Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Video Conference via Zoom
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol
i'w cyhoeddi. |
|
Trefn busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Datganiad
a Chyhoeddiad Busnes Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i barhau â'r arfer o beidio â chael unrhyw gwestiynau ar y
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes yr wythnos hon. Ymyriadau Cafodd y
Rheolwyr Busnes eu hatgoffa gan y Llywydd y bydd, cyn i'r siaradwr olaf ymateb
i'r ddadl, yn cymryd cyfraniadau o un funud gan Aelodau a fydd am ymateb i
rywbeth a ddywedwyd yn ystod y ddadl. Gallai hynny gynnwys Aelodau sydd eisoes
wedi siarad. Sut i
Ymuno Hysbyswyd
y Pwyllgor Busnes, yn wahanol i'r wythnosau blaenorol a gan fod hyd at 60 Aelod yn bresennol erbyn hyn, y byddai'r
swyddogion TGCh yn canolbwyntio eu hadnoddau ar sicrhau bod y Prif Weinidog ac
Arweinwyr y Pleidiau sy'n siarad ar ddatganiad y Prif Weinidog wedi ymuno â'r
cyfarfod cyn yr amser cychwyn. Bydd Rheolwyr Cyfrifon TGCh wrth law fel bob
amser i gynorthwyo unrhyw Aelodau eraill i ymuno. Egwyl Cytunodd y
Rheolwyr Busnes y dylid cael yr egwyl ar ôl y Cwestiynau Amserol, am tua 12.20.
Fodd bynnag, os na ddewisir unrhyw Gwestiynau Amserol, bydd yr egwyl yn
gynharach. |
|
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y
Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf. |
|
Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Trafododd
y Rheolwyr Busnes yr amserlen ar y cyd â'r ceisiadau am ddadleuon yn eitemau
5.1 a 5.2, a'r ystyriaethau amserlennu a godwyd yn eitem 6.1. Penderfynodd
y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau
o fusnes a ganlyn ar yr amserlen: Dydd
Mercher 24 Mehefin 2020: -
Dydd
Mercher 8 Gorffennaf 2020: -
|
|
Deddfwriaeth |
|
Amserlen ar gyfer y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) Cofnodion: Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyfeirio'r Bil i'r Pwyllgor
Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ac i ymgynghori â'r Pwyllgor ar yr amserlen
arfaethedig. |
|
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Amaethyddiaeth Cofnodion: Cytunodd y
Rheolwyr Busnes i gyfeirio'r memorandwm hwn at y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr
Amgylchedd a Materion Gwledig a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r
Cyfansoddiad i gael ei drafod, gyda dyddiad cau ar gyfer adrodd yn ôl ar 9
Gorffennaf. |
|
Pwyllgorau |
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i drefnu'r ddadl am 30 munud yr wythnos nesaf. |
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad |
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad Cofnodion: Nododd y
Pwyllgor Busnes y llythyr a nododd y bydd Fforwm y Cadeiryddion yn trafod y
mater ehangach o gyfarfodydd pwyllgorau o bell yn ei gyfarfod yn ddiweddarach
yr wythnos hon. |
|
Y Cyfarfod Llawn |
|
Busnes y Cyfarfod Llawn: Pleidleisio o Bell, Cwestiynau Llafar, a busnes nad yw'n gysylltiedig â Covid Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor Busnes mewn egwyddor i'r newid i'r
Rheolau Sefydlog i ddarparu ar gyfer pleidleisio o bell i'r Aelodau, a
defnyddio pleidleisio o bell cyn gynted ag y bydd y Llywydd wedi penderfynu bod
y system yn barod i'w defnyddio. Ychwanegir cynnig at agenda'r Cyfarfod Llawn
yr wythnos nesaf. Penderfynodd y Pwyllgor Busnes hefyd mai'r dulliadu y
dylid eu defnyddio i rybuddio Aelodau am bleidlais sydd ar fin digwydd fydd
rhybudd llafar neu rybudd arall yn y Cyfarfod Llawn rhithwir neu hybrid. Cytunodd y Rheolwyr Busnes y dylai'r Llywydd ailgyflwyno
Cwestiynau Llafar o'r wythnos nesaf. Byddai Cwestiynau Llafar: • yn cynnwys
cwestiynau i'r Prif Weinidog ac i ddau Weinidog arall bob wythnos, gyda phob
sesiwn yn 45 munud o hyd; • yn gallu
bod ar unrhyw fater o fewn y portffolio perthnasol, ac nid oes angen eu cyfyngu
i faterion Covid-19; • yn destun
terfynau amser tebyg i'r rhai a ddefnyddir ar gyfer datganiadau. Dywedodd y Trefnydd wrth y Pwyllgor Busnes bod y
llywodraeth, gyda'r dychweliad y Cwestiynau i'r Prif Weinidog, yn annhebygol o
barhau i amserlennu datganiad gan y Prif Weinidog bob wythnos. Cytunodd y Pwyllgor Busnes na ddylid cyfyngu dadleuon yr
wrthblaid na busnes y llywodraeth i faterion Covid-19 yn y dyfodol os oes
materion eraill sy'n arbennig o berthnasol, ond mai'r disgwyl yw y bydd busnes
yn parhau i ganolbwyntio i raddau helaeth ar faterion Covid-19. Trafododd y Pwyllgor Busnes y cyfyngiadau cyfredol o 10
cwestiwn ysgrifenedig yr wythnos a roddir ar bob Aelod yn ystod y pandemig hwn.
Dywedodd y Llywydd y byddent yn dychwelyd at y mater yr wythnos nesaf a
gofynwyd i'r Ysgrifenyddiaeth am ganllawiau pellach ar yr arfer mewn mannau
eraill. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai'r Llywydd alw
cwestiynau ar y Datganiad a'r Cyhoeddiad Busness am amser cyfyngedig o 15
munud, gan ddechrau'r wythnos nesaf. Caiff cyfraniadau aelodau eu cyfyngu i 1
funud a'r disgwyliad yw y bydd y Gweinidog hefyd yn cadw ei hymatebion yn
gryno. Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y bydd yn
cyflwyno cynigion ynghylch y toriad ac ar y Cyfarfod Llawn hybrid i'r cyfarfod
yr wythnos nesaf a gofynnodd i'r Rheolwyr Busnes drafod hyn â'u grwpiau yn y
cyfamser. |