Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Cynhadledd Fideo Zoom
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunwyd ar
gofnodion cyfarfod yr wythnos diwethaf i’w cyhoeddi. |
|
Trefn busnes |
|
Busnes yr Wythnos Hon Cofnodion: Dywedodd y Trefnydd
wrth yr Aelodau ei bod wedi diweddaru teitl datganiad y Cwnsler Cyffredinol ar
y papur Saesneg. Dethol
gwelliannau Dywedodd y
Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y gallai, oherwydd nifer y gwelliannau a
gyflwynwyd yr wythnos hon, ddefnyddio ei phwerau i beidio â dethol gwelliannau
lle mae'n credu ei bod yn briodol i gynnal busnes y Senedd yn briodol. Dywedodd y
Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes hefyd fod dadl y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol
y Senedd, 'Diwygio'r Senedd: Y camau nesaf' hefyd wedi denu dau welliant, na
fydd yn eu dethol yn unol â Rheol Sefydlog 12.23(iii). Trefn yn y
Siambr/ar Zoom Dywedodd y
Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y bydd yn trin rhagor o achosion o Aelodau'n
agor eu meicroffonau eu hunain pan na elwir arnynt, fel mater o drefn, ac y
bydd yn gwneud cyhoeddiad i'r perwyl hwnnw ar hyn cyn y cyfarfod llawn heddiw. |
|
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Tynnodd y
Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y ddau ddiweddariad i'r amserlen tair
wythnos: Dydd Mawrth
13 Hydref 2020 - ·
Cynnig o
dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda
phleidleisiau ar wahân (30 munud): o Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau
Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 16) (Conwy, Sir Ddinbych, Sir y
Fflint a Wrecsam) 2020 o Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws)
(Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 17) 2020 Dydd Mawrth
3 Tachwedd
|
|
Amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Cytunodd y Rheolwyr
Busnes y dylid gofyn i gadeiryddion pwyllgorau a allai eu dadleuon fod mewn
slotiau 30 neu 45 munud, yn hytrach na 60, fel mater o drefn. Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau busnes a ganlyn yn yr amserlen: Dydd Mercher 4 Tachwedd 2020 – ·
Cynnig i nodi’r adroddiad blynyddol
ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Senedd ar gyfer 2019-20 (30 munud) ·
Dadl ar ddeisebau: addysgu hanes
mewn ysgolion (60 munud) ·
Amser a neilltuwyd i Blaid Brexit
(60 munud) |
|
Deddfwriaeth |
|
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 16) (Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam) 2020 Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i bennu terfyn amser ar gyfer cyflwyno adroddiad ddydd Llun 12
Hydref i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyflwyno
adroddiad ar y rheoliadau. |
|
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 17) 2020 Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i bennu terfyn amser ar gyfer cyflwyno adroddiad ddydd Llun 12
Hydref i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyflwyno
adroddiad ar y rheoliadau. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol cyfredol Cofnodion: Nododd y
Pwyllgor Busnes y sefyllfa ddiweddaraf o ran Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol
a chytunodd i beidio â chyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol
(Rhif 4) ar y Bil Pysgodfeydd i graffu arno. |
|
Rheoliadau Coronafeirws Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor Busnes y papur a daeth i'r casgliad bod byrhau amserlenni cyffredinol
ar gyfer trafod Rheoliadau, ar y cyd ag argaeledd cyfleoedd eraill i drafod
Rheoliadau newydd, yn un ffordd ymlaen. Dywedodd y
Trefnydd wrth Reolwyr Busnes nad oedd Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau
Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 16) (Conwy, Sir Ddinbych, Sir y
Fflint a Wrecsam) 2020 wedi newid yn sylweddol o reoliadau Rhif 15, ac eithrio
lleoliad. Gofynnodd y
Pwyllgor Busnes i swyddogion ymgynghori â Chadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth,
Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad i ganfod dull y gellir ystyried rheoliadau tebyg yn
y Cyfarfod Llawn yr wythnos ar ôl iddynt ddod i rym yn y dyfodol. |
|
Pwyllgorau |
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i drefnu dadl ar y ddeiseb 'P-05-1010 Ymchwiliad annibynnol i
lifogydd 2020 yn Rhondda Cynon Taf fel bod gwersi'n cael eu dysgu' yn yr hanner
tymor nesaf, gyda'r dewis y bydd y ddadl yn un 30 munud o hyd. |
|
Unrhyw Fater Arall Seddi Dywedodd y
Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes na fydd yn caniatáu i seddau a ddyrennir i
grwpiau plaid gydag Aelodau nad ydynt yn mynychu'r Siambr gael eu dyrannu i
Aelodau grwpiau eraill neu Aelodau annibynnol. Cyfarfod dros y tymor hwy Trafododd y Rheolwyr
Busnes y trefniadau ar gyfer cyfarfodydd hybrid. Dywedodd y Llywydd y byddai'n
trafod y mater gyda'r Prif Weinidog a gofynnodd i'r Rheolwyr Busnes drafod
gyda'u grwpiau. |