Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Video Conference via Zoom

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.

 

3.

Trefn busnes

3.1

Busnes yr Wythnos Hon

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes benderfyniad y Llywydd i barhau â Chyfarfodydd Llawn hybrid yr wythnos hon, yn dilyn ymgynghoriad anffurfiol â’r Rheolwyr Busnes.

 

Dywedodd y Trefnydd wrth y Rheolwyr Busnes y byddai Aelodau meinciau cefn Llafur ac aelodau'r llywodraeth yn cymryd rhan yn y cyfarfodydd hybrid o bell yr wythnos hon.

 

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y tri newid i fusnes dydd Mawrth yn y copi diwygiedig o Fusnes yr Wythnos Hon a ddosbarthwyd ddoe:

 

  • Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Mae’r wybodaeth ddiweddaraf am Gyfyngiadau Lleol y Coronafeirws wedi cael ei symud yn ddiweddarach yn yr agenda.
  • Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Mae'r wybodaeth ddiweddaraf am Wasanaethau Mamolaeth a Gwelliannau Llywodraethu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi'i ohirio tan 13 Hydref.
  • Mae'r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Pysgodfeydd wedi'i ohirio tan 6 Hydref.

 

Dywedodd y Trefnydd hefyd wrth y Rheolwyr Busnes y bydd newid pellach i symud y rheoliadau iechyd cyhoeddus i ddod yn gynharach yn y dydd.

 

 

3.2

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at yr amserlen ddiwygiedig, a ddosbarthwyd ddoe:

 

Dydd Mawrth 6 Hydref 2020 -

 

·         Datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol: Y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau ym Mholisi Masnach y DU (45 munud)Gohiriwyd tan 3 Tachwedd 2020

·         Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Cynllun Drafft i Fynd i'r Afael â Thlodi Tanwydd yng Nghymru (45 munud)  - Gohiriwyd tan 20 Hydref 2020

·         Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd:  Cynllun Adferiad Coronafeirws (45 munud)

·         Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd: Y wybodaeth ddiweddaraf am effeithiau cyllidol COVID-19 a rhagolygon cyllideb y dyfodol (45 munud)

·         Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (30 munud):

o   Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 13) (Llanelli etc.) 2020

o   Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 14) (Abertawe a Chaerdydd) 2020

o   Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 15) (Bro Morgannwg, Castell-nedd, Port Talbot a Tor-faen 2020

·         Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Pysgodfeydd (30 munud)

 

Dydd Mawrth 13 Hydref 2020 -

 

·         Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y wybodaeth ddiweddaraf am Wasanaethau Mamolaeth a Gwelliannau Llywodraethu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (45 munud) - gohiriwyd o 29 Medi.

·         Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (60 munud):

o   Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru).

Y penderfyniad ariannol mewn perthynas â'r Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru)

 

3.3

Amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau busnes a ganlyn yn yr amserlen:

 

Dydd Mercher 7 Hydref 2020 –

 

·         Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid: - Ymchwiliad i broses ddeddfwriaethol ar gyfer y gyllideb (60 munud) - gohiriwyd tan 14 Hydref

·         Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad – Adroddiad 01-20 (15 munud)

·         Cynnig i ddirprwyo awdurdod i wneud y trefniadau ar gyfer recriwtio Comisiynydd Safonau newydd i'r Prif Weithredwr a'r Clerc (5 munud)

·         Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad – Tâl y Comisiynydd Safonau Dros Dro (15 munud)

 

Dydd Mercher 14 Hydref 2020 –

 

·         Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid: - Ymchwiliad i broses ddeddfwriaethol ar gyfer y gyllideb (60 munud) - gohiriwyd o 7 Hydref

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Brexit (60 munud)gohiriwyd tan 4 Tachwedd

 

Dydd Mercher 21 Hydref 2020 –

 

·         Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud)

·         Dadl ar Ddeiseb P-05-1003: Mynnu Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol nawr ynghylch gwaredu mwd wedi’i halogi’n radiolegol yn nyfroedd Cymru (30 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 12) 2020

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i bennu terfyn amser ar gyfer cyflwyno adroddiad ddydd Llun 5 Hydref i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyflwyno adroddiad ar y rheoliadau.

 

 

4.2

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 13) (Llanelli etc.) 2020

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i bennu terfyn amser ar gyfer cyflwyno adroddiad ddydd Llun 5 Hydref i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyflwyno adroddiad ar y rheoliadau.

 

 

4.3

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 14) (Abertawe a Chaerdydd) 2020

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i bennu terfyn amser ar gyfer cyflwyno adroddiad ddydd Llun 5 Hydref i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyflwyno adroddiad ar y rheoliadau.

 

 

4.4

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 15) (Bro Morgannwg, Castell-nedd, Port Talbot a Torfaen 2020

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i bennu terfyn amser ar gyfer cyflwyno adroddiad ddydd Llun 5 Hydref i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyflwyno adroddiad ar y rheoliadau.

 

Yn dilyn trafodaeth yn y ddadl yr wythnos diwethaf, gofynnodd y Rheolwyr Busnes i'r ysgrifenyddiaeth am bapur ar gyfer cyfarfod yr wythnos nesaf ar y broses gadarnhaol gwnaed.

 

 

4.5

Y wybodaeth ddiweddaraf am y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol cyfredol

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes y sefyllfa ddiweddaraf o ran y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol, a dyddiad y ddadl arfaethedig yn y Cyfarfod Llawn o 3 Tachwedd ar gyfer y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ardrethu Annomestig (Toiledau Cyhoeddus) a 6 Hydref ar gyfer y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Pysgodfeydd.

Cyfeiriodd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Marchnad Fewnol y DU at y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad i graffu arno, gyda terfyn amser ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 19 Tachwedd 2020. 

 

Cytunodd y Pwyllgor i beidio â chyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Amaethyddiaeth i graffu arno.

 

 

5.

Y Cyfarfod Llawn

5.1

Rheoli amser y Cyfarfod Llawn ar ddydd Mercher

Cofnodion:

Trafododd y Rheolwyr Busnes y papur, a chytunwyd i drefnu llai o ddadleuon eraill pan fydd eitemau 30 munud fel cwestiynau'r Comisiwn wedi'u trefnu.

 

 

6.

Pwyllgorau

6.1

Amserlen y Pwyllgorau

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr. Dywedodd y Trefnydd fod Gweinidogion yn blaenoriaethu bod yn bresennol mewn cyfarfodydd pwyllgor, ond gofynnodd i bwyllgorau roi cymaint o rybudd â phosibl, yn enwedig ar ddyddiau pan gynhelir cyfarfodydd y Cabinet.