Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Video Conference - Zoom

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

2.

Y Rheolau Sefydlog

2.1

Cynnal Pleidleisiau Cyfrinachol gan ddefnyddio Dull Pleidleisio Electronig

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid defnyddio pleidleisio electronig o bell i gynnal y pleidleisiau cyfrinachol ar gyfer ethol y Llywydd a'r Dirprwy Lywydd ar ddechrau'r Senedd nesaf, pe na bai pleidlais gorfforol yn ymarferol naill ai i bawb neu i rai Aelodau. Cymeradwyodd y Pwyllgor y dull arfaethedig o bleidleisio electronig o bell a nodir yn y papur fel un sy'n darparu'r lefelau dymunol o anhysbysrwydd a diogelwch.

 

2.2

Newidiadau amrywiol i'r Rheolau Sefydlog

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes mewn egwyddor i'r newidiadau arfaethedig i’r Rheolau Sefydlog.

 

2.3

Gweithdrefnau Adalw

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyflwyno darpariaeth i ganiatáu i'r Llywydd ddefnyddio disgresiwn i adalw'r Senedd ar gyfer unrhyw fater brys cyhoeddus, mewn ymgynghoriad â'r Prif Weinidog a'r Pwyllgor Busnes.

 

2.4

Aelodaeth Pwyllgorau, Cadeiryddion a Chydbwysedd Gwleidyddol

Cofnodion:

Cadarnhaodd y Pwyllgor Busnes ei benderfyniad i atgynhyrchu darpariaethau yn y Rheolau Sefydlog ar ddefnyddio fformiwla d'Hondt i benderfynu ar aelodaeth pwyllgorau a gynhwyswyd yn flaenorol yn y Ddeddf. Ni wnaeth y Pwyllgor gytuno i unrhyw newidiadau eraill.

 

 

2.5

Adolygu'r Rheolau Sefydlog mewn perthynas â grwpiau gwleidyddol

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor i adolygu'r Rheolau Sefydlog mewn perthynas â grwpiau gwleidyddol

 

Gwnaeth y Trefnydd gynnig ar gyfer diwygio'r Rheol Sefydlog, a gefnogwyd gan Sian Gwenllian. Nid oedd Mark Isherwood a Caroline Jones yn cefnogi'r cynnig; maent yn cefnogi cadw'r Rheol Sefydlog bresennol.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ymgynghori â'r Aelodau nad ydynt yn cael eu cynrychioli ar y Pwyllgor, a bydd yn ystyried y sylwadau yn ei gyfarfod ar 2 Mawrth.