Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi.

 

3.

Trefn busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

  • Bydd y Llywodraeth yn ychwanegu cynnig i Atal y Rheolau Sefydlog at agenda’r Cyfarfod Llawn heddiw fel yr eitem olaf o fusnes, ac os cytunir arno bydd yn galluogi dadl 60 munud ar ‘Y Rhagolygon o ran bargen Brexit yn dilyn y Bleidlais yn Nhŷ’r Cyffredin’ yn y Cyfarfod Llawn yfory. Os bydd yr Aelodau’n pleidleisio o blaid trefnu’r ddadl, cynigir y caiff ei gyflwyno mor fuan â phosibl bore yfory, ar ôl i ganlyniad y bleidlais yn Nhŷ’r Cyffredin ddod yn hysbys, a bod y Llywydd yn ceisio caniatáu ffenestr o o leiaf 2 awr i Aelodau gyflwyno newidiadau. Byddai hefyd yn cael ei ychwanegu fel yr eitem olaf o fusnes yfory i sicrhau’r ffenestr fwyaf bosibl i’r Aelodau ystyried y cynnig a chyflwyno gwelliannau.

 

  • Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio ar ôl yr eitem olaf o fusnes. 

 

Dydd Mercher

 

  • Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer.

 

  • Os derbynnir y cynnig i atal y Rheolau Sefydlog i alluogi dadl ar ‘Y Rhagolygon o ran bargen Brexit yn dilyn y Bleidlais yn Nhŷ’r Cyffredin’ yn y Cyfarfod Llawn heddiw, mae’r Cyfarfod Llawn yfory yn annhebygol o barhau yn hwy na 7.20pm.

 

 

 

3.2

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

 

Dosbarthodd y Trefnydd gopïau caled diwygiedig a oedd yn manylu ar y newidiadau canlynol:

 

Dydd Mawrth 5 Chwefror 2019

 

·         Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Darparu Gofal Heb ei Drefnu yn ystod y Gaeaf (45 munud) - gohiriwyd tan 12 Chwefror

·         Dadl: Adroddiad Blynyddol Camddefnyddio Sylweddau (60 munud) - gohiriwyd tan 12 Chwefror

 

Dydd Mawrth 12 Chwefror 2019

 

·         Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Darparu Gofal Heb ei Drefnu yn ystod y Gaeaf (45 munud) - gohiriwyd ar 5 Chwefror

·         Dadl: Adroddiad Blynyddol Camddefnyddio Sylweddau (60 munud) - gohiriwyd ar 5 Chwefror

 

 

 

3.3

Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

 

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 20 Chwefror 2019 –

·         Dadl ar yr adroddiad ar Berthynas Cymru â Phwyllgor y Rhanbarthau yn y Dyfodol (30 munud)

·         Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon: Busnes Pawb: Adroddiad ar Atal Achosion o Hunanladdiad yng Nghymru (60 munud)

·         Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig (60 munud)

 

 

3.4

Dadl Aelod Unigol: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl

Cofnodion:

Dadl Aelod Unigol: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl

 

·         Detholodd y Pwyllgor Busnes y cynnig a ganlyn ar gyfer dadl ar 6 Chwefror:

NNDM6950

David Rees

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1.    Yn croesawu’r buddsoddiadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru i gefnogi dyfodol cynaliadwy i’r diwydiant dur yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

 

2.    Yn cydnabod yr heriau sy’n wynebu’r diwydiant dur yng Nghymru yn dilyn ymadawiad y DU â’r UE.

 

3.    Yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i gefnogi’r sector dur yng Nghymru sy’n ddiwydiant o bwys i economi Cymru.

 

4.    Yn galw ar Lywodraeth y DU i fynd i’r afael â chostau uchel ynni sy’n wynebu’r sector dur yn y DU o’i gymharu â chostau trydan yn yr UE.

 

Cefnogwyr:

 

Jayne Bryant

Suzy Davies

Russell George

John Griffiths

Huw Irranca-Davies

Bethan Sayed

Caroline Jones

Dawn Bowden

Mike Hedges

Vikki Howells

Jack Sargeant

Alun Davies

 

·         Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gynnal y Ddadl Aelod unigol nesaf ar 20 Chwefror, a dewiswyd y cynnig a ganlyn:

NNDM6947

Huw Irranca-Davies

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi:       

 

a) bod gan bobl ifanc yng Nghymru rai o’r lefelau gweithgarwch corfforol isaf yn y Deyrnas Unedig, sy’n cyfrannu at lefelau cynyddol o ordewdra a materion iechyd cysylltiedig, fel diabetes math 2;

 

b) bod llawer o gymunedau yng Nghymru yn dioddef o lefelau anghyfreithlon o uchel o lygredd aer, gydag un gymuned yn profi’r ansawdd aer gwaethaf y tu allan i Lundain;

 

c) amcangyfrifir bod cost tagfeydd ar y ffyrdd yn £2 biliwn i economi Cymru bob blwyddyn;

 

d) nid yw targedau ar gyfer allyriadau carbon o drafnidiaeth yng Nghymru wedi’u cyrraedd yn gyson;

 

e) mae lefelau cerdded a beicio yng Nghymru yn gostwng, ac un pryder arbennig yw bod lefelau teithio llesol i’r ysgol yn gostwng; ac

 

f) gellid gwella pob un o’r materion hyn pe bai Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 yn cael ei gweithredu’n effeithiol.

