Cofnodion
Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor ar y cofnodion ar gyfer eu cyhoeddi. |
|
Trefn busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Dydd Mawrth ·
Newidiodd y Llywodraeth y Datganiad ar yr
Ymgynghoriad Cyhoeddus ar Gynnal Teithiau Bws Am Ddim i Bobl Hŷn, Pobl
Anabl a Chyn-filwyr Wedi'u Hanafu i Ddatganiad ar Ymgynghoriadau ar Deithio
Rhatach ar Fysiau. ·
Ni fydd Cyfnod Pleidleisio. Dydd Mercher ·
Cytunodd y Rheolwyr Busnes y byddai'r Cyfnod
Pleidleisio yn cael ei gynnal cyn y Ddadl Fer. |
|
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y
Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf. |
|
Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Penderfynodd
y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau
o fusnes a ganlyn ar yr amserlen: Dydd
Mercher 8 Tachwedd 2017 - ·
Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon
Cyhoeddus: Ymchwiliad i Blant sydd wedi bod mewn Gofal (30 munud) ·
Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog
11.21(iv) (60 munud) ·
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a
Materion Gwledig: Y Llanw'n Troi? Adroddiad yr ymchwiliad i ddull Llywodraeth
Cymru o Reoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig (60 munud) |
|
Dadl Aelod Unigol: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl Cofnodion: ·
Dewisodd y Pwyllgor Busnes gynnig ar gyfer
dadl ar 18 Hydref: NNDM6528 Julie Morgan Hannah Blythyn Angela Burns Dai Lloyd Jenny Rathbone Joyce Watson Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod bod anffurfio organau cenhedlu benywod yn
cael ei ymarfer yn eang ledled y byd a bod tua 2,000 o fenywod a merched yng
Nghymru yn byw gyda chanlyniadau anffurfio organau cenhedlu benywod. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) defnyddio pob cyfle i gynyddu ymwybyddiaeth o'r arfer
hwn; b) annog ysgolion i drafod hyn fel rhan o'r cwricwlwm
Addysg Bersonol a Chymdeithasol a hyfforddi staff; c) codi ymwybyddiaeth o'r arfer hwn ymysg meddygon teulu
a phob ymarferydd meddygol; a d) gwneud
popeth yn ei gallu i sicrhau bod y cymunedau yr effeithir arnynt fwyaf yn
derbyn cymorth a chefnogaeth i fynd i'r afael â'r broblem.
NNDM6527 Jenny Rathbone Suzy Davies Dafydd Elis-Thomas Dai Lloyd David Melding Eluned Morgan Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi bod
cyflymder y chwyldro mewn technoleg trafnidiaeth yn herio rhagdybiaethau
cynllunio presennol ac yn golygu bod angen ail-feddwl dylunio a pholisi
cyhoeddus yn sylweddol. 2. Yn credu y bydd angen i weithgynhyrchwyr trafnidiaeth
a'u cadwyni cyflenwi addasu neu farw wrth i'r motor tanio gael ei ddiddymu'n
raddol dros yr 20 mlynedd nesaf o ganlyniad i: a) cerbydau heb yrwyr, a fydd yn amharu ar dybiaethau
ynghylch y berchnogaeth breifat o geir, cynllunio trefol, rheoli tagfeydd ar y
ffyrdd a rôl bysiau i gysylltu cymunedau; a b) cerbydau trydan, sy'n golygu bod angen i drydan gael
ei gynhyrchu a'i gyflenwi mewn ffordd fwy gwasgaredig gan gynnwys pwyntiau
trydanu ledled Cymru; 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu'r camau y
mae'n eu cymryd i alinio polisïau â chyflymder y newid a sicrhau bod pob
dinesydd yn cael budd o hyn, yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol
(Cymru) 2015. Deddf
Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 |
|
Deddfwriaeth |
|
Llythyr gan y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon: Amserlen ar gyfer ystyried Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris Alcohol) (Cymru) Cofnodion: Cadarnhaodd
Rheolwyr Busnes eu penderfyniad mewn egwyddor o 3 Hydref i gyfeirio Bil Iechyd
y Cyhoedd (Isafbris Alcohol) (Cymru) i'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a
Chwaraeon ar gyfer ystyriaeth yng Nghyfnod 1, a chytunodd ar 16 Chwefror 2018
fel y dyddiad cau i'r Pwyllgor gyflwyno adroddiad Cyfnod 1 ac ar 4 Mai 2018 fel
y dyddiad cau i'r Pwyllgor gwblhau ei drafodion Cyfnod 2. |
|
Llythyr gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Arweiniad a Hawliadau Ariannol Cofnodion: Nododd y
Pwyllgor Busnes y llythyr a chytunodd y byddai'n well i bwyllgorau gael 6
wythnos bwyllgora i adrodd ar Gynigion Cydsyniad Deddfwriaethol yn y
dyfodol. Dywedodd Arweinydd y Tŷ y
byddai'r Llywodraeth yn ceisio darparu ar gyfer hyn, o fewn cyfyngiadau
amserlenni Senedd y DU, wrth gynnig terfynau amser i'r Pwyllgor Busnes gytuno
arnynt. |
|
Rheolau Sefydlog |
|
Cynigion i ddiwygio Rheolau Sefydlog 26, 26A a 26B Cofnodion: Cytunodd y
Rheolwyr Busnes ar yr adroddiad yn nodi'r newidiadau arfaethedig i'r Rheolau
Sefydlog mewn perthynas ag uwch-fwyafrifau.
Cytunodd y Pwyllgor y dylid gosod yr adroddiad y diwrnod canlynol, ochr
yn ochr â chynnig i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog, i'w ystyried yn y Cyfarfod
Llawn ddydd Mercher nesaf. |
|
Y Cyfarfod Llawn |
|
Adolygiad o'r Diwygiadau i'r Cyfarfod Llawn Cofnodion: Cytunodd
Rheolwyr Busnes i ddychwelyd at y papur yn y cyfarfod cyntaf ar ôl yr hanner
tymor. |
|
Pwyllgorau |
|
Effaith ymadawiad Aelod â grŵp gwleidyddol Cofnodion: Cytunodd Rheolwyr Busnes y dylai'r dyraniad presennol o
amser y gwrthbleidiau yn y Cyfarfod Llawn aros yn ddigyfnewid. O ran aelodaeth Pwyllgorau a chadeiryddiaethau, trafododd
y Rheolwyr Busnes y materion a godwyd yn y papur ond ni allent gytuno yn
unfrydol ar unrhyw benderfyniadau.
Cynigiodd y Llywydd fod y Pwyllgor Busnes yn gosod adroddiad yn
amlinellu eu trafodaethau a'u casgliadau; caiff drafft ohono ei ddosbarthu cyn
y cyfarfod yr wythnos nesaf. |