Cofnodion
Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor ar y cofnodion ar gyfer eu cyhoeddi. |
|
Trefn busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Dydd
Mawrth ·
Cytunodd y Rheolwyr Busnes y dylid cynnal y
Cyfnod Pleidleisio ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Dydd
Mercher ·
Cytunodd y Rheolwyr Busnes y byddai'r Cyfnod
Pleidleisio yn cael ei gynnal cyn y Ddadl Fer. |
|
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y
Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf. |
|
Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Penderfynodd
y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau
o fusnes a ganlyn ar yr amserlen: Dydd Mercher 4 Hydref 2017 - ·
·
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y
Gymraeg a Chyfathrebu 'Gwireddu'r Uchelgais - Ymchwiliad i Strategaeth Gymraeg
newydd Llywodraeth Cymru' (60 munud) Dydd Mercher 11 Hydref 2017 - ·
Amser a neilltuwyd i Blaid Annibyniaeth y
Deyrnas Unedig (60 munud) - symudwyd o 4 Hydref Dydd Mercher 18 Hydref 2017 - ·
Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog
11.21(iv) (60 munud) ·
Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60
munud) ·
Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud) |
|
Dadl Aelod Unigol: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl Cofnodion: ·
Dewisodd y Pwyllgor Busnes gynnig ar gyfer
dadl ar 4 Hydref: NND6509 Simon
Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Adam Price
(Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr) David
Melding (Canol De Cymru) Mike
Hedges (Dwyrain Abertawe) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod yr angen i liniaru cynhesu byd eang a
chefnogi cytundeb Paris o'r 21ain gynhadledd o'r partïon ('Cytundeb Paris')
drwy dorri allyriadau carbon a nodi bod hyn yn cyd-fynd â Deddf Llesiant
Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. 2. Yn nodi bod yr egwyddor datblygu cynaliadwy wedi'i
hymgorffori yng ngwaith y Cynulliad gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu ymchwil
pellach i ddichonoldeb cynllun peilot cyfrifon carbon personol yng Nghymru. Paris
Accord of the 21st Conference of the Parties ('Paris Agreement')' (Saesneg yn unig) 'Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015' 'Deddf Llywodraeth Cymru 1998’ (Saesneg yn unig) ·
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gynnal y Ddadl
Aelod Unigol nesaf ar 18 Hydref. |
|
Deddfwriaeth |
|
Amserlen ar gyfer ystyried Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) Cofnodion: ·
Cytunodd Rheolwyr Busnes mewn egwyddor i
gyfeirio Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) i'r
Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar gyfer ei ystyried yng
Nghyfnod 1. ·
Cytunodd Rheolwyr Busnes i ysgrifennu at
Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol i ymgynghori ar
amserlen ar gyfer Cyfnod 1 a Chyfnod 2. |
|
Pwyllgorau |
|
Effaith ymadawiad Aelod â grŵp gwleidyddol Cofnodion: Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ddychwelyd at y papur yng
nghyfarfod yr wythnos nesaf. |
|
Llythyr gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad Cofnodion: Cytunodd Rheolwyr Busnes ar gais gan y Pwyllgor Safonau
Ymddygiad i ganiatáu cyfarfod ychwanegol bob yn ail ddydd Mawrth pe bai angen. |
|
Diwygio trefniadau'r Cynulliad |
|
Rhaglen ddiwygio'r Cynulliad: diwygiadau mewnol arfaethedig Cofnodion: Nododd y Rheolwyr Busnes y papur. |
|
Papurau i’w nodi |
|
Llythyrau gan Gadeiryddion y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol a'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol Cofnodion: Trafododd Rheolwyr Busnes y papur ac a
allai'r Pwyllgor Busnes gefnogi barn a fynegwyd gan y Pwyllgor Materion
Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol mai'r Cynulliad Cenedlaethol a ddylai fod yn
gyfrifol am benderfynu ar y weithdrefn i'w chymhwyso ar gyfer is-ddeddfwriaeth
a wneir gan Weinidogion Cymru. Cytunodd
Rheolwyr Busnes i gadarnhau eu hymateb yn dilyn y cyfarfod. |