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adnewyddu ei huchelgais o ran teithio llesol yng Nghymru drwy lunio strategaeth teithio llesol gynhwysfawr, sy’n cynnwys targedau uchelgeisiol a chynllun manwl ar gyfer buddsoddi hirdymor mewn seilwaith teithio llesol.

 

Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013

 

Cefnogwyr:

Dai Lloyd

Russell George

Vikki Howells

Neil McEvoy

Jenny Rathbone

 

 

4.

Cynulliad Cenedlaethol Cymru – y Cynllun Ieithoedd Swyddogol

4.1

Adroddiad Blynyddol Comisiwn y Cynulliad ar ei Gynllun Ieithoedd Swyddogol

Cofnodion:

Cynulliad Cenedlaethol Cymru – y Cynllun Ieithoedd Swyddogol

 

Adroddiad Blynyddol Comisiwn y Cynulliad ar ei Gynllun Ieithoedd Swyddogol

 

Trafododd y Rheolwyr Busnes y papur a chytunwyd gyda chynnig y Trefnydd bod swyddogion y Llywodraeth a’r Cynulliad yn cwrdd yn y lle cyntaf i edrych sut y gallwn wella’r ystadegau a’r materion a nodwyd yn y papur.

 

Cododd Rheolwyr Busnes eu pryder ynghylch cyrff cyhoeddus eraill sy’n cyflwyno dogfennau uniaith Saesneg yn unig, a nodwyd efallai y byddent am ystyried (i) pa gyrff cyhoeddus, os o gwbl, sy’n gwneud hynny yn rheolaidd a (ii) y ffordd y mae pwyllgorau’n cyflwyno galwadau am dystiolaeth ac yn pwysleisio’r ddyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gyflwyno dogfennau dwyieithog.

 

Cododd Rheolwyr Busnes y mater hefyd nad yw’r Memoranda Esboniadol y cyfeirir atynt yn y llythyr yn cael eu cyfieithu ar ôl y cyflwyno neu ar ôl i’r terfynau amser gofynnol ar gyfer eu gosod fynd heibio. Dylid ystyried hyn hefyd mewn trafodaethau gyda swyddogion Llywodraeth Cymru.

 

 

 

 

5.

Rheolau Sefydlog

5.1

Cynigion i ddiwygio’r Rheolau Sefydlog: RhS12 - Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a’r Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip (Papur 6, Tudalennau 17 - 21)

Cofnodion:

Rheolau Sefydlog

 

Cynigion i ddiwygio’r Rheolau Sefydlog: RhS12 - Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a’r Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip

 

Cytunodd Rheolwyr Busnes ar y weithdrefn arfaethedig ar gyfer cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a’r Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, a chytunodd mewn egwyddor i’r newidiadau arfaethedig i’r Rheol Sefydlog. Bydd adroddiad yn cael ei ddosbarthu i Reolwyr Busnes y tu allan i’r Pwyllgor y prynhawn yma, ac os cytunir, bydd cynnig i ddiwygio Gorchymyn Sefydlog 12 yn cael ei ychwanegu at agenda’r Cyfarfod Llawn yfory, a chyn hynny bydd cynnig i atal y Rheolau Sefydlog er mwyn caniatáu i’r cynnig gael ei drafod.

 

Cytunodd Rheolwyr Busnes â chynnig y Trefnydd i adolygu’r newidiadau mewn ychydig fisoedd.

 

 

6.

Unrhyw fater arall

Cofnodion:

Unrhyw fater arall

 

Dywedodd Rhun ap Iorwerth fod Aelodau o’i blaid wedi codi’r mater o ddyrannu cwestiynau atodol gydag ef. Roeddent yn pryderu am ychydig o achosion diweddar lle na alwyd arnynt i ofyn cwestiynau atodol yn y Cyfarfod Llawn. Eglurodd y Llywydd ei dull wrth alw am gwestiynau atodol ond nododd fod hylifedd hefyd yn hanfodol, a bod pa Aelodau oedd yn cael eu galw pryd bob amser yn cael ei bennu yn ôl cyfyngiadau amser a chydbwysedd o ran y pleidiau.