Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Graeme Francis
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 03/07/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Dogfennau ategol: Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. |
||
Deisebau newydd |
||
P-05-818 Cyflwyno Cofrestr o Lobïwyr yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am
sylwadau gan y deisebydd ar yr ymateb a gafwyd gan Gomisiwn y Cynulliad, cyn penderfynu
a ddylid cymryd camau pellach ynglŷn â'r ddeiseb. |
||
P-05-821 Ailgyflwyno cyllid cymorth addysgol i awdurdodau lleol ar gyfer y Gwasanaeth Cyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig a’r Gwasanaeth Addysg i Deithwyr Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i ofyn am fanylion am y canlynol:
|
||
P-05-822 Gwahardd gwellt plastig (wrth yfed llaeth) yn ein hysgolion Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a
ganlyn: ·
ysgrifennu'n ôl at y Gweinidog Amgylchedd i ofyn iddi am y canlynol: o
a fyddai'n ystyried rhoi cyngor i awdurdodau lleol ar wahardd defnyddio
gwellt plastig gyda llaeth yn yr ysgol; o
darparu rhagor o wybodaeth am ymgynghoriad y Gwasanaeth Caffael
Cenedlaethol gyda chyflenwyr y cyfeiriwyd atynt yn ei llythyr; o
rhoi gwybod i'r Pwyllgor a yw unrhyw un o'r prosiectau peilot yn y
cynghorau yn fesurau archwilio penodol i leihau neu gael gwared ar y defnydd o
wellt plastig mewn ysgolion; ac ·
ysgrifennu at CLlLC i ofyn am eu barn ar y ddeiseb ac i ofyn pa arweiniad a
gymerwyd wrth weithio gydag awdurdodau lleol ac ysgolion i helpu i leihau neu
gael gwared ar y defnydd o wellt plastig. |
||
P-05-823 Gostwng y terfyn cyflymder ar yr A487 ym Mhenparcau Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a
ganlyn:
o
rhagor o wybodaeth am statws presennol ymrwymiadau blaenorol i archwilio
i'r posibl o dynnu statws cefnffordd yr A487 yn Aberystwyth, ac a yw'r gwaith
hwn yn dal i fwrw ymlaen;
|
||
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
||
P-05-796 Galw ar Lywodraeth Cymru i wahardd yr arfer o ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan yr Urdd Syrcas ynghyd ag ymateb gan
y deisebydd a chytunodd i ystyried camau ymhellach yn dilyn y sesiwn
dystiolaeth gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion
Gwledig yn ddiweddarach yn y cyfarfod. |
||
P-05-801 Rhaid achub y coed a'r tir yng Ngerddi Melin y Rhath a Nant y Rhath cyn iddi fynd yn rhy hwyr Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gyngor Caerdydd a Cyfoeth Naturiol
Cymru ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i:
|
||
P-05-809 Is-ddeddfau Pysgota Arfaethedig Newydd a Methiannau Cyfoeth Naturiol Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cafodd y ddeiseb hon ei thrafod ochr yn ochr â P-05-810 Rhowch Gyfle i
Glybiau Pysgota Cymru ac Eog a Brithyll y Môr.
|
||
P-05-810 Rhowch Gyfle i Glybiau Pysgota Cymru ac Eog a Brithyll y Môr Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cafodd y ddeiseb hon ei thrafod ochr yn ochr â P-05-809 Is-ddeddfau Pysgota
Arfaethedig Newydd a Methiannau Cyfoeth Naturiol Cymru. Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni,
Cynllunio a Materion Gwledig ynghyd â sylwadau ychwanegol gan y deisebydd a
chytunodd i ysgrifennu at Cyfoeth Naturiol Cymru i ofyn am eu barn ar y
sylwadau mwyaf diweddar gan y deisebydd. |
||
P-05-814 Pob Adeilad Newydd yng Nghymru i gael Paneli Solar Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni,
Cynllunio a Materion Gwledig ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd ac, o
ystyried nad oedd llawer o gamau y gallent eu cymryd gyda'r ddeiseb ar hyn o
bryd, cytunwyd i hysbysu'r deisebydd o ganlyniad yr adolygiad o Ran L o
reoliadau'r adeiladau y disgwylir iddynt gychwyn ar ddechrau 2019 ac ystyried y
ddeiseb eto bryd hynny. |
||
