Cofnodion

Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi.

 

3.

Trefn busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

·         Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio fel yr eitem olaf o fusnes.

Dydd Mercher

 

·         Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ohirio dadl UKIP (a drefnwyd ar gyfer 4 Gorffennaf 2018) tan 19 Medi 2019.

 

·         Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer.

 

3.2

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

 

3.3

Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 11 Gorffennaf 2018 –

 

·         Cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 18 mewn perthynas â Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013.

Dydd Mercher 19 Medi 2018 –

·         Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Gwaith Craffu ar ôl Deddfu ar Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig (60 munud)

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Llythyr gan y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ynghylch yr Amserlen ar gyfer ystyried y Bil Awtistiaeth (Cymru)

Cofnodion:

Cadarnhaodd y Rheolwyr Busnes eu penderfyniad mewn egwyddor o 12 Mehefin i gyfeirio'r Bil Awtistiaeth (Cymru) i'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar gyfer ystyriaeth yng Nghyfnod 1, a chytunodd ar 7 Rhagfyr 2018 fel y dyddiad cau i'r Pwyllgor gyflwyno adroddiad Cyfnod 1 ac ar 22 Chwefror 2019 fel y dyddiad cau i'r Pwyllgor gwblhau ei drafodion Cyfnod 2.

 

5.

Pwyllgorau

5.1

Llythyr gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyheoddus ynghylch cais am gyfarfod ychwanegol

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gais gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn gofyn am gyfarfod ychwanegol ddydd Mawrth 17 Gorffennaf 2018 er mwyn galluogi'r Pwyllgor i ymgymryd â'i holl fusnes sydd wedi'i drefnu cyn toriad yr haf.

 

6.

Y Pwyllgor Busnes

6.1

Coladu canllawiau a gyhoeddwyd gan y Llywydd o dan Reol Sefydlog 6.17

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ddychwelyd at y papur ymhen 2 wythnos.

 

7.

Rheolau Sefydlog

7.1

Cynigion i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Gweithdrefn y Cynulliad ar gyfer Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor o dan Adran 116C

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ddychwelyd at y papur ymhen 2 wythnos.

 

7.2

Cynigion i ddiwygio Rheol Sefydlog 18 Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru)

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i'r adroddiad ar ddiwygio'r Rheolau Sefydlog mewn perthynas â Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013.  Cytunodd y Pwyllgor y dylid gosod yr adroddiad y diwrnod canlynol, ochr yn ochr â chynnig i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog, i'w ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher nesaf.