Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi. |
|
Trefn busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Dydd
Mawrth ·
Yn dilyn cynnig a basiwyd yn y Cyfarfod Llawn
ar 3 Ebrill a oedd yn atal Gareth Bennett o drafodion y Cynulliad am gyfnod o
saith diwrnod calendr, gan ddechrau ddoe, dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr
Busnes na fydd yn galw Aelod arall o UKIP i ofyn Cwestiynau'r Arweinwyr yn ei
le heddiw. ·
Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio ar ôl yr eitem
olaf o fusnes. Dydd
Mercher ·
Cynhelir yr holl bleidleisiau cyn y Ddadl
Fer. |
|
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y
Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf. |
|
Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Penderfynodd
y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau
o fusnes a ganlyn ar yr amserlen: Dydd Mercher 22 Mai 2019 – ·
Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon
Cyhoeddus: Craffu ar Gyfrifon 2017-18 (30 munud) ·
Dadl ar Ddeiseb P-05-784 Dibyniaeth ar
gyffuriau presgripsiwn ac effeithiau diddyfnu - adnabyddiaeth a chefnogaeth (60
munud)
Cais i
drefnu dadl ar NNDM7031 Dychwelodd
y Rheolwyr Busnes at eu trafodaeth ar 2 Ebrill ynghylch amserlennu dadl ar
NNDM7031, a oedd yn galw ar yr Ysgrifennydd Parhaol, yn gweithredu yn unol ag
Adran 37(1)(b) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, i baratoi, at ddibenion y
Cynulliad, gyda golygiadau priodol i sicrhau bod tystion yn aros yn anhysbys,
adroddiad yr ymchwiliad ynghylch a oedd unrhyw dystiolaeth y cafodd gwybodaeth
ei rhannu o flaen llaw heb ganiatâd mewn perthynas â'r ad-drefnu Gweinidogol ym
mis Tachwedd 2017. Nododd y
Rheolwyr Busnes fod y Prif Weinidog, ar 4 Ebrill, wedi cyhoeddi datganiad, mewn
ymateb i ddyfarniad yr Uchel Lys, yn nodi ei fwriad i gyhoeddi adroddiad yr
'ymchwiliad datgelu gwybodaeth' ar ôl cwest y crwner. Yng ngoleuni'r datganiad
hwnnw, penderfynodd y Rheolwyr Busnes beidio ag amserlennu'r ddadl NNDM, gan
gredu y byddai'r datganiad wedi mynd i'r afael â'r materion a godir yn y
cynnig. |
|
Deddfwriaeth |
|
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol diwygiedig ar gyfer y Bil Awdurdodau Afonydd a Draenio Tir Cofnodion: Nododd y
Rheolwyr Busnes y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol diwygiedig cyn y ddadl yn y
Cyfarfod Llawn y prynhawn yma a bod y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a
Deddfwriaethol a'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig
wedi cael gwybod am y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol diwygiedig. |
|
Pwyllgorau |
|
Cais gan y Pwyllgor Cyllid i gynnal ymweliad ffurfiol oddi ar y safle Cofnodion: Cytunodd y
Rheolwyr Busnes i'r cais. |
|
Busnes y Cynulliad |
|
Effaith newidiadau diweddar i aelodaeth grwpiau ar bwyllgorau a busnes y Cyfarfod Llawn Cofnodion: Trafododd
y Rheolwyr Busnes y papur a gofynnwyd i swyddogion ddrafftio nodyn o opsiynau
i'w hystyried yn eu cyfarfodydd grŵp priodol yn ddiweddarach y bore yma. Cytunodd y
Rheolwyr Busnes i newid cyfran yr amser a ddyrennir yn y Cyfarfod Llawn i'r
Ceidwadwyr, Plaid Cymru ac UKIP i 12:10:3 yn y drefn honno. Trafododd
y Rheolwyr Busnes gynigion y Llywydd ar gyfranogiad UKIP yn y dyfodol i
Gwestiynau Arweinwyr a Llefarwyr. Dywedodd y Llywydd y byddai'n ystyried y
safbwyntiau a fynegwyd cyn gwneud penderfyniad. |
|
Derbyniadwyedd cynigion Cofnodion: Nododd y
Rheolwyr Busnes y papur. |
|
Unrhyw Fater Arall Pwyllgor
Safonau - Gareth Bennett Cyn y
Pasg, cymeradwyodd y Cynulliad argymhelliad y Pwyllgor Safonau y dylid dileu
Gareth Bennett o fod yn aelod o'r Pwyllgor hwnnw am weddill y Cynulliad
hwn. Disgwylir i'r Pwyllgor gwrdd nesaf
ar 14 Mai, ac felly byddai angen gwneud unrhyw newid yr wythnos hon neu'r
wythnos nesaf er mwyn iddo gael effaith mewn pryd. Penderfynodd
y Rheolwyr Busnes y dylid rhoi cyfle i UKIP enwebu aelod newydd a gofynnodd i'r
grŵp gyflwyno enw erbyn cyfarfod yr wythnos nesaf. |