Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cynhadledd Fideo Zoom

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

3.

Trefn busnes

3.1

Busnes yr Wythnos Hon

Cofnodion:

Busnes yr Wythnos Hon

 

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau i agenda dydd Mawrth – bydd dau ddatganiad yn awr yn cael eu cyhoeddi fel datganiadau ysgrifenedig, er mwyn gwneud lle i ddadl ar gyfnod atal byr coronafeirws, y mae angen atal y Rheolau Sefydlog ar ei gyfer.

 

Canllawiau ar gyfer Cyfarfod Llawn hybrid

 

Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y bydd canllawiau diwygiedig ar gyfer Cyfarfod Llawn hybrid yn cael eu dosbarthu, yn dilyn ei dyfarniad yr wythnos diwethaf y dylai Aelodau ymatal rhag defnyddio deunydd hyrwyddo fel cefndir yn Zoom.

 

Pleidleisio - datganiadau llafar

 

Gofynnodd y Llywydd i'r Rheolwyr Busnes atgoffa'r Aelodau mai dim ond fel datrysiad mewn argyfwng y gellir pleidleisio ar lafar pe bai Aelod yn cael problemau annisgwyl gyda'r ap pleidleisio. Dylai Aelodau ymuno o leoliad a dyfais a fydd yn eu galluogi i ddefnyddio'r ap.

 

Newidiadau i grwpiau

 

Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes ei bod yn ystyried y cais gan dri Aelod i ffurfio Grŵp Cynghrair Annibynnol ar gyfer Diwygio. Nid yw grŵp Plaid Brexit yn bodoli mwyach.

 

 

3.2

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau canlynol:

 

Dydd Mawrth 3 Tachwedd

 

·         Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 19) 2020 (30 munud)

·         Dadl:  Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol ar Reoliadau Ymadael â’r Undeb Ewropeaidd (Addasiadau Canlyniadol) (Ymadael â'r UE) 2020 (15 munud)

 

Dydd Mawrth 10 Tachwedd

 

·         Datganiad gan y Prif Weinidog: Cyflawni'r Strategaeth Ryngwladol (45 munud) - Gohiriwyd

·         Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol: Nodi Cofio a pharhau â'n cefnogaeth i gymuned y Lluoedd Arfog (45 munud) - Tynnwyd yn ôl

·         Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Cam-drin Domestig (15 munud) - Gohiriwyd

·         Dadl:  Cyfnod 3 ar y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) (180 360 munud)

 

Dywedodd y Trefnydd wrth y Rheolwyr Busnes hefyd y bydd yn cynnig bod y ddadl ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Bil y Farchnad Fewnol yn cael ei chynnal ar 24 Tachwedd 2020.

 

 

3.3

Amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ddileu dadl grŵp Plaid Brexit a drefnwyd ar gyfer dydd Mercher 4 Tachwedd ac i drefnu'r eitemau busnes canlynol:

 

Dydd Mercher 18 Tachwedd 2020 –

 

  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: Effaith yr achosion o COVID-19 ar dreftadaeth, amgueddfeydd ac archifau. (30 munud)
  • Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes, gan fod wythnos gyntaf busnes y Cyfarfod Llawn ar ôl hanner tymor yn ystod ail wythnos cyfnod atal byr y coronafeirws (3 a 4 Tachwedd), y byddai'r trafodion yn cael eu cynnal yn rhithwir (h.y. gyda'r holl Aelodau'n cymryd rhan ar Zoom). Byddai busnes yn cael ei gyfyngu i faterion sy’n dyngedfennol o ran amser lle y bo'n bosibl, gyda phleidleisiau lle bo angen. Byddai'r llywodraeth yn adolygu'r busnes a drefnwyd ar gyfer 3 Tachwedd, gyda newidiadau ar ôl i'r Datganiad a Chyhoeddiad Busnes gael ei gyhoeddi.

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 19) 2020

Cofnodion:

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 19) 2020

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i bennu terfyn amser ar gyfer cyflwyno adroddiad ddydd Llun 2 Tachwedd i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyflwyno adroddiad ar y rheoliadau.

terfyn amser ar gyfer cyflwyno adroddiad ddydd Llun 2 Tachwedd i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyflwyno adroddiad ar y rheoliadau.[LG(CyS|SC1] 

 

 


 [LG(CyS|SC1]Mae hwn wedi codi yn y Gymraeg a’r Saesneg – dwi’n credu mai camgymeriad ydyw.

5.

Pwyllgorau

5.1

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid

Cofnodion:

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyfarfod estynedig ar gyfer y Pwyllgor Cyllid yn ystod yr wythnos yn dechrau ar 11 Ionawr 2021. Caiff hyn ei ymgorffori yn amserlen y pwyllgorau ar gyfer tymor y gwanwyn y bydd y Pwyllgor Busnes yn ei ystyried ar ôl hanner tymor.

 

 

6.

Y Rheolau Sefydlog

6.1

Newidiadau i’r Rheolau Sefydlog - Atal trafodion cyn pleidleisiau electronig o bell

Cofnodion:

Newidiadau i Reolau Sefydlog: Atal trafodion cyn pleidleisiau electronig o bell

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar yr adroddiad a chyflwyno cynnig i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog i’w drafod yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 4 Tachwedd 2020.

 

 

7.

Busnes y Senedd

7.1

Dethol gwelliannau

Cofnodion:

Unrhyw Ddethol Gwelliannau eraill

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes ar y canllawiau diwygiedig, yn amodol ar y newidiadau y cytunwyd arnynt i'r drafft mewn perthynas â rheoli amser a chymorth.

 

 

 

Unrhyw Fater Arall

Cyfarfod y Pwyllgor Iechyd yr wythnos hon

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes y gallai'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon gyfarfod fore Gwener yr wythnos hon pe bai'n dymuno gwneud hynny, er mwyn trafod mesurau newydd coronafeirws gyda'r Gweinidog Iechyd, y Prif Swyddog Meddygol a'r Prif Gynghorydd Gwyddonol.