Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cynhadledd Fideo Zoom

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i'w cyhoeddi.

 

2.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i'w cyhoeddi.

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Cododd y Trefnydd y mater o ddau Aelod yn methu â phleidleisio ar wahanol adegau yr wythnos diwethaf. Esboniodd y Llywydd ei bod yn bosibl i'r Aelodau gael eu cynnwys yn y system yn electronig gan glerc, pe bai un neu ddau ohonynt yn profi problem anorchfygol. Byddai hyn yn ei gwneud yn ofynnol i Aelodau ddatgan eu pleidlais ar lafar tra bod y bleidlais yn agored. Bydd y Llywydd yn defnyddio hyn pan fydd hi'n ystyried ei bod yn angenrheidiol, a phe bai problem ar raddfa fwy eang, byddai'n troi at bleidleisio wedi'i bwysoli. 

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai'r Llywydd barhau â'r arfer cyfredol o beidio â chaniatáu ymyriadau ac eithrio mewn slot penodol tuag at ddiwedd dadl.

 

Aelodau Annibynnol

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes gan na all Neil Hamilton fod yn y Cyfarfod Llawn ei hun ddydd Mercher, er ei fod wedi bod yn llwyddiannus yn y balot, y cynigir ei le i Neil McEvoy (yr Aelod arall nad yw mewn grŵp, a oedd wedi mynegi yr hoffai fod yn bresennol yn bersonol).

 

Rheoliadau

 

Dywedodd y Trefnydd wrth y Rheolwyr Busnes fod y Llywodraeth wedi tynnu'r cynigion canlynol yn ôl:

  • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 6) 2020; a
  • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 7) 2020.

Y rheswm am hyn yw bod Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020 a osodwyd ddydd Gwener yn eu diddymu.

 

Amser dechrau ac egwyl

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes y dylid cael egwyl tua 12.30, ar ôl cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol. Cytunwyd hefyd i gael egwyl byr ar ôl busnes y llywodraeth, tua 15.30.

 

Mewn ymateb i gais gan y Trefnydd, cytunodd y Llywydd y gellir cyfnewid Gweinidogion yn ystod y ddau egwyl, fel y gall mwyafrif y Gweinidogion arweiniol, neu'r rhan fwyaf, gymryd rhan yn y Siambr.

 

 

3.2

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y ffaith bod y Llywodraeth wedi trefnu busnes ar gyfer dydd Mawrth a dydd Mercher o fis Medi ymlaen.

 

3.3

Amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ddychwelyd at amserlen fusnes fwy arferol o fis Medi ymlaen, ac felly trefnwyd y canlynol:

 

Dydd Mercher 16 Medi 2020

 

Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)

  • Cynnig i sefydlu pwyllgor o dan Reol Sefydlog 16.3: Pwyllgor y Llywydd (5 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: Budd-daliadau yng Nghymru: opsiynau ar gyfer cyflawni'n well (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Brexit (60 munud) - dygwyd ymlaen o 23 Medi
  • Dadl Fer (30 munud)

 

Dydd Mercher 23 Medi 2020 -

 

  • Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd (30 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid: Effaith amrywiadau mewn treth incwm genedlaethol ac is-genedlaethol (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Brexit (60 munud) - wedi'i symud i 16 Medi
  • Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Dadl Fer (30 munud)

 

Dydd Mercher 30 Medi 2020 -

 

  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon: effaith yr achosion o Covid-19, a'i reolaeth, ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru (60 munud)
  • Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Dadl Fer (30 munud)

 

 

4.

Busnes y Senedd

4.1

Amserlen y Senedd

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ddychwelyd i Gyfarfod Llawn ddwywaith yr wythnos ar brynhawn Mawrth a phrynhawn Mercher, a chytunwyd ar amserlen ddrafft y pwyllgorau.

 

Cadarnhaodd y Llywydd y byddai'r Comisiwn yn ystyried materion fel faint o Aelodau a allai fod yn bresennol yn yr adeilad, a defnydd posibl o ystafelloedd eraill, cyn tymor yr hydref. Byddai hefyd yn ystyried a oedd modd darlledu mwy na dau bwyllgor ar yr un pryd yn y dyfodol.

 

4.2

Dyddiadau Toriadau

Cofnodion:

Cadarnhaodd y Pwyllgor Busnes ddyddiadau toriad hanner tymor yr Hydref a'r Nadolig ar gyfer 2020 a chytunodd ar ddyddiadau dros dro ar gyfer hanner tymor y gwanwyn a'r Pasg 2021.

 

4.3

Trefniadau cyflwyno yn ystod toriad yr haf 2020

Cofnodion:

Cadarnhaodd y Pwyllgor Busnes y trefniadau ar gyfer cyflwyno busnes y Cyfarfod Llawn yn ystod cyfnod toriad yr haf a chytunwyd ar y trefniadau ar gyfer cyflwyno cwestiynau ysgrifenedig.

 

5.

Deddfwriaeth

5.1

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gais y pwyllgor am slot cyfarfod ychwanegol ar 20 Gorffennaf.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd ar yr amserlen ddiwygiedig arfaethedig ar gyfer y Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru), gyda dyddiad cau ar gyfer adrodd ar Gyfnod 1 ar 2 Hydref 2020 ac ar Gyfnod 2 ar 4 Rhagfyr 2020.

 

5.2

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol - y Bil Pysgodfeydd

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyfeirio'r Memorandwm Atodol ar y Bil Pysgodfeydd at y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, gyda dyddiad cau ar gyfer adrodd ar 24 Medi.

 

 

5.3

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Diwygiedig - y Bil Ardrethu Annomestig (Rhestrau)

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd i gyfeirio'r Memorandwm diwygiedig ar y Bil Ardrethu Annomestig (Rhestrau) at Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ond, gan fod y Bil yn cael ei ddal yn ôl am gyfnod amhenodol yn San Steffan, ni osododd ddyddiad terfynol ar gyfer adrodd.

 

5.4

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol - Y Bil Meddyginiaethau a Dyfeisiau Meddygol

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd i gyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Meddyginiaethau a Dyfeisiau Meddygol at y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, gyda dyddiad cau ar gyfer adrodd ar 22 Hydref.

 

6.

Pwyllgorau

6.1

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i'r cais gan y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd i gwrdd yn ystod yr wythnos yn cychwyn 3 Awst 2020.

 

 

7.

Unrhyw Fater Arall

Cofnodion:

Cyfarfodydd adalw'r Senedd ar 5 a 26 Awst

Cadarnhaodd y Pwyllgor Busnes y bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal yn rhithwir gydag amser cychwyn o 1.30pm, ac y bydd unrhyw bleidleisio yn digwydd ar yr ap pleidleisio o bell.

Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar ddyddiad cau o 3 Awst i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad adrodd ar y rheoliadau, cyn y ddadl a ragwelir ar 5 Awst.

Trafododd y Rheolwyr Busnes ffyrdd o sicrhau bod y rheoliadau, yn achos rheoliadau cadarnhaol, yn cael eu trafod yn y Cyfarfod Llawn cyntaf ar ôl iddynt gael eu gwneud, a gofynnodd y Llywydd i swyddogion ystyried ffyrdd o alluogi hynny i ddigwydd.