P-04-519 Diddymu Taliadau Comisiwn wrth werthu Cartrefi mewn Parciau Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn trafod yr ohebiaeth gan y deisebwyr ac, oherwydd yr
ystyriaeth fanwl a roddwyd i'r materion a nodwyd gan Lywodraeth Cymru a'r
disgwyliad i gyflwyno rheoliadau a fydd yn lleihau'r lefel comisiwn gwerthu
uchaf i 5 y cant, cytunwyd i gau'r ddeiseb ar y pwynt hwn. |
||
P-05-770 Ailagor Gorsaf Drenau Crymlyn Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr
Economi a Thrafnidiaeth ynghyd â gohebiaeth bellach gan y deisebydd a chytunodd
i ofyn am farn y deisebydd am fanylion llawn sgoriau asesu cyfnod 1 sydd wedi'u
cynnwys yn y llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth
at Aelodau’r Cynulliad ym mis Gorffennaf 2017. |
||
P-05-812 Dylid gweithredu canllawiau NICE ar gyfer trin Anhwylder Personoliaeth Ffiniol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu
at fyrddau iechyd lleol i ofyn: ·
am fanylion am y gwasanaethau a
ddarperir ar hyn o bryd gydag anhwylder personoliaeth ffiniol yn eu hardaloedd; ·
a yw gwasanaethau arbenigol ar gael
fel yr awgrymwyd gan ganllawiau NICE. |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd ar gyfer eitemau 5 ar yr agenda heddiw: Cofnodion: Gohiriwyd eitemau 4 a 5 tan ar ôl y sesiwn dystiolaeth a drefnwyd o dan
eitem 6 pan dderbyniwyd y cynnig. |
||
Adolygu prosesau ar gyfer deisebau gyda dros 5000 o lofnodion Dogfennau ategol:
Cofnodion: Gohiriwyd eitem 5 tan ar ôl y sesiwn dystiolaeth a drefnwyd yn eitem 6. Adolygodd y Pwyllgor y prosesau ar gyfer deisebau gyda thros 5000 o
lofnodion a chytunodd i beidio â gwneud unrhyw newidiadau i nifer y llofnodion
sydd eu hangen cyn i'r ddeiseb gael ei ystyried ar gyfer dadl mewn Cyfarfod
Llawn o'r Cynulliad. Fodd bynnag, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Llywydd gan nodi nifer o
gynigion ar gyfer newid y dulliau ar gyfer casglu llofnodion. |
||
(10.15 - 11.00) |
Sesiwn dystiolaeth gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig Lesley Griffiths, Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion
Gwledig Dr Christianne Glossop - Swyddog Milfeddygol Cymru Stuart Evans - Pennaeth y Polisi Pysgodfeydd Cofnodion: Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni,
Cynllunio a Materion Gwledig, Dr Christianne Glossop, Prif Swyddog Milfeyddol
Cymru a Stuart Evans, Pennaeth Polisi Pysgodfeydd. |
|
P-04-399 Arferion Lladd Anifeiliaid Dogfennau ategol: Cofnodion: Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion
Gwledig a chytunodd i ysgrifennu ati i ofyn am y canlynol:
gyda'r bwriad o gau'r ddeiseb ar ôl cael ymateb
Ysgrifennydd y Cabinet. |
||
P-04-433 Teledu Cylch Cyfyng mewn Lladd-dai Dogfennau ategol: Cofnodion: Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni,
Cynllunio a Materion Gwledig a chytunodd i ysgrifennu ati i ofyn am sicrwydd y
bydd pob lladd-dy yng Nghymru yn cael eu hannog i wneud cais am arian grant i
osod teledu cylch cyfyng ac y bydd y rhai sy'n dewis peidio gwneud cais yn cael
eu monitro'n agos, gyda'r bwriad o gau'r ddeiseb ar ôl cael ymateb Ysgrifennydd
y Cabinet. |
||
P-05-778 Amddiffyn Cyllyll Môr ar Draeth Llanfairfechan Dogfennau ategol: Cofnodion: Yn sgil ymrwymiadau a wnaed gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio
a Materion Gwledig mewn perthynas â gwella arwyddion yn nhraeth Llanfairfechan,
cynnal ymarfer asesu stoc llawn ac y bydd y pysgodfa yn parhau i fod ar gau tan
o leiaf diwedd 2018, cytunodd y Pwyllgor i gaw lygad barcud ac i ystyried y
ddeiseb eto tuag at ddiwedd y flwyddyn. |
||
P-05-796 Galw ar Lywodraeth Cymru i wahardd yr arfer o ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i aros am gyhoeddiad y Prif Weinidog am y datganiad
deddfwriaethol, a ddisgwylir cyn diwedd tymor yr haf, cyn penderfynu ar unrhyw
gamau pellach ar y ddeiseb. |