Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Video Conference via Zoom

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol ar gyfer eu cyhoeddi.

 

3.

Trefn busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Adborth o'r Cyfarfod Llawn yr wythnos diwethaf

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes fod cyflymder y cyfarfod wedi gwella llawer, oherwydd y terfynau amser newydd ar gyfer cyfraniadau ar ddatganiadau.

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gynyddu nifer yr Aelodau Plaid Cymru i 5 er mwyn rhoi gwell adlewyrchiad o faint cymharol grwpiau. Fel arall, cytunodd y Rheolwyr Busnes i ddilyn yr un fformat a gweithdrefnau ar gyfer cyfarfod yr wythnos hon.

 

Mewn ymateb i gais gan Sian Gwenllian, cytunodd y Llywydd i ystyried a ddylid galw Aelodau am yn ail i ofyn cwestiynau ar ddatganiadau. Nododd Darren Millar ei fod yn gwrthwynebu unrhyw newid.

 

Cwestiynau Amserol

 

Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y bydd yn gwneud penderfyniad ar unrhyw gwestiynau amserol a gyflwynir yr wythnos hon cyn gynted â phosibl ar ôl y terfyn amser am 6.00pm, ac y bydd yr Aelodau a'r llywodraeth yn cael eu hysbysu'r noson honno.

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gymryd y Cwestiynau Amserol ar ôl datganiad y Prif Weinidog. Bydd unrhyw Weinidogion sy'n bresennol i ateb cwestiynau amserol yn unig yn ychwanegol at ddyraniad arferol Llafur / llywodraeth.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i barhau â'r arfer o beidio â gofyn unrhyw gwestiynau ar y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes.

 

Gofynnodd y Pwyllgor Busnes i swyddogion am bapur ar opsiynau ar gyfer datblygu busnes y Cyfarfod Llawn dros yr wythnosau nesaf.

 

 

3.2

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y ffaith bod dwy set o reoliadau wedi'u hychwanegu at Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf:

 

Dydd Mercher 20 Mai 2020

 

·         Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 (30 Munud)

·         Rheoliadau Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Rhanddirymiad Tyfu Amrywiaeth o Gnydau) (Cymru) 2020 (15 munud)

 

Cytunodd y Pwyllgor i drefnu Cwestiynau Amserol bob wythnos am y dyfodol agos.

 

 

4.

Y Cyfarfod Llawn

4.1

Cais i amserlennu dadl ar NNDM7321.

Cofnodion:

Trafododd y Rheolwyr Busnes y cynnig a chytunwyd mai'r Pwyllgor Busnes yw'r fforwm priodol i werthuso'r ffyrdd mwyaf effeithiol o barhau i graffu yn y sefyllfa bresennol. Daethant i'r casgliad hefyd mai'r defnydd gorau o amser y Cyfarfod Llawn ar hyn o bryd yw craffu ar faterion Covid-19. Felly ni fyddent yn trefnu amser i drafod y cynnig.

 

 

5.

Deddfwriaeth

5.1

Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch Tân a'r Bil Ardrethu Annomestig (Rhestrau)

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyfeirio'r Memorandwm ar y Bil Ardrethu Annomestig (Rhestrau) i Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, a chytuno ar ddyddiad cau ar gyfer adrodd yn ddiweddarach.

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyfeirio'r Memorandwm ar y Bil Diogelwch Tân i'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau; a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a Chyfansoddiad gyda dyddiad cau ar gyfer adrodd ar 18 Mehefin 2020.

 

 

 

5.2

Llythyr gan y Prif Weinidog

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i bennu dyddiad cau ar gyfer adrodd, sef dydd Iau 14 Mai, i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad adrodd ar Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020

 

 

5.3

Llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig.

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i bennu dyddiad cau ar gyfer adrodd, sef dydd Iau 14 Mai, i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad adrodd ar Reoliadau Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Rhanddirymiad Tyfu Amrywiaeth o Gnydau) (Cymru) 2020.

 

6.

Pwyllgorau

6.1

Amserlen y Pwyllgorau

Cofnodion:

Trafododd y Rheolwyr Busnes yr amserlen ddrafft ar gyfer y pwyllgorau, a chytuno arni.

 

 

Unrhyw Fater Arall

Cwestiynau Ysgrifenedig

 

Cododd Darren Millar y mater o oedi parhaus wrth gael ymatebion y llywodraeth i gwestiynau ysgrifenedig, er y bu rhywfaint o welliant yn sylwedd yr ymatebion. 

 

Newid enw

 

Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes na fydd yr ohebiaeth, o ystyried yr amgylchiadau, yn tynnu sylw ac y bydd datganiad ysgrifenedig yn cael ei gyhoeddi fore Mercher.