad yr
ymgynghoriadau perthnasol a gynhelir gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ar
y cyd, cyn ystyried a ddylai gymryd camau pellach ar y deisebau. |
||
P-05-803 Mae ein byd naturiol yn cael ei wenwyno gan blastigau untro...mae'n bryd cyflwyno treth! Dogfennau ategol:
Cofnodion: |
||
P-05-829 Gwahardd Eitemau Plastig Untro yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: |
||
P-05-862 Mynd i’r afael â bwlio mewn ysgolion Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth bellach a chytunodd i:
|
||
P-05-793 Band eang cyflym i bentref Llangenni Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth bellach a chytunodd, er
ei fod yn cydymdeimlo'n fawr â thrigolion Llangenni yn y mater hwn, y byddai'n
cau'r ddeiseb gan nad yw'n ymddangos yn bosibl gwneud cynnydd pellach mewn
perthynas â gwasanaethau band eang yn Llangenni ar hyn o bryd. |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn: Eitem 6 |
||
Trafod Sesiynau Tystiolaeth Blaenorol Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd gan y
Gweinidog Addysg a chytunodd i:
|