Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cynhadledd Fideo Zoom

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion cyfarfod yr wythnos diwethaf i’w cyhoeddi.

3.

Trefn busnes

3.1

Busnes yr Wythnos Hon

Cofnodion:

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at un newid i'r agenda ar gyfer heddiw – amseriad y datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Cynnal trefn yn y Siambr hybrid

 

Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes ei bod, yn dilyn anhrefn yn y Siambr yr wythnos diwethaf, wedi ysgrifennu at yr Aelod dan sylw yn dweud na fyddai'n cael ei alw i siarad nes iddi gael ymddiheuriad ffurfiol. Mae hyn yn gymwys i’r trafodion hynny sy’n destun disgresiwn y Cadeirydd o ran a ddylid galw Aelod i siarad ai peidio, ac felly byddai’r Aelod yn cael ei alw i ofyn Cwestiwn 5 i'r Prif Weinidog heddiw. Cafodd y Rheolwyr Busnes eu briffio ar y gweithdrefnau ar gyfer cynnal trefn a sut y byddai'r rhain yn gweithio mewn amgylchedd hybrid.

 

Dethol gwelliannau

 

Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes ei bod wedi gofyn i swyddogion roi arweiniad i'r Aelodau ynghylch dethol gwelliannau yn ystod cyfarfod llawn hybrid.

 

Gofynnodd y Trefnydd i'r Llywydd a ellid gwneud penderfyniadau ar ddethol yn gynharach yn yr wythnos, er mwyn helpu i baratoi ar gyfer dadleuon. Esboniodd y Llywydd ei bod yn gwneud synnwyr iddi wneud y penderfyniadau ar fore'r Cyfarfod Llawn pan fydd ganddi ddarlun llawnach o nifer y siaradwyr ac ati, ac y byddai’r materion a godir mewn gwelliant, yn amlach na pheidio, yn cael eu codi yn y ddadl p'un a gaiff gwelliant ei ddethol ai peidio.

 

Gwasanaethau Clyweledol (AV)

 

Mae Jenny Rathbone wedi gofyn a allai ddangos deunydd clyweledol yn ystod y Ddadl Aelod ddydd Mercher. O ystyried yr anawsterau ymarferol, mae'r Llywydd wedi penderfynu na ellir defnyddio deunydd clyweledol mewn Cyfarfod Llawn hybrid na rhithwir.

 

 

 

3.2

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y ddau ddiweddariad i'r amserlen tair wythnos:

 

Dydd Mawrth 20 Hydref 2020 -

 

·         Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (30 munud):

o    Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) (Diwygio) 2020

o    Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 18) (Bangor) 2020

 

 

 

3.3

Amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

3.4

Dadl ar Gynigion Deddfwriaethol Aelodau: dethol cynnig ar gyfer dadl

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes y cynigion a gyflwynwyd a chytunwyd i amserlennu’r cynnig canlynol i'w drafod ar 21 Hydref:

 

NNDM7427

Alun Davies

Rhun ap Iorwerth

Andrew RT Davies

Dai Lloyd

 

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil calonnau Cymru i wella'r canlyniadau i bobl sy'n dioddef ataliadau’r galon y tu allan i'r ysbyty.

2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai gosod dyletswydd ar:

a) Gweinidogion Cymru i gyhoeddi strategaeth i wella canlyniadau ataliadau’r galon y tu allan i'r ysbyty a datblygu llwybrau goroesi ar gyfer y wlad gyfan;

b) awdurdodau lleol i gynllunio i sicrhau mynediad digonol at ddiffibrilwyr cymunedol ym mhob rhan o'u hardal;

c) Gweinidogion Cymru i sicrhau bod hyfforddiant mewn CPR yn cael ei ddarparu i bobl ledled Cymru;

d) byrddau iechyd i gydweithio i baratoi llwybr goroesi rhanbarthol ar gyfer ataliadau’r galon y tu allan i'r ysbyty; ac

e) Gweinidogion Cymru i gyflwyno adroddiad i'r Senedd ar gynnydd eu strategaeth yn erbyn amcanion bob blwyddyn.

 

 

3.5

Amserlen Cwestiynau Llafar Ddiwygiedig

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes y newidiadau i'r amserlen cwestiynau llafar, a chadarnhaodd y Trefnydd y bydd dogfen cyfrifoldebau Gweinidogol newydd ar gael yn ddiweddarach heddiw.

 

 

4.

Papur(au) i’w nodi

4.1

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr.

 

 

Unrhyw Fater Arall

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) (Diwygio) 2020

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i bennu terfyn amser ar gyfer cyflwyno adroddiad ddydd Llun 19 Hydref i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyflwyno adroddiad ar y rheoliadau.

 

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 18) (Bangor) 2020

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i bennu terfyn amser ar gyfer cyflwyno adroddiad ddydd Llun 19 Hydref i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyflwyno adroddiad ar y rheoliadau.

 

Cyfarfod Llawn Hybrid

 

Tynnodd y Llywydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y nodyn a ddosbarthwyd ganddi, yn amlinellu ei syniadau ar yr ystod o drefniadau y gellid eu rhoi ar waith ar gyfer cyfarfodydd llawn a gofynnodd iddynt drafod gyda'u grwpiau a dychwelyd at y mater yr wythnos nesaf.

 

Seddi

 

Dywedodd Darren Millar wrth y Rheolwyr Busnes fod Paul Davies wedi ysgrifennu at y Llywydd yn ffurfioli'r cais i Ganiatáu i Aelodau Ceidwadol ddefnyddio seddi yn y Siambr sy'n cael eu gadael yn wag gan Aelodau grwpiau eraill sy'n bresennol drwy gyswllt fideo.