Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Graeme Francis
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 05/06/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Dogfennau ategol: Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
|
||
Deisebau newydd |
||
P-05-815 Rheoli'r Diwydiant Dofednod Dwys sy'n Ehangu'n Gyflym yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu
at y canlynol: ·
Adnoddau Naturiol Cymru i ofyn am eu barn ar y
materion a godwyd gan y ddeiseb; ac ·
Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion
Gwledig i ofyn am ragor o wybodaeth am y ffordd y caiff datblygiadau dofednod
llai eu hystyried, neu'r ffordd y gellid ystyried y mater hwn, ac a ellir
grymuso Cyfoeth Naturiol Cymru i edrych ar effeithiau cronnol cael sawl
datblygiad o'r fath mewn ardal benodol. |
||
P-05-816 Dywedwch 'NA' i saethu ffesantod ar dir cyhoeddus Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a
ganlyn: ·
ysgrifennu at: o
Adnoddau Naturiol Cymru i ofyn am eu barn ar y materion a godwyd gan y
ddeiseb a'r sylwadau manwl a wnaed gan y deisebwyr, ac i ofyn am y wybodaeth
ddiweddaraf am y broses o ddadansoddi ymatebion i'r ymgynghoriad a'r amserlenni
tebygol ar gyfer penderfynu ar bolisi ar y mater hwn yn y dyfodol; o
Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig i ofyn am
ymateb i'r pryderon a fynegwyd ynghylch digonolrwydd y Cod Ymarfer er Lles Adar
Hela a'r camau a gymerir i fonitro'r cod hwn; ac i ·
drafod gofyn am amser yn y Cyfarfod Llawn i gynnal dadl ar y mater hwn
unwaith y bydd ymatebion i'r cwestiynau hyn wedi dod i law. |
||
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
||
P-04-399 Arferion Lladd Anifeiliaid Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb hon ynghyd â P-04-433, Teledu Cylch Cyfyng
mewn Lladd-dai, gan gytuno i ysgrifennu yn ôl at Ysgrifennydd y Cabinet dros
Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig i nodi bod y Pwyllgor yn gefnogol o'r alwad
i deledu cylch cyfyng fod yn orfodol mewn lladd-dai a gofyn iddi ailystyried
safbwynt Llywodraeth Cymru. |
||
P-04-433 Teledu Cylch Cyfyng mewn Lladd-dai Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb hon ynghyd â P-04-399, Arferion Lladd
Anifeiliaid, gan gytuno i ysgrifennu yn ôl at Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni,
Cynllunio a Materion Gwledig i nodi bod y Pwyllgor yn gefnogol o'r alwad i
deledu cylch cyfyng fod yn orfodol mewn lladd-dai a gofyn iddi ailystyried
safbwynt Llywodraeth Cymru. |
||
P-05-778 Amddiffyn Cyllyll Môr ar Draeth Llanfairfechan Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni,
Cynllunio a Materion Gwledig, ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd, a
chytunodd i drafod gwahodd Ysgrifennydd y Cabinet i roi tystiolaeth lafar ar y
ddeiseb yn y dyfodol yn ystod trafodaeth ar flaenraglen waith y Pwyllgor. |
||
P-05-786 Arbedwch ein cefn gwlad – dylid adolygu TAN 1 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni,
Cynllunio a Materion Gwledig, a chytunodd i drafod y posibilrwydd o wahodd
Ysgrifennydd y Cabinet i roi tystiolaeth lafar ar y ddeiseb yn y dyfodol yn
ystod trafodaeth ar flaenraglen waith y Pwyllgor. |
||
P-05-796 Galw ar Lywodraeth Cymru i wahardd yr arfer o ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at
Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig i ofyn am y
wybodaeth ddiweddaraf am waith gan Lywodraeth Cymru i drafod yr opsiynau ar
gyfer symud ymlaen â gwahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau, a'r
amserlenni posibl dan sylw, yn dilyn ei hymateb i'r ddadl ar y ddeiseb. |
||
P-04-522 Asbestos mewn Ysgolion Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg,
ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd, a chytunodd i aros am ragor o
wybodaeth am benderfyniad Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ynghylch cyhoeddi
