Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Zoom

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at ohirio’r eitemau a ganlyn tan 16 Mawrth:

 

·         Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân: 

o    Rheoliadau Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (Diwygio Targed Allyriadau 2050) 2021 

o    Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Targedau Allyriadau Interim) (Cymru) (Diwygio) 2021 

o    Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Cyllidebau Carbon) (Cymru) (Diwygio) 2021 

o    Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Terfyn Credyd Cyfrif Allyriadau Net Cymru) (Cymru) 2021

 

Dydd Mawrth

 

·         Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.  

·         Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.45pm.

 

Dydd Mercher

 

·         Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.  

·         Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.40pm. 

 

 

3.2

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:

 

Dydd Mawrth 16 Mawrth 2021

 

·           Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (45 munud)

o    Rheoliadau Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (Diwygio Targed Allyriadau 2050) 2021

o    Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Targedau Allyriadau Interim) (Cymru) (Diwygio) 2021

o    Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Cyllidebau Carbon) (Cymru) (Diwygio) 2021

o    Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Terfyn Credyd Cyfrif Allyriadau Net Cymru) (Cymru) 2021

 

Dydd Mawrth 23 Mawrth 2021 –

 

·           Datganiad gan y Gweinidog Addysg: Cymorth Iechyd Meddwl a Llesiant mewn Lleoliadau Addysgol (30 munud)

·           Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Amrywio Dros Dro Gyfraddau a Bandiau ar gyfer Trafodiadau Eiddo Preswyl) (Cymru) (Diwygio) 2021 (15 munud)

·           Dadl:  Diwygiadau i Setliadau Llywodraeth Leol a’r Heddlu 2020-2021 (15 munud)

 

 

3.3

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 17 Mawrth 2021 –

 

·         Cynnig i benodi Comisiynydd Safonau’r Senedd (5 munud)

 

Dydd Mercher 24 Mawrth 2021 –

 

·         Cynnig i Gymeradwyo'r Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau o'r Senedd (5 munud)

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Amrywio Dros Dro Gyfraddau a Bandiau ar gyfer Trafodiadau Eiddo Preswyl) (Cymru) (Diwygio) 2021

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyfeirio’r rheoliadau i’r Pwyllgor Cyllid a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, i gyflwyno adroddiad erbyn dydd Llun 22 Mawrth.

 

 

4.2

Trefniadau ar gyfer craffu ar is-ddeddfwriaeth

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gael ei ddwyn i sylw Aelodau newydd o’r Senedd.  

 

Nododd y Pwyllgor hefyd y goblygiadau ar gyfer craffu ar is-ddeddfwriaeth ar ddechrau'r Chweched Senedd, ac yn benodol, unrhyw oedi wrth sefydlu'r pwyllgor cyfrifol newydd o dan Reol Sefydlog 21.

 

 

5.

Adroddiadau Rheolau Sefydlog Drafft

5.1

Newidiadau amrywiol

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes ar yr adroddiad drafft ac i gyflwyno cynnig i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog i’w drafod yn y Cyfarfod Llawn dydd Mercher 24 Mawrth.

 

 

5.2

Aelodaeth Pwyllgorau

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes ar yr adroddiad drafft ac i gyflwyno cynnig i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog i’w drafod yn y Cyfarfod Llawn dydd Mercher 24 Mawrth.

 

 

5.3

Adalw’r Senedd

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes ar yr adroddiad drafft ac i gyflwyno cynnig i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog i’w drafod yn y Cyfarfod Llawn dydd Mercher 24 Mawrth.

 

 

6.

Rheolau Sefydlog

6.1

Adolygu'r Rheolau Sefydlog mewn perthynas â grwpiau gwleidyddol

Cofnodion:

Gwnaeth y Trefnydd gynnig diwygiedig ar gyfer diwygio'r Rheol Sefydlog, a gefnogwyd gan Sian Gwenllian. Nid oedd Mark Isherwood a Caroline Jones yn cefnogi'r cynnig newydd ac roeddent yn parhau i gefnogi cadw'r Rheol Sefydlog bresennol.

 

Bydd drafft diwygiedig o'r adroddiad, gan gynnwys canllawiau, yn cael ei ddosbarthu drwy e-bost, gyda'r bwriad o ddod i gytundeb ffurfiol yn y cyfarfod yr wythnos nesaf.

 

 

Unrhyw faterion eraill

Dyddiad cau ar gyfer Cwestiynau Ysgrifenedig cyn yr etholiad

 

Yn y cyfarfod diwethaf, nododd y Pwyllgor Busnes yr angen i Aelodau ac ymgeiswyr gael eu trin ar sail mor gyfartal â phosibl yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad, a chytunodd na ddylid cyflwyno Cwestiynau Ysgrifenedig yn ystod y cyfnod hwnnw. Cytunwyd ar ddyddiad cau o 19 Mawrth ar gyfer cyflwyno Cwestiynau Ysgrifenedig.

 

Yn dilyn sylwadau, cynigiodd Mark Isherwood a Sian Gwenllian ymestyn yr dyddiad cau ar gyfer cyflwyno Cwestiynau Ysgrifenedig hyd at 29 Ebrill. Eglurodd y Trefnydd na fyddai'r Llywodraeth yn ateb cwestiynau yn ystod y cyfnod cyn y diddymiad, ac y gallai Aelodau ac ymgeiswyr fel ei gilydd ysgrifennu at Weinidogion i ofyn am wybodaeth.

 

Cytunodd mwyafrif o'r Pwyllgor Busnes i gadw at 19 Mawrth fel dyddiad cau.

 

Aelodau sy'n gadael y Senedd

 

Gofynnodd y Trefnydd a oes gan y Comisiwn unrhyw gynlluniau i gasglu barn a phrofiadau Aelodau sy’n gadael y Senedd, yn dilyn cwestiwn Alun Davies yn ystod y Datganiad Busnes yr wythnos diwethaf. 

 

Dywedodd Clerc y Senedd y byddai'n falch o gwrdd ag Aelodau sy'n ymadael i drafod eu profiadau.

 

Cyfarfod llawn olaf y Bumed Senedd

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ddisodli'r eitem datganiadau 90 eiliad ar 24 Mawrth gyda datganiadau byr gan Aelodau sy'n ymadael. Byddai'r Aelodau a oedd wedi mynegi eu bwriad i ymddiswyddo yn etholiad 2021 yn cael cynnig y cyfle i siarad am 3 munud yr un.