Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Graeme Francis
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Trawsgrifiad Gweld
trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 297KB) Gweld fel HTML
(72KB) |
|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Dogfennau ategol: Cofnodion: Croesawodd
y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Roedd Janet Finch-Saunders wedi anfon ei
hymddiheuriadau. |
|
Deisebau newydd |
|
P-05-721 Deiseb Terfyn Cyflymder Penegoes Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am ganlyniadau'r
cynllun monitro traffig, yn ogystal â sylwadau'r deisebydd bryd hynny, cyn
penderfynu a ddylid cymryd camau gweithredu pellach. |
|
P-05-722 Diogelu Anghenion Addysgol Arbennig Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y canlynol: ·
Gweinidog
y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes i ofyn sut y mae Llywodraeth Cymru yn monitro (a)
effeithiolrwydd y gwasanaethau a chefnogaeth i blant ag awtistiaeth a'u rhieni,
a (b) y canlyniadau a gyflawnwyd gan y cyllid a ddarperir; ac ·
Cyngor
Castell-nedd Port Talbot i ofyn am eu hymateb i'r profiadau penodol a
grybwyllwyd gan y deisebydd. |
|
P-05-724 Hawliau i Ofal Iechyd Sylfaenol yn y Gymraeg Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn: ·
aros am yr
ymateb gan Lywodraeth Cymru i'r ymgynghoriad cyhoeddus diweddar ar y mater hwn
a'r rheoliadau drafft syn deillio ohonynt; ac ·
yn y
cyfamser, ysgrifennu at Gomisiynydd y Gymraeg yn gofyn am ei barn am y materion
a godwyd yn y ddeiseb. |
|
P-05-725 Ehangu'r A470 o Bontypridd i gyfnewidfa Coryton, i fod â thair lôn Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am ymateb gan y
deisebydd cyn penderfynu a ddylid cymryd camau pellach ynglŷn â'r mater. |
|
P-05-726 Rhoi Rhyddhad Ardrethi i Awdurdodau Lleol ar gyfer Cyfleusterau Hamdden a Diwylliannol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ofyn am ragor o fanylion gan
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ynglŷn â'r
cynlluniau i archwilio gwelliannau i'r trethi annomestig, a chael gwybod a fydd
cyfle i'r deisebydd gyflwyno sylwadau
ynglŷn â hyn. |
|
P-05-727 Arian i dalu ffi cofrestru Cyngor y Gweithlu Addysg ar ran Gweithwyr Cymorth Dysgu mewn ysgolion Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:
|
|
P-05-728 Diogelu Cyllid Teuluoedd yn Gyntaf Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd
Mike Hedges y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A: Mae e'n
adnabod y deisebwyr, ond nid oes ganddo gysylltiad â'r ddeiseb. Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ac, yn dilyn cadarnhad yn y gyllideb
ddrafft y bydd cyllid ar gyfer Teuluoedd yn Gyntaf yn cael ei gynnal yn
2017-18, cytunodd y Pwyllgor i aros am ymateb gan y deisebydd cyn penderfynu a
ddylid cymryd camau pellach ynglŷn â'r mater hwn. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
P-04-628 Mynediad at Iaith Arwyddion Prydain i Bawb Dogfennau ategol: Cofnodion: Datganodd
Mike Hedges y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A: Mae wedi
cwrdd â'r deisebwyr yn rhinwedd ei swydd fel yr Aelod Cynulliad dros etholaeth
Dwyrain Abertawe. Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog y Gymraeg a Dysgu
Gydol Oes i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am y materion a godwyd yn y ddeiseb
yn dilyn ei gyfarfod diweddar gyda'r deisebwyr. |
|
P-05-707 Rhaid i Hyfforddiant Athrawon Gynnwys Hyfforddiant Statudol ar Awtistiaeth Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd
Neil McEvoy y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A: Mae e'n
adnabod y deisebydd. Trafododd
y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd ar y camau a
ganlyn:
|
|
P-04-683 Coed mewn Trefi Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i rannu'r ymateb a gafwyd
gan Cyfoeth Naturiol Cymru gyda'r deisebydd ac i ofyn am ei farn cyn penderfynu
ar y camau nesaf i'w cymryd. |
|
P-05-714 Cynnwys Gorsaf ar Gyfer Mynachdy a Thal-y-bont fel Rhan o Unrhyw Gynnig ar Gyfer Metro Caerdydd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r
Seilwaith i ofyn am ragor o fanylion ynglŷn â lleoliad posibl unrhyw orsaf
newydd yng Ngabalfa, yn ogystal â sut a phryd y bydd cynigion ar gyfer
gorsafoedd newydd yn cael eu datblygu. |
|
P-04-564 Adfer Gwlâu i Gleifion, Gwasanaeth Mân Anafiadau ac Uned Pelydr-X i Ysbyty Coffa Ffestiniog Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd ar y camau a
ganlyn:
|
|
P-04-621 Cadw’r Uned Famolaeth dan Arweiniad Ymgynghorwyr yn Ysbyty Glan Clwyd ar Agor Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros am
sylwadau'r deisebydd cyn penderfynu a ddylid cymryd camau gweithredu pellach. |
|
Papur i’w nodi Dogfennau ategol: |