Cofnodion
Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Anfonodd Neil Hamilton ei ymddiheuriadau, gan ei fod mewn Gwasanaeth
Coffa yn Llundain. Roedd Gareth Bennett yn bresennol fel dirprwy. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor ar y cofnodion ar gyfer
eu cyhoeddi. |
|
Trefn Busnes |
|
Busnes yr Wythnos Hon Cofnodion: Dydd
Mawrth ·
Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal ar ôl yr
eitem olaf o fusnes. Dydd
Mercher ·
Nid oes unrhyw bwnc wedi'i gyflwyno ar gyfer
y Ddadl Fer. Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio fel yr eitem olaf o fusnes. |
|
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Cwestiynodd y Rheolwyr Busnes yr amser a
ddyrannwyd i ddatganiadau llywodraeth ar 27 Tachwedd, gan fod rhywfaint o
fusnes y Cynulliad wedi symud i'r diwrnod hwnnw i wneud lle ar gyfer y ddadl
Cyfnod 3 ar y Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru) yn ystod amser y Cynulliad ar 5
Rhagfyr. Dyrennir 30 munud bellach i'r datganiadau canlynol: ·
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol
a Gwasanaethau Cyhoeddus: Y diweddaraf ar Gynllun Cyflawni Ein Cymoedd, Ein
Dyfodol ·
Datganiad gan Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip: Y
diweddaraf ar Weithredu'r Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a
Thrais Rhywiol (Cymru) |
|
Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Penderfynodd
y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau
o fusnes a ganlyn ar yr amserlen: Dydd Mawrth 20 Tachwedd 2018 ·
Datganiad
gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: Diwrnod Byd-eang y Plant
y Cenhedloedd Unedig (30 munud) Dydd Mawrth 27 Tachwedd 2018
Dydd Mercher 5 Rhagfyr 2018 –
|
|
Llythyr oddi wrth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: cais am ddatganiad ar Ddiwrnod Byd-eang y Plant Cofnodion: Cytunodd y
Rheolwyr Busnes i'r cais. |
|
Dadl Aelodau: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl Cofnodion: ·
Detholodd y Pwyllgor Busnes y cynnig a ganlyn
ar gyfer dadl ar 21 Tachwedd: NNDM6862 -
Bethan Sayed Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn
gresynu bod cyllid ar gyfer addysg bellach wedi bod o dan bwysau sylweddol dros
y blynyddoedd diwethaf o ganlyniad i doriadau cyllidebol. 2. Yn nodi
bod y sector addysg bellach wedi'i osod o dan bwysau ychwanegol, yn rhannol
oherwydd polisïau Llywodraeth Cymru sy'n ymwneud â dysgu gydol oes, sgiliau a
chyflogadwyedd, a gafodd eu hegluro yn y cynllun cyflogadwyedd diweddar a
ddiweddarwyd gan ddatganiad ysgrifenedig ym mis Medi 2018. 3. Yn
mynegi pryder bod staff mewn sefydliadau addysg bellach yn ystyried mynd ar
streic dros gyflogau annigonol a phryderon ynghylch llwythi gwaith trwm. 4. Yn
cynnig na ddylai fod unrhyw ostyngiad pellach o ran faint o arian a dderbynnir
gan y sector addysg bellach ac y dylid cydnabod ei safle fel allwedd i
gynhyrchiant, sgiliau, hyfforddiant a chyflogadwyedd yn economi Cymru. Cefnogwyr: Mohammad Asghar Siân Gwenllian Helen Mary
Jones ·
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ddychwelyd at
pryd y dylid amserlennu'r Ddadl Aelodau nesaf yr wythnos nesaf. |
|
Deddfwriaeth |
|
Llythyr oddi wrth y Pwyllgor Cyllid: Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) Cofnodion: Cytunodd y
Rheolwyr Busnes i ymestyn dyddiad cau Cyfnod 2 i 8 Chwefror 2019. |
|
Amserlen ar gyfer ystyried y Bil Deddfwriaeth (Cymru) Cofnodion: Cytunodd y
Rheolwyr Busnes mewn egwyddor i gyfeirio Bil Deddfwriaeth (Cymru) at y Pwyllgor
Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol i'w ystyried. Cytunodd y
Rheolwyr Busnes i ohirio'r penderfyniad ar amserlen y Bil er mwyn ymgynghori
â'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, a dod yn ôl at y mater
mewn cyfarfod yn y dyfodol. |
|
Llythyr oddi wrth y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig: LCM Bil Amaethyddiaeth y DU Cofnodion: Cytunodd y
Rheolwyr Busnes i ymestyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar yr LCM i
4 Ionawr 2019. Nododd yr Aelodau sylwadau'r Pwyllgor ynghylch amserlennu LCMs
ac argaeledd Gweinidogion ar gyfer craffu. |
|
Pwyllgorau |
|
Effaith Aelod yn ymddiswyddo ac yn gadael grŵp Cofnodion: Trafododd
y Rheolwyr Busnes y papur a chytunodd y dylid cynnal trafodaethau pellach y tu
allan i'r pwyllgor, gyda'r bwriad bod y cynnig i lenwi'r lle gwag yn y Pwyllgor
Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn cael ei gyflwyno a'i ystyried
yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos hon. |
|
Busnes y Cynulliad |
|
Adolygiad o Gwestiynau Llafar y Cynulliad Cofnodion: Ailadroddodd
y Llywydd ei bwriad i alw UKIP yn olaf ar gyfer Cwestiynau'r Arweinwyr a
Llefarwyr gofyn i'r Ceidwadwyr a Phlaid bob yn ail gyda'r gymhareb 6:5, fel y
rhai cyntaf i ofyn cwestiynau, gan ddechrau'r wythnos hon. Cytunodd
Rheolwyr Busnes i ddychwelyd at y ddau gynnig arall o ran newid nifer y
cwestiynau a ofynnir ac amseriad. |
|
Trefniadau cyflwyno dros y Nadolig Cofnodion: Cytunodd y
Rheolwyr Busnes ar y trefniadau cyflwyno arfaethedig ar gyfer toriad y
Nadolig. |
|
Unrhyw fater arall Dywedodd
Gareth Bennett wrth y Rheolwyr Busnes yr hoffai UKIP ail-enwebu Neil Hamilton
fel aelod o Gomisiwn y Cynulliad. Nododd y Rheolwyr Busnes eto nad oedd
ganddynt unrhyw reswm i feddwl y byddai eu haelodau'n pleidleisio'n wahanol yn
y Cyfarfod Llawn y tro hwn, ac felly cytunodd nad oedd unrhyw ddiben i'r
Pwyllgor Busnes gyflwyno cynnig o'r fath. Gan hynny, dywedodd Gareth Bennett
wrth y Rheolwyr Busnes yr hoffai UKIP enwebu David Rowlands fel aelod o
Gomisiwn y Cynulliad, a chytunodd y Rheolwyr Busnes i gyflwyno cynnig i'w
ychwanegu i agenda'r Cyfarfod Llawn fory. Dywedodd
hefyd wrth y Rheolwyr Busnes yr hoffai UKIP enwebu David Rowlands fel aelod
arall o'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad. Bydd cynnig yn cael ei gyflwyno a'i
ychwanegu i agenda'r Cyfarfod Llawn yfory. |