Cofnodion

Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi.

 

3.

Trefn busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

·         Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio ar ôl yr eitem olaf o fusnes.

 

Dydd Mercher

 

 

·         Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer.

 

 

3.2

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

 

3.3

Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 20 Mehefin 2018 -

·         Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid: Adroddiad ar y Tanwariant ym Mhenderfyniad y Bwrdd Taliadau (30 munud)

Dydd Mercher 27 Mehefin 2018 -

·         Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud)

·         Dadl ar Ddeisebau P-04-472 Gwnewch y Nodyn Cyngor Technegol Mwynau yn ddeddf a P-04-575 Galw i Mewn Pob Cais Cynllunio ar Gyfer Cloddio Glo Brig (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

 

4.

Gadael yr Undeb Ewropeaidd

4.1

Newidiadau posibl yn y Rheolau Sefydlog sy'n deillio o Fil yr UE (Ymadael)

Cofnodion:

Nododd y Rheolwyr Busnes y papur a chytunwyd mewn egwyddor mai'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ddylai fod yn bwyllgor sifftio. Fodd bynnag, dywedodd Arweinydd y Tŷ yn glir bod ei chytundeb yn ddarostyngedig i ddatrys maint y pwyllgor a chydbwysedd gwleidyddol mewn ffordd sy'n bodloni. 

 

Cytunodd yr Ysgrifenyddiaeth i gyflwyno papur i gyfarfod yn y dyfodol ar yr opsiynau ar gyfer nodi'r materion o ran maint a chydbwysedd gwleidyddol y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.

 

Cytunodd yr Ysgrifenyddiaeth hefyd i barhau i weithio gyda swyddogion Llywodraeth Cymru i edrych ar y cylch gweithdrefnau is-ddeddfwriaeth yng ngoleuni Bil yr UE (Ymadael) a datblygiadau eraill.

 

4.2

Atodiad - Llythyr gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ynghylch Newidiadau posibl i'r Rheolau Sefydlog, yn deillio o Fil yr UE (Ymadael)

Cofnodion:

Nododd y Rheolwyr Busnes y llythyr.

 

Unrhyw fater arall

Cafodd y Rheolwyr Busnes eu hysbysu gan y Llywydd fod Caroline Jones wedi ymddiswyddo fel aelod o Gomisiwn y Cynulliad. Gofynnodd y Llywydd i UKIP hysbysu'r Pwyllgor Busnes o'i enwebiad ar gyfer Comisiynydd newydd.