Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Video Conference via Zoom
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunwyd ar
gofnodion cyfarfod yr wythnos diwethaf i’w cyhoeddi |
|
Trefn Busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Dydd Mawrth ·
Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei
gynnal ar ôl yr eitem olaf o fusnes. ·
Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o
fynd y tu hwnt i 8.25pm. Dydd
Mercher ·
Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei
gynnal cyn y Ddadl Fer. ·
Nid yw’r Cyfarfod Llawn yn debygol
o fynd y tu hwnt i 7.30pm. Tynnodd y
Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau amrywiol i Fusnes yr Wythnos
Hon: ·
ychwanegu dau gynnig i atal y
Rheolau Sefydlog; ·
ychwanegu datganiad gan y Cwnsler
Cyffredinol ar Bontio'r UE; ·
ychwanegu dadl ar Reoliadau Diogelu
Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Mangre Ysgol a Mangre Sefydliad Addysg
Bellach) (Cymru) 2020; ·
ychwanegu dadl ar Reoliadau Diogelu
Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) (Diwygio) 2020; ·
ychwanegu dadl ar Reoliadau Iechyd
y Cyhoedd (Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Cymru) (Coronafeirws) 2020; ·
ychwanegu dadl ar lefelau newydd o
gyfyngiadau i ymateb i bandemig y coronafeirws; ·
datganiad gan y Gweinidog Iechyd
Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg, Gohiriwyd cyhoeddi'r polisi cenedlaethol ar
drosglwyddo a defnyddio'r Gymraeg mewn teuluoedd tan fis Ionawr 2021; ·
mae'r ddadl ar y Cynnig Cydsyniad
Deddfwriaethol ar y Bil Masnach wedi'i gohirio. Cytunodd y Pwyllgor mai trefn y Dadleuon Byr a drefnwyd
ar gyfer 16 Rhagfyr fyddai Andrew RT Davies yn gyntaf a Neil Hamilton yn ail. Trafododd y Pwyllgor y tebygolrwydd y bydd y Senedd yn
cael ei hadalw rywbryd rhwng diwedd y tymor a 31 Rhagfyr i drafod materion yn
ymwneud ag ymadael â'r UE, a chytunodd y dylai unrhyw gyfarfod adalw ddigwydd
mewn fformat rhithwir. |
|
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Tynnodd y
Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn: Dydd Mawrth
12 Ionawr 2021 ·
Rheoliadau Diogelu Iechyd
(Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 (30 munud) ·
Dydd Mawrth
19 Ionawr 2021 ·
Cynnig i amrywio'r drefn o ystyried
gwelliannau Cyfnod 3 y Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) (5 munud) Dydd Mawrth 26 Ionawr 2021 ·
Dadl: Cyfnod 3 y Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio)
(Cymru) (180 munud) |
|
Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau busnes a ganlyn ar yr amserlen: Dydd
Mercher 13 Ionawr 2021 - ·
Dadl
ar ddeisebau P-05-1063 a P-05-1074: mynediad i gyfleusterau ar gyfer chwaraeon a gweithgarwch
corfforol yn ystod y cyfyngiadau symud (60 munud)
Dydd
Mercher 20 Ionawr 2021 - ·
Dadl ar
ddeiseb P-05-1032 Deddfu i atal pobl rhag newid enwau Cymraeg tai (30 munud)
Dydd
Mercher 27 Ionawr 2021 - ·
Dadl
Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): (60 munud) ·
Amser a
neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) ·
Amser a
neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud) |
|
Deddfwriaeth |
|
Papur i’w nodi - Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Cymru) (Coronafeirws) 2020 |
|
Papur i’w nodi - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) (Diwygio) 2020 |
|
Papur i’w nodi - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Mangre Ysgol a Mangre Sefydliad Addysg Bellach) (Cymru) 2020 Cofnodion: Nododd y
Pwyllgor y llythyrau. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i bennu terfyn amser o 11
Ionawr i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyflwyno
adroddiad ar Reoliadau Coronafeirws Rhif 5 a drefnwyd i’w trafod ar 12 Ionawr. |
|
Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Diwygio) 2021 Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor i gyfeirio'r Gorchymyn arfaethedig at y Pwyllgor Deddfwriaeth,
Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn unol â Rheol Sefydlog 25.7(i) a'r terfyn amser
ar gyfer cyflwyno adroddiad arno yw 14 Ionawr. |
|
Pwyllgorau |
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor i drefnu 'Dadl ar ddeisebau sy'n ymwneud â mynediad i gyfleusterau ar
gyfer chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ystod y cyfyngiadau symud' am 60
munud ar 13 Ionawr, gan gymryd lle'r ddadl a drefnwyd yn flaenorol: P-05-1032
Deddfu i atal pobl rhag newid enwau Cymraeg tai, ac aildrefnu'r ddadl honno i
20 Ionawr 2021, ac aildrefnu dadleuon y gwrthbleidiau yn unol â hynny. |
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor i’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad drefnu cyfarfodydd y tu allan i'w slot
rheolaidd yn ystod yr wythnosau’n cychwyn 25 Ionawr, 1 Chwefror ac 8 Chwefror
os oes angen. |
|
Y Rheolau Sefydlog |
|
Gweithdrefnau Busnes Cynnar |
|
Gweithdrefnau Adalw |
|
Adolygu'r Rheolau Sefydlog mewn perthynas â grwpiau gwleidyddol Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i holi eu
grwpiau am farn bellach ar y pynciau hyn ac adrodd yn ôl yn ystod cyfarfod
ychwanegol cyntaf y Pwyllgor Busnes yn y flwyddyn newydd. |