Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cynhadledd Fideo Zoom

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau gan Darren Millar AS.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at ychwanegu datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am frechiadau COVID-19, yn ogystal â newid bach i deitl y datganiad gan y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg.  Dywedodd y byddai datganiad ar frechlynnau bob wythnos hyd y gellir rhagweld.

 

Dydd Mawrth 

 

·         Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal ar ôl yr eitem olaf o fusnes.  

·         Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.45pm. 

 

Dydd Mercher 

 

·         Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.  

·         Nid yw’r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 5.55pm. 

 

 

3.2

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:

 

Dydd Mawrth 2 Chwefror 2021

 

·         Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y wybodaeth ddiweddaraf am frechiadau COVID-19 (30 munud)

·         Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 3) (Cymru) 2021 (15 munud)

Dydd Mawrth 9 Chwefror 2021

 

·         Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y wybodaeth ddiweddaraf am frechiadau COVID-19 (30 munud)

·         Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol: Gweithio mewn Partneriaeth ar gyfer Gwaith Teg Cymru (30 munud)

·         Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Papur Gwyn ar Ailgydbwyso Gofal a Chymorth (30 munud)

 

 

3.3

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 24 Chwefror 2021 -

 

·         Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (30 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Grŵp y Gynghrair Annibynnol dros Ddiwygio (30 munud)

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 3) (Cymru) 2021

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i bennu dydd Llun 1 Chwefror fel terfyn amser adrodd i’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyflwyno adroddiad ar y rheoliadau. 

 

 

4.2

Y wybodaeth ddiweddaraf am y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol cyfredol

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes y sefyllfa ddiweddaraf o ran Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol a chytunodd ar ddyddiad cau diwygiedig o 25 Chwefror i’r Pwylgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyflwyno adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Cam-drin Domestig. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i gyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Rhif 2) ar y Bil Cam-drin Domestig at y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyda'r un dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad.

 

 

4.3

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar ddyddiad cau diwygiedig o 25 Chwefror i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyflwyno adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) ar Fil Amgylchedd y DU.

 

 

Unrhyw faterion eraill

Newidiadau i Bwyllgorau

 

Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes fod y grŵp Ceidwadol yn dymuno gwneud newidiadau i’w aelodaeth ar bwyllgorau. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i drefnu'r cynigion i wneud y newidiadau hyn ar gyfer y Cyfarfod Llawn y prynhawn yma ar ôl y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes.

 

Cyfarfod Ychwanegol

 

Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes mai'r agenda ar gyfer cyfarfod ychwanegol nesaf y Pwyllgor Busnes ar 1 Chwefror fydd:

 

• Sub judice;

• Adalw;

• Rheolau Sefydlog Dros Dro;

• Pleidleisiau cyfrinachol mewn Cyfarfod Llawn rhithwir/hybrid;

• Aelodaeth a chydbwysedd Pwyllgorau; a

• Grwpiau – diffiniad.