Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Anfonodd Caroline Jones ei hymddiheuriadau, a dirprwyodd David Rowlands ar ei rhan.

 

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi.

 

 

3.

Trefn busnes

3.1

Busnes yr Wythnos Hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth 

 

·         Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal ar ôl yr eitem olaf o fusnes.  

  

Dydd Mercher 

 

·         Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer. 

 

 

3.2

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Nododd y Rheolwyr Busnes y llythyrau a anfonwyd rhwng y Trefnydd a'r Llywydd, wrth i’r Llywydd gytuno ar gais i ganiatáu i Gyfnod 4 o Fil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru) gael ei gynnal yn syth ar ôl cwblhau trafodion Cyfnod 3 ar 14 Ionawr 2020. 

 

Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau a ganlyn i Fusnes y Llywodraeth am y 3 wythnos nesaf: 

 

Dydd Mawrth 7 Ionawr 2020

·         Dadl: Adolygiad Blynyddol o Gydraddoldeb a Hawliau Dynol 2018/19 (60munud)-wedi’i ohirio 

·         Cynnig i Gydsynio Offeryn Statudol Rheoliadau Deddf Peilotiaeth 1987 (Diwygio) 2019 (15 munud) 

·         Dadl: Cyfnod 4 Bil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru) (15munud) 

 

Dydd Mawrth 21 Ionawr 2020 –

·      Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Canfasiad Blynyddol) (Diwygio) (Cymru) 2020 (15 munud) 

·      Rheoliadau Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymwysterau) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2020 (15 munud) - tynnwyd yn ôl 

 

 

3.3

Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen: 

 

Dydd Mercher 29 Ionawr 2020 – 

·         Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (120 munud) 

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud) 

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Papur i’w nodi: Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau

Cofnodion:

 

Nodwyd y llythyr gan y Rheolwyr Busnes, a chytunwyd eto i edrych ar yr adeg sydd ar gael ar gyfer cynnal gwaith craffu Cyfnod 1 fel rhan o'u gwaith etifeddiaeth. 

 

 

4.

Unrhyw fater arall

Cofnodion:

LCM ar Fil yr UE (Ymadael) 

 

Hysbysodd y Trefnydd y Rheolwyr Busnes fod y llywodraeth wedi gosod Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer Bil yr UE (Ymadael). Mae gofynion amserlen Seneddol y Bil yn golygu y bydd angen i'r Cynulliad ystyried y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol cysylltiedig ddydd Mawrth 21 Ionawr fan bellaf.  

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyfeirio'r LCM at y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol a’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, ac mai dydd Gwener 17 Ionawr fyddai’r dyddiad cau ar gyfer adrodd. 

 

Papurau sydd ar ddod i’r Pwyllgor Busnes 

 

Atgoffwyd y Rheolwyr Busnes gan y Llywydd y bydd yr ymgynghoriad ar bleidleisio drwy ddirprwy ar agor tan 13 Ionawr, a bydd ymatebion yn cael eu crynhoi mewn papur i'w drafod yn y cyfarfod ar 21 Ionawr. Yn dilyn hyn, bydd y Pwyllgor Busnes yn edrych eto ar y papur ar aelodaeth Pwyllgorau, Cadeiryddion Pwyllgorau a chydbwysedd gwleidyddol ar Bwyllgorau, gan gynnwys system d'Hondt ar 28 Ionawr. Mae'r rhain wythnos yn hwyrach na'r hyn a ddywedwyd o'r blaen, er mwyn caniatáu rhagor o amser ar gyfer yr ymgynghoriad ar Bleidleisio drwy Ddirprwy.  

 

Gofynnodd y Rheolwyr Busnes i'r Clerc ddarganfod beth yw’r sefyllfa o ran adolygu'r weithdrefn yn Nhŷ'r Cyffredin, sydd i fod i gael ei wneud gan y Pwyllgor Gweithdrefnau yno. 

 

Dywedodd y Llywydd wrth y Pwyllgor hefyd nad oedd hi'n gallu bod yn bresennol yng nghyfarfod y Pwyllgor Busnes yr wythnos nesaf, ac y byddai'r Dirprwy Lywydd yn cadeirio yn ei habsenoldeb.