Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Video Conference via Zoom

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd Mark Isherwood i'w gyfarfod cyntaf o'r Pwyllgor Busnes.

 

2.

Y Rheolau Sefydlog

2.1

Sub Judice

Cofnodion:

Cytunodd yr Aelodau mewn egwyddor y dylid dileu eithriadau i sub judice o'r Rheol Sefydlog a'u rhoi mewn canllawiau.

 

 

2.2

Adolygu'r Rheolau Sefydlog mewn perthynas â grwpiau gwleidyddol

Cofnodion:

Cafodd y Rheolwyr Busnes drafodaeth gychwynnol, a chytunwyd i ymgynghori â'u grwpiau a dychwelyd i gael trafodaeth lawn a gwneud penderfyniadau ar y papur yn eu cyfarfod ar 22 Chwefror.

 

 

2.3

Aelodaeth Pwyllgorau, Cadeiryddion a Chydbwysedd Gwleidyddol

Cofnodion:

Cafodd y Rheolwyr Busnes drafodaeth gychwynnol, a chytunwyd i ymgynghori â'u grwpiau a dychwelyd i gael trafodaeth lawn a gwneud penderfyniadau ar y papur yn eu cyfarfod ar 22 Chwefror.

 

 

2.4

Gweithdrefnau Adalw

Cofnodion:

Cafodd y Rheolwyr Busnes drafodaeth gychwynnol, a chytunwyd i ymgynghori â'u grwpiau a dychwelyd i gael trafodaeth lawn a gwneud penderfyniadau ar y papur yn eu cyfarfod ar 22 Chwefror.

 

 

2.5

Adolygu Rheolau Sefydlog dros dro

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes mewn egwyddor y dylid ymestyn y Rheolau Sefydlog dros dro i'r Senedd nesaf er mwyn caniatáu iddynt barhau i gael eu gweithredu a’u hadolygu’n llawn gan y Pwyllgor Busnes newydd.

 

 

2.6

Cynnal pleidleisiau cyfrinachol mewn Senedd rithwir neu hybrid

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes mewn egwyddor y dylai pleidleisio electronig o bell fod ar gael i'r Aelodau ar ddechrau'r Senedd newydd, gan gynnwys ar gyfer ethol y Llywydd a'r dirprwy, a gofynwyd i'r Ysgrifenyddiaeth gyflwyno mwy o fanylion am opsiynau posibl.