gwybodaeth yn deillio o'r arolwg o gyflwr ysgolion, a chyhoeddi canllawiau
wedi'u diweddaru ar reoli asbestos mewn ysgolion. |
||
P-05-805 Rhoi chwarae teg i Athrawon Cyflenwi Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu yn
ôl at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i ofyn am: ·
ei hymateb i'r cynigion a wnaed gan y deisebwyr; ·
ei barn ar y posibilrwydd y gallai'r consortia addysg rhanbarthol gymryd
rhan yn y trefniadau ar gyfer darparu athrawon cyflenwi yn eu hardaloedd; a'r ·
wybodaeth ddiweddaraf am:
|
||
P-05-807 Dylid adolygu a newid y canllawiau o ran gwobrau am bresenoldeb mewn ysgolion yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu yn ôl
at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i ofyn am:
|
||
P-05-748 Bysiau Ysgol i Blant Ysgol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan yr Adran Drafnidiaeth ac Ysgrifennydd y
Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth. Cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu eto
at yr Adran Drafnidiaeth i ailadrodd eu bod yn gofyn am ymateb penodol i'r cwestiwn
a ddylai gwregysau diogelwch fod yn angenrheidiol ar fysiau cyhoeddus ac a
ddylai gwiriadau DBS fod yn ofynnol ar gyfer gyrwyr bysiau cyhoeddus, er bod y
Pwyllgor yn deall nad yw'r materion hyn wedi'u datganoli. |
||
P-05-732 Amseroedd Aros Annerbyniol i Gleifion y GIG yn Adran Damweiniau ac Achosion Brys Wrecsam/Ysbyty Maelor Wrecsam Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol a chytunodd i: ·
aros am farn y deisebydd ar y wybodaeth ddiweddaraf a gafwyd gan
Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol; ac ·
ysgrifennu at Gyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru i ofyn a ydynt ymwybodol
o bryderon ynghylch amseroedd aros yn adran damweiniau ac achosion brys Ysbyty
Wrecsam Maelor, ac a ydynt wedi gwneud unrhyw waith ar y mater hwn. |
||
P-05-751 Cydnabod achosion o Ddieithrio Plentyn oddi wrth Riant Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y Gweinidog dros Blant, Pobl Hŷn a
Gofal Cymdeithasol ynghyd â sylwadau ychwanegol gan y deisebydd a Dr Sue
Whitcombe, a chytunodd i ysgrifennu at: ·
y Gweinidog i ofyn am ragor o wybodaeth am fwriad Llywodraeth Cymru a
CAFCASS Cymru mewn perthynas ag:
|
||
P-05-754 Diffyg cymorth i blant ag anableddau mewn argyfwng Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i aros am
ganlyniad ei chyfarfod â Bwrdd Iechyd Cwm Taf cyn trafod y ddeiseb eto. |
||
Papurau i’w nodi |
||
P-04-472 Gwnewch y Nodyn Cyngor Technegol Mwynau yn ddeddf Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y papur. |
||
P-04-575 Galw i Mewn Pob Cais Cynllunio ar Gyfer Cloddio Glo Brig Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y papur. |
||
Senedd@Delyn Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y papur. |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitemau 6 a 7 ar yr agenda heddiw: Cofnodion: Oherwydd cyfyngiadau amser ni chynigiwyd y Cynnig. |
||
Trafod llythyr drafft ynghylch P-05-784 Dibyniaeth ar gyffuriau presgripsiwn ac effeithiau diddyfnu – adnabyddiaeth a chefnogaeth Dogfennau ategol:
Cofnodion: Oherwydd cyfyngiadau amser, cytunodd y Pwyllgor i drafod y llythyr at
Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y tu allan i'r
cyfarfod. |
||
Blaenraglen waith Dogfennau ategol:
Cofnodion: Oherwydd cyfyngiadau amser, cytunodd y Pwyllgor i drafod ei flaenraglen
waith y tu allan i'r cyfarfod. |
||
(10.00 - 10.30) |
Sesiwn dystiolaeth – P-05-771 Ailystyried y penderfyniad i roi’r gorau i Grant Byw'n Annibynnol Cymru a’r angen i gefnogi pobl anabl i fyw'n annibynnol Nathan Lee Davies, Deisebydd Adam Samuels, Cefnogwr Angie Evans, Cefnogwr Dogfennau ategol:
Cofnodion: Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Deisebydd, Angie Evans ac Adam
Samuels. |