Cofnodion

Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Ymddiheurodd y Llywydd am ei habsenoldeb a bu’r Dirprwy Lywydd yn cadeirio’r cyfarfod.

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar y cofnodion ar gyfer eu cyhoeddi.

 

3.

Trefn busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

·         Byddai'r holl bleidleisiau mewn perthynas â'r Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) yn digwydd yn ystod trafodion Cyfnod 3.

 

·         Cadarnhaodd Gweinidog Busnes y Llywodraeth y byddai'r pleidleisio ar bob eitem arall o fusnes yn cael ei gynnal cyn i drafodion Cyfnod 3 ddechrau.

 

 

·         Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y byddai egwyl o 10 munud cyn i drafodion Cyfnod 3 ddechrau.

 

Dydd Mercher

 

·         Byddai'r Cyfnod Pleidleisio yn cael ei gynnal cyn y Ddadl Fer.

 

3.2

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

 

3.3

Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 10 Ionawr 2018 -

·         Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig: Y Llanw'n Troi? Adroddiad yr ymchwiliad i ddull Llywodraeth Cymru o reoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

 

3.4

Cynigion Deddfwriaethol yr Aelodau - dewis cynnig ar gyfer dadl

Cofnodion:

·         Dewisodd y Pwyllgor Busnes gynnig ar gyfer dadl ar 6 Rhagfyr:

NDM5518 David Melding (Canol De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1.   Yn nodi cynnig ar gyfer Bil i gynyddu cyfranogiad dinasyddion yn y broses o wneud polisi yng Nghymru.

2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai gwella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd gwasanaethau cyhoeddus.

 

·         Cytunodd y Rheolwyr Busnes i drefnu dwy ddadl ar Gynigion Deddfwriaethol yr Aelodau yn y Flwyddyn Newydd, a dewiswyd y cynigion canlynol:

17 Ionawr 2018

 

NNDM6576 Steffan Lewis (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1.   Yn nodi cynnig ar gyfer Bil Parhad i Gymru

2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai cadarnhau bod yr holl bynciau a oedd yn rhan o gyfraith yr UE yn parhau o fewn cyfraith Cymru lle bônt o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â Deddf Cymru 2017.

 

 

7 Chwefror 2018

 

NNDM6537 Vikki Howells (Cwm Cynon)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil chwarae cynhwysol.

 

2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai gwella cyfleoedd chwarae cynhwysol drwy osod dyletswydd ar awdurdodau lleol a fyddai'n golygu bod rhaid iddynt ddarparu offer chwarae sy'n diwallu anghenion plant ag anableddau.

 

Unrhyw fater arall

Nododd y Rheolwyr Busnes y bydd Cyfarfod y Pwyllgor Busnes ar 12 Rhagfyr yn dechrau am 8am.

 

Nododd y Rheolwyr Busnes y byddai'r papur ar Gwestiynau Llafar y Cynulliad, a ohiriwyd yr wythnos diwethaf, ar yr agenda ar gyfer yr wythnos nesaf.