Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Anfonodd y Trefnydd ei hymddiheuriadau, roedd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol yn bresennol yn ei lle.

Anfonodd Darren Millar ei ymddiheuriadau ac roedd Russell George yn bresennol yn ei le.

 

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi.

 

 

3.

Trefn busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Cynigiodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol y dylai'r Cyfarfod Llawn ddechrau am 1pm ddydd Mawrth, yng ngoleuni'r busnes swmpus ac, yn benodol, hyd tebygol dadl Cyfnod 3. Cytunodd y Rheolwyr Busnes i'r cynnig hwn.

 

Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes nad yw'n credu y dylai'r Cyfarfod Llawn eistedd lawer yn hwyrach na 10pm. Esboniodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol mai bwriad y llywodraeth, pe na bai Cyfnod 3 yn cael ei gwblhau ddydd Mawrth, yw symud cynnig gweithdrefnol i ohirio gweddill yr eitem tan ar ôl cwestiynau llafar ddydd Mercher.

 

Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes hefyd y bydd egwyl o 10 munud cyn i Gyfnod 3 ddechrau ac yna egwyl arall am gyfnod hirach o amser rywbryd ar ôl 7.30, yn dibynnu ar gynnydd.

 

Dywedodd y Rheolwyr Busnes eu bod yn gresynu y byddai'r datganiad gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod yn cael ei gyhoeddi fel datganiad ysgrifenedig a gofynnodd a ellid aildrefnu'r datganiad i ddiwrnod arall. Nodwyd hefyd nad oedd parhau â chyfarfodydd hwyr fel hyn yn gynaliadwy i'r rheini sydd â chyfrifoldebau gofalu

 

Dydd Mawrth

 

  • Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio fel yr eitem olaf o fusnes.

 

Dydd Mercher

 

  • Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer.

 

 

3.2

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

 

 

3.3

Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 22 Ebrill 2020 –

  • Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau - Caffael Cyhoeddus yn yr Economi Sylfaenol (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

 

 

4.

Busnes y Cynulliad

4.1

Senedd Clwyd

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes ar yr amserlen amlinellol arfaethedig ar gyfer yr wythnos yn cychwyn ar 8 Mehefin, sy'n gyson ag amserlenni arferol y pwyllgorau a'r Cynulliad, y cytunwyd arnynt gan y Pwyllgor Busnes. Cytunwyd hefyd i gynnal y gymhareb arferol o fusnes y llywodraeth a busnes nad yw'n fusnes y llywodraeth ar gyfer y ddau Gyfarfod Llawn, ar 9 a 10 Mehefin.

 

Trafododd y Rheolwyr Busnes opsiynau ar gyfer y mathau o fusnes, nad yw'n fusnes y llywodraeth, a gaiff ei amserlennu yn ystod y ddau Gyfarfod Llawn a gaiff eu cynnal yng ngogledd Cymru ar 9 a 10 Mehefin a chytunwyd i:

  • amserlennu dadl y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ond gan ofyn i'r Pwyllgor a fyddai'n fodlon â slot 30 munud;
  • trefnu Dadl Aelod a gwahodd Aelodau i gyflwyno cynigion i'w dewis;
  • cynnal pleidlais Dadl Fer bwrpasol ar gyfer yr wythnos honno, yn hytrach na'i chynnwys yn y balot tymhorol;
  • amserlennu 60 neu 90 munud o amser i wrthblaid, gyda grwpiau gwrthbleidiau i drafod y tu allan i'r Pwyllgor Busnes sut y gallai'r amser hwnnw gael ei ddyrannu a'i ddefnyddio.

 

 

5.

Unrhyw Fater Arall

Cofnodion:

Cwestiynau

 

Gofynnodd y Llywydd i'r Rheolwyr Busnes ddweud wrth yr Aelodau i beidio â dyfynnu o ohebiaeth yn ystod cwestiynau, gan fod hyn yn gwneud cyfraniadau yn rhy hir. Dylai'r aelodau fod yn gofyn cwestiynau, yn hytrach na gwneud areithiau.

 

Coronafirws

 

Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y bydd y Comisiwn yn ystyried papur ar Coronafirws yr wythnos nesaf.