Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod
ar gyfer eu cyhoeddi. |
|
Trefn busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Dydd
Mawrth ·
Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio fel yr eitem
olaf o fusnes. Dydd
Mercher ·
Bydd yr holl bleidleisio ar fusnes y
llywodraeth yn digwydd yn syth ar ôl eitem 3. ·
Cynhelir yr holl bleidleisiau ar fusnes y
Cynulliad cyn y Ddadl Fer. Dywedodd y
Trefnydd wrth y Rheolwyr Busnes y bydd Dirprwy Weinidog yr Economi a
Thrafnidiaeth yn ateb y cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth o dan
Reol Sefydlog 12.58. |
|
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Gofynnodd
y Llywydd a allai'r Trefnydd egluro ymdriniaeth y llywodraeth â chyfnod cyn-etholiad San Steffan. Nododd y
Trefnydd fod Llywodraeth Cymru yn dal i aros i ganllawiau Llywodraeth y DU gael
eu cyhoeddi, ac y byddai'n dod â nodyn i gyfarfod yr wythnos nesaf. |
|
Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Gofynnodd
Vikki Howells i’r Pwyllgor Busnes ystyried gohirio ei Dadl Fer o 13 Tachwedd,
felly gofynnodd y Pwyllgor Busnes i’r Ysgrifenyddiaeth weld a fyddai unrhyw un
o’r Aelodau a oedd â Dadl Fer wedi’i threfnu cyn y Nadolig yn gallu cyfnewid gyda
Vikki Howells. Penderfynodd
y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau
o fusnes a ganlyn ar yr amserlen: Dydd
Mercher 27 Tachwedd 2019 - ·
Dadl Cyfnod 4 y Bil
Senedd ac Etholiadau (Cymru) (15 munud) ·
Dadl Aelodau o dan
Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud) ·
Amser a neilltuwyd
i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) ·
Amser a neilltuwyd
i Blaid Brexit (60 munud) Cafodd y Rheolwyr Busnes eu hatgoffa gan y Llywydd y byddai angen i
ddeugain Aelod bleidleisio o blaid Cyfnod 4 y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru)
er mwyn iddo basio. |
|
Deddfwriaeth |
|
Llythyrau gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig. Cofnodion: Cytunodd y Rheolwyr Busnes y dylai'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a
Deddfwriaethol adrodd ar Reoliadau
Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) (Rhif 3) 2019,
a Rheoliadau Iechyd a Lles Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael
â'r UE) 2019 erbyn dydd Iau 21 Tachwedd. |
|
Rheolau Sefydlog |
|
Cynigion i gyflwyno Rheol Sefydlog 18A newydd ar gyfer goruchwylio Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru Cofnodion: Cytunodd y
Rheolwyr Busnes ar Adroddiad drafft y Pwyllgor Busnes a chytynwyd hefyd i
gyflwyno cynnig i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog i'w drafod yn y Cyfarfod Llawn
ddydd Mercher 13 Tachwedd 2019. Cytunodd
Rheolwyr Busnes hefyd i gyflwyno cynigion ar gyfer 13 Tachwedd i ddiwygio cylch
gwaith y Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a
Chymunedau. |
|
Cynigion i Ddiwygio Rheol Sefydlog 12.63 ar gyfer Cwestiynau Llafar y Cynulliad Cofnodion: Cytunodd y
Rheolwyr Busnes ar Adroddiad drafft y Pwyllgor Busnes a chytynwyd hefyd i
gyflwyno cynnig i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog i'w drafod yn y Cyfarfod Llawn
ddydd Mercher 13 Tachwedd 2019. Cytunodd y
Rheolwyr Busnes hefyd i ddiwygio'r Canllawiau ar y modd priodol o gynnal busnes
y Cynulliad i adlewyrchu'r newidiadau hyn. |
|
Unrhyw fater arall Cofnodion: Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Lles Anifeiliaid (Dedfrydu) Tynnodd y
Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi gosod
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yr wythnos diwethaf ar y Bil Lles
Anifeiliaid (Dedfrydu) gan fod y Bil wedi cael ei ailgyflwyno i'r Senedd, ar ôl
cwympo yn ystod y cyfnod addoedi. Fodd bynnag, bydd y Bil yn cwympo eto gan na fydd
wedi'i gwblhau cyn i'r Senedd gael ei diddymu cyn yr etholiad cyffredinol, ac
felly ni fydd y llywodraeth yn gofyn i'r Pwyllgor Busnes gyfeirio'r Memorandwm
i'w graffu. Etholiad
Cyffredinol yn San Steffan Cafodd y
Rheolwyr Busnes eu hatgoffa gan y Llywydd na ddylai etholiadau San Steffan
effeithio ar fusnes y Cynulliad, a chafodd yr Aelodau eu hatgoffa hefyd fod
Rheolau Sefydlog yn mynnu bod yn rhaid i areithiau fod yn "berthnasol i
fusnes y Cynulliad". Nid y Cyfarfod Llawn yw'r lle i ymgyrchu dros
etholiad cyffredinol y DU ac ni ddylai dynnu sylw'r Aelodau o'u ffocws ar
faterion y mae'r Cynulliad a Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdanynt. Bydd y
Llywydd yn galw unrhyw Aelodau neu Weinidogion i drefn os ydynt yn crwydro oddi
wrth hyn i drafod maniffestos etholiad San Steffan, ymgyrchoedd gwleidyddol ac
ymgeiswyr unigol. Pleidleisio
drwy ddirprwy Cafodd y
Rheolwyr Busnes eu hatgoffa gan y Llywydd y byddai'r Pwyllgor yn dychwelyd at y
papur ar Bleidleisio drwy Ddirprwy yr wythnos nesaf i gael adborth gan grwpiau.
|